Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Heledd Fychan. Unwaith eto, mae'n rhaid i ni dalu teyrnged i'r holl arloeswyr hynny sydd wedi gwneud eu marc. O ran awdurdodau lleol—ac rwy'n cofio pan oedd Elyn Stephens yn bwrw ymlaen â hyn—mewn gwirionedd, mae awdurdodau lleol wedi croesawu hyn. Mae gennym ni fwrdd crwn, mae gennym ni gynrychiolaeth o'r awdurdodau lleol, swyddogion o'r cyngor. Mae'n rhaid i ni...
Jane Hutt: Yn ffurfiol.
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Llywydd. Rydw i yma heddiw i gyflwyno dau gynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd Llywodraeth y DU. Dyma'r ail ddadl rydyn ni wedi'i chynnal mewn perthynas â'r Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd, a hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl gyntaf. Mae'r angen am ddwy ddadl yn adlewyrchu natur gymhleth ac...
Jane Hutt: Roeddwn i hefyd am fanteisio ar y cyfle i sôn bod y Farwnes Newlove, comisiynydd dioddefwyr blaenorol, wedi cyflwyno gwelliant pwysig a fyddai wedi gweld casineb at fenywod yn cael ei ddosbarthu fel trosedd gasineb, a gefnogwyd gan Arglwyddi bryd hynny. Roeddwn i’n falch bod hyn wedi digwydd, gan ei fod yn rhywbeth yr wyf i wedi galw amdano ers tro. A byddwch yn cofio i ni gynnal dadl...
Jane Hutt: Llywydd, rwy'n diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl. Fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, ni allwn ond ystyried y cymalau yr aseswyd eu bod yn cyffwrdd â materion datganoledig ac o fewn cymhwysedd y Senedd. Er bod cymalau sy'n cyd-fynd â'n blaenoriaethau ac yn dod â newid cadarnhaol pwysig i Gymru, rydw i'n argymell bod y Senedd yn rhoi cydsyniad, ac mae hynny'n cynnwys,...
Jane Hutt: Fe wnaf ei gymryd—. Mark Isherwood.
Jane Hutt: Hoffwn ddweud eto, Mark Isherwood, ein bod ni wedi codi ein pryderon am gymalau sy'n effeithio ar yr hawl i brotest gyfreithlon a heddychlon, ac er bod trefn gyhoeddus yn fater a gadwyd yn ôl, mae'r elfennau sŵn yn ymwneud â'r amgylchedd, sy'n dod o fewn ein cymhwysedd deddfwriaethol. Ond y peth am y Bil hwn, a thrwy gydol y daith, yw bod ymgais wedi bod i ddelio â phrotest, yn enwedig...
Jane Hutt: Diolch yn fawr a phrynhawn da.
Jane Hutt: Heddiw rydym ni’n nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Mae heddiw'n gyfle i dalu teyrnged i'r menywod a ddaeth o’n blaenau a'r menywod sy'n sefyll ar ysgwyddau'r cewri hyn, gan barhau â'r frwydr dros gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol—menywod gan gynnwys y ddynes aruthrol, Betty Campbell MBE, pennaeth du cyntaf Cymru, cyd-grëwr Mis Hanes Pobl Dduon a hyrwyddwr amlddiwylliannaeth...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Natasha, ac mae mor wych eich bod chi gyda ni yma heddiw ac y gallwn ni rannu cymaint o ran dathlu cynnydd, ond hefyd cydnabod yr heriau enfawr sydd o'n blaenau i fenywod. Hoffwn dalu teyrnged a diolch i Joyce Watson am ddod â ni at ein gilydd heno—menywod y Senedd hon, Senedd Cymru—wrth i ni gyfarfod ar draws y pleidiau. A hefyd nid yn unig i rannu ble yr ydym ni'n...
Jane Hutt: Diolch, Sioned Williams. Rwyf i yn credu ei bod hi mor bwysig ein bod ni’n myfyrio ar y menywod yr ydym yn ddisgynyddion iddyn nhw hefyd—ein mamau a'n neiniau. Mor aml rydym ni’n talu sylw i'r dynion yr ydym yn ddisgynyddion iddyn nhw hefyd, oherwydd eu bod nhw wedi cael cyflawniadau, ond y menywod yr ydym yn ddisgynyddion iddyn nhw sydd mor bwerus i ni. Ac mae gennym ni gyfrifoldeb...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Joyce Watson, ac a gaf i ddiolch i Joyce am fod yn hyrwyddwr mor arweiniol dros fenywod yng Nghymru? Cyn i chi ddod yn Aelod o'r Senedd, dyna fu eich ymrwymiad bywyd fel oedolyn. Ond mae'n bwysig canolbwyntio ar y thema, chwalu'r rhagfarn, o ran Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, ac rwyf i wedi ymateb i lawer o bwyntiau am chwalu'r rhagfarn eisoes, ond hoffwn i gydnabod hefyd fod...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Jane Dodds. Ac mae hon yn agwedd arall yr ydych chi wedi ei dwyn i sylw'r Siambr eto heddiw—Siambr heddiw. Mae'n bwysig iawn ein bod ni—. Rwy'n hapus iawn i ysgrifennu'r llythyr hwnnw heddiw, ac, mewn gwirionedd, rwy'n credu ei bod yn llythyr y byddem ni i gyd yn dymuno ei rannu ar draws y Siambr hon, ac wrth i ni gyfarfod heno, menywod yn cyfarfod heno, rwy'n credu y...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Sam Rowlands. Mae bob amser yn—. Mae'n wych pan fydd y dynion sy'n gyd-Aelodau i ni yn siarad ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod hefyd, ac rydym ni wedi cael llawer o ddadleuon a datganiadau dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf lle'r ydych chi wedi gwneud cyfraniadau pwerus iawn ar draws y Siambr hon. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod Cymru hefyd yn edrych tuag...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Rhun ap Iorwerth. Mae mor bwysig ein bod ni'n edrych ar anghydraddoldebau iechyd i fenywod ac nid dim ond o ran cyflyrau penodol yng nghylch oes menywod, megis yr hyn rydyn ni eisoes newydd wneud sylwadau arno—endometriosis a'r menopos. Yr wythnos diwethaf, fe wnes i roi datganiad ar urddas mislif, ac mae lles mislifol bellach yn y cwricwlwm, ond rhaid i ni edrych ar yr...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Vikki Howells. Rwy’n gwybod fod Elaine Morgan yn falch iawn ohonoch chi hefyd, a byddai wedi bod yn falch iawn eich bod chi’n Aelod o'r Senedd dros Gwm Cynon. Roedd hi’n fenyw ysbrydoledig, arloesol ac roeddwn i’n falch iawn o'i chyfarfod droeon, a bydd llawer ohonoch chi wedi gweld y llyfr a gyhoeddwyd y llynedd am ei bywyd—talent a gallu eithriadol, ac eto'n...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Delyth Jewell. Wyddoch chi, mae'n rhaid i mi ddweud mai dyma pam yr ydym ni wedi cael datganiadau, rydym ni wedi cael dadleuon; mae'n rhaid i ni gadw hyn ar frig yr agenda, nid dim ond ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod. Os edrychwch ar gyfrifiad y menywod sydd wedi eu lladd gan ddynion, mae'n ddarn trasig ond angenrheidiol o gasglu data. Mae cyhoeddiad diweddaraf yn dangos bod...
Jane Hutt: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Mike Hedges am gyflwyno'r ddadl Aelodau hon gerbron y Senedd, ac am yr holl gyfraniadau y prynhawn yma, sy'n bwysig yng nghyd-destun y mater allweddol hwn. Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynnig. Mae dros ddwy flynedd wedi mynd heibio ers i gomisiwn Thomas gyhoeddi ei adroddiad ar gyfiawnder yng Nghymru. Yr adroddiad hwn yw'r ymarfer mwyaf...
Jane Hutt: Formally.
Jane Hutt: Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl bwysig hon heddiw gyda chyfraniadau pwerus sy'n ein huno ar draws y Siambr. Bythefnos yn ôl, gwelsom ymosodiad digymell Putin ar Wcráin, ac wrth i'r dyddiau fynd heibio, yn wyneb gwrthsafiad dewr Wcráin, mae ei dactegau'n mynd yn fwy creulon, yn fwy didostur a diwahân tuag at ei phobl. Mae Tom Giffard a Jayne Bryant wedi tynnu sylw at y newyddion...