Alun Davies: Byddaf yn pleidleisio dros setliad yr heddlu y prynhawn yma, ond nid yw'n rhoi unrhyw bleser i mi bleidleisio dros setliad sy'n darparu hyd yn oed yn rhagor o doriadau i'n gwasanaethau plismona ledled Cymru. Mae Mark Isherwood yn talu teyrnged i'w cyd-Aelodau yn Llundain am y gwaith maent wedi bod yn ei wneud wrth ariannu'r heddlu dros y blynyddoedd diwethaf, ond yr hyn rydym yn ei wybod, a'r...
Alun Davies: 6. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2023-24 ar awdurdodau lleol? OQ59141
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Roedd gennyf ddiddordeb mawr yn yr ateb a roddodd y Gweinidog i Peter Fox mewn cwestiwn cynharach hefyd. Fe allai'r ateb fod wedi cael ei roi gan Weinidog gwahanol ddegawd yn ôl, mewn gwirionedd. Mae awdurdodau lleol yn dioddef yn sgil pwysau ar gyllid, a'r bobl sy'n dioddef fwyaf yw'r bobl dlotaf a'r bobl fwyaf bregus. A'r awdurdodau lleol...
Alun Davies: Rwy’n ddiolchgar i’r Gweinidog am ei ymateb, ac rwy’n rhannu ei ddadansoddiad o’r broblem. Ond mae Llywodraethau yn bodoli i ddatrys problemau, wrth gwrs, nid i'w hailadrodd. Ac i fy etholwyr i, ym Mlaenau Gwent, pan fyddant yn clywed Gweinidog yn sôn am wasanaeth sgerbwd, maent yn meddwl, 'Wel, mae hwnnw'n wasanaeth sy'n mynd i wasanaethu Caerdydd, Casnewydd, Abertawe ac ychydig o...
Alun Davies: Diolch i’r blaid Geidwadol am gyflwyno’r ddadl hon; mae'n amserol iawn, wrth gwrs, oherwydd yr wythnos nesaf, byddwn yn nodi blwyddyn ers cychwyn yr ymosodiad hwn. Ar adeg pan fo pobl yn ceisio creu rhaniadau mewn gwleidyddiaeth, credaf ei bod yn dda cael cyfle i ddod at ein gilydd hefyd. Roeddwn yn gwrando ar Mark Isherwood yn agor y ddadl, a sylwais fod dau air a ddefnyddiodd yn britho...
Alun Davies: Rwyf fi bob amser yn ddiolchgar i Mike am ei gyfraniadau ar hyn. Y camgymeriad gwaethaf—fe wneuthum lawer o gamgymeriadau, ond y camgymeriad gwaethaf—a wneuthum fel Gweinidog oedd herio Mike ar ariannu llywodraeth leol a chymhlethdodau'r dreth gyngor. Mae'r boen a ddioddefais bryd hynny, bron i ddegawd yn ôl, yn aros gyda mi bob dydd o fy oes, ac os na allaf gysgu am 3 o'r gloch y bore,...
Alun Davies: 4. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Llywodraeth Cymru mewn perthynas â strategaeth economaidd Blaenau'r Cymoedd? OQ59233
Alun Davies: Diolch. Prif Weinidog, mae eich ymrwymiad personol chi i'r cymunedau ym Mlaenau'r Cymoedd wedi disgleirio erioed, fel Prif Weinidog a chyn hynny hefyd. Byddwch yn cofio eich ymweliad â Blaenau Gwent yn ystod ymgyrch yr etholiad diwethaf, pan safodd y ddau ohonom ni ar y bont dros brosiect deuoli'r A465, a phan wnaethoch chi siarad am eich gobeithion ar gyfer dyfodol y prosiect hwnnw a pha...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd. Fel eraill y prynhawn yma, hoffwn ddechrau drwy longyfarch y Gweinidog ar ddod â'r gyllideb hon o'n blaenau. Rwy'n credu iddi agor ei sylwadau y prynhawn yma trwy ddweud ei bod yn gyllideb anodd ar gyfer cyfnodau anodd; roedd yn swnio fel Gordon Brown [Chwerthin.] Ond, mae'n bwysig gallu gosod cyllideb, ac, wrth gwrs, o ystyried yr ymyriadau rydyn ni...
Alun Davies: Dirprwy Lywydd, mae'r Aelod gyferbyn yn ymyrryd ac yn ateb ei hymyriad ei hun. Braidd nad oes unrhyw bwynt i mi ganiatáu i hynny'n ddigwydd. Ond, fe ddywedaf i wrthi hi nad wyf i'n credu bod angen darlithoedd gan y Ceidwadwyr ar reolaeth economaidd ar y Senedd hon. Rydw i wir o'r farn nad oes angen hynny arnom ni heddiw. [Torri ar draws.] Wel, os ydych chi'n dymuno sefyll—rwy'n clywed yr...
Alun Davies: A wnewch chi ildio?
Alun Davies: Rwy'n credu y byddai cefnogaeth eang i'ch safbwynt ar draws y Siambr, beth bynnag fo'r cyngor pleidleisio yn digwydd i'w ddweud. Rwy'n credu bod y rhan fwyaf o bobl eisiau gweld Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang a Chymru sy'n ymestyn allan a ddim yn edrych tuag i mewn. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth rydyn ni i gyd eisiau ei weld, ac, yn sicr, o fy amser i'n gweithio yn Oxfam, rwy'n...
Alun Davies: 9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyfleoedd sydd ar gael i gael mynediad i addysg ôl-16 oed cyfrwng Cymraeg? OQ59265
Alun Davies: Dwi'n gwerthfawrogi yr ymateb, Gweinidog. Dŷn ni wedi, ers tro, sôn amboutu continwwm addysg Gymraeg yn yr ysgol, ond becso ydw i amboutu trosglwyddiad rhwng addysg yn yr ysgol ac wedyn y cyfnod ar ôl 16 yn y coleg addysg bellach, prifysgolion ac ati. Rôn i'n croesawu eich datganiad rai blynyddoedd yn ôl i gynnig rôl ychwanegol i'r coleg Cymraeg, i sicrhau mwy o fuddsoddiadau, os ydych...
Alun Davies: A ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, ei fod yn gryn agoriad llygad y byddai'n well gan y Ceidwadwyr Cymreig gefnogi Llywodraeth y DU na sefyll dros Gymru? Mae'n rhaid fy mod i wedi cael fy ngwersi daearyddiaeth yn ofnadwy o anghywir yn yr ysgol, oherwydd rwyf i newydd ddarganfod dros y penwythnos bod rheilffordd Huddersfield i Leeds yn gwasanaethu Cymru, a bod Crewe i Fanceinion yn...
Alun Davies: A wnaiff y Gweinidog ildio?
Alun Davies: Rwy'n gwrando ar eich dadleuon ar y mater hwn o ddiwygio, ac ni fydd yn syndod i chi fy mod i'n cytuno'n fawr iawn â chi. Mae o ddiddordeb i mi felly bod y Llywodraeth yn gofyn i ni bleidleisio yn erbyn gwelliant y Ceidwadwyr ar y mater hwn yn y bleidlais y prynhawn yma, ac mae'n ymddangos i mi bod yr hyn y mae gwelliant y Ceidwadwyr yn ei wneud yn debyg iawn i'r hyn yr ydych chi newydd ei...
Alun Davies: Fel eraill yn y ddadl y prynhawn yma, hoffwn dalu fy nheyrnged fy hun i Syr Wyn Williams ar adeg ei ymddeoliad. Roedd yn braf gallu cael y sgwrs ag ef yr wythnos diwethaf yn y pwyllgor. Rwy'n credu weithiau ei fod yn dangos y grym o fod yn bresennol gyda rhywun yn yr un ystafell, oherwydd rydym ni wedi cael sgyrsiau ar wahanol achlysuron gyda Syr Wyn sydd wedi bod ar y sgrin erioed, sgyrsiau...
Alun Davies: Rwy’n ddiolchgar, Ddirprwy Lywydd. Eironi aruthrol safbwynt y Ceidwadwyr ar hyn, wrth gwrs, yw mai’r rheswm pam fod rheilffordd y Rhondda yn cael ei chau yw am ei bod yn ddarn o seilwaith o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg y mae angen ei newid yn yr unfed ganrif ar hugain. Ers canrif, nid yw’r rheilffordd honno wedi cael y buddsoddiad sydd ei angen arni. Os rhywbeth, mae’n gondemniad o...
Alun Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?