Jane Hutt: Rydym yn cydgynhyrchu siarter gyda rhanddeiliaid a fydd yn sail i ddarparu system fudd-daliadau gydlynol a thosturiol i Gymru. Fodd bynnag, mae'r ffocws uniongyrchol ar sicrhau bod ein taliadau cymorth ariannol presennol a newydd yn cyrraedd aelwydydd ledled Cymru y mae eu hincwm dan fwy o bwysau nag erioed o'r blaen.
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Luke Fletcher, am eich cwestiwn pwysig iawn.
Jane Hutt: Mae'n hanfodol ein bod yn cael y cyllid, y budd-daliadau, i'r aelwydydd ar yr incwm isaf, ac mae angen inni symud hynny ymlaen, gan ddysgu gwersi a bwrw ymlaen â llawer o'r argymhellion, byddwn yn dweud, a wnaed gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn y Senedd flaenorol ynghylch y nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau. Soniais am ddatblygu siarter ar gyfer system...
Jane Hutt: Yn ddiweddar, cyfarfûm â'r Gweinidog Gwladol yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder i drafod y ganolfan breswyl i fenywod yng Nghymru. Mae gwaith yn mynd rhagddo ac mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill ar y fenter bwysig hon.
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Rhys ab Owen. Rwy'n ysu i'w gweld lawn cymaint â chi, gallaf eich sicrhau. Mae'n ymwneud â gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU, a bydd y ganolfan breswyl i fenywod yn cael ei threialu yng Nghymru. Mae'n elfen allweddol o'r glasbrint troseddu benywaidd. Fel y dywedais, cyfarfûm â'r Gweinidog yn ddiweddar iawn. Rwy'n gobeithio y cawn newyddion yn fuan iawn ynglŷn...
Jane Hutt: Ar ôl ymgysylltu'n helaeth â rhanddeiliaid, anfonwyd ein hymateb i'r ymgynghoriad hwn at y Weinyddiaeth Gyfiawnder a'i gyhoeddi ar ein gwefan. Rydym wedi dweud yn glir ein bod yn gwrthwynebu'n sylfaenol y cynnig i ddisodli'r Ddeddf Hawliau Dynol bresennol gan fil hawliau.
Jane Hutt: Gallaf sicrhau'r Aelod o hynny. Rydym yn galw—y Cwnsler Cyffredinol a minnau; fe welwch yn ein datganiad ysgrifenedig—rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i newid cyfeiriad. Mae'n dal yn bosibl gwneud hynny, ac mae argyfwng Wcráin yn dangos ei bod hyd yn oed yn bwysicach eu bod yn gwneud hynny. Dylent roi'r gorau i'r cynigion presennol, dylent ailymrwymo, nid yn unig i gadw'r Ddeddf Hawliau...
Jane Hutt: Gall myfyrwyr anabl cymwys yng Nghymru gael hyd at £31,831 o'r grant lwfans i fyfyrwyr anabl nad yw'n ad-daladwy i'w cynorthwyo i gael mynediad at addysg uwch. Mae'r swm hwn yn codi i £32,546 ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022/23.
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Carolyn Thomas. Cymru sy'n darparu'r lefel fwyaf hael yn y DU o gymorth grant lwfans i fyfyrwyr anabl nad yw'n ad-daladwy, ond rydych wedi tynnu sylw at broblem a wynebodd eich etholwr o ganlyniad i'ch ymgynghoriad. Rydym yn cadw golwg ar y rheoliadau hyn, ac rydym hefyd mewn cysylltiad â holl gydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol y colegau addysg bellach, er mwyn iddynt...
Jane Hutt: Rydym yn cynorthwyo'r bobl fwyaf agored i niwed i wneud y gorau o incwm a datblygu eu gwytnwch ariannol, ac yn ddiweddar cyhoeddwyd pecyn gwerth £330 miliwn o fesurau gennym i helpu pobl sy'n agored i niwed yr effeithiwyd arnynt gan yr argyfwng costau byw.
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, John Griffiths. Wel, mae gwneud y gorau o incwm a'r defnydd o fudd-daliadau yn hanfodol bwysig i hyn, ac mae'n werth inni edrych ar bwy sy'n ein helpu gyda'n hymgyrch, ein hymgyrch genedlaethol i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau a gynhaliwyd gennym y llynedd. Rydym yn cynnal ymgyrch arall—fe wnaethom gyhoeddi hyn fel rhan o'n hymateb i'r argyfwng costau...
Jane Hutt: Mae Cymru'n croesawu myfyrwyr rhyngwladol ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu cymdeithas decach lle nad yw pobl yn wynebu gwahaniaethu ar sail eu hil. Mae cyfraith cydraddoldeb a chyflogaeth yn darparu amddiffyniadau i ymgeiswyr am swyddi a byddwn yn parhau i fynd ar drywydd polisi dim goddefgarwch tuag at hiliaeth drwy ein cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol.
Jane Hutt: Diolch. Gallaf eich sicrhau'n llwyr, Delyth Jewell, fod hyn yn hollbwysig wrth inni gyflawni ein cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol ar gyfer Cymru wrth-hiliol. Yn amlwg, rwy'n ymwybodol o hyn, mae'n peri pryder mawr, ond hoffwn dynnu eich sylw hefyd at y rhaglen Taith gwerth £65 miliwn, sy'n agored i geisiadau yn awr, i gynorthwyo myfyrwyr a staff o bob sector addysg yng Nghymru i...
Jane Hutt: Mae ein rhaglen Cartrefi Clyd ar gyfer cartrefi ar incwm is yn arbed tua £300 y flwyddyn iddynt drwy wella effeithlonrwydd ynni. Mae cartrefi oedran gweithio cymwys hefyd yn elwa ar gymorth tanwydd y gaeaf, sef taliad o £200. Ac mae taliad costau byw o £150 yn cael ei wneud i eiddo ym mandiau treth gyngor A i D.
Jane Hutt: Mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud i baratoi i dderbyn pobol sy’n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin fel y gallant geisio noddfa a diogelwch yng Nghymru. Mae cynllun Cartrefi i Wcráin y DU bellach ar agor a bydd llwybr uwch-noddwr Llywodraeth Cymru yn weithredol o ddydd Gwener.
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn am eich cwestiynau, Mark Isherwood. Fel y dywedais ac fel sydd wedi’i nodi'n glir iawn yn yr wybodaeth a ddarparwyd gennym ar ein tudalen bwrpasol ar wefan Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r hyn a wnawn i gefnogi ffoaduriaid o Wcráin, rydym ar fin dod yn uwch-noddwr o dan gynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU ddydd Gwener. Roeddem yn awyddus i sicrhau ein bod yn gallu...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Sioned Williams. Mae'n bwysig iawn eich bod wedi tynnu sylw at rwydwaith ysbrydoledig arall sy'n gweithio ledled Ewrop, a byddwn yn ddiolchgar am y manylion cyswllt er mwyn inni allu creu cysylltiadau â hwy. Mae ein prifysgolion yn ymateb i'r her. Mae gan lawer ohonynt gysylltiadau â myfyrwyr o Wcráin eisoes, â phrifysgolion Wcráin, ac mae'r cysylltiadau hynny'n cael eu...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn amserol iawn, Alun Davies. Mae’r Prif Weinidog wedi nodi yn ystod yr wythnosau diwethaf, pan ysgrifennodd at Brif Weinidog y DU ddiwedd mis Chwefror i sicrhau ein bod yn cynnig chwarae ein rhan fel cenedl noddfa a nodi ein safbwynt ar ymddygiad ymosodol Putin yn glir iawn, ei fod wedi manteisio ar y cyfle, yn ei ohebiaeth, i bwysleisio bod Llywodraeth...
Jane Hutt: Dirprwy Lywydd, diolch i chi am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd heddiw am y cynnydd a fu o ran y cynllun Cartrefi i Wcráin yng Nghymru a'r cymorth yr ydym ni'n ei roi ar waith i gefnogi pobl sy'n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin. Mae asiantaeth ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif bod 3.8 miliwn o bobl wedi ffoi o Wcráin erbyn hyn. Mae'r mwyafrif llethol wedi...
Jane Hutt: Byddan nhw'n dod am y DU, a bydd hyn yr un fath i bawb sy'n cael eu noddi gan unigolion o dan gynllun Cartrefi i Wcráin. Mae canolfannau wedi eu sefydlu ar gyfer newydd-ddyfodiaid mewn porthladdoedd ledled Cymru, gan gynnwys yng Nghaergybi, Doc Penfro ac Abergwaun, ac ym Maes Awyr Caerdydd i helpu pobl sy'n cyrraedd o Wcráin. Mae canolfannau newydd-ddyfodiaid yng ngorsafoedd trenau a bysiau...