Canlyniadau 1521–1540 o 2000 ar gyfer speaker:Jane Hutt

5. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun Cartrefi i Wcráin (29 Maw 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood, am nifer o gwestiynau, a chewch chi atebion i rai ohonyn nhw wrth edrych ar y canllawiau sydd ar gael ar y wefan erbyn hyn. Ond i gadarnhau, gan ein bod ni wedi cyflwyno ein statws uwch-noddwr ddydd Gwener diwethaf, ei fod o dan gynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU ac, fel dywedais yn fy natganiad i ddechrau, mae'n golygu ymrwymiad i hyd at 1,000 o...

5. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun Cartrefi i Wcráin (29 Maw 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr, Sioned Williams. Fel y dywedais i mewn ymateb i Mark Isherwood, rwy'n siŵr bod gan bob un ohonom ni, ar draws y Siambr hon, bobl sy'n cysylltu â ni sy'n pryderu'n fawr am eu bod nhw'n aros am ganlyniadau eu ceisiadau am fisa. Maen nhw'n awyddus i roi croeso i bobl o Wcráin i'w cartrefi. Wrth gwrs, yn aml iawn, maen nhw mewn cysylltiad â'r rhai sy'n aros mewn gwahanol...

5. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun Cartrefi i Wcráin (29 Maw 2022)

Jane Hutt: Fe wnes i siarad fore heddiw â'r Gweinidog Ffoaduriaid, yr Arglwydd Richard Harrington, a mynegais unwaith eto fy mhryder ynglŷn â'r diffyg cynnydd a fu o ran fisâu, oherwydd rydym ni'n awyddus i gael yr holl baratoadau, ac, yn wir, ein llwybr uwch-noddwr ni hefyd—. Mae'r canolfannau croeso yn barod. Hefyd, yn Nhŷ'r Arglwyddi ddoe—. Rwyf i am ddyfynnu'r Farwnes Ilora Finlay....

5. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun Cartrefi i Wcráin (29 Maw 2022)

Jane Hutt: Wel, diolch i chi am y cwestiwn pwysig hwn, ac mae hwn yn gwestiwn y mae ein cyd-Aelodau ar draws y Siambr wedi ei ofyn heddiw. Cynllun Llywodraeth y DU yw Cartrefi i Wcráin. Rydym ni'n aros—. Nid yw'r wybodaeth gennym ni nes iddyn nhw ddweud wrthym ni pwy sy'n dod drwy'r llwybr hwnnw mewn gwirionedd. Yn amlwg, gallan nhw ymuno â'r llwybr uwch-noddwr, ac yna fe gawn ni'r wybodaeth am bwy...

5. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun Cartrefi i Wcráin (29 Maw 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr, Jane Dodds. Mae'r rhain yn gyfraniadau pwysig iawn, ac fe fyddwn ni'n trosglwyddo—. Yn wir, dywedais wrth y Gweinidog Ffoaduriaid y byddwn i'n anfon fy natganiad ato a byddaf i'n mynd ar drywydd ein pwyntiau a'n pryderon a'r cwestiynau sydd wedi eu codi. Dim ond i ddweud, rydym ni'n estyn allan yn arbennig at Uchel Gomisiynydd Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig, oherwydd ein...

5. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun Cartrefi i Wcráin (29 Maw 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Peter Fox. Mae pob Gweinidog yn ymgysylltu â'u sectorau arbennig nhw. Felly, rwy'n gwybod bod y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg, ac, yn wir, gan weithio gyda fi a'i swyddogion, yn gweithio gyda'r holl brifysgolion yng Nghymru, ryw ffordd neu'r llall, ac yn llunio cysylltiadau. Roedd gan rai ohonyn nhw gysylltiadau â phrifysgolion yn Wcráin eisoes. Ond ceir cysylltiadau...

5. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun Cartrefi i Wcráin (29 Maw 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn i chi. Ac rwy'n croesawu eich cwestiwn, a'ch sylwadau, a'ch cyfraniad, Rhun ap Iorwerth. O ran y teulu hwnnw ar Ynys Môn, o ran y gymuned honno, y gwn ei bod wedi croesawu cynifer ar Ynys Môn, mae'n bwysig fy mod i'n trosglwyddo hyn yn ôl i chi, y gefnogaeth gref hon i Lywodraeth y DU gyflymu'r broses fisa. Gadewch i ni ystyried hynny: mae dros 10,000 o bobl yng Nghymru...

5. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun Cartrefi i Wcráin (29 Maw 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Gareth Davies. Mae'n gynllun Cartrefi ar gyfer Wcráin gan Lywodraeth y DU. Byddwn yn uwch-noddwr yn y cynllun hwnnw. Gallwch gael mynediad iddo yn homesforukraine.campaign.gov.uk. Fe welwch chi fod gennym ni wefan Noddfa Llywodraeth Cymru. Rwyf wedi rhoi'r rhifau i chi. Mae'n bwysig iawn ein bod yn gwthio'r wybodaeth hon gymaint â phosibl. Rhannwch y datganiad llafar â...

3. Cwestiynau Amserol: Orthios (30 Maw 2022)

Jane Hutt: A hoffech chi fenthyg fy un i?

4. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (26 Ebr 2022)

Jane Hutt: Dirprwy Lywydd, diolch i chi am y cyfle heddiw i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein gwaith parhaus ni i gefnogi pobl o Wcráin sy'n dianc rhag y dinistr ofnadwy yn eu gwlad nhw. Nid oes unrhyw arwydd bod y rhyfel na'r trais yn Wcráin yn tawelu, ac, ychydig dros wythnos yn ôl, fe lansiodd Putin ymosodiad newydd ar raddfa eang yn rhanbarth Donbas. Ac yn y cyfamser, ychydig o...

4. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (26 Ebr 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Mark, a diolch i chi am y cwestiynau pwysig yna, sydd i raddau helaeth iawn, fel buom ni'n ei ddweud ddoe, yn ymwneud â'r ffordd y mae cynllun Cartrefi i Wcráin, y cynllun uwch-noddwyr, yn ymsefydlu erbyn hyn o ran ei gyflawniad a'i weithrediad. Nid oes amheuaeth ynglŷn ag oedi, oedi amlwg, y gwnaeth y Gweinidog, Arglwydd Richard Harrington, ei gydnabod pan wnes i...

4. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (26 Ebr 2022)

Jane Hutt: Diolch, Sioned. Diolch. Mae hi'n hyfryd clywed am y croeso hwnnw a gawsoch chi heddiw ac a welsoch chi, a'r ffaith bod y gymuned a buarth yr ysgol, bod rhieni, y gymuned, yn eiddgar i ymgysylltu ac wedi bod â rhan mor adeiladol. Mae tua 10,000 o unigolion yng Nghymru wedi mynegi eu diddordeb nhw ar restr i fod â rhan yn y cynllun Cartrefi i Wcráin ers i'r gofrestr agor ar 14 o fis Mawrth...

4. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (26 Ebr 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr, Sarah Murphy, ac a gawn ninnau ddiolch i Amy hefyd am y gwaith a wnaeth hi a'r hyn a rannodd hi ag eraill? Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn gwylio'r fideo hwnnw ac yn ei llongyfarch hi. Felly, anfonwch ein llongyfarchiadau ni iddi hi am ei hymrwymiad, ei chefnogaeth ac, yn wir, am rannu'r profiadau hollbwysig hyn y mae angen i ni ddysgu ohonyn nhw. Rwy'n credu fy mod i wedi...

4. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (26 Ebr 2022)

Jane Hutt: Diolch, Jane, a diolch i chi hefyd am fy nghyflwyno i Sarah, sydd eto'n un arall—fel Amy—yn ddinesydd anhygoel o Gymru sydd â rhan hanfodol fel hyn wrth wneud y cysylltiadau hynny, nid yn unig yng Nghymru, gyda'r holl wirfoddolwyr a theuluoedd sy'n noddi, ond yn Wcráin ac yn Ewrop. Diolch iddi hi am ein grymuso ni. Maen nhw'n cysylltu nawr, mae Sarah yn cysylltu â chysylltiadau'r...

4. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (26 Ebr 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr, Heledd Fychan. Ac, unwaith eto, rwy'n ddiolchgar am yr enghreifftiau a roddwch chi o ran etholwyr a theuluoedd sy'n noddi, a'r rhai y maen nhw'n dymuno eu noddi—y ffoaduriaid—a bod â'r rhwystrau a'r anawsterau hyn; dyna fwy o dystiolaeth bwysig i mi. Ond mae angen i ni fynd i'r afael â hyn, mae angen i Lywodraeth y DU fynd i'r afael â hyn. Rydym ni'n gyfrifol am sicrhau...

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cyflawni ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ariannu rhagor o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu (26 Ebr 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o allu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ynglŷn â gwireddu ymrwymiad y rhaglen lywodraethu i ariannu 600 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ledled Cymru.

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cyflawni ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ariannu rhagor o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu (26 Ebr 2022)

Jane Hutt: Ar 24 Awst 2021, cyhoeddais £3.7 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer y 100 o swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol ledled Cymru, a daeth hyn ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn 2021-22 i dros £22 miliwn a bodloni ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu. Mewn digwyddiad lansio ar gyfer y 100 o swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol hyn, ymwelodd y Prif Weinidog a minnau â chanol tref...

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cyflawni ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ariannu rhagor o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu (26 Ebr 2022)

Jane Hutt: Rydym ni’n gwneud hyn, wrth gwrs, er nad oes gennym ni gyfrifoldeb dros blismona. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni ddod o hyd i'r arian ar gyfer hyn o gyllidebau nad ydynt wedi'u cynllunio at y dibenion hyn. Fodd bynnag, mae'n arwydd o'n blaenoriaethau a sut y byddai pethau'n wahanol pe bai plismona'n cael ei ddatganoli, fel yr argymhellwyd, nid dim ond gan gomisiwn Thomas, ond comisiwn...

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cyflawni ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ariannu rhagor o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu (26 Ebr 2022)

Jane Hutt: Hoffwn ddiolch i bartneriaid plismona am gefnogi'r gwaith cyflym hwn yn cynyddu nifer y PCSOs a hefyd i bob PCSO sy'n gweithio yng Nghymru am y gwaith y maen nhw'n ei wneud i gymunedau. Dwi'n siŵr y bydd Aelodau o'r Senedd yn dymuno gwneud yr un peth.

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cyflawni ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ariannu rhagor o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu (26 Ebr 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood, ac mae’n dda cael eich cefnogaeth i'r hyn oedd ein hymrwymiad arloesol, rhaid i mi ddweud, sy'n mynd â ni ymhell yn ôl cyn eich ymrwymiadau chi. Mae'n dda cael eich cefnogaeth, Mark—rwy’n dweud hynny gyda phob ewyllys da heddiw—ond mae'n mynd â ni'n ôl i 2011, pan oeddem ni, fel Llywodraeth Cymru, yn enwedig—. Ydych chi'n cofio 2011, dechrau...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.