Jane Hutt: Diolch yn fawr, Peredur, a hefyd, fel rydych chi’n ei ddweud, mae cymaint o sgiliau newydd mae'n rhaid i'n heddluoedd eu cwmpasu o ran troseddau traddodiadol a newydd, yn enwedig troseddau seiber rydych chi wedi tynnu sylw atynt, ond hefyd yr ymateb, fel rydym ni wedi sôn amdano, mae’r heddlu lleol yn y gymuned, ymgysylltu â'r gymuned, yn gofyn am ymateb ac ymgysylltiad mwy traddodiadol...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn i chi, Jack Sargeant, a diolch i chi am eich ymrwymiad hirsefydlog i swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ac am gynrychioli eich etholwyr, sydd yn aml yn y rheng flaen, am lawer o'r rhesymau y soniodd Peredur amdanyn nhw hefyd o ran cymorth annigonol a'r plismona cryf rydym ni ei angen i ddiogelu'r cymunedau hynny. Mae ein swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn...
Jane Hutt: Cynigiaf y cynnig.
Jane Hutt: Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig ac rwy'n hapus i gynnig y cynnig hwn ac esbonio pam rwy'n credu y dylai'r Senedd gytuno arno. I lawer o bobl yng Nghymru, Iaith Arwyddion Prydain yw'r iaith y maen nhw'n ei defnyddio mewn bywyd bob dydd, ond gwyddom i lawer eu bod wedi'u hanablu oherwydd nad yw gwasanaethau cyhoeddus yn cyfathrebu â nhw neu'n methu â chyfathrebu â nhw drwy gyfrwng...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Llywydd. Mae hwn yn ddarn bach ond pwysig o ddeddfwriaeth, ac mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn cael y ddadl hon wrth gynnig yr LCM hwn—cyfle i drafod pwysigrwydd BSL. Diolch i Jenny Rathbone ar ran y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, a hefyd i Huw Irranca-Davies o'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad—nodwn eich sylwadau hefyd. Ond rwy'n...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle, unwaith eto, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein gwaith parhaus i gefnogi pobl o Wcráin sy'n ffoi rhag y rhyfel erchyll hwn yn y gobaith o gael noddfa. Gyda phob diwrnod sy'n mynd heibio, rydym ni'n clywed rhagor o straeon dirdynnol gan gynnwys, dros y penwythnos, yr achos o nifer fechan o sifiliaid yn cael dianc o'r gwaith...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn i chi, Mark. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod y ffigurau wythnosol a roddir ar ddydd Iau—mewn gwirionedd, fe ddyfynnais i rai 27 Ebrill—yn ffigurau sy'n cael eu rhannu ar sail pedair gwlad. Felly, fel y dywedais i yn fy natganiad, fe allaf i gadarnhau unwaith eto fod 2,300 o fisâu wedi cael eu rhoi i bobl drwy gynllun Cartrefi i Wcráin, y bobl hynny sydd wedi...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Sioned. Dyma un o ddibenion cyfarfod â'n gilydd, fel y gwnaethom ni'n rheolaidd dros yr wythnosau diwethaf, fi a'r Gweinidog Ffoaduriaid, yr Arglwydd Harrington, a Neil Gray, y Gweinidog yn Llywodraeth yr Alban oherwydd mae'r Gweinidog yn Llywodraeth yr Alban a minnau'n cytuno yn hyn o beth gan fynegi, ac fe wnaethom ni hynny'n eglur iawn o'r cychwyn, hynny yw, mewn...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn i chi, Huw Irranca-Davies. Ac rwy'n credu bod hwnnw'n rheswm pwysig arall pam mae angen i mi ddod gyda fy natganiadau i'r fan yma, mor rheolaidd ag y bydd y Llywydd a'r Senedd yn caniatáu i mi wneud felly, oherwydd mae angen i ni gael adborth fel hyn. Mae angen i mi gael adborth fel hyn, fel y cefais i heddiw. Mae'r holl eiriau a ddefnyddiwyd, 'didrefn, 'gwarthus'—nid...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Heledd Fychan, a diolch i chi am godi'r mater pwysig yna hefyd. Yr erchyllterau—nos ar ôl nos, dyna yw'r hyn yr ydym ni wedi'i weld, erchyllterau'r troseddau, troseddau rhyfel a threisio menywod. Mae hyn yn rhywbeth sy'n hanfodol bwysig, y gallwn ni ei gefnogi, ond hefyd cael y dystiolaeth. Mae hyn yn rhywbeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn rhoi sylw iddo hefyd o ran...
Jane Hutt: Llywydd, os caiff y Ddeddf Cenedligrwydd a Ffiniau ei mabwysiadu, 'byddai'n tanseilio'n ddifrifol y gwaith o ddiogelu hawliau dynol pobl sy'n cael eu masnachu, gan gynnwys plant, yn cynyddu'r risgiau o gam-fanteisio a wynebir gan bob mudwr a cheisiwr lloches, ac yn arwain at dorri hawliau dynol yn ddifrifol.' 'Nid yw'r bil yn cydnabod rhwymedigaeth y Llywodraeth i sicrhau amddiffyniad i blant...
Jane Hutt: Mae angen i ni wneud hynny'n gwbl glir, fel y gwnaethoch ei ddweud, Huw Irranca-Davies. Ac rydym ni wedi gwneud hyn yn glir yn y Siambr hon. Mae'n rhaid i mi ddweud y cawsom eiliad o gonsensws yn gynharach, mewn ymateb i'r araith agoriadol, pan ddywedodd Darren Millar ei fod yn croesawu'r ffaith ein bod yn edrych ar sut y gallem ymgorffori confensiynau'r Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith...
Jane Hutt: Mae ein rhaglen cynhwysiant digidol ac iechyd, Cymunedau Digidol Cymru, yn cefnogi sefydliadau ar draws pob cymuned a sector i helpu pobl i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd y gall technoleg ddigidol eu cynnig. Ac mae dros 91,000 o bobl wedi cael cymorth gyda sgiliau digidol sylfaenol, cymhelliant a hyder, a all eu helpu i gael cyflogaeth, cyrchu gwasanaethau a chefnogi llesiant.
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Carolyn Thomas, am eich cwestiwn pwysig fel yr Aelod rhanbarthol dros Ogledd Cymru. Mae gwefan Llywodraeth Cymru www.llyw.cymru/band-eang-yng-nghymru yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol i helpu i arwain pobl drwy’r broses o wella cysylltedd digidol, gan gynnwys yr amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael. Mae'n hanfodol yn awr ein bod yn cynyddu ein dealltwriaeth a'n...
Jane Hutt: Diolch, Natasha Asghar. Mae hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn hefyd. Yn ddiddorol, gwyddom drwy arolwg cenedlaethol Cymru nad ardaloedd gwledig a threfol o reidrwydd yw achos sylfaenol allgáu digidol—mae 93 y cant o bobl mewn ardaloedd gwledig a threfol yn defnyddio'r rhyngrwyd. Ond fel y dywedwch, o ran cynhwysiant digidol a mynediad at iechyd, mae'n bwysig cydnabod hefyd fod £2 filiwn y...
Jane Hutt: Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn.
Jane Hutt: Mewn gwirionedd, mae Cymunedau Digidol Cymru yn cefnogi prosiect adfywio cymunedol Dinasyddion Ar-lein—mae'n debyg eich bod yn ymwybodol ohono, Mabon—sef Gwynedd Ddigidol, sy'n canolbwyntio ar gefnogi pobl â sgiliau digidol sylfaenol sy'n gysylltiedig â chyflogaeth. Hefyd, gan gydnabod nad yw telathrebu wedi’i ddatganoli i Gymru—gwnaethom sylwadau ar hynny ddoe—rydym yn parhau i...
Jane Hutt: Diolch am eich cwestiwn, Joel. Drwy ein hymagwedd tîm Cymru, mae gwasanaethau ar waith i roi cymorth i ffoaduriaid o Wcráin ac Affganistan. Ac mae ein cynllun cenedl noddfa yn nodi’r camau yr ydym yn eu cymryd i integreiddio pawb sy’n ceisio noddfa yng Nghymru.
Jane Hutt: Diolch am eich cwestiwn defnyddiol iawn. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu gwasanaethau cynghori ac eirioli hollbwysig i bobl sy’n ceisio noddfa. A dweud y gwir, yn ddiweddar, dyfarnwyd cyllid i gonsortiwm a arweinir gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru ar gyfer y gwasanaeth cymorth i geiswyr noddfa, ac mae hwn yn wasanaeth olynol i'r rhaglen hawliau lloches, a ariannwyd gennym dros y tair blynedd...
Jane Hutt: Mae hwn yn gwestiwn sydd—. Yn wir, ymatebodd y Prif Weinidog i’r cwestiynau hyn ddoe, ac wrth gwrs, bydd yr ymchwiliad annibynnol yn mynd i'r afael â’r holl faterion hyn.