Huw Irranca-Davies: Rwyf ychydig yn llai— [Torri ar draws.] Rwyf ychydig yn llai pesimistaidd nag y mae Bethan wedi bod, oherwydd gallaf enwi unigolion sy'n noddi’r celfyddydau: y cyn-löwr David Brace a'i wraig Dawn Brace, sy'n rhoi £20,000 y flwyddyn o'u harian—Dunraven Windows yw eu cwmni, y ffenestri gwydr dwbl. Maent yn ariannu canwr ifanc y flwyddyn Pen-y-bont yn gyfan gwbl, sy’n gystadleuaeth ar...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Lywydd. Croesawaf y cyfle i siarad yn fyr iawn ar y Gorchymyn hwn—ar bwynt bach, ond pwynt pwysig yn fy marn i—ar ran y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Nododd ein hadroddiad i'r Cynulliad un pwynt o ddiddordeb—roedd yn bwynt teilwng—yn ymwneud â dibyniaeth y Gorchymyn hwn ar gyfres o reoliadau sydd eto i’w cyflwyno i Weinidogion Cymru ac eto i'w craffu...
Huw Irranca-Davies: Hoffwn ganolbwyntio’r rhan fwyaf o fy sylwadau ar y morlyn llanw ym mae Abertawe, ond a gaf ddechrau drwy longyfarch Charles Hendry ar ei adroddiad? Yn rhy aml, mae adolygiadau o'r math hwn yn eu colli eu hunain mewn amwysedd a ffwdanu, heb ddod i unrhyw gasgliadau clir ond yn ychwanegu at y niwl ac at yr oedi, ond nid hwn. Dyma’r union fodel o'r hyn y dylai adolygiad gweddus ei wneud....
Huw Irranca-Davies: Mae mater cyfuno yn rhywbeth a aeth â sylw’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol rhagflaenol. Mae codeiddio wedi mynd â llawer o’n sylw bellach. Yn wir, mae llawer o fanteision i Gymru yn sgil symleiddio’r ddeddfwriaeth a’i gwneud yn dryloyw, ond mae’n dasg Sisyffaidd braidd mewn sawl ffordd. Yn wir, os ceisiwch ei wneud mewn un darn, gallai fod yn llafurus iawn, yn...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf eisiau siarad am 90 eiliad am Siediau Dynion Cymru a mudiad y siediau dynion. Sefydlwyd y cysyniad gwreiddiol o siediau dynion yn Awstralia 11 mlynedd yn ôl fel rhan o seilwaith iechyd sy’n cefnogi rhaglenni i wella iechyd a lles dynion, ac i helpu i fynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol. Nawr, rydym i gyd yn gyfarwydd â’r dywediad, ‘O’r fesen...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nid wyf yn credu y bydd unrhyw un yn beirniadu’r Bil hwn am ddioddef o ddiffyg craffu wrth i mi gamu ymlaen fel y trydydd mewn triwriaeth o Gadeiryddion pwyllgorau. Hoffwn ddiolch i fy nghyd-aelodau pwyllgor am eu gwaith craffu diwyd ar hyn ac am eu diwydrwydd cyson wrth graffu ar yr amrywiol Filiau sy'n dod ger ein bron. Gwnaethom adrodd ar y Bil hwn ar 10...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i chi am ganiatáu’r cwestiwn brys hwn heddiw? Mae’n fater sydd wedi achosi llawer o bryder, ond a gaf fi ddweud nad pryderon newydd yw’r rhain heddiw, ar sail yr adroddiadau hyn yn y wasg; maent wedi bod yn bryderon parhaus ers peth amser? Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet, yn gyntaf oll, am gydnabod y sgiliau, y teyrngarwch a’r aberth y mae’r...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wrth i ni ddathlu ein diwrnod cenedlaethol, Dydd Gŵyl Dewi, mae’n gyfle delfrydol i mi i siarad ar ran y pwyllgor i amlinellu ein hymchwiliad cyfredol ar daith ddatganoli Cymru. Wrth edrych yn ôl, byddwn hefyd yn edrych ar sut y gall y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru, yn awr ac yn y dyfodol, weithio gyda chymheiriaid ar draws y DU i wella bywydau...
Huw Irranca-Davies: A gaf fi groesawu ymateb David i’r datganiad yn fawr iawn, ac a gaf fi gofnodi fy ngwerthfawrogiad, nid yn unig o’i ymagwedd ef tuag at waith y pwyllgor, ond ymagwedd yr Aelodau eraill hefyd? Mae’n bwyllgor sy’n ymdrechu o ddifrif mewn modd hynod o amhleidiol i edrych ar weithrediad effeithiol ein cyfansoddiad a’r ddeddfwriaeth a welwn o’n blaenau, ac mae hynny’n ei wneud yn...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Dai. Os caf ddechrau ar y diwedd gydag un rhaglyw a symud ymlaen at un arall, yna, yn sicr gyda phwerau Harri’r VIII, rydym yn gyson—ac yn unol â’r pwyllgor a’n rhagflaenodd—yn ceisio gwthio’n ôl ar y defnydd o bwerau Harri VIII. Mae’n ddeialog gyson gyda Gweinidogion a chyda’r Llywodraeth, ond mae ein hegwyddorion yn gadarn iawn ar y pwyllgor am resymau da iawn, sef...
Huw Irranca-Davies: Gallaf, yn wir. David, diolch yn fawr iawn i chi. Iawn, yn fyr iawn, rydym eisoes wedi treialu hyn, ac mae ein tîm sy’n ein cefnogi wedi dwyn pobl ynghyd sydd â gwahanol brofiadau o’r sector cymunedol, y sector preifat, o wahanol rannau o Gymru, grwpiau oedran gwahanol, gwahanol rywiau—maent wedi ceisio arbrofi gyda chymysgedd o bobl ac nid yr arferol. Pobl nad ydynt fel arfer yn...
Huw Irranca-Davies: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ariannu hyfforddiant gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru?
Huw Irranca-Davies: Rwy'n credu bod fy nghwestiwn yn un syml ac efallai fod ateb syml iddo. Mae Cyflymu Busnes Cymru yn gwneud gwaith gwych yn eu sioeau teithio a’u gweithdai ledled y wlad, ac wrth i mi edrych trwy restr aruthrol o leoedd y maen nhw’n mynd iddynt, mae'n eithaf trawiadol sut y maen nhw’n cynyddu’r potensial o ran sut i sefydlu’r cysylltiadau hynny. Ond yr un lle sydd ar goll yn hyn i...
Huw Irranca-Davies: Mae chwaraeon, fel y gwyddom, yn cynnig manteision lu, ond tybed a allwn ni ddod o hyd i amser am ddatganiad neu ddadl ar fater chwaraeon ac ymddygiad, ar y cae chwarae ac oddi arno hefyd, yn dilyn y sylw anffodus a roddwyd i’r ffrwgwd ar y maes yn ystod y gêm yn nhrydedd haen rygbi'r gynghrair yn ystod y penwythnos. Fel rhywun sydd wedi dilyn rygbi a hyd yn oed chwarae yn safle’r...
Huw Irranca-Davies: A gaf i groesawu'r datganiad hwn, ond hefyd y sylwadau a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet am swyddogaeth y gwasanaeth ambiwlans yma ac ansawdd y gofal y mae’n ei ddarparu? A hefyd, bydd wedi gweld hynny yn ystod ei ymweliad yr wythnos diwethaf â gorsaf ambiwlans Bryncethin, a gallai weld ymroddiad a phroffesiynoldeb pob un o'r bobl yno wrth ymateb i anghenion cymunedau ar draws ardal...
Huw Irranca-Davies: 4. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud o effaith cyhoeddiadau polisi diweddar Llywodraeth y DU ar Gymru o ran diwygio lles? OAQ(5)0116(CC)
Huw Irranca-Davies: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb ac am egluro’r effaith. Bydd yn gwybod, flwyddyn yn ôl, cyn y gyllideb fis Mawrth diwethaf, fod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau wedi ymddiswyddo dros y toriadau a oedd ar y ffordd ar y pryd i daliadau annibyniaeth personol gan ddadlau nad oedd modd amddiffyn y toriadau mewn cyllideb a oedd yn creu budd i drethdalwyr ar gyflogau...
Huw Irranca-Davies: 2. Pa ystyriaeth y mae'r Prif Weinidog wedi'i rhoi i flaenoriaethu effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi fel rhan o bolisi seilwaith cenedlaethol yng Nghymru? OAQ(5)0504(FM)
Huw Irranca-Davies: Mae llawer o waith rhagorol eisoes yn cael ei wneud yng Nghymru, ond gallai rhoi effeithlonrwydd ynni domestig ochr yn ochr â rhaglenni seilwaith eraill o bwysigrwydd cenedlaethol arwain at fanteision lluosog, gan gynnwys rhoi hwb sylweddol i ymdrechion i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, gan ddarparu’r cartrefi cynnes a chlyd hynny, gwella iechyd a llesiant ein dinasyddion hŷn, lleihau'r...
Huw Irranca-Davies: Tynnaf sylw'r Aelodau at fy nghofrestr o fuddiannau a gwaith fy ngwraig fel radiograffydd. A gaf i groesawu ei sicrhad heddiw, ond hefyd y ffaith y bydd yn cyflwyno datganiad ysgrifenedig manylach? Rwyf yn amau y bydd yn rhaid i ni ddod yn ôl ar ryw adeg yn y dyfodol hefyd gyda datganiad sydd hyd yn oed yn fanylach. Efallai y bydd rhai o'r cwestiynau sydd gennyf yn helpu i lywio ei...