Mark Reckless: Roeddwn yn falch o weld heddiw bod llythyr, wedi’i drefnu, rwy’n meddwl, gan ASau yn San Steffan. Cafodd ei lofnodi gan Richard Graham, yr AS dros Gaerloyw, a 107 o ASau, ac, rwy’n meddwl yn fwyaf defnyddiol, mae Jesse Norman, y Gweinidog iau â chyfrifoldeb, wedi dweud na fydd Llywodraeth y DU yn llusgo ei thraed wrth ymateb i adroddiad Charles Hendry. Yr haf diwethaf, gofynnodd...
Mark Reckless: Hoffwn longyfarch yr Aelodau unigol sydd wedi cyflwyno’r ddadl hon heddiw, a bûm yn astudio gydag un ohonynt yn y brifysgol. Hoffwn bwysleisio cefnogaeth fy mhlaid i’r cynnig hwn yn ei gyfanrwydd. Rwy’n bwriadu canolbwyntio fy sylwadau ar bwynt 4, i groesawu’r cynnydd a wnaed yn y degawdau diwethaf ar hawliau a derbyniad o LHDT, am fod llai na thri degawd ers i’r mater achosi i mi...
Mark Reckless: Gan ddechrau gyda Banc Buddsoddi Ewrop, dywedodd Nick Ramsay yr amser sydd gennym i fynd at Fanc Buddsoddi Ewrop eto, ac rwy’n credu fod Adam Price hefyd efallai yn argoeli yn ei sylwadau na fyddem ni’n rhan o Fanc Buddsoddi Ewrop o bosibl. Yn fy mhlaid i, nid wyf yn credu bod gennym ni unrhyw wrthwynebiad i Fanc Buddsoddi Ewrop mewn egwyddor. Rwy'n credu bod trafodaeth ynglŷn â sut y...
Mark Reckless: 4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y bydd yn mesur llwyddiant o ran lleihau tlodi? OAQ(5)0131(EI)
Mark Reckless: Mewn egwyddor, rwy’n cefnogi arweiniad Ysgrifennydd y Cabinet yn y maes hwn, yn ogystal â defnyddio datblygu economaidd a gwella seilwaith er mwyn lleihau tlodi. Fodd bynnag, mae’r newid polisi a chael gwared ar Cymunedau yn Gyntaf wedi achosi pryder ar ei feinciau ei hun. A yw’n sicr y bydd y dull newydd o weithredu yn cynorthwyo’r bobl dlotaf yn ein cymdeithas?
Mark Reckless: Pryd y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn disgwyl i refeniw o Faes Awyr Caerdydd ad-dalu pris ei brynu?
Mark Reckless: Diolchaf i Nick Ramsay am ei gyfraniad. Roeddwn yn teimlo bod y casgliad 'ni allwn gefnogi' braidd yn Ddelffig, am ei fod yn gadael dau ddehongliad posibl. Y sefyllfa a ganfyddwn ar y gyllideb hon yw nad oedd UKIP yn rhan o'r Cynulliad ar adeg pasio’r gyllideb gychwynnol ar gyfer eleni. Mae nifer o'r newidiadau o ben i ben neu’r prif grwpiau gwariant, rwy’n credu, yn anodd eu...
Mark Reckless: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ildio?
Mark Reckless: Felly, a yw'r £21.1 yn ailddosbarthiad technegol, neu a yw er mwyn talu am fynd y tu hwnt i’r gyllideb?
Mark Reckless: Hoffwn ddweud fy mod i’n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am fy mriffio i ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ddoe. O ystyried amddiffyniadau’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol, o ystyried y diffyg gwrthwynebiad gan y pwyllgor llywodraeth leol a hawliau dynol, a hefyd o ystyried sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet am y gwelliannau sylweddol iawn i’r ddeddfwriaeth wrth iddi fynd...
Mark Reckless: Mae Prif Weinidog yr Alban wedi dweud y bydd ei Llywodraeth yn cynnal ail refferendwm annibyniaeth. Un o’r heriau a fydd yn ei hwynebu yw bod yr Alban, ar ei phen ei hun, yn gweithredu ar ddiffyg o tua 9 y cant neu 10 y cant o gynnyrch domestig gros, o’i gymharu â 4 y cant ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd. Amcangyfrifir, felly, y byddai’n rhaid i Alban annibynnol lenwi twll cyllidol o...
Mark Reckless: Yn ddefnyddiol iawn, mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi cyhoeddi adroddiad yn ddiweddar lle y mae’n nodi cyfanswm gwariant y sector cyhoeddus yng Nghymru ar bob lefel o’r Llywodraeth. Y flwyddyn ddiweddaraf y mae ganddynt ddata cymaradwy ar ei chyfer yw 2014-15, ac roedd yn £38 biliwn. Mae hynny’n cymharu â chyfanswm refeniw sector cyhoeddus i Gymru o £23.3 biliwn. Felly,...
Mark Reckless: Felly mae tua £7,500 y pen o dreth yn cael ei godi yng Nghymru, o’i gymharu â £10,000 ar draws y DU yn ei chyfanrwydd. Rwy’n falch o glywed ailddatganiad ac eglurhad Ysgrifennydd y Cabinet fod ei blaid, o leiaf, a’r Llywodraeth y mae’n ei harwain, yn un ddatganoliadol, oherwydd, yn llawer o weithredoedd y Llywodraeth hon, ceisir cytundeb ag un o’r gwrthbleidiau gyferbyn—ac nid...
Mark Reckless: Yn ei araith agoriadol, roedd arweinydd yr wrthblaid—er nad wyf yn siwr y gallaf ei alw’n hynny eto; gwelaf nad yw Neil McEvoy wedi’i restru fel Aelod Plaid Cymru mwyach. Dywedodd ei fod yn disgwyl gweld Llywodraeth newydd gydag egni newydd ac ysgogiad newydd. Rwy’n meddwl ei fod wedi mynd mor bell hyd yn oed â dweud ei fod am 18 mis wedi rhagweld ffrwydrad o egni. Ond wrth gwrs nid...
Mark Reckless: Diolch, Lywydd, ac rwy’n credu y dylwn ymddiheuro’n fawr dros yr Aelodau yr ydych, yn sicr yn fy achos i, yn oddefgar iawn wedi caniatáu iddynt gyfrannu at y ddadl hon; ymddiheuraf i Ysgrifennydd y Cabinet hefyd am beidio â dal o leiaf rhan gyntaf ei sylwadau. Y peth a nodais fwyaf yw bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwrando ac mae wedi meddwl ac mae wedi ystyried beirniadaeth ac...
Mark Reckless: A wnaiff y Prif Weinidog egluro ei sylwadau blaenorol ei fod yn gweld yr Alban fel model cyfansoddiadol i Gymru ei ddilyn?
Mark Reckless: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y £21.1 miliwn a drosglwyddwyd o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i Lywodraeth Cymru? OAQ(5)0109(EDU)
Mark Reckless: Mae’r Gweinidog yn disgrifio hyn fel newid technegol, a dyna a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid wrthyf hefyd mewn llythyr ar 15 Mawrth, ei fod yn addasiad technegol o fewn y portffolio. Felly, a all y Gweinidog egluro pam y dywedodd Kirsty Williams wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 17 Hydref y bydd y grant ffioedd dysgu ‘yn fwy na’r amcangyfrifon gwreiddiol o...
Mark Reckless: Diolch, Llywydd. Gofynnodd arweinydd fy ngrŵp i mi gyfleu ei ymddiheuriadau, gan ei fod mewn angladd teuluol heddiw. A gaf i ganmol y Prif Weinidog ar ymateb ei Lywodraeth ar 13 Mawrth i bapur ymgynghori Llywodraeth y DU ar ddyfodol tollau Pont Hafren? Mae wedi ei ddadlau’n dda, ac yn adlewyrchu’n ffyddlon barn unfrydol y Cynulliad hwn ar fy nghynnig i gefnogi diddymu'r tollau ar bont...
Mark Reckless: Rwy’n cytuno â'r Prif Weinidog, a dymunaf yn dda iddo fe, Ken Skates a'i swyddogion wrth ddadlau’r safbwynt hwnnw. Ceir tair risg gyfreithiol ddifrifol iawn i Lywodraeth y DU, rwy’n credu, os bydd yn ceisio parhau i godi tollau heb ein cytundeb, a gallai unrhyw un o'r rheini fod yn angheuol i unrhyw gynllun sydd ganddi. Yn gyntaf, mae Deddf Pontydd Hafren 1992 yn dweud y dylai tollau...