John Griffiths: Cyfarfûm â Carl gyntaf pan gafodd ei ethol i'r Cynulliad yn 2003, ac fel y clywsom, roedd yn falch iawn o gynrychioli ei etholaeth. Ac fel y byddai rhai yma, rwy'n credu, yn cofio, pan fyddai materion lleol yn codi, roedd weithiau yn awyddus i sicrhau ei fod yn cael ei ystyried ar wahân i'r ACau rhanbarthol ar gyfer y gogledd a oedd, wrth gwrs, yn cwmpasu'r ardal gyfan. Ac yn aml, fel...
John Griffiths: 4. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru? OAQ51278
John Griffiths: Ysgrifennydd y Cabinet, y bore yma, lansiwyd adroddiad Prifysgol De Cymru ar effaith gymdeithasol gamblo cymhellol. Ymddengys yn glir fod hwn yn prysur ddod yn fater iechyd cyhoeddus sy'n effeithio ar iechyd a llesiant pobl. Mae yna gwestiynau ynglŷn â lleoliad siopau betio a pheiriannau betio ods sefydlog yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn ddaearyddol, a hefyd y problemau yn...
John Griffiths: Tybed a gaf i ddechrau drwy godi rhai pryderon ynglŷn â’r arian cyfalaf sydd ar gael, oherwydd rwy’n gwybod bod pryderon y gallai cyfyngiadau ar gyfalaf arwain at gau swyddfeydd a diffyg staff i ddarparu gwasanaeth mewn ardaloedd penodol. Er enghraifft, pan fydd prydlesau’n dod i ben, os nad oes digon o gyfalaf i gael safle ac, yn wir, offer, efallai y bydd crynodiad o ddarpariaeth...
John Griffiths: Mae ansawdd yr aer yn sicr yn fater pwysig ar gyfer iechyd y cyhoedd, a hefyd ar gyfer yr amgylchedd. Rwy'n credu ein bod eisoes wedi clywed rhai themâu pwysig iawn y mae angen mynd i'r afael â nhw yn llawn os ydym ni am wneud y math o gynnydd yr wyf yn siŵr yr hoffai pawb ohonom ei weld. Ydy, mae'n her fawr mewn ardaloedd trefol yng Nghymru, yn ein dinasoedd a'n trefi, yn ogystal â mewn...
John Griffiths: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am baratoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer defnyddio ei phwerau trethiant sydd ar ddod? OAQ51416
John Griffiths: Ysgrifennydd y Cabinet, dengys y llyfr The Spirit Level a llawer iawn o dystiolaeth arall fod gan bob un ohonom lawer i'w elwa o gymdeithas fwy cyfartal ym mhob ffordd. Dywedodd Sefydliad Joseph Rowntree yr wythnos hon fod 400,000 yn rhagor o blant a 300,000 yn rhagor o bensiynwyr yn byw mewn tlodi yn y DU erbyn hyn nag a oedd yn 2012-13. Mae'r Comisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi...
John Griffiths: 6. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches? OAQ51402
John Griffiths: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae adroddiad y pwyllgor yn dangos cryn ddiddordeb yng Nghasnewydd, sydd, yn amlwg, yn un o'r dinasoedd ac un o'r ardaloedd mwy amrywiol yn ethnig yng Nghymru, ond hefyd ceir ardaloedd eraill tebyg yng Nghymru o ran hynny. Felly, mae cryn ddiddordeb allan yno ac mae'n dda gwybod bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda ffoaduriaid a...
John Griffiths: 4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo gweithio ar y cyd rhwng y sector iechyd a'r sector chwaraeon a hamdden yng Nghymru? OAQ51484
John Griffiths: Prif Weinidog, os ydym ni'n mynd i ymateb i'r heriau o sicrhau dull mwy rhagweithiol ac ataliol o gael gwell iechyd yng Nghymru, mae angen poblogaeth sy'n gwneud mwy o ymarfer corff arnom. Mae hynny'n rhan bwysig o wneud y newid angenrheidiol hwnnw. Yng Nghasnewydd, mae adran iechyd y cyhoedd bwrdd iechyd Aneurin Bevan, ynghyd â Casnewydd Fyw, Cyngor Dinas Casnewydd, Cyfoeth Naturiol Cymru,...
John Griffiths: Rwy'n falch o siarad yn y ddadl hon heddiw â minnau'n Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. Mae'r Comisiwn, wrth gwrs, yn un o randdeiliaid allweddol y Pwyllgor. Rydym ni wedi mwynhau perthynas gadarnhaol ac adeiladol gyda nhw. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, maen nhw wedi dylanwadu'n uniongyrchol ar sawl darn o'n gwaith ni, gan gynnwys ein hadroddiad ar ffoaduriaid...
John Griffiths: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar addysg drydyddol yng Nghymru?
John Griffiths: Fel y mae eraill wedi'i ddweud, rwy'n credu ein bod yn ffodus iawn yng Nghymru fod gennym amgylchedd morol o ansawdd mor uchel, ac mae'n bwysig iawn inni bellach fwrw ymlaen â chynllunio morol fel y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig, fel bod gennym ddull gweithredu mwy cydgysylltiedig, y mae, unwaith eto, Aelodau eraill wedi sôn amdano. Hyd yn hyn, rwy'n credu ein bod wedi gweld gwahanol...
John Griffiths: Rwy'n croesawu adroddiad y pwyllgor, Ddirprwy Lywydd, ac yn cytuno'n bendant iawn â hwy y dylem fod yn falch o'n moroedd yng Nghymru ac amgylchedd arfordirol Cymru, a bod yr ardaloedd morol gwarchodedig yn bwysig ar gyfer moroedd iach a fydd yn cynnal y fantais sydd gennym, ac yn cefnogi twristiaeth, pysgodfeydd a defnyddiau eraill. Cytunaf hefyd â'r pwyllgor, wrth gwrs, na allwch byth...
John Griffiths: Rwy'n croesawu'r ddadl hon heddiw'n fawr, fel y mae eraill wedi'i wneud, oherwydd mae digartrefedd a chysgu ar y stryd yn faterion o bwys mawr sydd wedi dod i'r amlwg yn ddiweddar. Rydym wedi gweld rhai newidiadau yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio mynd i'r afael â'r problemau, ac mae angen inni werthuso'r rheini ac ystyried beth arall sydd ei angen os ydym i wneud y cynnydd rwy'n...
John Griffiths: Yn bendant.
John Griffiths: Mae'n broblem ledled Cymru ac ymhell y tu hwnt i Gymru, ac mae dadl fywiog yn digwydd yng Nghasnewydd, ac mewn rhannau eraill o Gymru rwy'n siŵr, ynglŷn â beth yw'r dull gorau. Rwy'n cymryd rhan yn y ddadl honno ar hyn o bryd. Un agwedd gadarnhaol ar y mater, rwy'n meddwl, yw ardal gwella busnes Newport Now, sefydliad sy'n cynnwys llawer o fasnachwyr canol y ddinas, ac sy'n datblygu...
John Griffiths: Sut y mae blaenoriaethu cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus gan Lywodraeth Cymru dros geir modur preifat yn effeithio ar ddyrannu adnoddau o fewn y portffolio economi a thrafnidiaeth?
John Griffiths: Prif Weinidog, am y rhesymau yr ydych chi wedi sôn amdanynt ac eraill, mae gennym ni lefel sy'n peri gofid o gysgu ar y stryd a chardota ar ein strydoedd ac rwy'n credu bod hynny wedi bod yn amlwg ac yn hawdd sylwi arno i bob un ohonom ni ac i'r cyhoedd yn gyffredinol. Mae angen ymatebion adeiladol arnom. Felly, tybed a fyddech chi'n cytuno â mi bod ardal buddsoddiad busnes Casnewydd, sy'n...