Neil McEvoy: Rwy’n falch iawn fod yr Aelod newydd ddweud yr hyn a ddywedodd. Hoffwn dalu teyrnged i Nick Ramsay am gadeirio’r pwyllgor mewn ffordd mor deg. Hoffwn dalu teyrnged i Mike hefyd, sy’n gwneud gwaith da ar y Pwyllgor Deisebau—y pwyllgor cyflymaf yn y Senedd, rwy’n meddwl. Caiff ei gadeirio’n dda iawn. Gan symud ymlaen, os edrychwn ar yr hyn y mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi...
Neil McEvoy: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarpariaeth gwasanaethau ieuenctid yng Nghaerdydd? Trosglwyddwyd i'w ateb yn ysgrifenedig gan Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.
Neil McEvoy: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wneud datganiad am bolisi’r Llywodraeth ynglŷn â geni plant ar ran pobl eraill? Oherwydd bod cyllid yn cael ei wrthod ar gyfer triniaeth IVF i lawer o fenywod yng Nghymru sy’n methu â chario plant o ganlyniad i ganser, er enghraifft, oni bai bod mam fenthyg eisoes wedi ei nodi. Rwy'n credu bod angen llawer o eglurhad ar y maes cyfan, a...
Neil McEvoy: A wnewch chi ildio?
Neil McEvoy: Rwy’n ddiolchgar iawn ichi am gymryd fy ymyriad. Nawr, mae semanteg a geiriau yn bwysig. Heddiw, rwyf wedi gwrando ac rwyf wedi clywed y geiriau 'ni', 'y wlad hon' ac 'ein'. Rwy'n credu mai’r hyn yr ydym yn ei glywed heddiw yw'r gwahaniaeth rhwng cenedlaetholdeb Prydeinig pobl yn y Siambr hon a'r cenedlaetholdeb Cymreig sydd ar yr ochr hon, oherwydd pan fyddwn ni’n sôn am ein gwlad,...
Neil McEvoy: A wnaiff y Prif Weinidog ymateb i dystiolaeth a gyflwynwyd gan Public Affairs Cymru i'r Pwyllgor Safonau a oedd yn nodi bod dros hanner ei aelodau wedi cael cais i ailystyried safbwyntiau neu i beidio â dweud rhai pethau pan nad yw Llywodraeth Cymru yn cytuno?
Neil McEvoy: Brif Weinidog, y cwestiwn go iawn y dylech chi fod yn ei ateb yw beth ydych chi’n mynd i'w wneud i geisio adfer dim ond ychydig o hygrededd yn Llywodraeth Cymru ar ôl rhoi 53 miliwn o resymau i’r gymuned fusnes yng Nghymru golli ffydd ynoch. O leiaf £53 miliwn yw faint y mae eich Llywodraeth wedi ei golli trwy anghymhwysedd difrifol gyda chytundebau cymorth busnes a thir—collwyd o...
Neil McEvoy: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl y trydydd sector yng Nghymru? OAQ(5)0446(FM)
Neil McEvoy: Diolch, Brif Weinidog. A ydych chi’n ymwybodol bod Public Affairs Cymru wedi datgelu bod dros hanner ei aelodau wedi dweud bod enghreifftiau wedi codi—rwy’n dyfynnu nawr— pan ofynnwyd i lobïwyr ac ymgyrchwyr ailystyried safbwyntiau neu beidio â dweud pethau penodol nad yw Llywodraeth Cymru yn cytuno â nhw? Wel, yn gyntaf oll, roeddwn i’n meddwl nad oedd gan lobïwyr unrhyw...
Neil McEvoy: Cyn i mi ateb, a fydd y Gweinidog cystal â chadarnhau pwy yw Lawrence Conway? Ai'r un Lawrence Conway a oedd yn arwain swyddfa Rhodri Morgan ydyw? [Torri ar draws.] Ie? A yw hynny'n gywir, Weinidog?
Neil McEvoy: Nage, yn sicr. Rwy'n credu ei fod wedi’i gadarnhau gan y Siambr ein bod yn sôn am yr un person. Yn wir, mae Chwaraeon Cymru yn drychineb arall ar thema gyson eich Llywodraeth, mewn gwirionedd. Mae gennym ni argyfwng na wnaethoch ei ragweld ac mae pethau wedi gwaethygu cymaint fel eich bod wedi gorfod cymryd camau dyrys yn hytrach na datrys pethau ar gam cynnar. Rwyf eisoes wedi codi...
Neil McEvoy: 1. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud o’r canfyddiadau yng Nghyllideb Werdd flynyddol ddiweddar y Sefydliad Astudiaethau Cyllid? OAQ(5)0090(FLG)
Neil McEvoy: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydych yn gywir, mae’r gyllideb werdd yn sôn am godiadau treth neu doriadau a wynebwn, a dyfodol anodd iawn yng Nghymru. Ond un peth y gallem ei wneud i helpu fyddai atal arian rhag gadael Cymru. Fe roddaf enghraifft. Yng Ngorllewin Caerdydd, mae Iarll Plymouth ar fin gwneud tua £1.4 biliwn yn fras o werthiant tir a fydd yn dinistrio cefn gwlad yno. Felly,...
Neil McEvoy: Brif Weinidog, cyflwynais gais rhyddid gwybodaeth i Faes Awyr Caerdydd, sy'n eiddo i'r cyhoedd yng Nghymru. Roeddwn i eisiau gwybod faint o arian a wariwyd ar gwmnïau lobïo, pa gwmnïau a gyflogwyd, a pha un a fu’r cwmnïau lobïo hyn trwy broses dendro ai peidio. Nawr, mae hwn yn eiddo i'r cyhoedd yng Nghymru, felly mae gan y cyhoedd hawl i wybod y pethau hyn. Mae'r maes awyr wedi...
Neil McEvoy: Ysgrifennydd y Cabinet, ym maniffesto fy mhlaid ar gyfer y Cynulliad, roeddem yn galw am ddynodi 2018 yn flwyddyn genedlaethol bwyd a diod Cymru. [Torri ar draws.] Rwyf yn y blaid o hyd. Gan bwyll, os gwelwch yn dda. Mae 2017 yn Flwyddyn y Chwedlau, felly a yw eich Llywodraeth yn cefnogi galwad fy mhlaid am flwyddyn genedlaethol ar gyfer bwyd a diod y flwyddyn nesaf?
Neil McEvoy: O, ie. Y flwyddyn wedyn? [Chwerthin.]
Neil McEvoy: Diolch, Lywydd. Fe arhosaf i gyd-Aelodau adael y Siambr.
Neil McEvoy: Diolch. Iawn. Mae croeso i chi dorri ar draws a chyfrannu os ydych yn dymuno. Y syniad yw awgrymu hyn fel rhywbeth yr ydym am ei wneud yn y dyfodol heb fod mor bell yn y ddinas hon. Felly, rwyf wedi galw dadl i weld a allwn, yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, ddechrau hyrwyddo’r syniad o gyfnewidfa stoc i Gymru. Rwy’n hynod o falch o weld bod polisi Plaid Cymru o sefydlu banc...
Neil McEvoy: Mae’n debyg, mewn gwirionedd, mai’r eliffant yn yr ystafell yw bod cyfnewidfeydd stoc fel arfer yn gwmnïau preifat. Ceir rhai enghreifftiau o gyfnewidfeydd stoc sy’n eiddo cyhoeddus—mae cyfnewidfeydd stoc Shenzhen a Shanghai yn sefydliadau lled-wladwriaethol mewn gwirionedd, i’r graddau eu bod wedi’u creu gan gyrff Llywodraeth yn Tsieina a bod ganddynt bersonél blaenllaw a...
Neil McEvoy: Rwy’n datgan buddiant gan fod y mater hwn yn ymwneud â chyngor Caerdydd. Mae'n fater pwysig ac yn ymwneud â thrafnidiaeth. Mae’r aelod cabinet dros drafnidiaeth yng nghyngor Caerdydd yn gwrthod gweithredu ar lwybrau peryglus i'r ysgol. Daw dwy ffordd i'r meddwl: Heol Isaf yn Radur, lle mae ceir yn gyrru ar hyd at 70 milltir yr awr, a Caerau Lane yng Nghaerau, lle mae'r ffordd yn...