Suzy Davies: Nid ar eich eistedd.
Suzy Davies: A wnaiff yr Aelod barhau â’i gyfraniad? Diolch.
Suzy Davies: Rwyf wedi dethol y chwe gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i gynnig gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt yn ffurfiol.
Suzy Davies: Diolch. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i gynnig gwelliannau 2, 3, 5 a 6 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Suzy Davies: Eisteddwch. Eisteddwch, os gwelwch yn dda.
Suzy Davies: Bydd cyfle i’r Aelod roi sylw i hyn wrth iddo grynhoi ar ddiwedd y ddadl.
Suzy Davies: Mae hyn braidd yn hir i fod yn ymyriad, Mr David.
Suzy Davies: A wnewch chi ddod â’ch cyfraniad i ben yn awr, os gwelwch yn dda?
Suzy Davies: Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford.
Suzy Davies: Rwy'n credu bod y lleoliad yng Nghaerfyrddin yn debygol o ysgogi’r defnydd o’r Gymraeg yn yr economi, fel y byddai'n ei wneud lle bynnag y’i lleolir yng Nghymru. Ond, wrth gwrs, bu rhywfaint o freuder yn y sir benodol hon o ran cadernid twf y Gymraeg ac mae wedi cael rhai anawsterau yn ei chynlluniau statudol Cymraeg mewn addysg yn y gorffennol. Felly, mae lleoli Yr Egin yn y rhan...
Suzy Davies: A gaf fi hefyd ddiolch i’r comisiynydd pobl hŷn am ei gwaith? Byddai’n llawer gwell gennyf, fel y gwyddoch i gyd, ei chael yn uniongyrchol atebol i'r Cynulliad hwn yn hytrach na Llywodraeth Cymru, ond mae ei hadroddiad yn wirioneddol, wirioneddol werthfawr a diolchaf iddi am hynny, yn ogystal â'r bobl eraill y cyfeirir atynt ynddo. Yr wyf hefyd yn diolch iddi am—a soniodd Julie am...
Suzy Davies: 8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am addysg ar gyfer plant tair oed? OAQ(5)0057(EDU)
Suzy Davies: Diolch am eich ateb. Bron i dair blynedd yn ôl, ysgrifennodd y Gweinidog addysg ar y pryd ataf i gadarnhau y gall awdurdodau lleol, a dyfynnaf, ddarparu’r lleoedd hyn—addysg i blant tair oed—mewn ysgol feithrin, dosbarth meithrin mewn ysgol gynradd, neu leoliadau nas cynhelir, fel cylchoedd chwarae neu feithrinfa ddydd breifat. Nawr, dair blynedd yn ddiweddarach, mae cyngor Abertawe yn...
Suzy Davies: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich atebion i Adam Price a David Rees, a diolch hefyd am yr hyn rwyf yn awr yn ei gymryd yw eich diffiniad o’r hyn y gallai dyfodol cynaliadwy ar gyfer dur ei olygu, sy’n cynnwys cadw’r ddwy ffwrnais chwyth ac yn hwy na thair blynedd o ran y gefnogaeth rydych yn barod i’w darparu. Os daw’n amlwg na ellir rhoi gwarant i achub y ddwy ffwrnais...
Suzy Davies: Cyhoeddwyd yr wythnos diwethaf mai Abertawe yw’r 13eg mewn rhestr o drefi a dinasoedd â’r mwyaf o dagfeydd yn y DU, ac mae’n debyg bod hynny’n arwain at ostyngiad i gynhyrchiant y ddinas, yn ogystal â llygru'r aer. Dair blynedd yn ôl, gosododd cyngor Abertawe ei system nowcaster i fonitro lefelau llygredd aer, i nodi ansawdd aer gwael ac i ailgyfeirio traffig. Nid yw’n barod o...
Suzy Davies: Diolch, Lywydd. [Torri ar draws.] Dim jôcs gen i heddiw, mae arna i ofn. Rwy’n sylweddoli nad cyllideb ddrafft yw'r lle ar gyfer cynlluniau gwario manwl. Mae’r math o ffigurau lefel uchel, llinell dop yn fwy o gyfle, mewn gwirionedd, i Lywodraeth Cymru daflu ychydig o oleuadau lliw o gwmpas y meysydd hynny o haelioni y byddai'n hoffi i ni sylwi arnynt. Fel llefarydd fy mhlaid ar...
Suzy Davies: Na, yn hollol wag.
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf fi ddweud diolch hefyd wrth bawb a gymerodd ran yn y ddadl heddiw? Roedd craidd datganiad yr hydref, wrth gwrs, yn ymwneud â’r cyhoeddiad cyfalaf a’r posibiliadau ar gyfer seilwaith. Mynegodd Adam Price beth rhwystredigaeth, wrth gwrs, ynglŷn â chyflymder y datblygiad, ond ni wnaethoch betruso ynglŷn â’i bwysigrwydd. Dof yn ôl at seilwaith, ond rwyf...
Suzy Davies: Gwrandewch, nid oes neb yn cefnogi pobl sy’n sefydlu eu siopau coffi annibynnol eu hunain yn fwy na fi, fel y mae’n digwydd, felly fe ddewisoch y person iawn i siarad â hi. Ond ar fater busnesau bach, arweinydd y tŷ, ni chlywais ddim am hynny yn y gyllideb ddrafft y cyfeirioch ati ac y treuliasom gryn dipyn o amser arni ddoe. Rwy’n brin o amser erbyn hyn. Rwyf eisiau sôn am Neil...
Suzy Davies: A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ymateb i’r datganiad heddiw hefyd? Ac a gaf fi fynegi fy llongyfarchiadau, yn sicr, i’r undebau llafur am ddod â hyn i ben ychydig cyn y Nadolig, beth bynnag, a rhoi rhywfaint o gysur o leiaf? Ond rwy’n rhannu pryderon Adam Price a David Rees o ran pa ffydd y dylem ei roi yn yr ymrwymiadau y mae Tata Steel wedi eu rhoi heddiw. Yr adeg hon yr...