Jane Hutt: Wel, mae Mark Isherwood yn codi pwynt pwysig, gan gynrychioli ei etholwyr yn y gogledd, yn arbennig o ran Canolfan Merched Gogledd Cymru a'i harbenigedd. Rwyf innau wedi cwrdd â phobl pan oedd gennyf gyfrifoldeb gweinidogol, i sicrhau bod eu lleisiau, eu profiadau ac anghenion y merched y maen nhw’n eu cynrychioli ac yn eu cefnogi yn cael eu clywed a’u bod yn dylanwadu, nid yn unig ar...
Jane Hutt: Mae Lynne Neagle yn codi pwynt pwysig iawn, a dyma gyfle i mi roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch ystyriaeth Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru. Maen nhw’n cwblhau, yr wyf ar ddeall, gwmpas ac amserlenni o ran gwerthuso Avastin. Ac, wrth gwrs, dyma sefyllfa lle y gwyddom fod cyfle i wneud ceisiadau drwy'r broses ceisiadau cyllido cleifion unigol, ar ran cleifion. Ond rwy'n credu...
Jane Hutt: Rwy'n credu bod y pwynt a wnewch am oedolion yn arbennig sydd ag anawsterau dysgu yn bwysig. Rydym wedi ymrwymo, ac mae hwn yn gyfle i ailddatgan—yn Llywodraeth Cymru, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bawb yng Nghymru gyfle i gael mynediad at ein system addysg. Wrth gwrs, pan nodir darpariaeth arbenigol, mae Gweinidogion yn ystyried ceisiadau ac yn gwneud pob ymdrech i ymateb mewn modd...
Jane Hutt: Ddirprwy Lywydd, rwy’n falch iawn o gael y cyfle i ymateb i’r ddadl hon ar ran Llywodraeth Cymru heddiw a diolch i Steffan Lewis am gyflwyno’r cynnig hwn y byddwn yn ei gefnogi. A diolch i’r Aelodau hefyd am eu cyfraniadau i’r ddadl bwysig hon. Wrth gwrs, mae angen i mi ddatgan ar y cychwyn nad yw pensiynau’n ddatganoledig a’u bod yn faterion i Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae...
Jane Hutt: Lywydd, rwyf wedi ychwanegu datganiad llafar ar adolygiad Diamond o drefniadau cyllido addysg uwch a chyllid myfyrwyr yng Nghymru at agenda heddiw. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i leihau’r amser a neilltuwyd ar gyfer cwestiynau yn ymwneud â Chomisiwn y Cynulliad yfory. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel a ddangosir ar y cyhoeddiad datganiad busnes, sydd i’w weld ymhlith...
Jane Hutt: Fel yr ydych chi’n dweud, mae pwysau sylweddol ledled y DU o ran galwadau ar ein gwasanaethau damweiniau ac achosion brys, a'r effaith y mae hynny’n ei gael ar y gwasanaethau ambiwlans. Ond fel y bydd yr Aelod yn ymwybodol, ac fel y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn gwybod, mae gennym ni gynlluniau ar gyfer galw uwch. Mae gan bob bwrdd iechyd gynlluniau ar gyfer galw uwch a chânt eu...
Jane Hutt: Mae Steffan Lewis yn codi pwynt pwysig ynglŷn â’n perthynas o ran pwerau a chyfrifoldebau ar gyfer caffael, yn ymwneud â’r contract â’r Weinyddiaeth Amddiffyn y byddwn ni, wrth gwrs, yn ceisio dylanwadu arno o fewn y cyfrifoldebau a'r pwerau sydd gennym ni, i wneud yn siŵr fod pob chwarae teg yn cael ei sicrhau mewn gwirionedd. Ond, yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth y bydd...
Jane Hutt: Mae Huw Irranca-Davies yn codi pwynt pwysig, a hoffwn innau ychwanegu fy niolch i'r gwasanaethau a ddaeth allan i gefnogi etholwyr yn fy ardal i a oedd yn dioddef llifogydd, gan gynnwys llawer o wirfoddolwyr hefyd, megis Cymdeithas Achub Caerdydd a'r Fro, a chwaraeodd eu rhan hefyd. Lluniwyd y datganiad ysgrifenedig gan Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet, ddoe, a bydd hi’n awyddus i...
Jane Hutt: Mae’r Aelod yn codi pwynt pwysig am brosiect yn ei ranbarth ef, sydd â chanlyniadau buddiol yn amlwg. Byddwch chi’n gwybod bod yr ysgrifennydd dros gymunedau yn ceisio barn pobl ar effaith y posibilrwydd o ddiddymu’n raddol y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, ac yn wir yn ceisio barn, wrth gwrs, i gynrychiolwyr cymunedol ymateb iddi, fel y gallant ddweud eu dweud o ran y meysydd hynny o...
Jane Hutt: O ran eich cwestiwn cyntaf, byddwch chi’n ymwybodol, wrth gwrs, mi wn, o'n cynllun cyflawni camddefnyddio sylweddau a hwnnw yw’r cynllun cyflawni o 2016 i 2018, 'Gweithio Gyda'n Gilydd i Leihau Niwed', sef yr union reswm pam mae’r cynllun cyflawni mor bwysig, o ran ateb eich cwestiwn. Mae hyn yn egluro beth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud dros y ddwy flynedd nesaf i wella...
Jane Hutt: Mae Mark Isherwood yn codi cwestiwn sydd, wrth gwrs, yn cael ei ystyried drwy ymgynghoriad. Dyna'r ffordd yr ydym ni’n bendant yn awyddus i ddatblygu’r broses o lunio polisïau’r Llywodraeth: o ganlyniad i ymgynghori. Yn enwedig drwy ymgynghori ac ymgysylltu â'r rhai hynny sy'n arbenigwyr yn y maes, ac wrth gwrs dyna’r hyn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud.
Jane Hutt: Mae’n mynd yn ôl i—fel y dywedodd y Prif Weinidog mewn ymateb i gwestiwn gan arweinydd Plaid Cymru—pa ymyrraeth, pa ddulliau a pha bwerau sydd gennym ni. Wrth gwrs, fe wnaeth sôn am y posibilrwydd o ddatganoli’r pwerau hynny. Mae arwyddocâd a phwysigrwydd enfawr i hyn yn amlwg, ac fe wnaeth y Prif Weinidog ddweud hynny wrth ymateb i'r cwestiwn y prynhawn yma. Rwy'n siŵr y bydd...
Jane Hutt: Diolch i chi, Nick Ramsay, ac rwyf eisoes, wrth ateb Huw Irranca-Davies, wedi dweud y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad. Rwy'n credu ei bod yn briodol iddi wneud datganiad yn dilyn ei datganiad ysgrifenedig pan fydd rhai o'r ymchwiliadau hynny wedi’u cynnal gan awdurdodau lleol a chan Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn i ni allu ymateb i’r hyn a allai fod yn cael ei gynllunio o...
Jane Hutt: Mae Suzy Davies yn codi pwynt pwysig iawn. Mae llawer iawn o weithgarwch gwirfoddol yn digwydd ledled Cymru. Ceir dull strategol ac, mewn gwirionedd, mae’r dull strategol hwnnw yn cynnwys y trydydd sector, yn ogystal â'r sector statudol o ran ymateb brys. Mae'n atal, mae'n ymwneud â hyfforddiant ac, yn arbennig, o ran technegau achub bywyd yn cael eu lledaenu drwy addysg, mae...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n falch iawn eich bod wedi gallu mynd i Mbale i weld drosoch eich hun, yn uniongyrchol, gwaith da iawn y rhaglen Cymru o Blaid Affrica yno, ac, yn wir, i helpu i gryfhau'r cysylltiadau. Roeddwn yn ffodus i fynd yno fy hun ychydig flynyddoedd yn ôl fel Gweinidog yr amgylchedd, ac rwy'n gyfarwydd â gwaith gwych PONT a’r holl wirfoddolwyr...
Jane Hutt: Lywydd, yr unig newid sydd gennyf i fusnes yr wythnos hon yw lleihau’r amser a ddyrennir i'r Cwnsler Cyffredinol ar gyfer cwestiynau yfory. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Jane Hutt: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Bu Julie Morgan, wrth gwrs, yn cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar hemoffilia a gwaed halogedig ers iddi gael ei hethol i'r Siambr hon, ac yn wir ymunais â’r cyfarfod hwnnw yr wythnos diwethaf ar ddiwedd y cyfarfod a sylwi nid yn unig ar y niferoedd sylweddol, ond ar y teimladau a’r profiadau sylweddol. Wrth gwrs, roedd Ysgrifennydd y Cabinet yno ar...
Jane Hutt: Rwy’n credu, mewn ymateb i'ch pwynt cyntaf, Andrew R.T. Davies, yn amlwg, mae hwn yn fater pwysig iawn. Ceir grŵp trawsbleidiol, sydd wedi bod—yn wir, rydym ni wedi bod yn gweithio'n galed iawn i ddod o hyd i ffordd ymlaen. Ond, fel y dywedais yn gynharach, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon yn ymgynghori ar y ffordd ymlaen, ac rydym ni’n dilyn, ar hyn o...
Jane Hutt: Rwy'n credu mai’r pwynt pwysicaf a godwyd yn y ddadl—canlyniad y ddadl—yr wythnos diwethaf, oedd y cytundeb y byddai arolwg o gynghorwyr benywaidd yn ddefnyddiol ac, wrth gwrs, roedd hynny’n ganlyniad cadarnhaol a gaiff ei ddatblygu. Rwy’n credu, mewn cysylltiad â’ch materion chi o ran camddefnyddio sylweddau a phryderon am y peth, yn enwedig mewn cymunedau a sut y mae’n...
Jane Hutt: Credaf y byddai Mike Hedges wedi bod yn falch iawn o’r ffaith y cymerwyd sylw o’i alwadau am gydnabyddiaeth o ddinas-ranbarth bae Abertawe a'r rhagolygon am fargen mewn cysylltiad â’r rhanbarth oherwydd y gwaith caled dan arweinyddiaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol mewn partneriaeth, wrth gwrs, â’r awdurdodau sy’n arwain y cynigion ar gyfer y...