Mandy Jones: Nid yw fy safbwynt i ar y Bil hwn wedi newid ers y tro diwethaf iddo gael ei drafod yn y Siambr hon, pan rannais fy mhrofiad fy hun o gamdriniaeth fel plentyn ac fel oedolyn ifanc. I ddechrau, rwy'n credu y byddai werth i chi ddangos i'r Siambr hon ac, yn bwysicach, y cyhoedd yr hyn yr ydych chi yn ei olygu wrth 'smacio' mewn gwirionedd. Mae sbectrwm enfawr rhwng tap ar y llaw a phwniad yn yr...
Mandy Jones: Ers dod yn Aelod Cynulliad, rwyf bellach yn teithio rhwng gogledd Cymru a de Cymru'n rheolaidd, ac rwy'n defnyddio'r M4 o amgylch Casnewydd i wneud hyn. Fel gyrwyr eraill, rwy'n cadw at y cyfyngiad cyflymder. Fodd bynnag, mae gostwng y cyflymder ar yr M4 yn dipyn o syndod, gan nad yw'r arwyddion yn rhoi unrhyw reswm dros y newid, ac nid oes rhybuddion. Yr adwaith naturiol weithiau yw arafu...
Mandy Jones: Rwyf innau hefyd yn cymeradwyo'r hyn y mae Llyr ac Angela newydd ei ddweud. Yn aml yn y Siambr hon cyfeiriwn at 'ein gwasanaeth iechyd', 'ein staff gwasanaeth iechyd gweithgar' a chredaf fod hon yn ffordd o ddweud ein bod yn rhoi gwerth enfawr ar y gwasanaethau a gawn a'r bobl sy'n eu rhoi i ni. Mae'r gwasanaeth iechyd yn darparu gwasanaethau hanfodol—mae llawer o bobl yn dibynnu arnynt yn...
Mandy Jones: 4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi ysgolion gwledig Llywodraeth Cymru? OAQ54375
Mandy Jones: Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Mae rhieni pryderus yn Llandrillo, Corwen wedi cysylltu â mi i ddweud bod ysgol y pentref, Ysgol Gynradd Llandrillo, wedi cael ei huno ag ysgol Cynwyd. Mae fy nghwestiwn heddiw'n ymwneud â'r sefyllfa sy'n codi pan nad yw'r ysgolion newydd a grëir o ganlyniad i uno a rhesymoli'n gallu parhau i ymdopi â'r galw cynyddol pan fyddant yn dioddef o ganlyniad i'w...
Mandy Jones: Gweinidog, diolch i chi am eich datganiad. Yn gyntaf, rwy'n sylwi o'ch datganiad eich bod chi'n honni bod y Prif Weinidog wedi torri'r gyfraith. A wnewch chi egluro'r rhan honno o'r datganiad, gan mai fy nealltwriaeth i oedd bod cyfraith newydd wedi ei chreu? Rydych chi'n sôn yn y datganiad am Ddeddf ar y llyfrau statud i atal y DU rhag gadael ar 31 Hydref heb gytundeb. A wnewch chi egluro...
Mandy Jones: Nid oes gennych chi brawf o hyn. Nid yw'n ddim ond rhagdybiaeth ar eich rhan chi ac ar ran y cyfryngau, yn ôl yr arfer. Mae'r Gweinidog yn sôn am brinder nwyddau hanfodol. A wnaiff Llywodraeth Cymru gyhoeddi'r asesiadau hynny a'r paratoadau y mae wedi'u gwneud? Yn olaf, yn y datganiad hwn, soniwch am beryglon ymadael heb gytundeb. Ond, a yw'r Gweinidog yn cytuno ynglŷn â pheryglon dim...
Mandy Jones: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau tocynnau ar rwydwaith Trafnidiaeth Cymru? OAQ54477
Mandy Jones: Diolch am yr ateb yna. Prif Weinidog, tynnwyd fy sylw at y ffaith bod cwsmer a aeth i brynu tocyn o ap Trafnidiaeth Cymru wedi cael cynnig y pris o £30.05 ar gyfer taith drên drawsffiniol. Yna, gwiriodd y cwsmer hwnnw National Rail, gan ddod o hyd i'r un daith am £22.10. Gallai'r gwahaniaeth hwnnw fwydo ei blant am ddiwrnod neu ddau. Beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i sicrhau...
Mandy Jones: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berfformiad Cyfoeth Naturiol Cymru? OAQ54476
Mandy Jones: Diolch i chi, Weinidog. Mae'n ddrwg gennyf, ond nid wyf yn rhannu eich ffydd. Rwy'n cysylltu'n rheolaidd â physgotwyr ar Afon Dyfrdwy y mae ei dalgylch yn cyflenwi dŵr i 3 miliwn o bobl yng ngogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr. Y pysgotwyr hyn yw ein llygaid a'n clustiau ar yr afonydd, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru eu hangen. Rwy'n pryderu'n fawr eu bod yn disgrifio gwahaniaeth nos a...
Mandy Jones: Rwy'n codi heddiw gyda siom fawr gan fod y Siambr hon, unwaith eto, yn gwastraffu amser ac arian cyhoeddus Cymru. Mae'r cynnig hwn yn—[Torri ar draws.]—anghyson. Os caiff pwynt 1 o'r cynnig ei basio ac os na fydd Senedd y DU yn gweithredu'r Bil cytundeb ymadael, yna nid yw pwynt 2 yn berthnasol, gan na fyddai angen memorandwm cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae'n gwbl...
Mandy Jones: Na wnaf. Dadl Llafur yw na all bleidleisio dros y cytundeb hwn oherwydd—
Mandy Jones: Ydw, rwy'n eich caru chi hefyd, Alun. Dadl Llafur yw na all bleidleisio dros y cytundeb hwn oherwydd nad yw'n amddiffyn—[Torri ar draws.] Dechreuaf eto. Dadl Llafur yw na all bleidleisio dros y cytundeb hwn oherwydd nad yw'n diogelu hawliau gweithwyr a'r amgylchedd. Am rwtsh. Yr hyn a wnaiff, fel yr ydym ni wedi ei drafod yn ddiddiwedd, yw trosglwyddo'r cyfrifoldeb dros wneud hynny o'r UE i...
Mandy Jones: Na wnaf. Mae'r rhan fwyaf o hawliau gweithwyr yr ydym ni'n eu mwynhau heddiw mewn gwirionedd yn dod drwy Senedd y DU, yn aml yn dilyn ymgyrchoedd gan eich undebau llafur. Mae llawer o hawliau o'r fath yn y DU yn llawer gwell na'r lleiafswm y mae'r UE yn darparu ar eu cyfer. Er enghraifft, gwyliau â thâl: pedair wythnos yw deddfwriaeth yr UE, mae'n 5.6 wythnos yn y DU. Absenoldeb mamolaeth:...
Mandy Jones: Neu'r ffaith bod Maes Awyr Caerdydd—
Mandy Jones: Na wnaf. Neu'r ffaith bod Maes Awyr Caerdydd wedi cael chwistrelliad ariannol arall eto, a'r gogledd unwaith eto ar ei golled o dan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru.
Mandy Jones: Y Blaid Lafur yn San Steffan—
Mandy Jones: Ataliodd y Blaid Lafur yn San Steffan bleidlais ystyrlon, ac eto mae'r Blaid Lafur yng Nghymru eisiau dadl ddiystyr arall a phleidlais ddiystyr arall. Diolch.
Mandy Jones: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyrannu lleoedd ysgolion yng Ngogledd Cymru?