Lynne Neagle: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith diwygio lles yn Nhorfaen?
Lynne Neagle: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol yn Nhor-faen dros y 12 mis nesaf?
Lynne Neagle: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gefnogaeth sydd ar gael i amddiffyn yr aelwydydd mwyaf agored i niwed yng Nghymru rhag tlodi tanwydd y gaeaf hwn? (OAQ51209)
Lynne Neagle: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, ac roeddwn yn falch o weld yn adroddiad blynyddol Nyth y bydd gosod pecyn gwella effeithlonrwydd ynni yn y cartref a ariennir gan y Llywodraeth yn arwain, ar gyfartaledd, at arbediad o £410 y flwyddyn ar fil ynni bob cartref. Dengys y ffigurau hyn yn glir fod y cynllun yn cyflawni’n well na’r disgwyl ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gartrefi tlawd o...
Lynne Neagle: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chynnig i alluogi rhieni i ddatblygu technegau rhianta cadarnhaol? (OAQ51208)
Lynne Neagle: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Ddoe, lansiodd y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant eu hymgyrch rhianta cadarnhaol newydd, Take 5, sy’n ceisio annog rhieni i oedi ac ymateb yn ddigynnwrf wrth wynebu sefyllfa rianta sy’n heriol. Cafodd yr ymgyrch ei datblygu gyda rhieni yng Nghymru ac mae’n darparu cyngor sy’n hawdd ei gofio i’w helpu i beidio â chynhyrfu....
Lynne Neagle: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i wneud Cymru'n wlad sy'n gyfeillgar i bobl â dementia? OAQ51303
Lynne Neagle: Diolch. Y mis diwethaf, roeddwn i'n falch iawn o gyflwyno'r wobr ystyriol o ddementia i ysgol gynradd Griffithstown, yr ysgol gyntaf yng Ngwent, ac un o'r ysgolion cyntaf yng Nghymru i dderbyn y wobr. Mae pob un dosbarth yn yr ysgol wedi cymryd rhan yn y fenter o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 6, ac mae disgyblion hŷn hefyd yn ymweld â chleifion yn yr Ysbyty Sirol ac yn cymryd rhan mewn...
Lynne Neagle: Dim ond cyfraniad byr yr wyf i eisiau ei wneud ynglŷn â'r grŵp hwn o welliannau, ond cyn imi wneud hynny fe hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch o galon ar goedd i'r tîm clercio a'r tîm ymchwil ar gyfer y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sydd wedi gwneud gwaith hollol wych ar yr hyn sydd wedi bod yn ddarn cymhleth a hir-ddisgwyliedig o ddeddfwriaeth. Fel y dywedodd...
Lynne Neagle: Diolch am y cyfle i gyfrannu at y ddadl. Hoffwn ddweud o'r cychwyn cyntaf fod unrhyw un yma sy'n fy adnabod yn gwybod, fel Aelod Llafur, nad wyf erioed wedi cilio rhag craffu ar fy ochr fy hun. Ni all fod unrhyw Weinidog mewn unrhyw Lywodraeth Cymru, yn y gorffennol neu'r presennol, nad wyf wedi gofyn cwestiynau anodd iddynt, ac mae hynny'n cynnwys y Prif Weinidog, yn ei rôl bresennol a...
Lynne Neagle: Na, nid wyf yn derbyn hynny, oherwydd mae gennym bellach fecanwaith annibynnol ar waith. Mae'n hanfodol fod unrhyw ymchwiliad nid yn unig yn annibynnol, ond yn cael ei weld yn annibynnol, ac yn llwyr uwchlaw gwleidyddiaeth plaid. Tynnodd Andrew R.T. Davies lawer o sylw yn ystod y cwestiynau ddoe at gyfweliad fy nghyd-Aelod, Jeremy Miles, ar raglen Sunday Politics, gan awgrymu'n...
Lynne Neagle: Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo mynediad at fannau gwyrdd a pharciau yn Nhorfaen?
Lynne Neagle: 7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith credyd cynhwysol yn Nhorfaen? OAQ51439
Lynne Neagle: Diolch, Prif Weinidog. Fel yr ydych chi wedi ei ddweud, ym mis Gorffennaf, Torfaen oedd yr ail ran o Gymru lle'r rhoddwyd credyd cynhwysol ar waith yn llawn, ac ar ôl dim ond dau fis roedd ein prif ddarparwr tai, Tai Cymunedol Bron Afon Cyfyngedig, wedi cofnodi gwerth £27,000 o ôl-ddyledion, gyda 300 o denantiaid mewn ôl-ddyledion. Mae Cyngor ar Bopeth Torfaen yn monitro'r effaith leol yn...
Lynne Neagle: A gaf fi ddiolch i Janet am adael i mi gael munud o'i hamser? Hefyd rwyf wedi bod yn ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd am ei ymwneud yn ddiweddar ag ymgyrch Know Type 1 ac am gyfarfod â mi a chyd-Aelodau, Julie Morgan a Jayne Bryant, a Diabetes UK Cymru a Beth Baldwin, sydd wedi ymgyrchu mor ddewr yn dilyn marwolaeth drasig ei mab, Peter, ddwy flynedd yn ôl. Fel y gŵyr...
Lynne Neagle: A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru?
Lynne Neagle: 1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith diwygio lles yn Nhorfaen? OAQ51574
Lynne Neagle: Diolch. Ar ôl y chwe mis cyntaf o wasanaeth llawn y credyd cynhwysol yn Nhorfaen, mae pennaeth refeniw a budd-daliadau'r cyngor, Richard Davies, wedi dweud ei fod yn teimlo bod ethos ei rôl wedi newid o dalu budd-daliadau a gwneud yn siŵr fod pobl yn cael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo i sicrhau bod gan bobl fwyd ar y bwrdd. Yn anffodus, nid oes unrhyw arwydd o welliant, a'r wythnos...
Lynne Neagle: 7. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i gymdeithasau tai yn Nhorfaen wrth ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol? OAQ51575
Lynne Neagle: Diolch, Weinidog. Yn anffodus, rwyf wedi gweld cryn gynnydd yn ddiweddar yn nifer y cwynion gan denantiaid ynglŷn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac mae rhai ohonynt wedi bod yn achosion difrifol iawn a hyd yn oed yn achosion lle roedd bywyd yn y fantol. Un o'r pethau sy'n ymddangos yn gyson yw amharodrwydd pobl i roi tystiolaeth am eu bod ofn y bydd rhywun yn dial arnynt, ac er bod...