David Melding: Rwyf wrth fy modd i siarad o blaid y cynnig hwn, sydd wedi cael ei osod yn enw Paul Davies ac eraill. Rwy'n falch iawn o weld cefnogaeth drawsbleidiol. A gaf i ganmol hunanddisgyblaeth yr Ysgrifennydd Cabinet, sydd yn amlwg yn gorfod diogelu’r swyddogaeth statudol y bydd yn ei chwarae wrth ymdrin â rhai agweddau ar y rheoliadau sy'n debygol o gael eu cynhyrchu o dan y mater hwn? Ond rwy'n...
David Melding: Ydw. Rwy'n meddwl bod yr Aelod efallai eisoes wedi gweld adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae'n pwysleisio’r buddion o ran amddiffyn rhag llifogydd a allai ddod gyda phrosiectau morlynnoedd llanw, ac mae hynny'n mynd i fod yn bwysig iawn, iawn. Mae adolygiad Hendry yn nodi y gall morlynnoedd llanw chwarae rhan gost-effeithiol yng nghymysgedd ynni y DU, ac rwy’n meddwl bod hynny’n...
David Melding: A gaf fi groesawu’r symudiad at ddefnydd mwy soffistigedig o ddata, Ysgrifennydd y Cabinet? Rwy’n credu ei fod yn bwysig iawn, gan ei fod yn caniatáu i ni, neu’n rhoi cyfle i ni sicrhau’r potensial mwyaf posibl o wariant cyhoeddus. Er enghraifft, mewn ardaloedd lle y darperir lefel uchel o ofal plant o ffynonellau’r wladwriaeth, buaswn yn disgwyl gweld llawer o’r boblogaeth leol...
David Melding: Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu llywodraeth leol i fabwysiadu technolegau digidol newydd i helpu dinasyddion i gymryd rhan?
David Melding: Arweinydd y tŷ, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn bod gennym ni system sy'n dryloyw ac sy’n adlewyrchu'n deg y costau sydd gan berchnogion safle, a hefyd y gallu i’r rhai sy’n byw mewn cartrefi symudol feddu ar wybodaeth am y costau hynny a’u herio nhw os oes angen. Ar hyn o bryd, mae'n aneglur iawn ac mae'n ymddangos yn annheg iawn, ac, o ran ble mae’r grym, mae wedi ei lwytho...
David Melding: A gaf i adleisio rhai o sylwadau Julie Morgan? Roeddwn i’n falch, tua diwedd y datganiad, eich bod wedi troi at rai o'r materion cynaliadwyedd a chyfeirio at lesiant cenedlaethau'r dyfodol, yr angen i fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael, ac i weld trafnidiaeth gyhoeddus yn rhan o'r ymdrechion i gyflawni datgarboneiddio. Rwyf yn gobeithio y byddwn yn gweld hyn yn llawn yn y cynlluniau a...
David Melding: A wnaiff yr Aelod ildio?
David Melding: Mewn rhai gwledydd, maent yn annog mentrau preifat i gynnig cyfleusterau hefyd, a gall hyn chwyldroi argaeledd tai bach cyhoeddus effeithiol a dymunol i'w defnyddio.
David Melding: 1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am drin clefydau prin? OAQ(5)0125(HWS)
David Melding: Weinidog, roeddwn yn falch iawn o glywed mewn digwyddiad diweddar a gynhaliwyd yn y Cynulliad fod Llywodraeth Cymru yn arwain yn y maes hwn yn y DU. Er bod y clefydau eu hunain yn brin, ceir nifer fawr ohonynt, sy’n golygu bod un o bob 17 ohonom yn debygol o ddioddef o glefyd prin ar ryw adeg yn ein bywydau, pan fydd sgrinio, profion, diagnosis a thriniaeth yn gwbl hanfodol. Rwy’n credu...
David Melding: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Os caf ddweud, rwy’n meddwl bod y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn bwyllgor hapus iawn i wasanaethu arno am fod bron yr holl faterion yr edrychwn arnynt yn ymwneud â hyrwyddo llywodraethu a chraffu da a chlir ac yn aml iawn nid oes yn rhaid i ni lafurio o dan faich pleidiol trwm a rhaniadau, ac mae hynny’n ddymunol tu hwnt. Rydym yn anghydweld...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, byddwn yn trafod yr economi sylfaenol mewn dadl yn ddiweddarach, ac mae’n ymddangos i mi fod prosiectau ynni cymunedol a’r holl broses o wyrddu economi Cymru a Phrydain yn feysydd ble y gallem gael datblygiadau mawr a fyddai’n grymuso pobl leol yn sylweddol.
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi ddechrau drwy eich llongyfarch ar eich blodyn llabed ysblennydd? Nid yn unig y byddai Lady Rhondda wedi cymeradwyo, ond rwy’n credu y byddai ein cyn gyd-Aelod William Graham wedi cymeradwyo hefyd. Rwy’n siŵr y byddai wedi cyfaddef eich bod wedi gwneud yn well nag ef ar yr achlysur hwn. Y broblem gyda’r strwythur presennol yw ei fod yn ystumio’r...
David Melding: A gaf fi ddechrau drwy ddweud, pe bawn i wedi llofnodi’r ffurflen yn y lle iawn, y byddwn wedi bod yn un o gydgynigwyr y cynnig hwn? Rwy’n falch fy mod yn un o’r cefnogwyr o leiaf. Rwyf eto i fynd ar y cwrs sgiliau sylfaenol, ‘bywyd yn y swyddfa fodern’, ond fe wnaf hynny ar ryw bwynt—rwy’n addo hynny i fy nghynorthwyydd personol. Fel y clywsom yn yr areithiau rhagorol hyd yn...
David Melding: Mae’r trampolîn yn aros.
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, mae ein stoc dai ymhlith yr hynaf yn Ewrop, ac mae gwir angen i ni ganolbwyntio ar gynlluniau ôl-ffitio gan fod llawer o’r stoc dai honno wedi ei meddiannu gan bobl sydd ag incwm isel neu’n agored i niwed mewn ffordd arall. Yn wir, pe byddem ni’n gwella'r sgiliau hyn ac yn datblygu cynhyrchion ôl-ffitio, byddem yn canfod marchnad wedyn mewn rhannau eraill o'r...
David Melding: 7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau cyfranddaliadau cymunedol sy'n hyrwyddo mentrau ynni gwyrdd? OAQ(5)0500(FM)
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r mecanweithiau hyn yn rhan o’r traddodiad cydweithredol balch iawn o hyrwyddo menter leol a budd cymdeithasol, ac yn benodol, am resymau technegol, maen nhw’n haws eu defnyddio ac yn fwy hyblyg na dulliau elusennol traddodiadol, a all fod yn llwybrau ariannu amgen. Ac maen nhw'n ffordd wych o hyrwyddo cynlluniau cymunedol yn arbennig, ac maen nhw’n cadw...
David Melding: Mae'n rhaid i mi ddechrau drwy ddweud yn eithaf uniongyrchol bod hwn yn ddiwrnod trist iawn i Gymru. Wedi'r cyfan, mae bron 140,000 o deuluoedd wedi elwa ar yr hawl i brynu ers 1980 ac mae perchentyaeth yn dal i fod yn ddyhead i ddegau o filoedd ar draws Cymru. Yn awr, bydd llwybr pwysig iddynt yn cael ei gau. Os bu polisi cyhoeddus erioed a gafodd fonllefau o gymeradwyaeth cyhoeddus...
David Melding: Mae hwn yn ddatganiad—