Jack Sargeant: Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Lynne Neagle ac eraill am gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma. Fodd bynnag, mae'n hynod drist fod yn rhaid i ni wneud hyn a thrafod y pwnc hwn heddiw, nid yn unig am fod cymorth profedigaeth ar ôl hunanladdiad yn gyfyngedig, a heb fod yn ddigon da a dweud y gwir, ond am fod hunanladdiad yn dal i ddigwydd ar raddfa enfawr ac yn argyfwng iechyd cyhoeddus. Y...
Jack Sargeant: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi economi gogledd-ddwyrain Cymru?
Jack Sargeant: Diolch, Dirprwy Lywydd. Dechreuaf drwy ddiolch i Caroline Jones am sôn am Gei Connah. Nid yn aml iawn mae aelodau o'r de yn sôn am drefi yn y gogledd, felly rwy'n croesawu hynny'n fawr iawn. [Chwerthin.] Gweinidog, mae'r stryd fawr yn newid, ac os yw strydoedd mawr fel Bwcle yn fy etholaeth i yn mynd i ffynnu, yna mae'n rhaid inni sicrhau bod y seilwaith yn caniatáu iddyn nhw wneud hynny....
Jack Sargeant: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 yn cefnogi ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn Sir y Fflint? OAQ55032
Jack Sargeant: Diolch am eich ateb, Weinidog. Fel y gwyddoch, rwyf wedi sôn yn y Siambr hon eisoes am y pwysau y mae cyni parhaus yn ei roi ar lywodraeth leol. Mae penderfyniadau a wneir yn San Steffan yn cael effaith enfawr ar lawr gwlad yn sir y Fflint. Nawr, mae llawer ohonom yn siomedig ynglŷn â'r newyddion nad oes gan Lywodraeth y DU, ar ôl yr etholiad, unrhyw fwriad i gadw eu haddewid i ddod â...
Jack Sargeant: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo Alun a Glannau Dyfrdwy i'r byd? OAQ55031
Jack Sargeant: Diolch am eich ateb, Weinidog. Roeddwn yn falch iawn o groesawu'r Prif Weinidog a Gweinidog yr economi i Tata Steel yn fy etholaeth yr wythnos ddiwethaf, ac roedd yn wych clywed yr ymrwymiad sydd gan y rheini sydd ar frig Llywodraeth Cymru i'r diwydiant dur, ac mae'n rhaid dweud bod hynny'n wahanol i Lywodraeth San Steffan—Llywodraeth Dorïaidd San Steffan. Nawr, mae Tata Steel yn arwain y...
Jack Sargeant: A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r holl staff sy'n gweithio'n hynod o galed i ddarparu gofal iechyd yng ngogledd Cymru bob dydd? Fodd bynnag, mae'n amlwg fod angen inni ganolbwyntio ar welliant ac mae angen i'r weledigaeth honno ddod o'r brig. Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fy mod i, ynghyd â fy nghyd-Aelodau o ogledd Cymru—cyd-Aelodau Llafur—wedi bod yn dwyn y mater hwn a materion...
Jack Sargeant: Yr wythnos hon yw Wythnos Prentisiaethau—cyfle i ddathlu prentisiaid, dathlu cyflogwyr a dathlu darparwyr hyfforddiant. Fel cyn brentis fy hun, gwn pa mor bwysig yw'r system brentisiaethau ar gyfer datblygu arbenigedd technegol a chymhwysedd proffesiynol, ac mae'n rhan allweddol o'r gwaith o baratoi gweithlu'r dyfodol. Yn ogystal â datblygu sgiliau technegol dysgwyr, mae'n rhaid i...
Jack Sargeant: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid ar gyfer darparwyr addysg yng ngogledd-ddwyrain Cymru? OAQ55078
Jack Sargeant: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Gyda'r farchnad lafur yn newid yn gyson, mae oedolion yn aml angen ailhyfforddi ac uwchsgilio. Mae hyn yn arbennig o wir gyda'r angen i lawer gaffael sgiliau digidol a thechnegol newydd. Mae'r angen am gyllideb bwrpasol ranbarthol ar gyfer sgiliau oedolion yn glir. Nawr, bydd hyn yn ein galluogi i ymateb yn iawn i'r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr yng...
Jack Sargeant: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau mân anafiadau yng ngogledd-ddwyrain Cymru? OAQ55077
Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Weinidog. Mae ymgyrch Dewis Doeth Llywodraeth Cymru yn annog pobl yn briodol i ddefnyddio adrannau damweiniau ac achosion brys yn ôl yr angen yn unig. Mae hefyd yn eu helpu i ddewis ac yn eu cynghori i ddewis gwasanaethau gofal iechyd eraill lle bo hynny'n briodol, megis y rhai a ddarperir gan fferyllfeydd cymunedol, meddygfeydd meddygon teulu neu wasanaethau mân anafiadau....
Jack Sargeant: Gweinidog, mae'n bwysig bod metro gogledd Cymru yn cyflawni am genedlaethau i ddod, a dyma'r rhwydwaith trafnidiaeth y mae trigolion gogledd Cymru yn ei haeddu. I breswylwyr yn Alun a Glannau Dyfrdwy, mae hyn yn ymwneud â darparu coridor Sir y Fflint i weithredu fel asgwrn cefn metro gogledd Cymru. Mae'n ymwneud hefyd â chreu canolfannau trafnidiaeth allweddol i sicrhau system aml-ddull,...
Jack Sargeant: Weinidog, mae'r meiri metro Steve Rotheram ac Andy Burnham yn ystyried defnyddio eu cyllidebau i hybu twf diwydiant yn eu hardaloedd. Rydym angen yr hyblygrwydd yng ngogledd Cymru i fod yn rhan o'r ymgyrch hon a denu prosiectau fel hybiau logisteg Heathrow ac ail Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch i Alun a Glannau Dyfrdwy. Weinidog, pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyllidebau...
Jack Sargeant: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant bwyd a diod yng ngogledd Cymru? OAQ55170
Jack Sargeant: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar gwrw a thafarndai yng Nghymru, bûm yn ymweld yn ddiweddar â nifer o fragdai annibynnol gydag Aelodau o bob rhan o’r Siambr, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda llawer mwy o ACau i hyrwyddo cwrw a seidr Cymru yn eu hetholaethau. Weinidog, mae'r materion a gafodd eu dwyn i fy sylw yn cynnwys cymorth i fanteisio'n llawn...
Jack Sargeant: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith o adfywio canol trefi yng ngogledd ddwyrain Cymru? OAQ55176
Jack Sargeant: Diolch ichi am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Fel cyd-ogleddwr, fe fyddwch yn adnabod stryd fawr Bwcle yn fy etholaeth yn dda iawn. Yn anffodus, dros y blynyddoedd, mae wedi gweld busnesau'n cau, ac mae wedi colli pob un o'i banciau. Nawr, mae angen buddsoddiad go iawn yng nghanol y dref i gyd-fynd â gwaith caled y gymuned ym Mwcle, a'u gwaith caled i gefnogi'r stryd fawr. Yn bersonol, rwy'n...
Jack Sargeant: 10. Sut y mae'r Prif Weinidog yn sicrhau bod gwasanaethau a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn hyrwyddo cymunedau caredicach? OAQ55275