Mark Isherwood: A wnewch chi ildio, os gwelwch yn dda?
Mark Isherwood: A ydych chi hefyd, fel finnau, yn croesawu'r ffaith bod llawer o fusnesau mawr yn y gogledd yn dibynnu ar HyNet yn y dyfodol ac yn ei gefnogi'n llawn, ac er mai dim ond 50 mlynedd o gapasiti storio a geir ar gyfer prosiect HyNet, mae hyn er mwyn darparu lle i anadlu er mwyn cyflwyno'r dechnoleg hydrogen gwyrdd a fydd yn ein harwain at ddyfodol glanach byth?
Mark Isherwood: Yn ystod hynt Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, cynigiais welliannau yn galw am i'r strategaeth genedlaethol gynnwys darparu o leiaf un rhaglen i gyflawnwyr, gan nodi mai Choose2Change oedd yr unig raglen a achredwyd gan Respect yng Nghymru ar y pryd. Wrth holi eich rhagflaenydd Prif Weinidog yn 2016, cyfeiriais at hyn a dywedais fod y Gweinidog ar...
Mark Isherwood: Gweinidog, ar ôl i chi gyhoeddi strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol Llywodraeth Cymru 2022-26 ar 24 Mai, dywedodd Cymorth i Fenywod Cymru eu bod yn 'cefnogi uchelgais y Llywodraeth ond mae angen tystio i sylwedd yn y camau gweithredu a'r atebolrwydd wrth gyflawni'r strategaeth hon sy'n cyd-fynd â hi, ochr yn ochr â sector a ariennir yn gynaliadwy sydd...
Mark Isherwood: Sut mae Llywodraeth Cymru yn helpu pobl gyda chostau byw cynyddol?
Mark Isherwood: Mae cyllidebu ar sail rhywedd, fel y gwyddoch, yn hyrwyddo tegwch rhwng y rhywiau i fenywod, dynion a grwpiau amrywiol o ran rhywedd. Canfu arolwg gan Gynghrair Twristiaeth Cymru, UK Hospitality Cymru a Chymdeithas Broffesiynol Hunanddarparwyr y DU ar gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer llety hunanddarpar a sut y maent yn effeithio ar fenywod a/neu ofalwyr di-dâl, arolwg lle roedd 83 y cant...
Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Prynhawn da, a diolch am y cyfle i wneud y datganiad hwn heddiw, Lywydd. Efallai y bydd yr Aelodau’n ymwybodol fod oedi sylweddol wedi bod cyn cymeradwyo cyfrifon blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21. I roi hynny yn ei gyd-destun, byddai’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus blaenorol fel arfer yn gwneud gwaith craffu manwl ar y cyfrifon hyn yn flynyddol yn ystod tymor yr...
Mark Isherwood: Ar y pryd, ysgrifennodd Archwilydd Cyffredinol Cymru atom hefyd, gan gadarnhau’r oedi pellach hwn a datgan ei fod wedi gofyn i swyddogion Llywodraeth Cymru ddarparu rhagor o wybodaeth iddo erbyn dechrau mis Ionawr 2022. Derbyniwyd hyn gan y pwyllgor, a gwnaethom gytuno i aros am ganlyniad y gwaith pellach hwn, gan barchu'r broses archwilio angenrheidiol. Rydym yn gwerthfawrogi rôl a gwaith...
Mark Isherwood: Diolch, Mike Hedges, aelod gwerthfawr o'r pwyllgor, sydd wrth gwrs wedi bod yn rhan o'r ymgais i graffu ar y mater pwysig hwn hyd yma. Fel y nodais, ac fel y gwyddoch o'ch amser ar y pwyllgor, rydym yn gobeithio gallu craffu ar hyn yn yr hydref, ac rydym yn gobeithio y bydd y cyfrifon wedi’u cwblhau erbyn hynny, wedi'u gosod yn gywir, gyda'r holl gwestiynau a oedd heb eu hateb yn cael eu...
Mark Isherwood: Cytunaf yn llwyr â'r pwynt cyntaf. Efallai na ddylwn wneud sylw ar yr ail bwynt o gofio fy mod yn siarad fel Cadeirydd pwyllgor. Byddwn yn craffu ar y cyfrifon hyn yn y dyfodol. Ond rwy'n deall eich neges gyffredinol a sail eich pryder, oherwydd fel y clywsom, dros y pum mlynedd diwethaf, mae'r cyfrifon wedi'u llofnodi a'u gosod o fewn yr amserlen statudol ar gyfer gwneud hynny, a'r tro hwn,...
Mark Isherwood: Diolch yn fawr am eich datganiad. Wrth gwrs, rydym yn croesawu mesurau i gyflwyno, yn y derminoleg a ddefnyddir, gyfraith fodern, hygyrch a dwyieithog at y diben a nodir. Ond, wrth gwrs, yn aml, yn y manylion y mae'r anawsterau. Felly, yn eich datganiad ysgrifenedig ddoe ar gyflwyno Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) i'r Senedd hon, fe ddywedoch chi eich bod 'wedi nodi cyfraith amgylchedd...
Mark Isherwood: Rwy’n ddiolchgar ichi am gytuno i fynychu cyfarfod trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni ddydd Llun nesaf, a fydd yn canolbwyntio’n benodol ar aelwydydd gwledig agored i niwed, gan gynnwys y rheini yng nghefn gwlad Ynys Môn ac ar draws gogledd Cymru. Ymhlith y rhain, mae tenantiaid sydd â'u nwy a’u trydan wedi’u cynnwys yn eu rhent yn debygol o fod wedi'u methu yn...
Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Er nad oes athrawiaeth absoliwt o wahanu pwerau yn y DU, mae'r cysyniad o wahanu pwerau rhwng y ddeddfwrfa, h.y. y Senedd, y Weithrediaeth, h.y. Llywodraeth Cymru, a'r farnwriaeth wedi bod yn berthnasol ers tro byd yn y DU ac ar draws y DU i atal pŵer rhag cronni drwy ddarparu dulliau o gadw'r cydbwysedd—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf. Nid oeddwn yn eich clywed yn...
Mark Isherwood: Fis Medi diwethaf, gan gyfeirio at bapur ymgynghori Comisiwn y Gyfraith ar dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru i helpu i lunio Bil tribiwnlysoedd Cymru, a gynlluniwyd i reoleiddio un system ar gyfer tribiwnlysoedd, gofynnais i chi am eich ymateb cychwynnol i gynigion y papur ymgynghori i ddiwygio uned Tribiwnlysoedd Cymru, y rhan o Lywodraeth Cymru sy'n gweinyddu'r rhan fwyaf o...
Mark Isherwood: Diolch. Wel, gobeithio bod hynny'n golygu, fel y dywedasant, y bydd hynny'n sicrhau eu bod yn gweithredu'n annibynnol ar wleidyddion, yn enwedig. Ond fel y dywedais yma ym mis Mawrth 2019 ar bwnc gwahanol, ni fyddai Papur Gwyn Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, 'Diogelu Dyfodol Cymru', a oedd yn galw am barhau i fod yn aelod o farchnad sengl yr UE, yn golygu na fyddai gennym unrhyw reolaeth...
Mark Isherwood: Diolch—ymateb diddorol. Wrth gwrs, mae'r llys hawliau dynol y tu allan i strwythur yr UE yn llwyr ac fel y gwyddoch, chwaraeodd y DU ran annatod yn y gwaith o'i sefydlu, ond dyna ni. Wel, wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU wedi bod yn ceisio negodi cytundeb i fynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n bodoli er mwyn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd ar gyfer masnach heb lawer o wrthdaro a diogelu...
Mark Isherwood: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Mark Isherwood: A wnewch chi gydnabod nad yw hyn yn ymwneud â pherchnogion ail gartrefi nad ydynt yn cofrestru eu cartref gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio ac sy'n osgoi'r dreth gyngor, a bod hyn yn ymwneud â busnesau lleol Cymru? A wnewch chi gydnabod bod pob busnes sydd wedi cysylltu â mi—ac mae cannoedd ohonynt wedi gwneud bellach—yn Gymry lleol, ac eithrio un, a anwyd yng Ngwynedd ac sy'n siarad...
Mark Isherwood: Rwy'n cynnig gwelliant 2. Mae tlodi tanwydd yn fater cyfiawnder cymdeithasol hirsefydlog yng Nghymru, ond mae'r cynnydd diweddar ym mhrisiau ynni byd-eang wedi dod â'r mater i'r amlwg. Mae National Energy Action Cymru wedi galw am wneud taliadau cynllun cymorth tanwydd y gaeaf yn yr hydref fel bod aelwydydd yn gwybod bod ganddynt yr arian cyn iddynt droi eu gwres ymlaen. Mae'r Gweinidog wedi...
Mark Isherwood: Fe wnes innau hefyd edrych ar yr ystadegau heddlu hynny. A wnaethoch chi sylwi bod 3 y cant o'r damweiniau'n digwydd ar ffyrdd 20 mya, ond dim ond 2.5 y cant o ffyrdd Cymru sy'n rhai 20 mya? Felly, mewn gwirionedd, mae'r gyfradd ddamweiniau yn uwch o 0.5 y cant ac yn cyd-fynd i raddau helaeth â'r gyfradd ddamweiniau ar ffyrdd 30 mya.