Canlyniadau 1661–1680 o 2000 ar gyfer speaker:Jane Hutt

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Grymuso cymunedau (22 Meh 2022)

Jane Hutt: Yn olaf, a gaf fi roi sicrwydd i chi fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r cynnig hwn heddiw? Credaf mai dyma'r cam cyntaf i ni o ran edrych ar lwybr cydgynhyrchiol ar gyfer ein polisi cymunedau newydd. Diolch yn fawr.

3. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i’r Rhai sy’n Gadael Gofal (28 Meh 2022)

Jane Hutt: Diolch, Llywydd. Ym mis Chwefror eleni, fe gyhoeddais i fwriad Llywodraeth Cymru i ddatblygu a darparu cynllun treialu incwm sylfaenol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal yng Nghymru. Heddiw, rwy'n falch o gadarnhau y bydd y cynllun treialu hwnnw'n dechrau ar 1 Gorffennaf 2022 ac yn rhedeg am dair blynedd i gyd. Yn ystod y cyfnod hwn, rydym ni am roi prawf ar fanteision datganedig incwm...

3. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i’r Rhai sy’n Gadael Gofal (28 Meh 2022)

Jane Hutt: Yn unol â'u cyfrifoldebau nhw o ran rhianta corfforaethol, bydd awdurdodau lleol Cymru â rhan hanfodol yn y gwaith o ddarparu'r cynllun treialu incwm sylfaenol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal yng Nghymru. Fe fyddan nhw'n gweithredu fel pwynt cyswllt dechreuol ar gyfer derbynyddion sy'n cael yr incwm sylfaenol ac fe fyddan nhw'n gyfrifol am arwain y bobl ifanc sydd yn eu gofal nhw drwy'r...

3. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i’r Rhai sy’n Gadael Gofal (28 Meh 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn i chi, Joel James. Roeddwn i'n ddiolchgar am ein bod ni wedi cael rhai sylwadau cadarnhaol ar ddechrau eich cwestiynau chi heddiw. Rwy'n credu i chi gydnabod y gallai'r cynllun treialu hwn gynnig cyfleoedd gwych i'r rhai sy'n gadael gofal yma, ac mai cynllun treialu incwm sylfaenol yw hwn. Fe hoffwn i ddechrau drwy ateb eich cwestiynau chi ynghylch pam yr ydym ni wedi...

3. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i’r Rhai sy’n Gadael Gofal (28 Meh 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr, Luke Fletcher, a diolch yn fawr iawn i chi am groesawu'r cynllun treialu incwm sylfaenol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal yng Nghymru. Rwy'n falch iawn eich bod chi wedi tynnu sylw at y ffaith fod Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU wedi ymesgusodi—fe allwn i ddweud, 'gwrthod', ond fe wnaethant ymesgusodi rhag ymgysylltu â ni. Maen nhw wedi gwrthod diystyru'r taliad...

3. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i’r Rhai sy’n Gadael Gofal (28 Meh 2022)

Jane Hutt: Wel, a gaf i ddiolch i Jack Sargeant, a diolch yn arbennig iddo ef am gadeirio'r Pwyllgor Deisebau a'r argymhellion sydd wedi dod o'r pwyllgor hwnnw? Rydym ni wedi derbyn pob un ohonyn nhw'n llawn neu'n rhannol, ac rwy'n credu'r argymhellion hynny'n arbennig—. Tâl gwarantedig diamod i'r unigolyn—yn ddiamod—ond hefyd y dylai'r rhai sy'n gadael gofal gynnwys y rhai sy'n gadael gofal o...

3. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i’r Rhai sy’n Gadael Gofal (28 Meh 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr, Jane Dodds. Wel, ni allaf ddweud dim mwy wrth ymateb i Jane ac eithrio diolch iddi hithau am ei chefnogaeth hefyd, unwaith eto, edrychwch chi ar bwysigrwydd y dystiolaeth fyd-eang am gynlluniau treialu incwm sylfaenol. Ac rwy'n gobeithio y bydd y Ceidwadwyr yn cydnabod o leiaf fod hwn yn gyfle i'r rhai sy'n gadael gofal yma, ac yn rhoi gobaith iddyn nhw, yn agor drysau, yn...

3. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i’r Rhai sy’n Gadael Gofal (28 Meh 2022)

Jane Hutt: Wel, diolch yn fawr iawn, Peter Fox. Rwy'n gobeithio y bydd y cynllun treialu incwm sylfaenol hwn yn dangos eich bod chi'n anghywir. Mae ein hawdurdodau lleol ni i gyd yn gefnogol i hyn. Rwyf i wedi cyfarfod â'r gweithwyr cymdeithasol, ein cynghorwyr pobl ifanc, fel gwnaeth Julie Morgan, a'r Prif Weinidog a minnau wythnos diwethaf. Maen nhw o'r farn bod hwn yn gyfle iddyn nhw gyflawni eu...

3. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i’r Rhai sy’n Gadael Gofal (28 Meh 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr, Ken Skates. Fe fydd y gwasanaeth yn rhoi cyngor uniongyrchol i bobl ifanc—y pecyn £2 filiwn hwnnw yr wyf i wedi ymateb i gwestiynau yn ei gylch eisoes, y pecyn cymorth, y cyngor ariannol a'r arweiniad, yn gyfochrog â'r cynghorwyr pobl ifanc hefyd, sy'n agweddau mwy eang efallai ar y cyngor a'r arweiniad angenrheidiol, ond ar sail un i un yn arbennig felly. Ond hefyd, mae...

3. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i’r Rhai sy’n Gadael Gofal (28 Meh 2022)

Jane Hutt: Diolch. Mae hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn, a gallaf i ddweud 'ie'; Gallaf i ddweud 'ie' i'r yr holl bwyntiau. Hefyd, bydd cyfle i ystyried a ydyn nhw eisiau i'w rhent gael ei dalu'n uniongyrchol, yn ogystal ag edrych ar eu hanghenion o ran cyfleoedd tai â chymorth, nawr ac yn y dyfodol.

3. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i’r Rhai sy’n Gadael Gofal (28 Meh 2022)

Jane Hutt: Wel, rydym ni wedi nodi ac rydym ni wedi cytuno yn ein cyllideb ar yr £20 miliwn. Mae'n wir—. Roeddwn i eisiau dweud mai un o'r pwyntiau nad wyf i wedi gallu tynnu sylw ato yw mai dyma un o'r taliadau mwyaf hael yn y byd i gyd yr ydym ni'n ei wneud. Rydym ni'n ei wneud, mewn gwirionedd, yn rhannol oherwydd, pan wnaethom ni glywed bod Llywodraeth y DU yn mynd i'w drethu, roeddem ni'n gwybod...

8. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Strategaeth ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022-26 (28 Meh 2022)

Jane Hutt: Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar am gael y cyfle i wneud y datganiad hwn i nodi lansiad ein strategaeth genedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac i geisio cefnogaeth y Senedd, oherwydd mae gwneud Cymru'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw neu'n ferch yn fater i bawb. Ar y pedwerydd ar hugain o'r mis diwethaf cyhoeddais y strategaeth, ar ôl...

8. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Strategaeth ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022-26 (28 Meh 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood. Rwy'n croesawu ymrwymiad ac ymgysylltiad Cymorth i Fenywod Cymru. Fe wnaethoch chi gyfeirio at eu hymateb pan gyhoeddais y strategaeth ym mis Mai. Maen nhw, wrth gwrs, wedi bod yn rhan o'r ymgynghoriad. Maen nhw wedi helpu i gyd-gynhyrchu'r strategaeth ac, yn wir, maen nhw'n gwasanaethu ar y bwrdd partneriaeth cenedlaethol newydd. Mae'r bartneriaeth...

8. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Strategaeth ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022-26 (28 Meh 2022)

Jane Hutt: Rwy'n credu bod y materion sy'n ymwneud â llais y goroeswr yn bwysig iawn ac yn allweddol i fy ymateb eisoes. Rhaid i leisiau goroeswyr fod wrth wraidd popeth a wnawn, felly rydym ni mewn gwirionedd yn datblygu panel craffu a chynnwys llais goroeswyr, ac mae'n rhaid i hwnnw fod yn grŵp amrywiol o oroeswyr, sy'n cwmpasu holl sbectrwm trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais...

8. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Strategaeth ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022-26 (28 Meh 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr, Sioned Williams. Rwy'n credu fy mod wedi mynegi eich holl werthoedd, egwyddorion ac amcanion yn fy natganiad, a pham mae'r datganiad hwn yn gydnabyddiaeth llawer llymach a chryfach o'r gwrywdod gwenwynig a'r casineb at fenywod sy'n sail i gam-drin pŵer ymysg dynion. Am flynyddoedd lawer, ac roeddwn yn rhan ohono ddegawdau'n ôl, sefydlwyd lloches Cymorth i Fenywod gennym i...

8. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Strategaeth ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022-26 (28 Meh 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Joyce Watson. A gaf i ddweud pa mor falch oeddwn i o allu siarad yn lansiad 'Dyletswydd i Gefnogi' ddydd Llun? Rhoddais fy ymrwymiad y byddwn yn dychwelyd â'r argymhellion—rwy'n credu i'r Prif Weinidog wneud hynny hefyd—i fyfyrio arnyn nhw. Yr hyn sy'n ddiddorol, wrth gwrs, yw bod eich adroddiad wedi tynnu sylw at y dystiolaeth nad mater i Lywodraeth Cymru yn unig yw...

8. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Strategaeth ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022-26 (28 Meh 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone. Rwy'n credu bod hyn yn symud ymlaen yn rhannol, yn ogystal â'r hyn yr wyf eisoes wedi'i ddweud, i'n hymgyrchoedd a'n cyfathrebu. Felly, mae hyn yn ymwneud â sut yr ydym yn herio agweddau cymdeithasol i atal trais yn erbyn menywod, dynion a phlant rhag digwydd yn y lle cyntaf. Felly, yr ymgyrch Byw Heb Ofn—mae hynny'n parhau i godi ymwybyddiaeth o...

8. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Strategaeth ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022-26 (28 Meh 2022)

Jane Hutt: Wel, diolch yn fawr iawn i Buffy Williams, a byddai'n wych pe bai pob Aelod o'r Senedd yn gofyn yr un math o beth i mi, oherwydd rwy'n credu bod arnom ni angen y sgyrsiau bord gron fesul sir, cymuned-wrth-gymuned hynny i fynd i'r afael â'r materion hyn. A diolch i chi hefyd am dynnu sylw at Drive, sydd wedi bod yn effeithiol—yn wirioneddol effeithiol. Hefyd, nid ydym wedi trafod rhannau...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Gwahaniaethu ar sail Hil ( 6 Gor 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn. Wel, roedd yr eitem hon ar yr agenda heddiw ar gyfer y cyngor partneriaeth llywodraeth leol, dan gadeiryddiaeth fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans. Mae’n ymwneud â nod cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol, sef bod llywodraeth leol yn gyflogwr enghreifftiol, gyda pholisïau adnoddau dynol a chyflogaeth gwrth-hiliol, gyda chyllid gwella’n cael ei ddefnyddio...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Gwahaniaethu ar sail Hil ( 6 Gor 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, ac rwy'n croesawu eich cwestiwn. Yn wir, os edrychwch ar gynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol, mae’n cwmpasu pob adran o Lywodraeth Cymru, gyda chamau gweithredu a nodau. Felly, yn amlwg, mae hynny nid yn unig yn cynnwys iechyd ond iechyd a gofal cymdeithasol hefyd. Felly, y nodau, mewn perthynas â GIG Cymru, yw y dylai fod a bod yn rhaid iddo fod yn wrth-hiliol, ac y...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.