Mark Isherwood: Wel, diolch. Fy nealltwriaeth i yw bod lleisiau uwch arweinwyr Llafur yn y DU yn deall echelin dwyrain-gorllewin troseddu a chyfiawnder troseddol dros y ffin rhwng Cymru a Lloegr ac yn cydnabod y gallai datganoli llawn yn unol â hynny fod yn wrthgynhyrchiol. Fodd bynnag, mae'r cyfrifoldebau sydd gennych fel Cwnsler Cyffredinol yn cynnwys materion yn ymwneud â deddfwriaeth a basiwyd gan y...
Mark Isherwood: Diolch. Fe wneuthum ymateb yn unol â hynny. Ond wrth gwrs, nid cais rhyddid gwybodaeth oedd hwn, roeddwn i'n gwneud sylwadau—fel rydym i gyd yn ei wneud—yn niwtral, yn cynrychioli fy etholwyr gyda'u cais, a chyda'u hawdurdod ysgrifenedig, felly roedd yn ymateb sy'n peri pryder. Ac yn y cyd-destun hwnnw, fel y credaf eich bod yn gwybod, mae cod ymarfer Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a...
Mark Isherwood: Diolch. Ym mis Chwefror 2021, pleidleisiodd y Senedd o blaid fy nghynnig ar gyfer Bil a fyddai'n gwneud darpariaeth i annog defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, BSL, yng Nghymru, a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau mewn BSL. Fel y dywedais bryd hynny, ym mis Hydref 2018 cafodd galwadau eu gwneud yng nghynhadledd Clust i Wrando gogledd Cymru am ddeddfwriaeth Iaith Arwyddion Prydain yng...
Mark Isherwood: Diolch. Wel, yn gyntaf, diolch yn fawr iawn i Mike Hedges am eich cefnogaeth i'r cynnig hwn. Fel y dywedodd, mae cymunedau byddar yn defnyddio BSL fel eu prif ddull o gyfathrebu ac i gymunedau byddar, mae'r ddeddfwriaeth hon yn bwysig. Diolch i Laura Anne Jones am ei sylwadau. Fel y dywedodd, byddai hyn yn creu newid cadarnhaol ar gyfer BSL mewn addysg. Tynnodd sylw at y cynnydd yn nifer y...
Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Wel, fe agorodd Gareth Davies, ein cyd-Aelod, y ddadl hon drwy gydymdeimlo—ac rwy'n gwybod bod pob Aelod yma yn rhannu hyn—â theulu, ffrindiau a chymuned Logan Mwangi. Mae trychineb o'r fath, meddai, yn amlygu'r angen i Lywodraeth Cymru sicrhau na fydd hyn byth yn digwydd eto, gydag adolygiad annibynnol i sicrhau 'bod byth eto yn golygu byth eto.' Dywedodd fod adolygiadau...
Mark Isherwood: Diolch. Rwy'n galw am ddatganiad am gymorth i bobl ag anhwylderau bwyta yng Nghymru. Mae ymchwil, wedi dangos bod defnyddio labeli bwydlenni i gyfyngu ar galorïau yn gysylltiedig â gorfwyta mewn pyliau ymhlith menywod ac yn gysylltiedig â mwy o bryderon yn ymwneud â phwysau, mynd ar ddiet ac ymddygiad rheoli pwysau nad yw'n iach ymhlith menywod a dynion. Gwnaeth Beat, elusen anhwylderau...
Mark Isherwood: Diolch. Rydym yn cefnogi cynnwys y cynnig hwn. Wrth siarad yma yn 2019 i gefnogi cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio strategaeth, cyllideb a chynllun gweithredu ar gyfer mynd i'r afael â thlodi, nodais y datganiad gan Gomisiynydd Plant Cymru ar y pryd, sef 'Mae gan Lywodraeth Cymru Strategaeth Tlodi Plant sy’n amlinellu ei dyheadau hirdymor, ond ar hyn o bryd does dim cynllun...
Mark Isherwood: Onid ydych chi'n poeni bod y dull hwnnw o weithredu'n gwneud i chi swnio'n debycach i Liz Truss nag i Alistair Darling?
Mark Isherwood: Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r rhagolygon economaidd yng Nghymru?
Mark Isherwood: Sut mae Llywodraeth Cymru'n sicrhau gofal iechyd hygyrch i bobl sydd â nam ar y synhwyrau?
Mark Isherwood: Diolch am eich datganiad. Yn dilyn ymosodiad anghyfreithlon Rwsia ar Wcráin, a'i effeithiau enfawr ar brisiau bwyd a thanwydd byd-eang, a'r pwysau ar yr economi a achoswyd gan y pandemig, mae Llywodraeth y DU wedi cymryd camau eithriadol i gefnogi pobl gyda chostau byw. Yn ogystal â'r cynllun gostyngiad Cartrefi Cynnes sy'n bodoli eisoes, taliadau tanwydd gaeaf a thaliadau tywydd oer, mae...
Mark Isherwood: Sut mae Llywodraeth Cymru'n sicrhau gofal iechyd hygyrch i bobl sydd â nam ar y synhwyrau?
Mark Isherwood: Wrth ymateb fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni i'ch datganiad ar wella effeithlonrwydd ynni cartrefi Cymru ar 8 Tachwedd, cyfeiriais at argymhellion y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod y rhaglen Cartrefi Clyd yn ymgorffori dull adeiladwaith a 'gwaethaf yn gyntaf' o fynd ati i ôl-osod, yn ogystal...
Mark Isherwood: Yn gryno iawn, a ydych yn rhannu fy mhryder fod Llywodraeth Cymru wedi methu defnyddio’r pwerau sydd ar gael iddi ers cyflwyno Deddf Lleoliaeth 2011 y DU i gyflwyno cofrestr asedau cymunedol a hawl gymunedol i wneud cynigion, i helpu i fynd i’r afael â’r dull o’r brig i’r bôn hwnnw y cyfeiriwch ato?
Mark Isherwood: Diolch. Diolch i’r Aelod dros Ganol De Cymru, Joel James, am sicrhau’r ddadl amserol a phwysig hon yn ystod mis ymwybyddiaeth Carwch Eich Afu, ac ar ddiwrnod cenedlaethol codi ymwybyddiaeth canserau llai goroesadwy. Mae wedi bod yn eiriolwr gwych ar gyfer iechyd yr afu fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar glefyd yr afu a chanser yr afu, ac rwy’n rhannu ei ymrwymiad i fynd i’r afael...
Mark Isherwood: Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi disgyblion anghenion dysgu ychwanegol?
Mark Isherwood: Rwy'n galw am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gymorth Llywodraeth Cymru i bractisau meddygon teulu er mwyn gweithredu'r cytundeb meddygon teulu newydd yng Nghymru, gan ddechrau eleni. Er enghraifft, mae'r unig ystafell ymgynghori, gofod gwaith cyfyng a gorlawn ac ystafell aros gyfyngedig ym meddygfa Hanmer, ger y ffin â sir Amwythig yng ngogledd-ddwyrain...
Mark Isherwood: 10. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddiogelu rhywogaethau bywyd gwyllt sydd o dan fygythiad? OQ58941
Mark Isherwood: Diolch. Mae coed yn darparu nifer o fanteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd, ac mae plannu coed yn cael ei ystyried yn eang fel un o'r ffyrdd pwysicaf o fynd i'r afael â newid hinsawdd ac ansawdd aer gwael. Fodd bynnag, mae cysylltiad rhwng dirywiad yn niferoedd gylfinirod a mwy o goetir ger safleoedd bridio. Er mai'r gylfinir eiconig yw ein blaenoriaeth fwyaf o ran cadwraeth...
Mark Isherwood: Mae'n amlwg bod y digwyddiadau erchyll parhaus yn Wcráin, yn dilyn goresgyniad anghyfreithlon Putin, yn cael effaith uniongyrchol ar nifer yr Wcreiniaid sy'n cyrraedd Cymru, a byddant yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol, gyda ffigurau Llywodraeth y DU ym mis Ionawr yn dangos bod 8,700 o fisâu wedi'u rhoi i'r rheiny sydd â noddwyr yng Nghymru, a gyda 6,300 o bobl â noddwyr yng Nghymru...