Jane Hutt: Wrth gwrs, mae'r arian sy'n mynd drwy raglen Cymru ac Affrica yn mynd i gymunedau yn Uganda. Mae'n mynd i gymunedau yr ydym yn gweithio'n agos gyda hwy, ac wedi bod yn gweithio'n agos gyda hwy ers blynyddoedd lawer. A hefyd, wrth gwrs, ledled Cymru, mae partneriaethau mewn cymunedau, ac fel y gwyddoch, yn eich rhanbarth chi hefyd—partneriaethau rhwng pobl leol yn ein trefi a’n dinasoedd...
Jane Hutt: Wel, daeth cynllun grantiau bach Cymru ac Affrica, a gontractiwyd i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ei weithredu, i ben ar 31 Mawrth. Ond cafodd y contract ei osod ar dendr eto yn gynharach eleni yn dilyn ymarfer caffael, a bydd CGGC yn parhau i weithredu a rheoli'r cynllun grantiau bach hwnnw. Mae bellach ar agor, rownd 1 o gynllun grantiau bach Cymru ac Affrica 2022-25, a'r dyddiad cau...
Jane Hutt: Rwy'n tybio ac yn gobeithio eich bod wedi cyfarfod â Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica, sefydliad dynamig iawn sy'n cael ei arwain yn bennaf gan bobl yn GIG Cymru. Mae'n un o'r rhwydweithiau pwysicaf sydd wedi'u datblygu o fewn y GIG, fel bod gennych bartneriaethau rhwng byrddau iechyd, rhwng ysbytai, rhwng cymunedau yng Nghymru ac Affrica. Os nad ydych wedi cyfarfod â hwy,...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Sioned. Dechreuaf gyda’r bwndeli babanod, oherwydd, fel y dywedwch, rydym wedi eu treialu ar gyfer teuluoedd ledled Cymru. Bydd hynny o gymorth mawr yn yr argyfwng costau byw i rieni yng Nghymru. Dyma'r eitemau allweddol sy'n hanfodol i ddatblygiad a llesiant eu babi newydd. Hoffwn roi cydnabyddiaeth i Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, a ddatblygodd...
Jane Hutt: Diolch am y cwestiwn hynod ddefnyddiol hwn hefyd. A dweud y gwir, bu'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a minnau yn y cyngor partneriaeth y bore yma gyda phob un o arweinwyr newydd llywodraeth leol yng Nghymru, a chawsom eitem ar yr argyfwng costau byw. Yn wir, diolchais i lywodraeth leol am y rôl y maent wedi’i chwarae, gan eu bod yn darparu nid yn unig y taliadau costau byw a...
Jane Hutt: Diolch am eich cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda’r heddlu, y comisiynwyr heddlu a throseddu, a chyda’r gwasanaeth iechyd, nid yn unig yng ngogledd Cymru, ond ledled Cymru gyfan. Rwy’n cael cyfarfodydd a thrafodaethau rheolaidd gyda’n partneriaid am ystod eang o faterion sy'n ymwneud â phlismona.
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn am dynnu ein sylw at hyn heddiw, Sam Rowlands, a llongyfarchiadau ar ymuno â’r shifft. Ar draws y Siambr, rwy'n credu y bydd pobl sydd eisoes wedi gwneud hynny neu a fydd yn manteisio ar y cyfle hwnnw, gan ei fod yn dangos i chi sut beth yw bywyd ar y rheng flaen i swyddogion yr heddlu a phawb y maent yn ymwneud â hwy, nid yn unig y dinasyddion y maent yn ymdrin â hwy...
Jane Hutt: Diolch yn fawr. O ddefnyddio mesur tlodi tanwydd Cymru, gallai hyd at 45 y cant o holl aelwydydd Cymru fod mewn tlodi tanwydd yn dilyn codi'r cap pris ym mis Ebrill 2022. Roedd yr amcangyfrifon diwethaf a gasglwyd ar gyfer Ynys Môn yn 2018 yn amcangyfrif bod y gyfradd tlodi tanwydd yno yn uwch na chyfartaledd cenedlaethol Cymru ar y pryd.
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Rhun ap Iorwerth. Cwestiwn pwysig iawn ac yn wir, buom yn trafod yr argyfwng costau byw gydag arweinwyr y cynghorau yn y cyngor partneriaeth y bore yma. Roedd arweinwyr cynghorau hefyd yn mynegi’r pryderon hyn, ond roeddent hefyd yn nodi enghreifftiau cadarnhaol o sut y mae cymunedau’n dod at ei gilydd, y banciau bwyd a’r pantris bwyd; FareShare, yr elusen sy'n gweithio...
Jane Hutt: Mark Isherwood, rwy'n edrych ymlaen at ymuno â chi, fel rwyf wedi’i wneud bob tro y cefais wahoddiad i’r grŵp trawsbleidiol, a hefyd yn wir, bydd yn digwydd ochr yn ochr â’n huwchgynhadledd. Byddwn yn sicr yn edrych ar y mater hwn i wneud yn siŵr bod ein cynllun cymorth tanwydd pwrpasol yn cyrraedd y tenantiaid sydd ei angen fwyaf.
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Jane, am eich cwestiwn pwysig iawn.
Jane Hutt: Mae’r dull cenedlaethol o ymdrin ag eiriolaeth statudol, a sefydlwyd yn 2017, yn mynd i’r afael â hygyrchedd, argaeledd a darpariaeth eiriolaeth i bob plentyn a pherson ifanc, gan gynnwys y rheini mewn lleoliadau gofal preswyl. Mae’r dull cenedlaethol yn cael ei fonitro gan y fforwm cenedlaethol sy’n goruchwylio hygyrchedd darpariaeth eiriolaeth ledled Cymru.
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Jane. A gaf fi ddweud, unwaith eto—rwyf eisiau cofnodi, a byddai'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei ddweud gyda mi, fel y gwnawn ni fel Llywodraeth Cymru—fod dileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal yn elfen allweddol o'n gweledigaeth ehangach ar gyfer diwygio gwasanaethau cymdeithasol plant. Ac mae cynnydd yn cael ei wneud; mae bwrdd rhaglen amlasiantaeth,...
Jane Hutt: Na, rwy'n credu fy mod yn anghytuno â phob pwynt. Mae'n anodd ateb cwestiwn fel hwnnw, onid yw? Wel, nid cwestiynau ydynt, ond sylwadau—sylwadau ydynt, ac ni fyddaf yn ymateb i'ch pwynt olaf o gwbl. Mae gennym gomisiynydd plant annibynnol a benodwyd gan banel trawsbleidiol, ac rydym yn dymuno'n dda iddi yn ei swydd. Ond a gaf fi ddweud bod hwn, wrth gwrs, yn ymrwymiad gan y Llywodraeth...
Jane Hutt: Diolch, Huw Irranca-Davies. Ni welodd Llywodraeth Cymru y bil cyn iddo gael ei gyflwyno. Mae'n galw am, ac mae bellach yn cael ystyriaeth ofalus, ac rydym yn sicr yn parhau i fod â phryderon sylfaenol am ei effaith anflaengar bosibl ar hawliau dynol yn y DU ac ar ein hagenda gadarnhaol yng Nghymru.
Jane Hutt: Wel, diolch ichi am y cwestiwn atodol hwnnw. Fe wnaethom ein gwrthwynebiad sylfaenol i'r cynigion yn y Bil Hawliau yn glir yn ystod yr ymgynghoriad ar ddechrau'r flwyddyn, ac fe wyddoch i'r Cwnsler Cyffredinol a minnau gyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar 22 Mehefin i atgyfnerthu ein pryderon. Yr wythnos diwethaf, cawsom gyfarfod grŵp trawsbleidiol rhagorol, dan gadeiryddiaeth Sioned Williams,...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Rhys ab Owen. Mae cerrig milltir cenedlaethol yn rhan bwysig o Llunio Dyfodol Cymru. Rydym yn cyflwyno'r cerrig milltir cenedlaethol mewn dau gam. Gosodwyd y cam cyntaf gerbron y Senedd ym mis Rhagfyr 2021 a chyhoeddwyd yr ymgynghoriad ar gam 2 ym mis Mehefin. Bydd adroddiad 'Llesiant Cymru' yr hydref hwn yn cynnwys diweddariad cynnydd ar y cerrig milltir cenedlaethol.
Jane Hutt: Wel, mae'n hanfodol o ran gorfodadwyedd. Mae'n ymwneud â chyflawni ein nodau, onid yw, ein cerrig milltir cenedlaethol. Felly, rydym wedi cytuno ar werthoedd cerrig milltir cenedlaethol, sy'n cynrychioli'r weledigaeth gyffredin ar gyfer Cymru. Ac fe wnaethom ddatblygu'r rheini ar y cyd â chyrff cyhoeddus a rhanddeiliaid. Ond mae'n rhaid inni gydnabod, o ran y cerrig milltir cenedlaethol,...
Jane Hutt: Yn ffurfiol.
Jane Hutt: Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw, ac mae'n amserol iawn. Diolch i'r Aelodau ar draws y Siambr am eu cyfraniadau. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad o fewn y pythefnos nesaf ar y cynllun cymorth tanwydd newydd. Mae'n mynd i fod yn gynllun cymorth tanwydd—nid cynllun cymorth tanwydd y gaeaf, ond cynllun cymorth tanwydd newydd i Gymru, gan ddysgu o'r...