Mark Isherwood: Sut mae'r Gweinidog yn hybu datblygu gwledig yng Ngogledd Cymru?
Mark Isherwood: Ar ôl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fynychu Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd fis Mawrth diwethaf, ysgrifennais i atyn nhw fel Cadeirydd am bryderon ynghylch rhai o'r ymatebion y gwnaethon nhw eu rhoi i ni gan geisio eglurder ar rai pwyntiau. Roedd ein llythyr yn cynnwys ein bod ni wedi ein siomi gan y diffyg perchnogaeth a chyfrifoldeb y cymerodd y...
Mark Isherwood: —ac mae Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru hefyd wedi bod yn codi'r pryderon hyn gyda chi drwy gydol yr amser?
Mark Isherwood: Wrth gwrs, rydym ni’n byw mewn gwlad o gymunedau: o Aberdeen i Aberystwyth, Cumbria i Gaerfyrddin, Cernyw i Gonwy, Belfast i Ben-y-bont ar Ogwr a Swydd Efrog i'r Wyddgrug. Wrth i ni agosáu at Ddydd Gŵyl Dewi, rydych chi’n cyfeirio at eich strategaethau traws-lywodraethol a'ch cynlluniau gweithredu ym maes cyfiawnder cymdeithasol a Chymraeg. Wrth siarad yma saith mlynedd yn ôl, nodais...
Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Weinidog, diolch am fynychu'r cyfarfod trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni ym mis Tachwedd, pan leisiwyd pryder gan swyddog tlodi tanwydd Cyngor Gwynedd fod lefelau uchel o'r stoc dai yng Ngwynedd nad yw’n cydymffurfio â safon ansawdd tai Cymru. Pan ofynnodd i chi a allech roi sylwadau ar y lefelau uchel o stoc dai nad yw’n cydymffurfio â safon ansawdd...
Mark Isherwood: Diolch. Wel, rwyf am adael y prif bwynt a wnaethoch ar gyfer y cwestiwn amserol yn nes ymlaen, sydd ar yr union bwnc hwnnw wrth gwrs. Ond mae briff Cyflwr Cymru Sefydliad Bevan y mis hwn yn nodi bod effeithlonrwydd ynni eiddo'n amrywio’n sylweddol ledled Cymru, ac er y nodwyd bod holl dai cymdeithasol Cymru yn cydymffurfio â safon ansawdd tai Cymru, mae mwy nag un o bob pump yn cynnwys o...
Mark Isherwood: Wel, diolch. Unwaith eto, rwy'n cofio trafod y materion hyn 20 mlynedd yn ôl yn y Siambr flaenorol, gydag ymatebion tebyg, er mewn cyd-destun ariannol gwahanol. Oni chaiff y pwyntiau a nodwyd gan swyddog tlodi tanwydd cyngor Gwynedd eu hateb, bydd safon ansawdd tai Cymru a rhaglen Cartrefi Clyd y Llywodraeth nesaf yn dechrau ar gynsail ffug, ac yn anelu at safonau na ellir eu cyflawni lle...
Mark Isherwood: Mae'r cwestiwn a gyflwynwyd yn ymwneud â chap prisiau Ofgem, ac er ei fod yn newyddion da fod y rheoleiddiwr ynni, Ofgem, wedi cyhoeddi y bydd ei gap ar brisiau'n gostwng bron i £1,000 o fis Ebrill ymlaen yn sgil gostyngiad mewn prisiau cyfanwerthol, mae disgwyl y bydd gwarant pris ynni Llywodraeth y DU yn cynyddu, fel y nodoch chi, o £2,500 i £3,000 y flwyddyn o'r un mis. Mae National...
Mark Isherwood: Rwy'n galw am ddatganiad unigol gan y Gweinidog iechyd ynglŷn â chodi'r ymwybyddiaeth am ketoacidosis diabetig, neu DKA, sef cymhlethdod o ddiabetes math 1. Ddoe, fe gwrddais i â Dee Pinnington, i drafod ei hymgyrch i godi ymwybyddiaeth, yn dilyn marwolaeth ei mab, Alastair, neu Ali, Thomas, yn 2018 o DKA, a oedd yn gymhlethdod o'i ddiabetes math 1. Roedd Ali yn ganwr a cherddor o'r...
Mark Isherwood: Mae'r gyllideb hon yn frith o ymdrechion ofer i fod yn ddarbodus a fydd yn gwthio llawer mwy o bobl i argyfwng, gan ychwanegu miliynau a miliynau at gost darparwyr gwasanaethau argyfwng yn y sectorau cyhoeddus iechyd a gofal cymdeithasol. Cafodd cyllid ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol ei dorri £96 miliwn mewn termau absoliwt, a £119 miliwn mewn termau real. Mae trais yn erbyn menywod,...
Mark Isherwood: Gwnaf i gymryd un ymyriad os bydd amser yn caniatáu, gwnaf.
Mark Isherwood: Mewn gwirionedd, wnaethon nhw ddim, ond cafodd yr ymyriad trychinebus a dros dro hwnnw, y gwnaethom ni ei wrthwynebu—ac wnes i ddim pleidleisio drosti hi—ei wrthdroi. Mae'n hanes. Mae'r Llywodraeth olynol wedi symud ymlaen. [Torri ar draws.] Mae hyn yn ymwneud â chyllideb Llywodraeth Cymru.
Mark Isherwood: Diolch. Fel y mae Cymorth Cymru nawr yn datgan, mae darparwyr digartrefedd a cymorth tai a chomisiynwyr awdurdodau lleol wedi'u llorio oherwydd diffyg cynnydd yn y grant cymorth tai, mae naw deg tri y cant o ddarparwyr gwasanaethau yn hynod bryderus neu'n bryderus iawn am eu gallu i barhau i ddarparu gwasanaethau, a bydd angen torri gwasanaethau os nad oes cynnydd yn y grant cymorth tai. Fy...
Mark Isherwood: Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos mai Cymru, o dan Lywodraeth Lafur Cymru yn yr achos hwn, sydd â'r gyfradd gyflogaeth isaf ymhlith gwledydd y DU, mai Cymru oedd unig wlad y DU i weld gostyngiad mewn cyflogaeth, ac mai Cymru a welodd y cynnydd mwyaf yn y gyfradd anweithgarwch o gymharu â'r un cyfnod y llynedd. Ond ar 2.8 y cant, roedd cyfradd ddiweithdra De Clwyd yn is na'r ffigur ar...
Mark Isherwood: 4. Pa gymorth sydd ar gael i bobl yng Nghymru gydag osteoporosis? OQ59195
Mark Isherwood: Diolch. Ar Ddiwrnod Osteoporosis y Byd fis Hydref diwethaf, cyfarfûm â'r Gymdeithas Osteoporosis Frenhinol yn y Senedd. Clywais fod pobl yng Nghymru yn dioddef 27,000 o doriadau osteoporotig bob blwyddyn; fod yna 100,000 amcangyfrifedig o doriadau asgwrn cefn na wnaed diagnosis ohonynt yng Nghymru; fod chwarter y bobl yn cael tri neu fwy o doriadau cyn iddynt gael diagnosis; fod problemau...
Mark Isherwood: Pam nad ydych chi wedi cydnabod bod y 'Llywodraeth Dorïaidd bresennol' wedi gwahardd gwerthu ceir a faniau petrol a diesel newydd o 2030 ymlaen, ac y bydd pob car a fan newydd heb unrhyw allyriadau yn y bibell fwg erbyn 2035, sy'n golygu bod angen rhwydwaith ffyrdd ar gyfer y dyfodol, cynllunio nawr a darparu ar gyfer y rhwydwaith hwnnw, o ystyried y nifer o geir technoleg newydd a fydd ar y...
Mark Isherwood: Mae'r astudiaeth o ragamcaniadau traffig ffyrdd cenedlaethol 2022, a gyhoeddwyd gan Adran Drafnidiaeth y DU ym mis Ionawr, yn dangos y gallai traffig ffyrdd yng Nghymru a Lloegr gynyddu cymaint â 54 y cant rhwng 2025 a 2060, gyda chynnydd o 22 y cant o dan y senario graidd, a'r amcangyfrif mwyaf cymedrol yw cynnydd o 8 y cant. Er gwaethaf hyn, o dan yr holl ragamcaniadau, rhagamcanir y bydd...
Mark Isherwood: 8. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru o ran ailstocio coedwigaeth a choetir? OQ59243
Mark Isherwood: Diolch. Mae cefnogaeth eang i gynlluniau ar gyfer coedwig genedlaethol i Gymru, sef rhwydwaith enfawr o goed a choedwigoedd ar draws y genedl sy'n agored i bawb gael eu harchwilio a'u mwynhau. Fodd bynnag, mae coetiroedd yn parhau i gael eu gweld fel nwydd cyhoeddus hyd yn oed pan fydd yn darparu cynefin delfrydol i brif ysglyfaethwyr sy'n ysglyfaethu nythod a chywion, sef y prif beth sy'n...