Canlyniadau 1721–1740 o 2000 ar gyfer speaker:Jane Hutt

7. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (27 Med 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn. Diolch yn fawr, Sioned Williams. Mae hyn yn ymwneud â'n cenedl noddfa; sut yr ydym ni'n gweithio gyda'n gilydd, fel y buom ni bob amser, i gefnogi'r rhai sy'n ffoi, fel y dywedwch, anlladrwydd rhyfel, y terfysg. Rwy'n cofio, o'r cychwyn cyntaf, ymddygiad ymosodol Putin. Fe wnaethom ni siarad am Putin; rydym ni'n meddwl hefyd am y Rwsiaid sydd nawr dan fygythiad ac yn...

7. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (27 Med 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn i Huw Irranca-Davies am yr awgrym yna, y cynnig yna, ond hefyd am eich disgrifiad o sut mae'r grwpiau cymorth hyn—. Ac yn arbennig yn eich cymuned chi, rydych chi wedi dweud wrthyf am grŵp cymorth Maesteg, ond rwy'n credu ledled Cymru i gyd, mae gennym grwpiau tebyg lle mae lletywyr ac Wcreiniaid yn dod at ei gilydd. Ddydd Llun, rwy'n ymweld â chanolfan Wcráin yng...

7. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (27 Med 2022)

Jane Hutt: Byddem wrth ein bodd yn gallu cael yr un math o gymorth gan Lywodraeth y DU ar gyfer y cynllun Teuluoedd o Wcráin, gan eu bod yn darparu ar gyfer y cynllun Cartrefi i Wcráin. Nid yw Llywodraeth y DU wedi rhoi ceiniog tuag at y cynllun teuluol erioed, fel rwy'n siŵr, Mabon, yr ydych chi'n ymwybodol. Rydym ni wedi galw amdano. Mewn gwirionedd, dywedodd y cyn Brif Weinidog, Boris Johnson, yn...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Blaenoriaethau Cyfiawnder Cymdeithasol ( 5 Hyd 2022)

Jane Hutt: Diolch am eich cwestiwn. Rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref a’r Ysgrifennydd Gwladol dros ffyniant bro, gyda Gweinidog yr Alban, Neil Gray MSP, ynghylch Wcráin, ac at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ynglŷn â chynyddu budd-daliadau lles, ac roeddwn yn falch o gael llythyr gan Chloe Smith AS ddoe.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Blaenoriaethau Cyfiawnder Cymdeithasol ( 5 Hyd 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Huw Irranca-Davies, am y ddau bwynt gwirioneddol bwysig hynny yn fy mhortffolio i wahanol Weinidogion yn Llywodraeth y DU. Cyfarfûm â Gweinidog Llywodraeth yr Alban, Neil Gray, yn gynharach heddiw, ac rydym yn deall bellach fod Gweinidog newydd dros ffoaduriaid yn yr adran ffyniant bro, felly rydym yn ysgrifennu ato heddiw i alw eto am gynnydd yn y taliad o £350, sy'n...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Blaenoriaethau Cyfiawnder Cymdeithasol ( 5 Hyd 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn i Altaf Hussain. Rwy’n amlwg yn gweithio’n agos iawn gyda’r comisiynwyr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid ar Fwrdd Partneriaeth Plismona Cymru. Wrth gwrs, mae plismona'n fater a gedwir yn ôl; nid yw wedi’i ddatganoli eto—dyna yr hoffem ei weld. Ac rydym yn gweithio’n agos iawn ar faterion sy'n ymwneud â chydlyniant cymunedol. Rwy'n gobeithio y gwnewch...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Tlodi ( 5 Hyd 2022)

Jane Hutt: Byddwn yn gwario £1.6 biliwn ar gymorth costau byw wedi'i dargedu a rhaglenni cyffredinol i drechu tlodi ac i roi arian yn ôl ym mhocedi pobl. Mae pwyllgor Cabinet newydd ar gostau byw, dan gadeiryddiaeth y Prif Weinidog, wedi’i sefydlu i ganolbwyntio ymdrechion Llywodraeth Cymru ar gefnogi pobl drwy’r argyfwng costau byw.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Tlodi ( 5 Hyd 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Peredur. Wrth gwrs, roedd yr adroddiad gan y cyn bwyllgor cydraddoldeb a llywodraeth leol yn un pwysig, gydag argymhellion y gwnaethom gytuno i fwrw ymlaen â hwy. Ac rwy'n gobeithio eich bod wedi gallu gweld yr adroddiad a gynhyrchwyd, a gomisiynwyd gennym—adolygiad gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru—i ddeall yr ysgogiadau a’r dulliau gorau sydd gennym i fynd...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Tlodi ( 5 Hyd 2022)

Jane Hutt: Wel, fe wyddoch yn iawn mai’r ysgogiadau allweddol ar gyfer trechu tlodi yw pwerau dros y system dreth a lles, a gedwir yn ôl gan Lywodraeth y DU. [Torri ar draws.] A gaf fi atgoffa’r Aelod fod tlodi plant wedi gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn o dan y Llywodraeth Lafur—flwyddyn ar ôl blwyddyn o dan y Llywodraeth Lafur—diolch i ymyrraeth Gordon Brown? Yn ddiddorol, fe soniodd am...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Tlodi ( 5 Hyd 2022)

Jane Hutt: A gaf fi ddweud bod credydau treth, o ran ymatebion Llywodraeth y DU, yn hollbwysig ar gyfer trechu tlodi? Mae Joe Biden yn gwneud hynny yn awr ac yn cael effaith gadarnhaol yn yr Unol Daleithiau. Gostyngodd lefelau tlodi plant o dan Lywodraeth Lafur; mae tlodi plant wedi codi o dan y Llywodraeth glymblaid ac o dan Lywodraethau Torïaidd, a thrwy bolisïau uniongyrchol a bwriadol, gan gynnwys...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 5 Hyd 2022)

Jane Hutt: Wrth gwrs, Llywodraeth Lafur Cymru, yn ei maniffesto, ac yna drwy’r rhaglen lywodraethu, ac o fewn ei blwyddyn gyntaf, a gyflwynodd y cyflog byw gwirioneddol i’n gweithlu gofal cymdeithasol. Cyflog byw gwirioneddol. Hefyd, mae'n rhaid imi ddweud, yn ychwanegol at y cyflog byw, mae cyllid wedi'i ddarparu i'n gweithlu gofal cymdeithasol, fel y gwyddoch, ac yn wir, nid yn unig yn y flwyddyn...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 5 Hyd 2022)

Jane Hutt: Nid wyf yn gwybod a glywsoch chi fy ymatebion i gwestiynau cynharach, Mark Isherwood. Fe ddywedais, ac rwyf am ailadrodd, fod lefelau tlodi plant wedi gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn o dan y Llywodraeth Lafur, a'u bod wedi codi flwyddyn ar ôl blwyddyn dros y 12 mlynedd diwethaf o dan y Llywodraeth glymblaid a Llywodraethau Torïaidd, o ganlyniad i bolisïau uniongyrchol a bwriadol. A...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 5 Hyd 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood. Cyn imi ateb y cwestiwn hwnnw, hoffwn ddweud, o ran y rhaglenni trechu tlodi plant, fod cyflwyno prydau ysgol am ddim i ddisgyblion ysgolion cynradd—fel rhan o’n cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, gan weithio gyda llywodraeth leol—yn golygu bod yr ymrwymiad i bob disgybl ysgol gynradd gael pryd ysgol am ddim erbyn 2024 eisoes wedi golygu, ers...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 5 Hyd 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Sioned Williams. Wrth gwrs, atebodd y Prif Weinidog y cwestiwn hwn gan eich arweinydd ddoe, a gwnaeth sylwadau ar Fil Costau Byw (Amddiffyn Tenantiaid) (Yr Alban) Llywodraeth yr Alban, sydd gerbron Senedd yr Alban. A hefyd, roedd yn cydnabod, yn ei ymateb i hynny, yn enwedig mewn perthynas ag amddiffyn tenantiaid cymdeithasol yng Nghymru, er enghraifft, dros y gaeaf rhag...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 5 Hyd 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Sioned Williams. Mae’r rhain yn faterion hollbwysig o ran rhoi'r arian ym mhocedi pobl ac yn eu cyfrifon. Fe wyddoch ein bod yn datblygu ac yn gweithio gyda sefydliadau fel Sefydliad Bevan ar siarter fudd-daliadau i Gymru, a hefyd yn gweithio gyda llywodraeth leol i sicrhau bod budd-daliadau'n cael eu pasbortio—fod budd-daliadau'n cael eu symleiddio. Yfory, byddaf yn...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Tlodi Plant ( 5 Hyd 2022)

Jane Hutt: Diolch am eich cwestiwn. Llywodraeth y DU sydd â'r ysgogiadau allweddol ar gyfer trechu tlodi plant—sef pwerau dros y system dreth a lles—a byddwn yn parhau i wneud popeth a allwn gyda’r pwerau sydd gennym i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau a gwella canlyniadau i holl blant Cymru fel y gallant gyflawni eu potensial.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Tlodi Plant ( 5 Hyd 2022)

Jane Hutt: Diolch am eich cwestiynau pwysig iawn. Mae’r ffordd yr ydym yn ceisio trechu tlodi gyda’n pwerau'n ymwneud â dulliau gweithredu cyffredinol, megis prydau ysgol am ddim i bob disgybl, a fydd yn helpu llawer o’r rheini sydd ar ffin amddifadedd neu sy’n ei chael hi’n anodd ar yr adeg hon yn ariannol. Dylwn ddweud, yng Nghyngor Sir Powys, fod hyn mewn gwirionedd bellach yn golygu bod...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Tlodi Plant ( 5 Hyd 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr, Jane Dodds. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn ystyried hwn yn fater i Gymru gyfan—cefn gwlad, trefol, ac nid y rhai mwyaf difreintiedig yn unig, ond pob teulu sy'n profi tlodi ac anfantais. Mae'n mynd yn ôl i'r cwestiwn enfawr hwn sef o ble y daw'r £45 biliwn ar gyfer toriadau treth, sy'n mynd i fod o fudd i'r mwyaf cyfoethog, oherwydd os daw o wasanaethau cyhoeddus...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y Sector Wirfoddol ( 5 Hyd 2022)

Jane Hutt: Diolch am y cwestiwn, Paul. Rwyf wedi rhoi cytundeb ariannu tair blynedd o £6.98 miliwn y flwyddyn i Cefnogi Trydydd Sector Cymru. Ac mewn ymateb i'r argyfwng costau byw, gallaf gyhoeddi £2.2 miliwn ychwanegol heddiw i barhau i gefnogi'r seilwaith dros y tair blynedd nesaf i helpu i ddiogelu'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y Sector Wirfoddol ( 5 Hyd 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn. Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod wedi canolbwyntio ar y grant cydraddoldeb a chynhwysiant. Rydym wedi ymgynghori'n eang ynglŷn â hyn er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gallu cyrraedd y rheini. Wrth gwrs, mae yna lawer o sefydliadau a hoffai elwa o'r rhaglen cydraddoldeb a chynhwysiant, felly gallaf eich sicrhau ein bod yn bwrw ymlaen â hyn ac y bydd trefniadau ymgeisio...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.