Jane Hutt: Diolch am y cwestiwn. Mae'r mesurau a gyhoeddwyd yn natganiad y Canghellor yn annheg. Maent yn methu darparu cefnogaeth i'r bobl fwyaf agored i niwed, gan ddarparu budd sylweddol i'r bobl gyfoethocaf ar yr un pryd. Bydd hyn yn golygu y bydd mwy o gartrefi yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd talu costau ynni ac eitemau hanfodol eraill, gan arwain at lefelau uwch o dlodi.
Jane Hutt: Wel, mae hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn, Carolyn Thomas, ac mae'n dilyn yr hyn yr oedd Russell George yn ei ddweud yn gynharach: sut y gallwn wneud yn siŵr fod y budd-daliadau sydd gennym yn cyrraedd y bobl sydd â hawl iddynt? Rydym yn gwybod bod llawer eisoes—rwyf wedi dweud, rwy'n credu, fod rhywfaint o'r grant cymorth tanwydd gwerth £200 yn mynd yn syth i gyfrifon, oherwydd bod pobl...
Jane Hutt: Rwy'n rhyfeddu bod gennych wyneb i siarad yn y ffordd honno, Janet Finch-Saunders, pan fo gennym ni bobl yng Nghymru nawr nad ydynt yn gallu rhoi eu trydan ymlaen, nad ydynt yn gwybod o ble y byddant yn cael eu pryd nesaf, o ganlyniad i'ch Llywodraeth [Torri ar draws.] Nid wyf am ailadrodd popeth—rwy'n siŵr y bydd y Llywydd yn fy atal beth bynnag—ond ble y maent hwy am ddod o hyd i'r...
Jane Hutt: Diolch am y cwestiwn. Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth i leihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yng ngogledd Cymru. Er bod plismona'n fater a gedwir yn ôl ar hyn o bryd, rydym yn gweithio'n agos â chydweithwyr plismona ar faterion strategol ac yn ariannu 600 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu i ddiogelu cymunedau ar draws Cymru.
Jane Hutt: Diolch, Sam Rowlands. Fel y dywedwch, mae swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn chwarae rhan mor hanfodol yn hyrwyddo diogelwch cymunedol a mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a gweithredu fel clustiau a llygaid ar lawr gwlad i heddluoedd. Ond mae hefyd yn ymwneud â chysylltiadau lleol ac mae cymaint o'r cysylltiadau lleol hynny gydag awdurdodau lleol, gyda'u gwasanaethau...
Jane Hutt: Diolch, Rhys ab Owen. Cafodd ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' ei lansio ym mis Mehefin. Rwyf wedi gofyn i'r cyhoedd a'r trydydd sector yng Nghymru weithio gyda ni i gyflawni'r cynllun ac rydym wedi sefydlu uned gwahaniaethau ar sail hil fel un o'n camau gweithredu cyntaf.
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Rhys ab Owen. Mae'n rhaid imi ddweud bod yna lawer sy'n cael ei wneud, nid yn unig yn fy mhortffolio i, ond yn sicr ym mhortffolio Dawn Bowden hefyd yng nghyd-destun treftadaeth, diwylliant, celf a chwaraeon. Nid wyf yn gwybod a lwyddoch chi i ymweld ag arddangosfa Ailfframio Picton yn yr amgueddfa genedlaethol, a ddydd Sadwrn, agorais ddigwyddiad lansio Hanes Pobl Dduon 365....
Jane Hutt: The Welsh Government has recently received a final BSL audit report from the British Deaf Association, which sets out recommendations across several portfolio areas. We are keen to adopt as many as we can now and to ensure that there is integration with the work of the disability rights taskforce.
Jane Hutt: The Commission on Race and Ethnic Disparities was commissioned by the UK Government. The Welsh Government undertook its own assessment of the evidence and lived experience on racism. This informed our 'Anti-racist Wales Action Plan', which sets out how we will proactively tackle institutional, structural and systemic racism.
Jane Hutt: Early collaboration with officials working for HM Revenue and Customs, the Department for Work and Pensions and local authorities means that we are able to ensure that every penny of our help with the cost of living stays in the pockets of the people it is intended to help.
Jane Hutt: We are working with local government and the third sector to prioritise move-on to support Ukrainians into more settled, longer term accommodation. We have agreed a pan-Wales response, with all local authorities keen to play their part in offering accommodation fairly and proportionately in line with the framework for accommodation.
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o gael y cyfle hwn i arwain y ddadl bwysig hon gyda'r Aelodau ar adroddiad blynyddol y comisiynydd plant ar gyfer 2021-22. Mae adroddiad blynyddol y comisiynydd yn rhoi sylw annibynnol blynyddol ar anghenion plant a'u hawliau, ac yn sicrhau ein bod ni’n cynnal pwyslais cyfunol arnyn nhw. Mae'r adroddiad hwn yn gyfle i ni fyfyrio ar y cynnydd...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch, bawb. Diolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu i'r ddadl hon ar adroddiad blynyddol y comisiynydd plant. Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth barhaus i gadw hawliau plant mor uchel ar agenda Llywodraeth Cymru. Felly, diolch i aelodau o bob rhan o'r Siambr am eich cydnabyddiaeth o waith yr Athro Sally Holland a'r rôl a'r dylanwad pwysig a gafodd...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch i chi am roi cyfle i mi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am ein gwaith parhaus i gefnogi pobl o Wcráin sy'n chwilio am noddfa yng Nghymru. Pan wnes i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ddiwethaf ym mis Medi, roedd Cymru wedi croesawu ychydig dros 5,600 o Wcreiniaid i Gymru o dan gynllun Cartrefi i Wcráin, gan gynnwys o dan ein llwybr uwch-noddwr. Mae rhai...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Mark, a diolch i chi hefyd am roi diweddariadau a mewnwelediadau i mi bob amser o'r gwaith sydd wedi'i wneud yn y gogledd, yn enwedig mewn cysylltiad â'r ymgysylltiadau trydydd sector a'r awdurdodau lleol. Rwy'n gobeithio y gallwn sefydlu perthynas waith newydd dda gyda'r Llywodraeth newydd, y Cabinet newydd a fydd yn cael ei gyhoeddi dros y dyddiau nesaf. Fe gyfeirioch...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Sioned Williams, a diolch am y cwestiynau pwysig yna. Rwy'n credu, yr hyn rwy'n ceisio ei amlygu, am wn i, yw ein bod ni'n gweithio, nid yn unig gyda ein gwesteion Wcreinaidd ond ein partneriaid awdurdod lleol i ddod o hyd i ffordd y gallwn ni sicrhau y gallwn ddarparu'r gefnogaeth gychwynnol honno drwy ein cynllun arch-noddwr yn ein canolfannau croeso ledled Cymru, a hefyd,...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Jane Dodds. Hefyd, mae'n dda iawn clywed am gynnydd y ffoadures honno y gwnaethoch chi ei chyfarfod ar y stondin mor ddiweddar, a'r hyn a fu ei phrofiad—rhoi genedigaeth mewn lloches fomiau yn Kyiv—sy'n pwysleisio pa mor bwysig yw hi ein bod ni'n parhau gyda'n cefnogaeth fel uwch-noddwr ac fel cenedl noddfa. Ac mae cymaint ohonom ar draws y Siambr hon wedi cwrdd â phobl...
Jane Hutt: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon ar y cynnig ar gyfer Bil manteisio ar fudd-daliadau. Rwy'n croesawu'r cyfle y mae'r ddadl hon yn ei roi i adrodd ar y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau ac i adrodd ar y ffyrdd rydym yn gyrru hyn yn ei flaen, mewn cydweithrediad â'n hawdurdodau lleol, yn enwedig. Ni fu...
Jane Hutt: Mae ymwybyddiaeth o'r cymorth ariannol sydd ar gael, boed wedi'i ddatganoli neu heb ei ddatganoli, yn cynyddu mewn cartrefi ar draws Cymru oherwydd llwyddiant ymgyrchoedd fel 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi'. Mae dros 9,000 o bobl hyd yma yn cael cymorth i hawlio dros £2.6 miliwn o incwm ychwanegol yn yr adroddiadau diweddaraf, ac rwy'n diolch i'n partneriaid, gan gynnwys awdurdodau...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn. Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ymestyn cynllun y tocyn croeso i ffoaduriaid tan fis Mawrth 2023. Mae gweithgor wedi’i sefydlu i fwrw ymlaen â rhaglen waith ar gyfer y cynllun trafnidiaeth am ddim a’r gwaith y bydd angen ei wneud y tu hwnt i fis Ebrill 2023.