Alun Davies: Rydym yn cydnabod y bydd cau safle Wern Fawr yn arwyddocaol, ond ni ddylai arwain at golli cyrsiau ar gyfer oedolion sy’n ddysgwyr. Mae Addysg Oedolion Cymru, ynghyd â swyddogion, yn parhau i weithio gyda’r gymuned i gyflwyno darpariaeth dysgu oedolion yn nhraddodiad Coleg Harlech.
Alun Davies: A gaf i ddechrau drwy gytuno â’r pwynt mae’r Aelod wedi ei wneud amboutu traddodiadau Coleg Harlech a gwaith a chyfraniad Coleg Harlech? Rydw i’n credu bod pob un ohonom ni sydd wedi ymweld â’r coleg a phob un ohonom ni sydd wedi eistedd yn y Siambr yma yn cynrychioli ardal Harlech yn deall ac yn cydnabod y cyfraniad mae wedi ei wneud i addysg gydol oes dros y blynyddoedd. Rydw...
Alun Davies: Mae Estyn yn llwyr gyfrifol am gynllunio eu gwaith arolygu. Mae’r arolygiaeth yn cyflwyno newidiadau i drefniadau arolygu ar gyfer ysgolion a darparwyr eraill o fis Medi 2017 ymlaen er mwyn helpu i ysgogi gwelliant a chefnogi arloesedd. Mae’r arolygiaeth wrthi’n datblygu trefniadau arolygu newydd hefyd ar gyfer gwasanaethau addysg awdurdodau lleol.
Alun Davies: Mae’n bwysig cydnabod, pe bai hynny’n wir, efallai y byddai gan bobl bryderon, ond gadewch i mi ddweud hyn: mae Estyn yn parhau i gyfarfod ag awdurdodau lleol, awdurdodau addysg lleol, er mwyn parhau i gynnal trafodaethau gyda hwy am y math o gymorth sydd ei angen arnynt; mae’r cynadleddau gwella sydd wedi’u cynnal ledled Cymru ar hyn o bryd yn cael eu cynllunio i edrych eto ar y...
Alun Davies: Rydw i’n gobeithio y bydd y gefnogaeth sydd ei hangen ar ysgolion arbennig yn cael ei chynnig gan y consortia ac eraill lle mae hynny yn angenrheidiol. Rydw i’n deall ac yn derbyn y pwynt sydd wedi cael ei wneud gan yr Aelod, ac rydw i’n meddwl bod y system o adolygu sydd gennym ni yn un sy’n gryf ac yn gweithio, ac oherwydd hynny rydym ni’n deall y sefyllfa a fydd gan rai ysgolion...
Alun Davies: Mae band B y rhaglen addysg ac ysgolion yr unfed ganrif ar hugain wedi cael ei gynllunio ar gyfer y cyfnod 2019-24, ac mae’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda’n partneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, awdurdodau esgobaethol a’r sector addysg bellach i ddeall y galw am fuddsoddiad a phrosiectau allweddol.
Alun Davies: Mae’r Aelod yn gwbl gywir i bwysleisio’r buddsoddiad sydd wedi digwydd mewn ysgolion ledled Cymru. Mae band A wedi gweld dros 150 o ysgolion a cholegau ledled Cymru yn cael eu hailadeiladu a’u hadnewyddu. Mae hwnnw’n fuddsoddiad go iawn yn addysg plant a phobl ifanc ar gyfer y dyfodol. Bydd yr ail don yn dechrau—bydd band B yn dechrau yn 2019 ac yn para am gyfnod o bum mlynedd hyd...
Alun Davies: Byddwn yn ei chael yn anodd iawn anghytuno â hynny.
Alun Davies: Yn amlwg, mater i’r awdurdod addysg yn y ddinas yw hwnnw. Yr hyn a ddywedaf yw bod disgwyl i bob awdurdod addysg ddarparu addysg gydlynol drwy gydol y dydd a thrwy gydol y cyfnodau hyn ar gyfer y plant a’r bobl ifanc y maent yn darparu addysg iddynt.
Alun Davies: Mae cylchoedd Ti a Fi, grwpiau rhieni a babanod cyfrwng Cymraeg, yn rhan bwysig o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg y blynyddoedd cynnar a gefnogir gan y Mudiad Meithrin. Rydym am sicrhau bod llwybr clir o gymorth i rieni ddefnyddio’r Gymraeg gyda’u plant, gyda’r nod o weld niferoedd cynyddol yn cael addysg cyfrwng Cymraeg.
Alun Davies: Rydw i’n diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae yna becyn o gefnogaeth i gylchoedd Ti a Fi, sydd wedi cael ei gyhoeddi yn ystod hydref y llynedd, ac mae hynny yn cynnig cyngor ac enghreifftiau o ymarfer da i sicrhau bod grwpiau sy’n bodoli yn barod, a grwpiau newydd, yn gallu cael eu cefnogi a’u creu. Yn ychwanegol at hynny, mae yna grant o £1.4 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf,...
Alun Davies: Dylwn i ddiolch i’r Aelod am yrru copi o’r ddogfen i mi. Nid ydw i wedi cael cyfle i’w darllen hi eto, ond mi fyddaf i’n ei wneud e dros y penwythnos, efallai. Rydw i’n gwerthfawrogi hynny. A gaf i ddweud hyn? Mi fydd y strategaeth iaith yn strategaeth Llywodraeth, nid strategaeth unrhyw adran neu adran benodol. Mi fydd y strategaeth yn cael ei datblygu ar draws y Llywodraeth, yn...
Alun Davies: Rwy’n credu mai un o’r pethau mwyaf ysbrydoledig rydym wedi’i weld yn y blynyddoedd diwethaf yw’r twf yn y brwdfrydedd dros yr iaith yn y rhannau o ogledd-ddwyrain Cymru rydych yn eu cynrychioli, nad ydynt wedi bod, yn draddodiadol, yn ardaloedd Cymraeg eu hiaith. Rwy’n cofio mai un o fy ymweliadau cyntaf fel Gweinidog yn y Cynulliad hwn oedd â’r Eisteddfod yn Sir y Fflint....
Alun Davies: Trosglwyddodd y cyfrifoldeb dros dalu’r grant ffioedd dysgu o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i Lywodraeth Cymru o 1 Ebrill 2015 ymlaen. Roedd yr addasiad technegol o £21.1 miliwn yn gadarnhad o drosglwyddiad terfynol y gyllideb wedi’i chlustnodi a amlinellwyd yn y llythyr cylch gwaith gweinidogol ar gyfer 2016 i CCAUC.
Alun Davies: Lywydd, mae’r Aelod o leiaf yn gyson yn gofyn yr un cwestiwn i nifer o wahanol Weinidogion a phwyllgorau ar wahanol adegau, ond byddaf yn siomi’r Aelod drwy roi’r un ateb ag y mae’r Gweinidogion hynny eisoes wedi’i roi iddo. Mae wedi derbyn ei lythyr ar 15 Mawrth. Rwy’n hapus iawn, Lywydd, i brofi eich amynedd eto a’i ddarllen yn ei gyfanrwydd ar gyfer y cofnod, ond nid wyf yn...
Alun Davies: Wel, rydych yn ymwybodol, drwy’r sgyrsiau a gawsom yma o’r blaen, ein bod yn rhyddhau’r arian y mae CCAUC ei angen er mwyn darparu’r math o brofiad addysg uwch a buddsoddiad rydym am ei gyflawni yng Nghymru. Ond gadewch i mi ddweud hyn: rwy’n credu bod angen i ni fynd gam ymhellach, weithiau, na dim ond ariannu’r ystad a’r sefydliad addysg uwch er mwyn cyflawni’r pethau hynny....
Alun Davies: Cafodd y fframwaith cymhwysedd digidol ei chyflwyno i ysgolion a lleoliadau ym mis Medi 2016. Mae ysgolion a lleoliadau ar hyd a lled Cymru yn cael eu helpu i ddatblygu’r gwaith o gyflwyno’r fframwaith drwy’r arloeswyr digidol a’r consortia rhanbarthol.
Alun Davies: Cytunaf â’r pwynt sylfaenol y mae’r Aelod yn ei wneud, fod yn rhaid i bob ysgol gael mynediad cyfartal at fand eang er mwyn sicrhau bod y disgyblion yn gallu manteisio ar y cyfleoedd hyn, a ddylai fod ar gael iddynt. Nid oes gan 23 o ysgolion ar hyn o bryd y band eang cyflym iawn sy’n angenrheidiol. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd mynediad cyfartal. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi...
Alun Davies: Rydym ni wedi amlinellu ein hymgyrch genedlaethol i godi lefelau cyrhaeddiad addysg drwy raglen o ddigwyddiadau addysgol ledled Cymru, yn cynnwys sir Benfro. Yn eu plith, mae datblygu cwricwlwm newydd a diwygio proses asesu, gwella addysg gychwynnol athrawon, dysgu proffesiynol ymhlith athrawon, meithrin arweinwyr, a lleihau’r bwlch cyrhaeddiad.
Alun Davies: Rydw i’n credu bod pob un ohonom ni’n croesawu’r newyddion y mae Paul wedi eu rhannu â ni. A gaf i ddweud hyn? Mae’r Cynulliad ei hun, wrth gwrs, yn rhedeg cynlluniau arbennig o dda, ac rydw i wedi gweld llwyddiant cynlluniau Comisiwn y Cynulliad yn ysgolion Blaenau Gwent, yn fy etholaeth fy hun, sydd wedi derbyn cyfleoedd i ymweld â’r Senedd a hefyd i ddod i ddysgu mwy...