Rhianon Passmore: Dewch inni fod yn glir am y cyd-destun: yn ddiweddar, cawsom etholiad cyffredinol sydd wedi diberfeddu’r Llywodraeth Dorïaidd hon. Mae ei mwyafrif wedi cael ei ddinistrio ac mae awdurdod Theresa May wedi cael ei chwalu. Mae'n anodd erioed cofio ymgyrch lle mae Prif Weinidog wedi ceisio mynd ati i frwydro ymgyrch heb gwrdd â'r cyhoedd nac ateb dim cwestiynau. Roedd hi'n rhyfedd gweld y...
Rhianon Passmore: Rwyf finnau hefyd yn croesawu’r ddadl hon gan fy nghyd-Aelodau Llafur, Huw Irranca-Davies a Jeremy Miles. Mae’n tynnu sylw at y gwaith da y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi’i wneud eisoes yn ymarferol, ac yn ein herio i barhau a datblygu’r gwaith hwn fel blaenoriaeth genedlaethol ar gyfer Cymru. Ers 2011, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi buddsoddi mwy na £270 miliwn yng nghynllun...
Rhianon Passmore: Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel cyn-ddarlithydd gwadd fy hun a chyn-gyfarwyddwr mewn addysg bellach, ond yn bwysicaf oll fel mam, rwyf finnau hefyd yn croesawu’r ddadl hon. Gall pobl Cymru fod yn sicr y bydd Plaid Lafur Cymru—plaid y lliaws ac nid yr ychydig—yn diogelu, yn hyrwyddo ac yn cynyddu cyfleoedd addysgol ar gyfer ein cenedl. Efallai y gallai fod yn werth bwrw golwg ar y cyd dros y...
Rhianon Passmore: Gwnaf.
Rhianon Passmore: Mae’n iawn ein bod yn buddsoddi yn y cyngor gyrfaoedd cywir ar draws Cymru, ac rwy’n falch ein bod yn symud i’r cyfeiriad cywir hwnnw. Felly, rwy’n ddiolchgar am welliant Llywodraeth Cymru sy’n cydnabod yn llawn pa mor hanfodol bwysig yw dysgu oedolion a chefnogi datblygu sgiliau i bobl o bob oed. Yn yr un modd, fel oedolyn sy’n dysgu fy hun, i gloi, ni fyddwn yn sefyll yma heddiw...
Rhianon Passmore: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gynyddu mynediad i gefn gwlad yn ne-ddwyrain Cymru?
Rhianon Passmore: Prif Weinidog, yn 2015 dechreuodd siopau a manwerthwyr bach weithredu ar yr un sail â busnesau mawr wrth iddi ddod yn anghyfreithlon iddyn nhw arddangos sigaréts a thybaco yn gyhoeddus. Ar y pryd, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford, bod ysmygu yn dal i achosi tua 5,450 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn. Bydd tua hanner yr holl ysmygwyr rheolaidd yn...
Rhianon Passmore: Diolch, Llywydd. Hoffwn innau hefyd groesawu’n fawr y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ganmol y dull angerddol ac ymrwymedig o ymdrin â’r maes cyfrifoldeb pwysig hwn y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i gymryd bob tro? Mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth, a nodaf yn y...
Rhianon Passmore: Fel cyn-gynghorydd, gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn cydymdeimlo’n fawr â’r llu o ofynion y mae troseddau amgylcheddol lefel isel yn eu hychwanegu at lwyth achosion cynghorwyr lleol. A thu hwnt i bortffolio o ymatebion awdurdodau lleol a grybwyllwyd eisoes gan Ysgrifennydd y Cabinet, gan gynnwys achosion llys, gall y defnydd o hysbysiadau cosb benodedig...
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: Diolch. A fyddech chi’n ystyried y ffaith y byddai tlodi, heb blethora o strategaethau gwrthdlodi ledled Cymru, gan gynnwys yr un hon, yn parhau i fod ar lefel lawer gwaeth o ganlyniad i galedi, o ganlyniad i doriadau i grant bloc Cymru, ac oherwydd y dadfuddsoddi creulon yn y system les?
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: A fyddech yn ystyried y ffaith fod dull rheoleiddio ysgafn iawn Llywodraeth y DU o ran cyflogaeth wedi creu hollt helaeth o ran contractau dim oriau, rhai sy’n gweithio dwy neu dair o swyddi, a bod anallu’r rhwyd les i ddiogelu’r rheiny wedi effeithio’n anfwriadol ac yn amhriodol ar bobl Cymru oherwydd eu tuedd i hawlio lles?
Rhianon Passmore: Rwy’n croesawu’n fawr y gwelliant gan Lywodraeth Cymru i’r ddadl hon sy’n croesawu’r tasglu gweinidogol ar gyfer Cymoedd de Cymru sy’n cynnwys fy etholaeth, sef Islwyn. Yr wythnos diwethaf yn unig, roeddwn yn sefyll yng ngorsaf drenau Trecelyn gyda’r Aelod dros Orllewin Casnewydd a chynrychiolwyr o Network Rail a Threnau Arriva i drafod cynnydd y buddsoddiad o £38 miliwn yn...
Rhianon Passmore: [Yn parhau.]—£503 miliwn, ac fe’i dywedaf eto, gan fy mod wedi cael caniatâd i’w ddweud eto, £503 miliwn tuag at fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd sy’n werth £1.2 biliwn. Bydd y fargen drawsffurfiol yn gwella trafnidiaeth gyhoeddus y Cymoedd ac yn creu 25,000 o swyddi newydd, gan adael £4 biliwn ychwanegol mewn buddsoddiad sector preifat. A hoffwn gofnodi fy...
Rhianon Passmore: Mae rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru, 'Symud Cymru Ymlaen', yn cynnwys ymrwymiad i ad-drefnu cymorth cyflogadwyedd i unigolion sy'n barod am swyddi ac i’r rhai sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur. Mae'n bwysig cydnabod nad yw cyflogadwyedd yn golygu swyddi a sgiliau yn unig, mae'n ymwneud â chael pob agwedd ar bolisi addysg y Llywodraeth—addysg, iechyd, tai, cymunedau—yn...
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: 4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod addysg gerddoriaeth yn hygyrch i bawb? OAQ(5)0152(EDU)
Rhianon Passmore: Diolch. Mae gan Gymru sefydliadau o safon fyd-eang sy’n ennyn parch ym mhob cwr o’r byd megis Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Opera Cenedlaethol Cymru a chonservatoire Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Caiff hyn ei gefnogi’n fedrus gan Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Tŷ Cerdd, sydd hefyd yn gweinyddu’r Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru elitaidd, dawns...
Rhianon Passmore: Mi wnaf. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno ei bod yn bryd gwarchod ein strwythurau yng Nghymru, a’u diogelu ar gyfer y dyfodol? A fyddai’n cytuno â mi y byddai Cymru’n elwa’n fawr o strategaeth drosfwaol genedlaethol ar berfformio cerddoriaeth, model cyflawni i gynnwys hyfforddiant offerynnol ledled Cymru heb ystyried incwm, cyfoeth na braint?