Canlyniadau 161–180 o 700 ar gyfer speaker:Lynne Neagle

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Contractau preswyl lesddaliad (31 Ion 2018)

Lynne Neagle: Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd, am y cyfle i gyfrannu at y ddadl. Mae hwn yn fater pwysig ac rwy'n falch iawn ein bod yn cael cyfle i'w drafod heddiw. Er bod y cynnig heddiw yn sôn am eiddo a adeiladir o'r newydd, roeddwn am godi mater lesddeiliaid sydd wedi prynu hen dai cyngor neu dai cymdeithasol, ac yna wedi wynebu biliau mawr iawn i sicrhau eu bod yn cyrraedd y safon. Rwyf wedi...

7. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Iechyd Meddwl Amenedigol yng Nghymru (31 Ion 2018)

Lynne Neagle: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar iechyd meddwl amenedigol. Mae salwch meddwl amenedigol yn effeithio ar hyd at un o bob pump menyw yng Nghymru. Gydag oddeutu 33,000 o enedigaethau y flwyddyn, mae hynny'n golygu bod hyd at 6,600 o fenywod yng Nghymru yn cael problemau iechyd meddwl a achosir neu a waethygir...

7. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Iechyd Meddwl Amenedigol yng Nghymru (31 Ion 2018)

Lynne Neagle: Y rheswm sylfaenol pam y dewisodd ein pwyllgor ystyried y pwnc hwn yw'r ffaith y gall salwch meddwl amenedigol effeithio ar blant. Profwyd bod y 1,000 o ddyddiau cyntaf o fywyd plentyn, o feichiogrwydd i ail ben-blwydd y plentyn, yn gyfnod allweddol o amser sy'n gosod y llwyfan ar gyfer datblygiad yr unigolyn a'i iechyd gydol oes. Mae'n gyfnod o botensial enfawr, ond o fregusrwydd enfawr...

7. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Iechyd Meddwl Amenedigol yng Nghymru (31 Ion 2018)

Lynne Neagle: Er ein bod yn derbyn y bydd y gwasanaethau mwyaf arbenigol weithiau'n ei gwneud hi'n ofynnol i gleifion deithio, mae ein hadroddiad yn glir fod angen datblygu uned mamau a babanod yng Nghymru. Galwodd argymhelliad 6 ar Lywodraeth Cymru i sefydlu uned mamau a babanod yn ne Cymru, wedi'i chomisiynu a'i hariannu ar sail genedlaethol i ddarparu gwasanaethau i Gymru gyfan ac wedi'i staffio'n...

7. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Iechyd Meddwl Amenedigol yng Nghymru (31 Ion 2018)

Lynne Neagle: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n mynd i orfod bod yn gyflym iawn oherwydd nid oes gennyf lawer o amser, felly ni fyddaf yn gallu ymateb i bwyntiau pawb, ond diolch i bawb sydd wedi cyfrannu, ac mae'n wych gweld y fath amrywiaeth o siaradwyr ar draws y Siambr ar y pwnc pwysig hwn. Rwyf am geisio mynd ar drywydd rhai o'r pwyntiau o'r ddadl. Cyfeiriodd Darren Millar at bwysigrwydd triniaethau...

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (31 Ion 2018)

Lynne Neagle: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr ymdrechion i wella safonau ysgolion yn Nhorfaen?

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru ( 6 Chw 2018)

Lynne Neagle: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi teuluoedd sy'n Sipsiwn a Theithwyr mewn addysg?

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu (14 Chw 2018)

Lynne Neagle: Rwy'n falch o gyfrannu'n fyr i'r ddadl hon. Nawr, nid wyf yn honni fod gennyf y math o wybodaeth fanwl a thechnegol a ddangoswyd gan rai o'n siaradwyr eraill y prynhawn yma, ond gwn fy mod wedi ymdrin â llif cyson iawn o gwynion am ffyrdd heb eu mabwysiadu yn fy 19 mlynedd fel Aelod Cynulliad dros Dorfaen. Nawr, mewn rhai achosion, mae'r ffyrdd hyn wedi bod mewn cyflwr gwirioneddol...

6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar unigrwydd ac unigedd (14 Chw 2018)

Lynne Neagle: Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd, am y cyfle i gyfrannu at y ddadl. Gallai unigrwydd ac unigedd fod wedi cael eu gweld fel pynciau ymylol ychydig flynyddoedd yn ôl, ac rwy'n falch o fod wedi rhoi blaenoriaeth iddynt yn y pwyllgor iechyd a bod ymwybyddiaeth gynyddol ymhlith y cyhoedd o'r niwed y gall unigrwydd ei wneud i'n hiechyd. Rydym i gyd yn dod yn gyfarwydd ag effaith iechyd cyhoeddus...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Iechyd Meddwl (14 Chw 2018)

Lynne Neagle: Rwy'n siarad y prynhawn yma yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd  Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad. Yn ddiweddar fe gynhaliwyd ymchwiliad cynhwysfawr gennym i iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc yng Nghymru. Yfory, byddwn yn cynnal ein sesiwn tystiolaeth lafar olaf, ac yn clywed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y...

8. Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2016-17 ( 6 Maw 2018)

Lynne Neagle: Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at y ddadl am adroddiad blynyddol Estyn. Mae'n bwysig bod y Cynulliad yn cael cyfle i graffu ar waith y prif arolygydd, yn y ddadl flynyddol hon ac yn y pwyllgor. Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei hun yn cymryd tystiolaeth gan y prif arolygydd am yr adroddiad blynyddol yr wythnos nesaf, ac rwy'n siŵr y bydd yr hyn a ddywedwyd yn y ddadl...

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ( 7 Maw 2018)

Lynne Neagle: Pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i wella deilliannau addysgol ar gyfer plant Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru?

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (13 Maw 2018)

Lynne Neagle: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y pecyn cymorth sydd ar y gweill i ddatblygu dull cenedlaethol o fynd i'r afael ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol, i'w ddefnyddio gan ddarparwyr tai cymdeithasol yng Nghymru?

9. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon (14 Maw 2018)

Lynne Neagle: Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar addysg a dysgu proffesiynol athrawon. Rwy'n credu mai ansawdd yr addysgu yn ein hysgolion yw elfen bwysicaf addysg ein plant. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac Estyn wedi sicrhau nad oes gan unrhyw un unrhyw amheuon ynglŷn â pha mor bwysig yw addysgu o...

9. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon (14 Maw 2018)

Lynne Neagle: Diolch i chi, Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma, a diolch hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb? Fe geisiaf ymdrin â rhai o'r prif bwyntiau a wnaed gan yr Aelodau. Rwy'n croesawu atgyfnerthiad Darren Millar o'r neges fod rôl athrawon ac ansawdd addysgu yn hanfodol os ydym yn mynd i wella safonau yn ein hysgolion. Mae honno'n...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwella Iechyd Plant (20 Maw 2018)

Lynne Neagle: 8. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru'n gweithio i wella iechyd plant yng Nghymru? OAQ51964

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwella Iechyd Plant (20 Maw 2018)

Lynne Neagle: Diolch i chi, Prif Weinidog. Un o'r heriau iechyd mwyaf y mae plant yn ei hwynebu yng Nghymru yw gordewdra ymhlith plant, ac mae gan Gymru rai o'r cyfraddau gwaethaf yn y DU ac, yn wir, yng ngorllewin Ewrop. Felly, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn dechrau mynd i'r afael â'r broblem honno. Nawr, mae wedi dod i'm sylw i y bydd Cymru, dros y tair blynedd nesaf, yn derbyn £57 miliwn o ganlyniad...

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Llywodraeth Leol (20 Maw 2018)

Lynne Neagle: Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n gwybod eich bod yn ymwybodol iawn o'm pryderon dwfn iawn i am effaith ceisio ailstrwythuro llywodraeth leol ar raddfa eang yn ystod cyfnod o gyni. A gaf i achub ar y cyfle hwn i atgoffa Ysgrifennydd y Cabinet bod Torfaen yn y Cynulliad diwethaf wedi cyflwyno cynnig ar gyfer uno gwirfoddol, a gafodd ei wrthod? Felly, does dim diffyg...

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Tai ac Adfywio (21 Maw 2018)

Lynne Neagle: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarparu tai cymdeithasol yn Nhorfaen?


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.