Jack Sargeant: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Fel y gwyddoch, mae hwn yn bwnc yr ydym ni wedi ei drafod o'r blaen, ond nid cysyniad amwys yw caredigrwydd, mae'n allweddol mewn gwirionedd i'r ffordd y caiff gwasanaethau iechyd eu darparu. Mae'n ymwneud â sicrhau bod amgylchiadau unigol yn cael eu cymryd i ystyriaeth wrth iddyn nhw ryngweithio â'r wladwriaeth, a hoffwn innau hefyd gofnodi fy niolch...
Jack Sargeant: Diolch, Llywydd. Os caf i ddechrau drwy anfon fy nymuniadau gorau at Brif Weinidog y DU ac at Alun Davies a phawb sy'n dioddef hefyd. Y materion yr wyf i eisiau eu codi gyda chi yn uniongyrchol, Prif Weinidog, yw'r rhai sy'n ymwneud â phobl hunangyflogedig. Nawr, mae pobl hunangyflogedig a minnau yn croesawu cynlluniau sydd ar waith i'w cynorthwyo. Fodd bynnag, rwy'n poeni am yr amser y bydd...
Jack Sargeant: [Anhyglyw.]—yn cael eu rhyddhau bob dydd. Beth allwch chi ei wneud fel Gweinidog i sicrhau y caiff y methiant yr adroddwyd amdano yr wythnos diwethaf i gadw data Gogledd Cymru yn gywir ei gywiro'n briodol ac na chaiff ei ailadrodd?
Jack Sargeant: Weinidog, pa gynlluniau sydd gennych i weithio gyda Llywodraeth y DU i gefnogi cyflogwyr allweddol yn Alun a Glannau Dyfrdwy? Mae Airbus, dur Tata a KK Fine Foods ymhlith llawer sy'n wynebu heriau ansicr, heriau busnes, heriau economaidd ac ansicrwydd eithafol. Weinidog, mae arnom angen y ddwy Lywodraeth o amgylch y bwrdd i gefnogi'r cyflogwyr hyn ymhellach ac i roi cymorth pellach i’r...
Jack Sargeant: [Anhyglyw.]—rhwng Cymru a Lloegr yn Alun a Glannau Dyfrdwy. Fodd bynnag, mae stryd yn fy etholaeth i o'r enw Boundary Lane, ac mae trigolion ar bob ochr i'r stryd honno yn y naill wlad neu'r llall. I'r trigolion, roedd datganiad y Prif Weinidog ddydd Sul yn achosi dryswch gwirioneddol, yn enwedig ym maes gwaith. Mae trigolion sy'n gweithio yng Nghymru yn cael eu hamddiffyn gan ddeddfau cadw...
Jack Sargeant: Gweinidog, rwyf wedi bod yn siarad â gwahanol randdeiliaid yn y diwydiant bragu yn rhan o'm swyddogaeth fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar gwrw a thafarndai, ac maen nhw'n iawn i bryderu am ddyfodol y diwydiant pwysig iawn hwn. Felly, tybed a wnewch chi wneud rhai sylwadau ynglŷn â pha fath o gymorth sydd ar gael iddyn nhw gan Lywodraeth Cymru, a yw'r bragwyr yng Nghymru yn cael y...
Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, bydd y coronafeirws, yr angen i ynysu a'r doll ariannol y mae trigolion ledled Cymru yn ei thalu yn cael effaith enfawr, wrth gwrs, ar eu hiechyd meddwl. Nawr, nid yw newyddion bod 1,700 o gleifion wedi'u rhyddhau mewn camgymeriad yn y gogledd yn rhoi hyder i neb fod gwasanaethau yn y gogledd yn union fel y dylent fod. Nawr, rwy'n deall bod pwysau...
Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Lywydd, ac ymddiheuriadau am y tarfu yn gynharach. Brif Weinidog, rwyf wedi bod yn gweithio gyda nifer o fusnesau y gwrthodwyd taliadau yswiriant iddynt er eu bod wedi talu am yswiriant tarfu ar fusnes. Dywedir wrthynt na allant hawlio am nad oedd y coronafeirws yn glefyd penodedig eisoes. Byddai'r rhan fwyaf o bobl resymol, fel yr holl Aelodau o’r Senedd, rwy'n siŵr, yn...
Jack Sargeant: Weinidog, hoffwn gyfeirio at eich sylwadau diwethaf, mewn gwirionedd, am y gefnogaeth i'r sector hedfan yng Nghymru. Fel roeddech chi'n gywir i ddweud, mae Llywodraeth Ffrainc wedi darparu pecyn cymorth enfawr i'r diwydiant, rhywbeth nad yw Llywodraeth y DU wedi'i wneud. A wnewch chi ymuno â mi i annog Llywodraeth y DU i ddod o amgylch y bwrdd—oherwydd mae'n bryd iddynt ddod o amgylch y...
Jack Sargeant: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer adfer canol trefi yn Sir y Fflint ar ôl Covid-19? OQ55305
Jack Sargeant: Diolch am yr ateb hwnnw, Ddirprwy Weinidog. Roedd canol trefi, fel Bwcle yn fy etholaeth fy hun, yn ei chael hi'n anodd cyn y coronafeirws. Nawr, rhan allweddol o ganol tref ffyniannus yw banc, ac fel y gwyddoch, mae Bwcle wedi colli ei holl fanciau yn anffodus. Nawr, rwyf wedi bod yn ymgyrchu dros fanc cymunedol i angori canol y dref hon, ac mae effaith COVID yn gwneud hyn hyd yn oed yn fwy...
Jack Sargeant: A gaf fi ddiolch i'r Aelod dros Ynys Môn am ofyn y cwestiwn pwysig hwn heddiw? Weinidog, fe fyddwch yn gwybod bod gan y cwmni safle yn Sandycroft yn fy etholaeth i hefyd, ac rwyf wedi mynegi fy mhryderon yn uniongyrchol wrthynt hwy. Ond beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod y cwmni'n gweithredu'r mesurau diogelwch angenrheidiol i sicrhau eu bod yn diogelu'r gweithlu lleol a'r...
Jack Sargeant: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sector hedfan yng Nghymru? OQ55393
Jack Sargeant: Diolch am hynna, Prif Weinidog, ac rwy'n gwerthfawrogi cymorth parhaus Llywodraeth Cymru. Ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n gwbl gandryll ac, a bod yn onest, wedi fy siomi. Ers misoedd bellach, rwyf i wedi bod yn dweud wrth Lywodraeth y DU bod yn rhaid iddyn nhw ymyrryd i gefnogi swyddi yn y sector hedfan ac awyrofod, ac, yn onest, nid wyf i wedi clywed dim byd yn ôl. Mae hwn yn...
Jack Sargeant: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y trafodaethau a gafwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn dilyn y cyhoeddiad am golli swyddi yn Airbus? TQ465
Jack Sargeant: Diolch ichi am yr ateb yna, Gweinidog. Siaradais yn gynharach am yr angen i Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig gynnig achubiaeth i'r sector awyrofod. Mae hynny, yn anffodus, yn eu dwylo nhw, a rhaid iddyn nhw benderfynu a ydyn nhw yn gweithredu ac yn cefnogi ein cymunedau ynteu'n ein siomi unwaith eto. Mae yna fesurau, fodd bynnag, y gall y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru eu cymryd i...
Jack Sargeant: Weinidog, diolch am eich atebion i'r cwestiynau hyn. Rydym yn deall yn glir yn awr y byddwch yn gwneud datganiad ar y mater hwn. Ond yn briodol felly, mae rhieni'n wirioneddol bryderus am hyn, nid oes amheuaeth am hynny, ac maent angen eglurder cyn gynted â phosibl. Mae angen trefnu gofal plant ac mae yna lawer o ffactorau eraill hefyd. Felly, yn dilyn y datganiad, yn ddiweddarach yr wythnos...
Jack Sargeant: A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r pwyllgor am gynhyrchu'r adroddiad hwn? Mae'n gyfle amserol i edrych ar effeithiau'r pandemig coronafeirws ar chwaraeon, a hefyd i graffu ar ymateb Llywodraeth Cymru. Ar y nodyn hwnnw, roedd yn galonogol darllen bod cyrff chwaraeon ledled Cymru yn gadarnhaol am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â hwy a'u helpu drwy'r argyfwng hwn, ac wrth gwrs,...
Jack Sargeant: Croesawaf y cyfle hwn i siarad am y ddeiseb hon. Mae eistedd ar y Pwyllgor Deisebau yn fraint go iawn i mi gan ei fod yn gyfle gwych imi edrych ar eitemau o bwysigrwydd enfawr, fel hwn. Mae'r ddeiseb hon yn gofyn i'r Llywodraeth weithredu i helpu i ddiogelu dyfodol cyflogwr pwysig yma yng Nghymru a dylem i gyd fod yn ymwybodol iawn o'r angen i lywodraeth ddangos hyblygrwydd wrth ddiogelu...
Jack Sargeant: Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi'n bersonol am eich cyfraniad chi a chyfraniad Llywodraeth Lafur Cymru, oherwydd mae'r ddeubeth wedi cefnogi'r cynllun prentisiaeth yn fawr iawn? Fe wn i o brofiad pa mor werthfawr ydyn nhw. Rydych chi'n iawn—mae'n bwysicach nag erioed ein bod ni'n parhau i gefnogi cwmnïau yn y Gogledd-ddwyrain i barhau i ddarparu prentisiaethau a chyfleoedd hyfforddi...