Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn yn wir, Vikki Howells, am y ddau gwestiwn pwysig yna. Mae'r etholiadau a chanlyniad yr etholiadau hynny'n bwysig. Mewn gwirionedd, mae hwn yn rhywbeth yr wyf yn rhannu'r cyfrifoldeb amdano gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; mae hi'n edrych ar hyn yn benodol o ran ein cronfa mynediad i swydd etholedig o ran amrywiaeth a'n rhaglen amrywiaeth a democratiaeth, ac...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood, a diolch am y cwestiynau pwysig iawn yna am daliadau uniongyrchol. Unwaith eto, fel yn y cwestiynau blaenorol rydw i wedi'u cael heddiw, mae llawer o'r rhain yn gyfrifoldebau sy'n cael eu rhannu â Gweinidogion eraill yn Llywodraeth Cymru. Felly, mae'r taliadau uniongyrchol yn dod o dan fy nghyd-Weinidog, Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Laura Anne Jones. Fel y dywedais i fwy nag unwaith yn fy natganiad, yn amlwg mae angen gwneud mwy, ac mae'r dystiolaeth gyda 'Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19', mae gennym ni'r tasglu, ac rydyn ni'n gweithio gyda'n gilydd. Felly, fe wnaf i gymryd yr hyn rydych chi wedi'i ddweud heddiw yn ôl, pan wnaethoch chi alw ar rôl Chwaraeon...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Peter. Mae pobl ledled Cymru, gan gynnwys sir Fynwy, yn wynebu'r gostyngiad mwyaf mewn safonau byw ers i gofnodion ddechrau. Byddwn yn gwario £1.6 biliwn ar gymorth wedi’i dargedu ar gyfer costau byw a rhaglenni cyffredinol i drechu tlodi a rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl. A galwaf ar bob Aelod i hyrwyddo ein hymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi'.
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn am eich cwestiynau. Yr hyn sy’n amlwg gan yr archwilydd cyffredinol, ac yn wir, o'r ymchwil a gomisiynwyd gennym gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, yw bod materion ac anghenion dyfnion, ac mae angen i bob partner chwarae eu rhan, yn enwedig awdurdodau lleol. Ar gyfer ein Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, dywedasant y dylem edrych ar faterion allweddol sy'n effeithio ar...
Jane Hutt: Wel, diolch yn fawr iawn, Peredur. Fel y dywedais, fe wnaethom gomisiynu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i’n galluogi i edrych ar beth yw’r ysgogiadau allweddol. Yn amlwg, yr ysgogiadau allweddol a fydd yn cael effaith enfawr yw treth a budd-daliadau, sydd yn nwylo Llywodraeth y DU. Ac yn wir, mae'n rhaid inni wynebu'r ffaith, o ran ymdrechion Llywodraeth y DU i drechu tlodi, fod pobl yn...
Jane Hutt: Diolch, Jane Dodds. Rydym yn blaenoriaethu’r cynllun peilot incwm sylfaenol ar gyfer gofalwyr, fel y gwyddoch. Bydd y gwerthusiad o’r cynllun peilot hwnnw’n archwilio’r manteision posibl i bobl sy’n gadael gofal a phoblogaeth Cymru yn gyffredinol. Ond mae swyddogion y Gweinidog newid hinsawdd yn arwain gwaith i sicrhau ein bod yn deall yr effeithiau, yr heriau a’r cyfleoedd sy’n...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn. Mae hwn yn waith allweddol o ran ein cynllun Cymru Sero Net, sy'n ei gysylltu â’r cynllun ar gyfer 2026. Fel y gŵyr yr Aelod, rwy’n siŵr, mae galwad am dystiolaeth wedi’i chyhoeddi heddiw gan y Gweinidog Newid Hinsawdd i roi prawf ar syniadau cynnar ynglŷn â sut rydym yn llunio rhaglen waith y dyfodol, sy'n cysylltu â'r hyn rydych wedi galw amdano. Ond credaf...
Jane Hutt: Wel, Janet Finch-Saunders, rwy’n drist iawn, mewn ffordd, na allech fod wedi cyfarfod â’r bobl ifanc y gwnaethom eu cyfarfod. Mewn gwirionedd, credaf inni gyfarfod â hwy yn eich etholaeth chi yn Llandudno yn ddiweddar. Fe wnaethom gyfarfod â phobl ifanc sy'n gallu cymryd rhan yn y cynllun peilot incwm sylfaenol hwn nawr. Am bobl ifanc ysbrydoledig—pobl â phrofiad o fod mewn gofal a...
Jane Hutt: Wel, diolch yn fawr iawn, Jack Sargeant, a diolch am eich cefnogaeth barhaus. A dweud y gwir, rydym yn y sefyllfa rydym ynddi o ganlyniad i ddadl a gychwynnwyd gennych yn nhymor diwethaf y Senedd—dyna pam y gwnaethom ni fel Llywodraeth benderfynu trin hyn fel blaenoriaeth. Ac mae'n fuddsoddiad yn y bobl ifanc hyn—mae’n fuddsoddiad yn eu bywydau, yn eu dyfodol, a’r cyfraniadau—....
Jane Hutt: Wel, diolch yn fawr iawn, Joel James. Nid oes gennym unrhyw ddylanwad ar sut a phwy y mae'r Loteri Genedlaethol yn eu hariannu. Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd â'r cyfarwyddwr, ac yn wir, cynrychiolydd Cymru ar gyfer arian y Loteri Genedlaethol. Fy nghyd-Aelod, Dawn Bowden, y dirprwy Weinidog, sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol, o ran dealltwriaeth gyffredinol a chyswllt mewn perthynas â...
Jane Hutt: Fel y dywedais, rydym yn cyfarfod yn rheolaidd. Yn sicr, rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â’r Loteri Genedlaethol mewn perthynas â’r meysydd polisi sy’n ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol. Rydym hefyd yn ymweld â phrosiectau. Ymwelais â phrosiect arloesol cyffrous iawn ym Mhlas Madog yn etholaeth fy nghyd-Aelod, Ken Skates, lle gwelsom bartneriaeth wirioneddol arloesol gyda phlant a...
Jane Hutt: Na, nid wyf wedi cael unrhyw gysylltiad â hwy, ond byddaf yn sicr yn ymateb i hynny pan fyddaf yn gohebu ynghylch y nifer sy'n gwneud ceisiadau am arian loteri a'i ddosbarthiad.
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn. Mae hwn yn sicr yn gyfrifoldeb trawslywodraethol—yn bennaf ar gyfer fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, ond hefyd, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Rydym yn ymwybodol o’r ymgynghoriad interim hwnnw ar wasanaethau rhywedd i blant a phobl ifanc, a bydd yn cael effaith uniongyrchol ar wasanaethau GIG Cymru i'r grwpiau hynny....
Jane Hutt: Efallai y dylwn ddweud y byddwn yn ateb hynny maes o law. Credaf mai'r hyn sy’n bwysig—y gallaf ymateb iddo—yw’r ffaith ein bod wedi sicrhau bod gwasanaeth rhywedd Cymru yn datblygu. Fe’i lansiwyd ym mis Medi 2019, ac mae'n dîm rhywedd amlddisgyblaethol i Gymru, sydd wedi’i leoli yn Ysbyty Dewi Sant yng Nghaerdydd. Mae'n bwysig iawn ei fod hefyd yn edrych ar amseroedd aros...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn gwirioneddol bwysig wrth inni anelu at lansio'r cynllun yn y flwyddyn newydd, y cynllun gweithredu LHDTC+. Cawsom ymateb enfawr i’r ymgynghoriad, ac rwy’n siŵr fod yr ymateb a’r pryder hwn yn rhan o hynny. Yr hyn sy’n bwysig am y cynllun yw ei fod yn gynllun trawslywodraethol, yn debyg iawn i'r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, felly mae gan...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Sam. Rwyf wedi cytuno ar gyllid o £6.98 miliwn y flwyddyn ar gyfer Cefnogi Trydydd Sector Cymru am dair blynedd. Mae ychydig dros £1 miliwn o’r cyllid hwn yn mynd i’r chwe chyngor gwirfoddol sirol yng ngogledd Cymru i helpu mudiadau gwirfoddol lleol gyda chodi arian, llywodraethu da, diogelu a gwirfoddoli.
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, cwestiwn pwysig iawn, sy’n tynnu sylw unwaith eto at effaith andwyol yr argyfwng costau byw. Mae'n dda iawn clywed am waith Freshfields, y ganolfan achub anifeiliaid. Gallwn efelychu'r elusennau hynny sy'n gweithio fel hynny ledled Cymru, a cheir pryderon nawr fod llawer iawn o alw am y canolfannau achub hyn. Credaf fod eich pwynt ynglŷn â recriwtio a...
Jane Hutt: Diolch, Jack Sargeant. Ar 3 Rhagfyr, cynhaliais i ac Aelodau eraill o’r Cabinet uwchgynhadledd gychwynnol gyda phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol gyda’n gilydd. Mae’r uwchgynhadledd yn rhan o’n gwaith, dan arweiniad y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, i fwrw ymlaen â’n hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i archwilio sut yr...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn pwysig, Jack Sargeant. Mae’n dda iawn clywed bod hyn wedi’i godi gan staff y ganolfan waith. A dweud y gwir, byddaf yn ymweld â fy nghanolfan waith ranbarthol leol fel Aelod etholaethol yn nes ymlaen yr wythnos hon. Credaf fod hyn yn dangos—. Oherwydd maent yn gweithio gyda phobl ifanc ac yn gweld pa gyfleoedd a ddaw o'r treial incwm sylfaenol mewn...