Jane Hutt: Rydym yn ymwybodol y gall digwyddiadau yn Wcráin gael effaith uniongyrchol ar nifer yr Wcreiniaid a allai gyrraedd Cymru. Er ein bod wedi gweld nifer fach o unigolion yn ceisio dychwelyd i Gymru ar ôl cyfnod nôl yn Wcráin, rydyn ni'n dal heb weld newid sylweddol ar hyn o bryd. Ym mis Rhagfyr, fe wnes i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau trwy ddatganiad ysgrifenedig am gyhoeddiadau...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Mark Isherwood, ac edrychaf ymlaen hefyd at fy ymweliad ddydd Gwener â'r ganolfan integreiddio Pwylaidd. Hefyd, o ran cysylltiadau â'r trydydd sector a'r grwpiau ffydd, rwy'n edrych ymlaen yn fawr hefyd at gwrdd â Link International yn y gogledd yn ystod fy ymweliad yn ddiweddarach yr wythnos hon. Hefyd, byddaf yn cynnal cyfarfod yr wythnos nesaf gyda'r trydydd sector, sy'n...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Sioned Williams, a diolch eto am gydnabod yr heriau yr ydym yn eu hwynebu ond hefyd y cyfrifoldebau yr ydym yn eu cymryd fel cenedl noddfa, ac fel uwch-noddwr. Mae hwn wedi bod yn gyfrifoldeb pwysig, a dyna pam, yn wir, yr ydym yn darparu'r gefnogaeth gofleidiol honno, sef yr hyn a oedd bob amser yn un o amcanion allweddol y llwybr uwch-noddwr, ac rydym yn darparu'r gefnogaeth...
Jane Hutt: Diolch am eich cwestiwn. Mae hybiau cynnes ledled Cymru bellach yn cynnig amrywiaeth o gymorth, yn dibynnu ar eu lleoliad a’u cyfleusterau. Mae hyn yn cynnwys man cynnes syml gyda lluniaeth, i fwyd mwy sylweddol, gweithgareddau, mynediad am ddim at gyfrifiaduron a Wi-Fi, a phwyntiau gwefru ar gyfer ffonau a thabledi.
Jane Hutt: Ymunaf â chi i longyfarch y cymunedau ffydd o bob enwad sydd wedi chwarae eu rhan, fel y dywedwch. Ac yn wir, ddydd Llun, yn is-bwyllgor y Cabinet ar gostau byw, clywsom gan Gyngor Mwslimiaid Cymru, ac yn wir, gan yr Eglwys yng Nghymru hefyd—bu'r Archesgob Andy John yn sôn am yr ymgyrch bwyd a lloches a thanwydd a gynhaliwyd gan yr eglwysi. Felly, ar draws pob enwad, yn wir, ein mosgiau...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Vikki Howells. Ac eto, y gynrychiolaeth ar draws yr holl etholaethau—eich un chi yng Nghwm Cynon—o wirfoddolwyr sy'n rhedeg y prosiectau hyn, yn cychwyn y prosiectau hyn, a hoffwn gofnodi fy niolch eto i'r holl wirfoddolwyr sy'n ymateb ac yn helpu i gefnogi eu cymunedau. Hefyd, hoffwn gadarnhau bod hyn yn deillio o'n gwariant o £1 filiwn ar hybiau cynnes, a...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Altaf Hussain. Diolch yn fawr iawn am wneud y datganiad cryf hwnnw y prynhawn yma. Gwyliais innau'r rhaglen, fel llawer ar draws y Siambr hon, rwy’n siŵr. Roedd y manylion yn y tystiolaethau hynny'n gwbl erchyll. Roeddwn yn meddwl eto am yr effaith ar y bobl hynny a dewrder y menywod a roddodd dystiolaeth—y fath ddewrder ar ôl dioddef yr aflonyddu, y bwlio, y cam-drin....
Jane Hutt: Diolch unwaith eto am eich datganiadau cryf iawn o blaid ein strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, sydd, fel y dywedais, bellach yn mynd i’r afael ag achos sylfaenol y trais, y casineb a’r rhywiaeth y mae menywod yn eu hwynebu. Mae hon yn broblem gymdeithasol sy'n galw am ymatebion cymdeithasol. Golyga fod angen i bob un ohonom, gan gynnwys pawb ag unrhyw...
Jane Hutt: Rwy'n drist iawn fod yn rhaid inni orffen sesiwn gwestiynau bwerus a chryf iawn yn y cywair hwnnw. Rwy'n falch iawn o'n safbwynt. Y gwir amdani yw bod gennym gynllun LHDTC+ yn cael ei gyflwyno yn y Siambr hon. Rwy'n gobeithio y caiff gefnogaeth y Siambr gyfan o ran hawliau LHDTC+ a'r camau gweithredu cryf rydym yn eu cymryd. Galwaf arnoch chi, y Ceidwadwyr Cymreig, i ddweud y byddwch chi'n...
Jane Hutt: Diolch yn fawr. Mae hwnnw'n gwestiwn gwirioneddol bwysig am y ffyrdd rydym wedi bod yn ceisio mynd i'r afael, fel Llywodraeth Cymru, â'r argyfwng costau byw, ac yn wir, yr effaith ar dlodi tanwydd yn enwedig. Fel y dywedais yn fy ymateb i gwestiynau a chraffu ar y gyllideb ddrafft, yn anffodus, ni chawsom y cyllid gan Lywodraeth y DU a fyddai’n ein galluogi i fwrw ymlaen â llawer o’r...
Jane Hutt: Diolch am eich cwestiwn, a hoffwn hefyd gydnabod a llongyfarch Jack Sargeant. Mae Jack Sargeant wedi galw'n gyson dros yr ychydig wythnosau diwethaf am waharddiad ar osod mesuryddion rhagdalu gorfodol, ac mae hefyd yn waharddiad rwyf wedi’i gymeradwyo a’i godi gyda Gweinidogion y DU hefyd. Rwyf wedi cyfarfod â darparwyr ynni. Fel rwyf newydd ei ddweud, cyfarfûm â hwy eto ddydd Llun,...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Gareth Davies. Rydym yn gweithio gyda’r heddlu a sefydliadau partner eraill i hyrwyddo diogelwch cymunedol yn y Rhyl, Prestatyn a ledled Cymru. Mae plismona'n fater a gedwir yn ôl, ond rydym yn gweithio’n agos gyda’r heddlu ar faterion strategol ac yn darparu cyllid sylweddol i swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu er mwyn diogelu cymunedau ledled Cymru.
Jane Hutt: Wel, Gareth, fel y dywedais, rydym wedi ymrwymo i gadw cymunedau yng Nghymru mor ddiogel â phosibl, yn y Rhyl a Phrestatyn, a ledled y wlad. Rydym wedi ceisio gwneud hynny drwy ein rhaglen lywodraethu. Er nad yw'r mater wedi’i ddatganoli, rydym ni, Llywodraeth Cymru, wedi cynnal ein cyllid ar gyfer 500 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu, ac yn darparu 100 o swyddogion ychwanegol yn y...
Jane Hutt: Diolch, Jenny Rathbone. Fel rhan o’r tasglu hawliau pobl anabl, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu gweithgor i ganolbwyntio ar fynediad at wasanaethau. Mae'r gweithgor hwn yn hanfodol i hybu newidiadau er mwyn gwella mynediad at holl wasanaethau Cymru.
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Jenny. Wrth gwrs, roedd yn bwysig iawn ein bod yn mynychu'r digwyddiad RNIB—ac rwy'n credu bod llawer o bobl eraill wedi ymuno â ni—ac roedd yn bwysig ein bod yn siarad â chyfarwyddwr yr RNIB am yr union bwyntiau hyn o dystiolaeth rydych wedi'u rhoi i ni. Ond roeddwn yn credu mai'r peth pwysicaf am y digwyddiad oedd y panel o bobl â nam ar eu golwg a rannodd eu profiad...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Mark Isherwood. Diolch am y dystiolaeth honno ar weithrediad cynllun y bathodyn glas, a'r adborth rydych wedi'i roi. Yn sicr, byddaf—. Nid fy mhortffolio i ydyw, ond mae hyn yn ymwneud â bwrw ymlaen â mynediad at wasanaethau, ac mae hynny'n cynnwys amcanion pob gwasanaeth. Felly, byddaf yn edrych ar y materion hynny.
Jane Hutt: Diolch, Luke Fletcher. Mae ein cynlluniau cymorth ariannol wedi'u llunio i gyd-fynd â chynlluniau sy'n cael eu darparu gan Lywodraeth y DU. Mae ymgysylltiad cynnar â'r Adran Gwaith a Phensiynau a CThEF wedi galluogi awdurdodau lleol i fabwysiadu dull rhagweithiol, gan eu galluogi i ddefnyddio data'r Adran Gwaith a Phensiynau i gyrraedd cynifer o bobl â phosibl.
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn am dynnu ein sylw at hynny, Luke. Hoffwn gael sgwrs ddilynol am y mater hwn gyda chi, yn dilyn eich cwestiwn heddiw. Dyma lle mae'n rhaid i ni weithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau a CThEF ac mae gwaith da yn mynd rhagddo, ond mewn gwirionedd, mae'n rhaid inni sicrhau nad yw'r trefniadau'n lleihau mynediad at fudd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd, ac rydych wedi...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Peter Fox. Gwneud y gorau o incwm yw un o'r prif ffyrdd o fynd i'r afael â thlodi. Pan wnaethom gomisiynu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i'n cynghori ar ein llwybr i fynd i'r afael â thlodi, cafodd gwneud y gorau o incwm—rhoi arian ym mhocedi'r bobl dlotaf—ei gynnig fel blaenoriaeth allweddol. Mae ein hymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi', ac i ddilyn hynny,...
Jane Hutt: Diolch am y cwestiwn hwnnw, Alun Davies. Mae Llywodraeth Cymru'n ymwneud yn agos â'r gwaith o ddatblygu cyfamod yr heddlu, gan gynnwys drwy fod yn aelod o'r grŵp goruchwylio cyfamodau, sy'n cael ei gadeirio gan Weinidog plismona Llywodraeth y DU. Rydym hefyd yn archwilio'r posibilrwydd o greu cyfamod ehangach ar gyfer y gwasanaethau brys yng Nghymru.