Jane Hutt: Diolch yn fawr, Alun Davies, am rannu'r hyn a drafodwyd yn y cyfarfod gyda ffederasiwn yr heddlu, y byddaf yn cyfarfod â hwy yn rheolaidd, ac a gafodd gyfarfod â'r Prif Weinidog yn ddiweddar. Trefnodd ffederasiwn yr heddlu i ni gyfarfod â llawer o'r swyddogion heddlu gwych sydd wedi dangos dewrder mawr ar draws ein gwlad. Unwaith eto, i sicrhau bod pobl, cyd-Aelodau, yn ymwybodol o hyn,...
Jane Hutt: Diolch, Sarah Murphy. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus yn defnyddio data yn dryloyw, yn ddiogel ac yn foesegol er budd holl ddinasyddion Cymru, fel y nodir yng nghenhadaeth 6 o'r 'Strategaeth Ddigidol i Gymru'.
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Sarah Murphy. Rwyf eisiau cydnabod y ffyrdd y mae Sarah Murphy, yn arbennig, yn mynd i'r afael â'r mater hwn—ac rwy'n credu ei fod o fudd i bob un ohonom—a'r ffordd y mae'n cadeirio'r grŵp trawsbleidiol, oherwydd rydym i gyd yn dysgu am hyn, ond mae gennym gyfrifoldebau ac mae gennym bwerau. Mae gan bawb mewn awdurdod bwerau, ac mae'n rhaid inni gydnabod y cysylltiad...
Jane Hutt: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Jack Sargeant am gyflwyno'r ddadl hon heddiw? Mae'n rhoi cyfle i mi, unwaith eto, i sicrhau pobl ledled Cymru mai ein blaenoriaeth yw eu cefnogi drwy'r argyfwng costau byw hwn. Rwyf wedi siarad yn helaeth yn ystod y misoedd diwethaf am effaith prisiau ynni cynyddol, am effaith chwyddiant, yn enwedig chwyddiant bwyd, am ganlyniadau...
Jane Hutt: Er hynny, ceir tystiolaeth erbyn hyn nad yw cyflenwyr yn dilyn y rheolau sylfaenol i ddiogelu pobl mewn amgylchiadau bregus. Unwaith eto, Jack, fe gyfeirioch chi at dystiolaeth Cyngor ar Bopeth. Rhwng mis Medi a mis Rhagfyr y llynedd, cafodd dros dair gwaith y nifer o bobl eu newid i fesurydd rhagdalu oherwydd dyled o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2019. Mae cynghorwyr rheng flaen yn gyson yn...
Jane Hutt: The Minister for Finance and Local Government and I met during the draft budget planning process to discuss ways of addressing the cost-of-living crisis and other inequalities through the draft budget. This included meetings as part of the Cabinet sub-committee on the cost of living.
Jane Hutt: This year, the Welsh Government has provided support worth £1.6 billion, through programmes that protect disadvantaged households and families experiencing hardship. This includes funding for the provision of free school meals, the school essentials grant, our fuel support scheme and our childcare offer.
Jane Hutt: When bailiffs collect debts, the amount owing increases and families face more stress. This is why early intervention from single advice fund services is important. During April to September 2022, SAF services helped people in mid and west Wales to write off debts totalling £697,000 and claim £3,463,636 additional income.
Jane Hutt: Rwyf wedi ysgrifennu ddwywaith yn ystod y pythefnos diwethaf, yn annog Llywodraeth y DU i roi diwedd ar yr arfer ffiaidd o osod mesuryddion rhagdalu gorfodol. Galwaf arnynt ac ar gyflenwyr ynni i gael gwared ar unrhyw fesuryddion a osodwyd yn orfodol y gaeaf hwn, ac rwy’n ceisio cael cyfarfod brys â’r Ysgrifennydd Gwladol.
Jane Hutt: Wel, hoffwn ddiolch i Jack Sargeant am ei ymgyrch ddi-baid ac effeithiol ar y sgandal mesuryddion rhagdalu sydd wedi dod i’r amlwg dros yr wythnosau diwethaf. Rydych wedi codi hyn yn gyson dros y flwyddyn ddiwethaf ac wedi helpu i’w ddatgelu, i ni ac i Lywodraeth Cymru ymateb, ac yn wir, y Senedd gyfan a’n grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd y mae Mark Isherwood yn ei gadeirio, a...
Jane Hutt: Diolch am eich cwestiynau, Mark Isherwood, ac rwy'n gobeithio y byddwch yn cefnogi fy ngalwad am gyfarfod gyda’r Ysgrifennydd Gwladol. Wrth gwrs, rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol ac rwyf wedi cael ymateb gan y Gweinidog ynni. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n glir iawn yw bod yn rhaid inni gydnabod maint y broblem: mae 200,000 o aelwydydd yng Nghymru yn defnyddio mesuryddion...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Sioned Williams, am adrodd ar y grŵp trawsbleidiol ar hawliau defnyddwyr. Byddaf yn cyfarfod cyn bo hir â National Energy Action a Cyngor ar Bopeth, sy'n allweddol o ran rhoi gwybod i ni, a rhoi gwybod i ni'n rheolaidd, am y dystiolaeth a'r cyfeiriad y mae angen inni fynd iddo o ran polisi. Credaf fod hon yn adeg pan fyddwn yn edrych ar y pwerau sydd gennym, y ffyrdd y...
Jane Hutt: Yn sicr, byddaf yn mynd ar drywydd pob un o’r pwyntiau hynny, Jenny Rathbone, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, gyda Llywodraeth y DU, ac yn wir, gydag Ofgem. Dywedais wrth Ofgem, 'Mae angen ichi ailwampio'r rheoliadau’n llwyr’, a chawn weld pa effaith y mae eu pwerau gorfodi yn ei chael o ran eu hymchwiliadau i Nwy Prydain. Do, fel y dywedodd Mark Isherwood,...
Jane Hutt: A gaf fi ddiolch i'r Llywydd am alluogi mwy o Aelodau i wneud y pwyntiau a gofyn y cwestiynau heddiw ar gyfer y cwestiwn amserol hwn? Mae'n wir fod y taliadau sefydlog yn warthus o ran yr effaith a gânt ar fywydau pobl. A gaf fi fynd yn ôl at y pwynt a godwyd gan Jack Sargeant yn ei gwestiwn atodol? Mae arnom angen y math o ddeddfwriaeth sydd gennym yn y diwydiant dŵr i atal cwsmeriaid...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Andrew R.T. Davies. Bûm yn dirprwyo dros y Prif Weinidog heddiw ar fwrdd Ofgem. Roeddent yn cyfarfod yn swyddfeydd Llywodraeth y DU yn y Sgwâr Canolog, lle mae ganddynt swyddfa Ofgem, a fydd yn cael ei hehangu, yn ôl yr hyn roeddent yn ei ddweud wrthyf, o ran eu presenoldeb yma yng Nghymru. Mae cadeirydd bwrdd Ofgem yn cynrychioli buddiannau Cymru. Maent wedi bod yma...
Jane Hutt: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o roi diweddariad i Aelodau am ein gwaith parhaus i gefnogi pobl o Wcráin sy'n chwilio am noddfa yng Nghymru. Mae Cymru bellach wedi croesawu ychydig dros 6,400 o Wcreiniaid o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin. Noddwyd bron i 3,400 gan aelwydydd yng Nghymru, a noddwyd ychydig dros 3,000 gan Lywodraeth Cymru erbyn 7 Chwefror. Mae dros 1,300 o'r rheini y mae...
Jane Hutt: Ar 31 Ionawr, fe wnaeth fy swyddog cyfatebol yn yr Alban a minnau gyfarfod â Gweinidog y DU, Felicity Buchan, i drafod materion sy'n effeithio ar ein hymateb o ran Wcráin. Yn ystod fy natganiad diwethaf, amlinellais y materion ariannol y byddwn yn eu codi, a thrafodwyd y rhain gyda'r Gweinidog Buchan. Yn anffodus, gwrandawyd ar ein ceisiadau am newidiadau yr ydym ni'n credu fyddai'n...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood, ac a gaf i ddweud fy mod i'n cytuno'n llwyr â'ch sylwadau agoriadol am yr ymosodiad barbaraidd, fel rydych chi'n ei ddweud? Ac rydym ni, wrth gwrs, bellach yn wynebu blwyddyn lle gwnaethom ni i gyd sefyll gyda'n gilydd yn y Siambr hon i gydnabod hyn ac i ymrwymo'n hunain i ymateb yn y ffordd ddyngarol yr ydym ni'n credu sy'n iawn ac yn gyfiawn fel cenedl...
Jane Hutt: Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dweud ein bod ni wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda'n hawdurdodau lleol, nid yn unig i gynorthwyo pobl mewn llety cychwynnol, ond wedyn, yn hollbwysig, i'w helpu i symud ymlaen. Ond dim ond i gydnabod ein bod ni wedi bod yn darparu cymorth cynhwysfawr ar gyfer yr wythnosau cyntaf pan fo Wcreiniaid yn cyrraedd Cymru yn arbennig. Y cam croeso yw ein henw ar...
Jane Hutt: Diolch, Sioned Williams, a diolch yn fawr iawn, unwaith eto, am fynegi pwysigrwydd ein croeso, bod ffoaduriaid yn cael eu croesawu i Gymru. Fel y dywedwch chi, mae'n garreg filltir ofnadwy yr ydym ni wedi ei chyrraedd, ond byddwn hefyd yn cael ein mesur ar sail y croeso hwnnw a chryfder a dyfnder y croeso hwnnw. Gallwn weld ei fod mor gryf o ran y ffordd y mae pobl ledled Cymru, ym mhob...