Canlyniadau 1901–1920 o 2000 ar gyfer speaker:Jane Hutt

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Yr Ymateb Dyngarol i Wcráin (14 Chw 2023)

Jane Hutt: Diolch yn fawr, Alun Davies. Byddaf yn ymateb yn gryno, Dirprwy Lywydd, i ddweud pa mor bwysig yw hi y gallwn fod yn atebol am ein hiaith, am ein tôn, am y modd yr ydym yn darparu'r ymateb dyngarol hwnnw. Roedd yn dda iawn ein bod ni allan ar y grisiau gyda'n gilydd, yn drawsbleidiol, i ddymuno'n dda i chi a'r Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw, sydd wedi ein harwain yn y Siambr hon, on'd yw...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Yr ymosodiad ar Wcráin a chefnogi ffoaduriaid o Wcráin (15 Chw 2023)

Jane Hutt: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau—ac rwy'n siŵr y byddai'r Ceidwadwyr Cymreig a'r Siambr gyfan yn wir am i mi ddechrau—drwy ddiolch i Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol, am ei gyfraniad i'r ddadl hon heddiw? Diolch iddo am ei ddewrder a'i ymrwymiad ac am rannu ei brofiad personol a theuluol, wrth inni sefyll gyda'n gilydd gyda Mick, ar draws y Siambr gyfan rwy'n credu,...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Yr ymosodiad ar Wcráin a chefnogi ffoaduriaid o Wcráin (15 Chw 2023)

Jane Hutt: Mae'r gymuned ryngwladol wedi dangos undod rhyfeddol mewn perthynas â'r cymorth milwrol, ariannol a dyngarol a roddwyd i Wcráin. Mae Llywodraethau’r DU a Chymru wedi gweithio’n galed i sicrhau bod cymorth yn cael ei roi i Wcráin hyd eithaf ein gallu, er gwaethaf yr argyfwng costau byw difrifol rydym ynddo. Rydym wedi bod yn falch o ddarparu cymorth ariannol drwy'r Pwyllgor Argyfwng...

7. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cymru: Cymuned o gymunedau (28 Chw 2023)

Jane Hutt: Diolch yn fawr, Dirprwy Llywydd. Gaf i ddymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus cynnar i bawb?

7. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cymru: Cymuned o gymunedau (28 Chw 2023)

Jane Hutt: Am nifer o flynyddoedd, mae Llywodraeth Cymru wedi dathlu Dydd Gŵyl Dewi ar y llwyfan rhyngwladol trwy fynd â Chymru i'r byd a thynnu sylw at bopeth sy'n wych am ein gwlad. Eleni, rydyn ni'n parhau â'r traddodiad hwnnw, ac yn ogystal â dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn rhyngwladol, rydyn ni'n cydnabod pwysigrwydd dathlu a nodi'r diwrnod hwn yng Nghymru hefyd. Yn sgil cyfarfod diweddar gyda'r...

7. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cymru: Cymuned o gymunedau (28 Chw 2023)

Jane Hutt: Cymru sy'n fwy cyfartal; Cymru o gymunedau cydlynus; a Chymru o ddiwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu.

7. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cymru: Cymuned o gymunedau (28 Chw 2023)

Jane Hutt: Mae ein holl strategaethau a chynlluniau gweithredu presennol ym maes cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol yn ystyried y Gymraeg o fewn llunio a chyflwyno polisi, yn yr un modd ag y dylai 'Cymraeg 2050' ategu ein huchelgeisiau cyfiawnder cymdeithasol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal cryn dipyn o weithredu i symud ymlaen at gydraddoldeb, ac mae rhywfaint...

7. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cymru: Cymuned o gymunedau (28 Chw 2023)

Jane Hutt: Hoffwn hefyd dynnu sylw at waith y Mudiad Meithrin, a lansiodd y cynllun AwDUra yn ddiweddar. Mae'r prosiect hwn yn grymuso ac yn galluogi pobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig i ysgrifennu llenyddiaeth plant yn y Gymraeg er mwyn mynd i'r afael â thangynrychioli cymunedau lleiafrifoedd ethnig mewn llenyddiaeth Gymraeg.  Rydym hefyd yn gweithio gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Choleg...

7. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cymru: Cymuned o gymunedau (28 Chw 2023)

Jane Hutt: Llywydd, mae'r gwaith sydd eisoes wedi'i gyflawni yn y maes hwn yn fy llenwi â balchder, a gwn fod llawer o brosiectau cyffrous ar y gweill hefyd, ond rhaid i ni beidio â llaesu dwylo, gan y gwn y bydd gennym ni lawer o waith i'w wneud o hyd. Gwelsom yn ddiweddar sut y gall chwaraeon hefyd chwarae rhan wrth gyflawni ein hamcanion. Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi llwyddo i danio...

7. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cymru: Cymuned o gymunedau (28 Chw 2023)

Jane Hutt: Dechreuais fy natganiad y prynhawn yma trwy ddymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus i'r Aelodau. Mae'r Gymraeg a Dydd Gŵyl Dewi yn perthyn i ni i gyd, ac rydw i wir yn golygu hynny. Mae'n perthyn i bob un ohonom a phob cymuned ar draws Cymru. Gadewch i ni i gyd ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn ein holl ffyrdd unigryw ein hunain, a gadewch i ni barhau i wneud Cymru yn gymuned o gymunedau. Diolch, Llywydd.

7. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cymru: Cymuned o gymunedau (28 Chw 2023)

Jane Hutt: Diolch yn fawr, Mark Isherwood, ac, yn wir, mae'r datganiad hwn yn ymwneud â chymuned o gymunedau, yr ydym ni’n credu sy’n wir am Gymru, yn sicr, ym mhob ystyr, ac yn arbennig rwy'n credu mewn perthynas â'n hymrwymiad i wrando, dysgu a gweithio gyda'n cymunedau er mwyn cyflawni'r nodau a'r polisïau sydd wir yn diwallu anghenion ein pobl. Dyna pam, yn wir, y dechreuais y datganiad drwy...

7. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cymru: Cymuned o gymunedau (28 Chw 2023)

Jane Hutt: Diolch yn fawr, Heledd Fychan, am eich questions pwysig iawn.

7. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cymru: Cymuned o gymunedau (28 Chw 2023)

Jane Hutt: Rydw i am ddechrau drwy roi sylwadau ar y cwestiwn gŵyl y banc. Wrth gwrs, nid yw'n fater sydd wedi'i ddatganoli, ond rydym ni wedi gofyn i Lywodraeth y DU ar fwy nag un achlysur, fel y bydd cydweithwyr yn gwybod, i ddynodi'r diwrnod yn ŵyl banc, neu roi'r pŵer i ni wneud hynny. Yn anffodus, hyd yn hyn mae'r ceisiadau yma wedi cael eu gwrthod. Ond mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod beth...

7. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cymru: Cymuned o gymunedau (28 Chw 2023)

Jane Hutt: Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod bod 'Cymraeg 2050' yn ymrwymiad cryf bod ein hiaith yn perthyn i bob un ohonom ni, ac rydyn ni wedi bod yn glir iawn bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i strategaeth 'Cymraeg 2050'. Mae ganddo'r nodau hynny i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, ond hefyd, yr un mor allweddol, dyblu'r defnydd dyddiol o'r iaith. Rwy'n credu bod fy rôl...

7. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cymru: Cymuned o gymunedau (28 Chw 2023)

Jane Hutt: Diolch yn fawr, Mike Hedges, ac, ie, a gaf fi ddweud pa mor falch ydyn ni o Abertawe fel dinas noddfa? Mae gennym ni ddinasoedd noddfa eraill ledled Cymru, gan gynnwys Caerdydd, wrth gwrs, ond hefyd, mae Treffynnon, rwy'n meddwl, yn dref noddfa. Mae gennym ni gynghorau tref, cymuned a sir hefyd. Ond hefyd, pan ddes i i Abertawe i longyfarch y brifysgol a Choleg Gŵyr, sydd hefyd yn golegau a...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Dyled ( 1 Maw 2023)

Jane Hutt: Diolch yn fawr. Dydd Gŵyl Dewi hapus i chi i gyd y prynhawn yma.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Dyled ( 1 Maw 2023)

Jane Hutt: Yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ariannol hon, defnyddiodd 16,553 o bobl wasanaethau ein cronfa gynghori sengl yn Nwyrain De Cymru, a chawsant gymorth i ddileu cyfanswm o £1.1 miliwn o ddyledion ac i hawlio incwm ychwanegol o £8.1 miliwn.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Dyled ( 1 Maw 2023)

Jane Hutt: Diolch yn fawr. Ni allwn fychanu'r heriau ariannol y mae cymaint o aelwydydd ledled Cymru yn eu hwynebu. Yn wir, mae'r ffigurau heddiw yn amcangyfrif yn y miliynau—2.5 miliwn arall yn mynd i mewn i dlodi tanwydd. Yr hyn rydym yn ei wneud yw targedu cymorth ariannol at aelwydydd er mwyn rhoi cymorth iddynt wneud y mwyaf o'u hincwm ac osgoi mynd i ddyled. Ond yn amlwg, mae rhai materion sy'n...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Dyled ( 1 Maw 2023)

Jane Hutt: Wel, credaf fod hwn yn gwestiwn rhyfeddol, mae'n rhaid imi ddweud, Natasha—cwestiwn rhyfeddol—pan fo gennym wasanaeth iechyd gwladol rydym yn falch ohono, a anwyd yng Nghymru, sy'n rhad ac am ddim i'w ddefnyddio, ac sy'n darparu gofal a thriniaeth i filoedd o bobl ledled Cymru bob dydd, gan gynnwys eich etholwyr chi. Ydw, rwy’n pryderu am bobl sy’n mynd i ddyled, ac yn mynd i ddyled...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Yr Adolygiad Ffyrdd ( 1 Maw 2023)

Jane Hutt: Diolch am eich cwestiwn. Roedd 'Llwybr Newydd' a'n hymateb i'r adolygiad ffyrdd yn nodi gweledigaeth ar gyfer system drafnidiaeth sy'n dda i'r gymdeithas, yr amgylchedd a'r economi. Mae ein cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth wedi'i alinio â’r rhaglen lywodraethu, i hyrwyddo ffyniant a helpu i drechu tlodi.


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.