Jane Hutt: Diolch am eich cwestiwn. Hoffwn gyfeirio at y sylwadau a wnaed gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd pan wnaeth ei ddatganiad yr wythnos diwethaf. Fe ddywedodd, ac rydym ni'n cydnabod, wrth i bobl yrru mwy, fod llai o bobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, gan arwain at lai o wasanaethau hyfyw, a gadael pobl â hyd yn oed llai o ddewisiadau amgen. Ac o ran trechu tlodi ac anghydraddoldeb,...
Jane Hutt: Yn amlwg, mae hwn yn fater lle rydym ni, yn drawslywodraethol, a thrwy weithio gyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, yn arwain ar y mater hollbwysig hwn gyda’n rhaglen Cartrefi Clyd, sydd, wrth gwrs, bellach yn agosáu at iteriad ar gyfer ei datblygiad nesaf, a fydd yn ymwneud ag ymagwedd sy'n seiliedig ar alw. Ac wrth gwrs, bydd hynny'n helpu i fynd i'r afael â'r...
Jane Hutt: Wel, rwy’n siŵr y bydd pob un o’r rheini rydych wedi ymgysylltu â hwy yn y gogledd, gan gynnwys awdurdodau lleol, wedi cyfrannu at yr ymgynghoriad diweddaraf ar safon ansawdd tai Cymru. Mae safon ansawdd tai Cymru wedi bod yn bwysig iawn o ran safonau tai cymdeithasol, y byddwch yn cydnabod eu bod wedi bod heb eu hail ledled Cymru. Ond bu’n rhaid eu diwygio a’u hadolygu o ran yr...
Jane Hutt: Yn wir, Mark Isherwood, credaf y byddech wedi gwerthfawrogi’r drafodaeth a’r craffu a wynebais ddydd Llun yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am yr union faterion hyn a’r sicrwydd a roddais na fyddai unrhyw fwlch rhwng y cynlluniau Cartrefi Clyd o ran y cynllun presennol a'r un nesaf, a fydd yn cael ei gaffael erbyn diwedd y flwyddyn. Ac wrth gwrs, bydd yn ystyried y...
Jane Hutt: Rydym yn adolygu’r asesiad o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr a gyflwynwyd gan awdurdodau lleol, a byddwn yn gweithio gyda hwy a’n cymunedau Sipsiwn a Theithwyr i gefnogi cynlluniau i fynd i’r afael â’r diffyg presennol ac i helpu i oresgyn unrhyw rwystrau, a allai fod yn atal cynnydd.
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone, am eich cwestiwn ac am eich arweiniad ar y mater hwn, sy’n hollbwysig, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol a hefyd fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. A gaf fi hefyd ddiolch i’r Llywydd am gynnal y digwyddiad ysbrydoledig hwn y prynhawn yma hefyd, lle clywsom gan ffoaduriaid, siaradwyr o Gyngor Ffoaduriaid Cymru a...
Jane Hutt: Wel, mae’r cwestiwn hwnnw wedi fy syfrdanu, mae’n rhaid imi ddweud. Mae'n wir nad oeddech yma yn 2014, ac rwy’n deall hynny, Gareth Davies. Cawsom ddeddfwriaeth a basiwyd gan y Cynulliad hwn, a basiwyd gan eich Aelodau chi, a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru baratoi asesiad o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr. Dyna sydd angen iddynt ei wneud, a lle mae...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Rhys ab Owen. Mae troseddu a chyfiawnder yn faterion sydd wedi'u cadw o fewn cyfrifoldebau Llywodraeth y DU, ond rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda'r heddlu a chyrff partner eraill i hyrwyddo diogelwch cymunedol ar draws Caerdydd a Chymru gyfan. Mae hyn yn cynnwys ein hymrwymiad i gyllido swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu i gadw ein strydoedd yn saff.
Jane Hutt: Wel, rwy’n falch o gyflawniadau, ac yn wir, o ymrwymiadau maniffesto plaid Lafur Cymru, a arweiniodd at ymrwymo cyllid i gadw ein 500 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ac i gyflogi 100 o rai ychwanegol. Gwn fod y gwaith rydym wedi’i wneud a'r gwaith rydym yn ei wneud yn wir, er nad yw plismona wedi'i ddatganoli eto, gyda'n timau plismona yn y gymdogaeth, gyda swyddogion cymorth...
Jane Hutt: Wel, diolch yn fawr iawn, Joel James, am godi’r mater hwn. Mae ideolegau 'incel' yn cael effaith ddinistriol ar ein pobl ifanc a'n poblogaeth wrywaidd, lle mae angen mynd i'r afael ag ideolegau sydd wedi arwain at yr erchyllterau rydych wedi'u disgrifio, Joel James. Rwy'n credu bod cwestiwn Rhys ab Owen yn bwysig yn hyn o beth, oherwydd mae 'Sut rydym am ddatblygu'r perthnasoedd hyn?' yn...
Jane Hutt: Wel, diolch yn fawr iawn am y cwestiwn dilynol hwnnw, Jenny, oherwydd rydym wedi bod yn ymgysylltu â swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU wrth i’r Bil hwnnw symud ymlaen drwy'r Senedd. Rwy’n deall ei fod bellach yn ôl ar y trywydd cywir. Mae Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â’r Bil Diogelwch Ar-lein eto, ac yn arbennig—ac mae'r pwynt rydych chi'n ei wneud mor allweddol—mewn...
Jane Hutt: Diolch yn fawr. Nid oes unrhyw le i gasineb at fenywod na chamymddygiad rhywiol yng ngwasanaeth yr heddlu. Mae'n hanfodol fod Heddlu Gogledd Cymru yn parhau â'u gwaith brys i nodi swyddogion nad ydynt yn cadw at y gwerthoedd y mae'r cyhoedd yn eu disgwyl, ac i roi camau pendant ar waith.
Jane Hutt: Diolch yn fawr. Mae hwnnw'n gwestiwn mor bwysig i ni y prynhawn yma. Er nad yw plismona wedi'i ddatganoli—cyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydyw—rydym yn ymgysylltu, fel y dywedwch chi, Mabon, ym mhob ffordd a allwn, i weithio gyda'r heddlu, i ddylanwadu ar y polisïau a'u cyflawniad, ac yn wir, i ariannu rhannau helaeth o'r ddarpariaeth diogelwch cymunedol yng Nghymru yn enwedig, ac yn ein...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Janet Finch-Saunders. Diolch am godi'r pwyntiau hyn yn dilyn y cwestiwn gan Mabon y prynhawn yma. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod Heddlu Gogledd Cymru wedi arwain ar hyn. Yn y cyfarfod bwrdd a gyd-gadeiriais gyda’r comisiynydd heddlu a throseddu, Dafydd Llywelyn, roedd Amanda Blakeman, sy’n newydd i’r rôl, yn hollol bendant y bydd hi'n drylwyr ynglŷn â...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Heledd. Mae pecyn cymorth cyfredol Llywodraeth Cymru, sy’n werth £420 miliwn, yn cynnwys y rhaglen Cartrefi Clyd, sy'n gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi incwm is. Mae cartrefi incwm isel cymwys hefyd yn elwa o gynllun cymorth tanwydd £200 Llywodraeth Cymru a'n talebau Sefydliad Banc Tanwydd ar gyfer y rhai sy'n profi argyfwng tanwydd.
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Heledd Fychan. Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod ein bod yn wynebu—. O 1 Ebrill, bydd pobl sydd mewn tlodi tanwydd yn wynebu amseroedd anhygoel o anodd ac ansicr, ond mae'r rhain yn bobl sydd eisoes mewn tlodi tanwydd. Rwyf eisiau mynd i'r afael â rhai o'r materion ynglŷn â fy nghyfarfod ag Ofgem, ond rwyf hefyd eisiau dweud, o ran yr hyn rydym yn ei wneud, fel y...
Jane Hutt: Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a'r trydydd sector i groesawu pobl Wcráin i Gymru, eu helpu i symud ymlaen i lety mwy hirdymor a pharhau i gael eu cefnogi. Fel rhan o gyllideb ddrafft 2023-24, rydym yn buddsoddi £40 miliwn yn ein hymateb dyngarol Wcreinaidd.
Jane Hutt: Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw. A gaf fi ei gwneud yn hollol glir nad oes unrhyw un, unrhyw westai Wcreinaidd, wedi cael ei orfodi i adael canolfan groeso? Ac ni fyddant yn cael eu gorfodi i wneud hynny. Mae'n bwysig iawn cydnabod ein bod wedi eu croesawu i Gymru—a chawsom ddigwyddiad gwych fore Llun lle cawsom Wcreiniaid yn rhannu eu barn a'u meddyliau, gan nodi'r garreg filltir...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn. Diolch yn fawr, Huw Irranca-Davies. Rwy'n credu eich bod yn siarad, yn sicr, dros y mwyafrif ohonom a phob un ohonom yma yn y Siambr hon, gobeithio.
Jane Hutt: Diolch, Jack Sargeant. Ni fydd deiliaid tai Cymru yn cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y cap ar brisiau oherwydd y warant pris ynni, sydd wedi'i gosod ar £2,500 ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rydym yn pryderu'n fawr am yr effaith bosibl a fyddai'n deillio o Lywodraeth y DU yn codi'r warant pris ynni i £3,000 ym mis Ebrill ar aelwydydd Cymru os na fydd cymorth ehangach Llywodraeth y DU yn...