Canlyniadau 1941–1960 o 2000 ar gyfer speaker:Jeremy Miles

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Hyfforddiant Meddygol drwy gyfrwng y Gymraeg (22 Meh 2022)

Jeremy Miles: Wel, nid wyf am wneud sylw am y penderfyniad penodol hwnnw, oherwydd yn amlwg nid wyf mewn sefyllfa i wneud hynny, ond fel y gŵyr o ateb y Prif Weinidog ddoe, byddaf yn mynd ar drywydd hynny. Rydym wedi pasio trydydd cyfnod darn o ddeddfwriaeth ddoe, a fydd, yn y cyd-destun penodol—y cyd-destun addysg bellach—y mae'n gofyn y cwestiwn, yn sicr ddoe a chredaf ei fod yn gwneud yr un pwynt...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (22 Meh 2022)

Jeremy Miles: Wel, mae hi wedi bod yn flaenoriaeth i ni sicrhau bod addysg Gymraeg ar gael i'r rhai sydd eisiau cymryd mantais ar hynny o Wcráin, ac wedi bod yn sicrhau, o ran plant a hefyd oedolion, fod mynediad ar gael i wersi yn y Gymraeg, ac wedi gweithio gyda Rhieni dros Addysg Gymraeg i sicrhau bod hynny yn bosib, ac mae'r adnoddau sydd ar gael yn ddwyieithog yn sicrhau bod hynny yn hygyrch iddyn...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (22 Meh 2022)

Jeremy Miles: Dwi ddim yn credu ein bod ni yn gwneud hynny.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (22 Meh 2022)

Jeremy Miles: Dwi ddim yn gwybod beth yw'r gyllideb benodol ar gyfer y mudiadau eraill mae'r Aelod yn sôn amdanyn nhw, ond mae gennym ni, wrth gwrs, gynllun o gefnogaeth ariannol i amryw o gyrff gwirfoddol, cyrff trydydd sector, cyrff ieuenctid hefyd. Rŷm ni'n edrych ar hyn o bryd ar adolygu cynllun grantiau hyrwyddo'r Gymraeg yn gyffredinol. Mae cwmni allanol wedi cael ei benodi ar gyfer edrych ar yr...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (22 Meh 2022)

Jeremy Miles: Wel, nid fy maes polisi i yw hwn; un fy nghyd-Aelod Vaughan Gething ydyw, sydd wedi gwneud datganiad yn ddiweddar mewn perthynas ag ymateb y Llywodraeth i adolygiad Reid. Mae rhan o hynny'n ymwneud â gweithredu nifer o'r pwyntiau a argymhellodd yr Athro Reid yn yr adolygiad hwnnw, gan gynnwys mewn perthynas ag agor swyddfa yn Llundain yn benodol i gael mynediad at rai o'r cyfleoedd eraill...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (22 Meh 2022)

Jeremy Miles: O ran cynlluniau strategol a phob awdurdod lleol yng Nghymru, byddaf yn gwneud datganiad ynglŷn â lle maen nhw, ar ôl yr adolygiadau sy'n mynd rhagddyn nhw ar hyn o bryd, o fewn yr wythnosau nesaf, cyd diwedd y tymor, ac mae hynny'n cynnwys cynlluniau cyngor Rhondda Cynon Taf hefyd. Beth rydw i wedi'i ddweud yn y gorffennol yw ei bod yn bwysig ein bod ni'n sicrhau nid jest, fel petai, fod...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Model Consortia (22 Meh 2022)

Jeremy Miles: Gwnaf. Mae consortia rhanbarthol yn cefnogi ysgolion i wella, gan gynnwys drwy ddysgu proffesiynol, ymgysylltu uniongyrchol a hwyluso gweithio rhwng ysgolion. Byddaf yn cyhoeddi canllawiau gwella ysgolion yr wythnos nesaf, i nodi sut y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i gonsortia rhanbarthol gefnogi gwelliant ysgolion o dan y Cwricwlwm i Gymru.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Model Consortia (22 Meh 2022)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Nid wyf yn derbyn bod y cyllid yn mynd ag arian oddi wrth y system ysgolion; mae'r cyllid yno er mwyn cefnogi'r rhaglen gwella ysgolion sydd gennym ledled Cymru. Ac mae mwyafswm y cyllid sydd ar gael i'r consortia rhanbarthol yn cael ei ddirprwyo'n uniongyrchol i ysgolion, yn hytrach na chael ei gadw gan y consortia eu hunain. Ar y pwynt ehangach y mae'r...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg Gymraeg yn Alun a Glannau Dyfrdwy (22 Meh 2022)

Jeremy Miles: Diolch, Jack. I gefnogi eu cynlluniau i dyfu addysg Gymraeg, mae’r cyngor wedi cael cymeradwyaeth mewn egwyddor i sefydlu ysgol gynradd newydd, trwy gyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg Gymraeg yn Alun a Glannau Dyfrdwy (22 Meh 2022)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pellach ac am ei ddefnydd o'r Gymraeg yn ei gwestiwn cyntaf. Mae awdurdod lleol sir y Fflint wedi ymrwymo yn eu cynllun strategol Cymraeg mewn addysg drafft i gynyddu canran y dysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg o 6.3 y cant ar hyn o bryd i 15 y cant o fewn y 10 mlynedd nesaf. Fe wnes i gyhoeddi'n ddiweddar, ym mis Mawrth, 11 o brosiectau a fydd yn elwa o'r...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg Gymraeg yn Alun a Glannau Dyfrdwy (22 Meh 2022)

Jeremy Miles: A gaf i ddweud mor braf yw e i glywed mwy o Aelodau yn siarad Cymraeg yn y Siambr? Llongyfarchiadau i Sam, ynghyd â Jack, heddiw.  Ie, mae e wir yn bwysig, er mwyn i ni allu gweld y cynnydd rŷn ni eisiau ei weld o fewn darpariaeth Gymraeg, a bod mynediad hafal gan bob plentyn yng Nghymru i addysg Gymraeg yn unrhyw ran o Gymru, fod cynlluniau uchelgeisiol o ran cynlluniau strategol ar...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cefnogaeth i Ddisgyblion ar ôl COVID (22 Meh 2022)

Jeremy Miles: Mae pecyn cymorth cynhwysfawr ar waith, sydd yn werth £24 miliwn yn gyfan, i roi blaenoriaeth i ddysgwyr sy’n gwneud eu harholiadau. I gyd-fynd â hyn, mae mesurau ymarferol wedi’u cymryd hefyd, gan gynnwys addasu cynnwys yr arholiadau, rhoi gwybodaeth ymlaen llaw i ddysgwyr, a ffiniau graddau man canol er mwyn gwneud y broses o ailgydio mewn arholiadau mor deg â phosibl.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cefnogaeth i Ddisgyblion ar ôl COVID (22 Meh 2022)

Jeremy Miles: Wel, mae e wedi bod yn sefyllfa anodd eleni i'r rheini sydd heb sefyll arholiad allanol o'r blaen, ac mae hynny yn ddealladwy. Ac, felly, mae'r pryder sy'n dod yn sgil papurau oedd efallai yn annisgwyl i unigolion, wrth gwrs, wedyn yn cael effaith arnyn nhw. Rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, o ran ambell bapur arholiad, yn cynnwys lefel A mathemateg, fod cwynion a phryderon wedi bod ynglŷn â...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cefnogaeth i Ddisgyblion ar ôl COVID (22 Meh 2022)

Jeremy Miles: Rwy'n credu bod hwnnw'n gwestiwn da iawn. Mae'r ymgyrch Lefel Nesa, fel y gŵyr o'n cyfathrebu blaenorol ac o'i brofiad ei hun, rwy'n siŵr, yn darparu pecyn o gymorth adolygu, ond yn cyfeirio at gymorth arall hefyd, yn ogystal ag addasiadau, eleni, i'r cynnwys ar gyfer yr arholiadau yn benodol. Mae'n fath o siop un stop gynhwysfawr, os mynnwch. Credaf fod dulliau gweithredu'n deillio o hynny...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg Alwedigaethol yn Sir Benfro (22 Meh 2022)

Jeremy Miles: Mae amrywiaeth o gyfleoedd addysg alwedigaethol ar gael ar bob lefel i weddu i'n dysgwyr yn sir Benfro. Mae cymwysterau galwedigaethol yn chwarae rhan hanfodol yn darparu'r sgiliau a'r hyfforddiant sydd eu hangen ar ein dysgwyr i fynd i'r afael â gofynion ein heconomi.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg Alwedigaethol yn Sir Benfro (22 Meh 2022)

Jeremy Miles: Rwy'n hapus iawn i ymuno â'r Aelod i longyfarch y coleg, ac rwy'n edrych ymlaen at fod gydag ef yfory yng Ngholeg Sir Benfro, lle y cawn gyfle i siarad â llawer o'r dysgwyr ifanc yno—a'r manteision y gallant eu cael o'r ystod o gyfleoedd sydd ar gael yno hefyd. Fel y gŵyr, o ran ein dull o ymdrin â phrentisiaethau, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gynyddu ein cyfleoedd prentisiaeth ledled...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Arholiadau TGAU (22 Meh 2022)

Jeremy Miles: Yn ogystal â'r addasiadau a gyhoeddwyd i gynnwys arholiadau a ffiniau graddau, rhoddwyd pecyn cymorth gwerth £24 miliwn ar waith, gan gynnwys yr ymgyrch Lefel Nesa. Mae'r buddsoddiad hwn wedi rhoi gwybodaeth, adnoddau arholiadau, a chynghorion i ddysgwyr i'w helpu i baratoi ar gyfer tymor arholiadau 2022.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Arholiadau TGAU (22 Meh 2022)

Jeremy Miles: Rwyf wedi cyfarfod â'r bwrdd arholi wrth gwrs a chyda Cymwysterau Cymru, fel rwy'n ei wneud yn rheolaidd, ac wedi trafod tymor arholiadau yr haf hwn yn rhan o'n trafodaethau yn gyffredinol. Mae dysgwyr eleni wedi wynebu cyfres arbennig o heriau, y garfan gyntaf efallai i beidio â bod wedi sefyll unrhyw arholiadau allanol, ond yn eu hwynebu am y tro cyntaf eleni. Yn amlwg, fel y dywedais yn...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg Bellach (22 Meh 2022)

Jeremy Miles: Gwelir y lefel uchaf o fuddsoddiad mewn addysg bellach mewn hanes diweddar yn setliad 2022-23. Rydym yn cydnabod bod mwy o ddysgwyr yn dewis aros mewn addysg ôl-16. Drwy'r gyllideb, byddwn yn sicrhau bod dysgwyr mewn addysg ôl-16 yn cael cynnig y cymorth gorau posibl, yn enwedig yn dilyn effaith y pandemig.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg Bellach (22 Meh 2022)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am ei bwynt. Mae'n gwestiwn pwysig iawn. Efallai ei fod wedi gweld rhai o'r sylwadau a wneuthum yr wythnos diwethaf yn benodol am fynediad at bob math o addysg i bobl ifanc o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig. Am y tro cyntaf eleni, ac ym mhob blwyddyn ddilynol, byddwn yn gallu darparu data—yn amodol ar gydsyniad yr unigolyn wrth gwrs—drwy UCAS, er enghraifft, ar...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.