Mr Simon Thomas: Leanne Wood.
Mr Simon Thomas: Un o’r meysydd lle mae Cymru ar ei hôl hi tipyn bach o safbwynt ymdrin â chanser yw’r amser i ddiagnosis. Mae nifer o elusennau canser yn ystod yr ymgyrch yr ydym ni i gyd wedi bod yn rhan ohoni hi wedi cysylltu â ni fel ymgeiswyr i ofyn beth y gallem ni ei wneud yn y Cynulliad hwn i wella’r amser i ddiagnosis. Roedd gan Blaid Cymru gynllun, er enghraifft, ar gyfer diagnosis o fewn...
Mr Simon Thomas: Gan groesawu'r Ysgrifennydd addysg i’w swydd newydd, a gaf i ofyn iddi, yn gyntaf oll, a wnaiff hi, felly, gyhoeddi'r llythyr cylch gwaith y mae wedi ei gyflwyno, neu y mae ei rhagflaenydd wedi ei gyflwyno, i CCAUC, fel y gallwn ddeall o dan ba amgylchiadau y gwnaed y penderfyniad hwn? Mae hyn yn deillio’n uniongyrchol, wrth gwrs, o'r toriad i grant CCAUC, a gyflwynwyd gan y Llywodraeth...
Mr Simon Thomas: Brif Weinidog, fe ddaeth y fenyw a oedd yn gyfrifol am y trafodaethau ym Mharis, trafodaethau’r COP, Christiana Figueres, i Gymru’r wythnos diwethaf. Fe ddaeth i siarad yng Ngŵyl y Gelli ac fe soniodd hi yn huawdl iawn am yr angen i Lywodraeth, busnesau a’r sector gwirfoddol, os liciwch chi, sector y gymdeithas sifil, i gydweithio â’n gilydd i wireddu’r freuddwyd a grëwyd yn y...
Mr Simon Thomas: 5. Pa drafodaethau mae’r Prif Weinidog wedi eu cynnal ynglŷn â llysoedd yng Nghymru sydd wedi eu clustnodi i gau gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder? OAQ(5)0027(FM)[W]
Mr Simon Thomas: Diolch, Brif Weinidog. Yn anffodus, un o’r llysoedd sydd wedi’i glustnodi ac sy’n mynd i gau yw’r prif lys yng Nghaerfyrddin, yng nghanol tref Caerfyrddin, sy’n adeilad hanesyddol i dref Caerfyrddin gyfan. Nawr bod y penderfyniad yna wedi’i gymryd, mae’r bobl yn y dref yn awyddus eu bod nhw’n cymryd yn ôl berchnogaeth o’r adeilad hwnnw ac yn ei droi’n rhyw fath o adnodd...
Mr Simon Thomas: Gan mai dyma’r datganiad busnes cyntaf i ni ei gael ers rhai wythnosau, mae gennyf un neu ddau o bethau yr hoffwn eu gofyn i’r Gweinidog Busnes ac rwy’n gobeithio y byddwn yn clywed gan y Llywodraeth yn ystod y pythefnos nesaf. Yn gyntaf rwyf am ddweud fy mod yn cefnogi’r hyn y mae Lynne Neagle newydd alw amdano, ac wrth gwrs, mae’r streic hon yn effeithio ar amgueddfeydd ledled...
Mr Simon Thomas: Diolch, Weinidog, am eich datganiad. Hoffwn i godi dau fater gyda chi, a gobeithio y bydd modd i’r Llywodraeth ymateb mewn datganiad i’r materion hyn. Yn gyntaf oll, wrth gwrs, rydym heddiw yn nodi’r gyflafan a fu yn Orlando gyda munud o dawelwch yn y Siambr hon, ac roedd yn briodol, hefyd, gweld bod baneri’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru ar eu hanner ddoe a heddiw, a baner enfys yn...
Mr Simon Thomas: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf i groesawu'r Ysgrifennydd newydd i'w swydd a chithau i swydd y Dirprwy Lywydd? Credaf mai dyma'r tro cyntaf i chi fod yn y Gadair, hefyd. [Aelodau'r Cynulliad: 'Clywch, clywch.'] Hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd am ei datganiad. Hoffwn ddweud bod llawer iawn o sbwriel ynddo, ond golygaf hynny yn y ffordd gadarnhaol orau bosibl. [Chwerthin.] Fe arhosaf...
Mr Simon Thomas: Nid ŷm ni wedi anghofio’r etholiad yr ŷm ni newydd fynd drwyddo. Rwy’n cofio’n glir iawn ymgeisydd y Blaid Lafur yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro yn siarad yn glir iawn, ac yn addo, pe byddai e’n cael ei ethol, y byddai’n dod i’r lle hwn ac yn dadlau dros ddychwelyd gwasanaethau mamolaeth i ysbyty Llwynhelyg, ac yn dadlau dros ddychwelyd gwasanaethau pediatreg i ysbyty...
Mr Simon Thomas: A wnaiff yr Aelod ildio?
Mr Simon Thomas: Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am ildio. Mae newydd grybwyll y comisiynwyr heddlu a throseddu. Mae pedwar ohonynt newydd gael eu hethol yng Nghymru: dau o Blaid Cymru, dau Lafur, a phob un o’r pedwar o blaid datganoli’r heddlu.
Mr Simon Thomas: Weinidog Busnes, diolch ichi am eich datganiad. Wrth gwrs, mae wedi bod yn wythnos drist i bob un ohonom fel gwleidyddion etholedig lle gwelsom un ohonom yn cael ei saethu ar y stryd wrth wneud ei gwaith bob dydd i helpu pobl. Yn awr, mae holl Aelodau’r Cynulliad wedi cael gwybod sut y gallwn wella ein diogelwch ein hunain a sut y gallwn ystyried hynny, ac rwyf yn siŵr y bydd llawer un yn...
Mr Simon Thomas: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad. Rwy’n teimlo’n hyderus wrth ymateb i’r datganiad yma, achos dyma’r sector o’r economi rwy’n gwneud y cyfraniad personol mwyaf iddi hi, sef bwyd a diod, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at ddathlu gyda’r NFU, yma yn y Cynulliad yfory, y bwyd o Gymru, a dathlu hefyd gyda CAMRA, ar ddiwedd y...
Mr Simon Thomas: Diolch, Lywydd. Weinidog, mae yna dîm pwysig arall wedi bod ym Mharis, o flaen y tîm pêl-droed, yr oeddem ni yn ei longyfarch ac yn dymuno’n dda iddyn nhw gynnau bach, sef y tîm wedi’i arwain gan y cyn-Weinidog a aeth i’r trafodaethau newid hinsawdd ym Mharis cyn y Nadolig y llynedd. Yn sgil y trafodaethau hynny, a ydy’r Llywodraeth hyn—eich Llywodraeth chi—yn ystyried ei...
Mr Simon Thomas: Diolch am y cadarnhad hwnnw. Wrth gwrs, mae’r cytundeb hwnnw’n gosod cwrs i fynd at allyriadau carbon o sero, dim, erbyn ail hanner y ganrif hon ac i ddal allyriadau carbon i dyfiant o 1.5 y cant tan hynny. Yn ystod yr wythnos diwethaf, mae newyddion wedi dod ein bod ni ar fin pasio’r trothwy symbolaidd ond pwysig o 400 rhan y filiwn o allyriadau carbon, sy’n dangos bod yr holl fyd yn...
Mr Simon Thomas: Diolch i chi am y cadarnhad hwnnw, ond rwy’n credu bod angen i ni barhau i adolygu’r targedau hyn, oherwydd mae’n bosibl na fydd targed o 80 y cant o ostyngiad yn ddigon mewn gwirionedd i gyfrannu at uchelgais Paris yn gyffredinol. Ond un o’r ffyrdd allweddol y gallem ni yng Nghymru gyfrannu tuag at ein targedau ein hunain a thargedau byd-eang yw drwy ynni adnewyddadwy wedi’i...
Mr Simon Thomas: A gaf fi gyflwyno ambell ffaith i chi, Weinidog? A gaf fi eich cyfeirio at erthygl yn yr ‘Agricultural History Review’, o dan y pennawd ‘Measuring Regional Variation in Farm Support: Wales and the UK, 1947-72’? Dyma oedd casgliad yr erthygl hon: roedd cymorthdaliadau blaenorol i ffermydd cyn ffurfio’r UE yn cosbi Cymru pan oedd maint y fferm yn llai ar gyfartaledd nag yn y DU gyfan....
Mr Simon Thomas: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â deddfwriaeth yn ymwneud â chael gwared ar amddiffyniad cosb resymol? OAQ(5)0012(CC)[W]
Mr Simon Thomas: Diolch, Weinidog, am yr ateb. Byddwch yn gwybod, Weinidog—o’r profiad gawsom ni yn y Cynulliad diwethaf pan oedd, rwy’n meddwl, y mwyafrif ar draws y pleidiau am gael gwared ar yr amddiffyniad yma—nad oedd modd cyflawni hynny yn y ffordd yr aed o’i chwmpas hi gan y Llywodraeth ac yn y ffordd y mae deddfwriaeth yn gweithio yma. Tra fy mod yn derbyn yn llwyr bod yn rhaid—wel, dim...