Mr Neil Hamilton: Hoffwn eilio enwebiad Dafydd Elis-Thomas ar gyfer y Dirprwy—ar gyfer y Llywydd, mae'n ddrwg gennyf.
Mr Neil Hamilton: Ydw—rwy’n meddwl.
Mr Neil Hamilton: Leanne Wood.
Mr Neil Hamilton: Lywydd, fel fy rhagflaenwyr yn eu datganiadau y prynhawn yma, hoffwn eich llongyfarch ar ymgymryd â swydd y Llywydd. Wrth gwrs, eiliais eich gwrthwynebydd, Dafydd Elis-Thomas, ac fe darodd melltith Hamilton eto. Serch hynny rwy’n cymeradwyo dewis fy nghyd-Aelodau yn y Cynulliad hwn, a gallaf addo i chi, er gwaethaf y dechrau a wnaethom heddiw gyda’r pwynt o drefn gan fy nghyfaill...
Mr Neil Hamilton: I’r graddau y gallwn bennu ei fanylion o ddatganiadau i’r wasg, y cytundeb a wnaed yw’r digwyddiad mwyaf di-ddim yn y wlad hon ers byg y mileniwm. Ac mae’n drueni nad yw Leighton Andrews yma heddiw i gymryd rhan yn y ddadl hon, gan iddo fynd i helynt yn y Cynulliad diwethaf am gyfeirio at ‘ddêt rhad’ gyda Phlaid Cymru. Pan edrychwch ar y rhestr o alwadau neu gyflawniadau y mae...
Mr Neil Hamilton: Wel, mae Leanne Wood wedi dweud na fyddai’n gweithio gydag UKIP mewn unrhyw amgylchiadau. Mae hynny’n ymddangos i mi’n sylw mor wrthwynebus fel y gellid yn hawdd ei ddisgrifio fel rhagfarn—ein bod, wyddoch chi, rywsut yn anghyffyrddadwy. [Torri ar draws.] Wel, nid yw 15 y cant o etholwyr Cymru yn credu ein bod yn anghyffyrddadwy, am eu bod wedi pleidleisio drosom, ac mae hynny’n...
Mr Neil Hamilton: Wel, diolch yn fawr iawn, Lywydd. First of all, I’d like to say that, of course, I respect your authority, as the Presiding Officer of this Assembly, and I welcome the spirit of tolerance in which you have made your statement this afternoon, and, in particular, as you propose no further action in respect of the words that I uttered last week. I had no intention to upset anybody in any way....
Mr Neil Hamilton: Wrth gwrs, Madam Lywydd. Y cwbl yr oeddwn i eisiau ei wneud oedd ailadrodd nad oeddwn i'n bwriadu cyfleu unrhyw amarch at y Cynulliad nac at unrhyw Aelod ohono. Roeddwn i’n ceisio gwneud pwynt doniol o fater difrifol. Rwy'n sylweddoli bod synnwyr digrifwch yn beth unigol. Croesawaf yr hyn a ddywedasoch hefyd am beidio â bod eisiau tarfu ar natur ddigymell y dadlau yn y Siambr hon, ac, yn...
Mr Neil Hamilton: Diolch i chi, Lywydd. Mr Prif Weinidog, byddwch wedi gweld yn y newyddion yr wythnos hon bod yr Unol Daleithiau wedi cynyddu ei thariffau ar fewnforion dur wedi’i rolio’n oer i'r Unol Daleithiau o 266 y cant i 522 y cant. Yr wythnos hon, o bob wythnos, wrth gwrs, dyfodol cynhyrchu dur ym Mhort Talbot sydd flaenllaw ym meddyliau pob un ohonom. Mae gan yr UE, mewn gwrthgyferbyniad â’r...
Mr Neil Hamilton: Nid oes gennyf unrhyw anhawster yn cymeradwyo'r feirniadaeth yr ydych chi, fel Prif Weinidog, wedi ei gwneud o’n Llywodraeth am beidio â chefnogi tariffau realistig ar ddur wedi’i ddympio o Tsieina. Yn sicr—[Torri ar draws.] Yn sicr, nid polisi UKIP yw cefnogi’r lefel bresennol o dariffau yn yr UE. Ond yr hyn y mae hyn yn ei ddangos i ni, yn gyntaf ac yn bennaf, yw'r hyn sy'n...
Mr Neil Hamilton: Ond nid maint yr allforion sydd gennym ni o’r wlad hon i’r UE yw’r broblem wirioneddol â datganoli yn y wlad hon, ond y llif o fewnforion o Tsieina i mewn i'r UE, sy'n achosi parlys ar draws y diwydiant dur yn yr UE cyfan. Y broblem sy'n ein hwynebu yw nad gwleidyddion etholedig, yn y pen draw, sy'n gwneud y penderfyniadau yn yr UE. Dyna pam mai ein hargymhelliad ni yw i bobl y wlad...
Mr Neil Hamilton: Fel Andrew R.T. Davies a Leanne Wood, rwyf yn llongyfarch pawb sydd wedi eu penodi i’w swyddi yn y weinyddiaeth hon, yn enwedig Ken Skates, a ddywedodd wrthyf y diwrnod o'r blaen fy mod wedi prynu diod iddo yn Nhŷ'r Cyffredin 20 mlynedd yn ôl. Rwyf nawr yn edrych ymlaen at gynnig llwncdestun ar ei lwyddiant ac yntau'n mynd i'w boced y tro hwn wrth iddo dalu'n ôl. [Chwerthin.] Dywedodd...
Mr Neil Hamilton: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Nearly three years ago, the Prime Minister, David Cameron, described the congestion on the M4 corridor as like a foot on the windpipe of the Welsh economy. That coupled with the tolls on the Severn bridge, which act as a kind of tax on jobs and prosperity in south Wales, requires us to take immediate or very quick action, at any rate, to solve these two problems....
Mr Neil Hamilton: Rwy’n derbyn yr ail bwynt a wnaeth y Prif Weinidog a chaiff gefnogaeth lawn fy mhlaid, yn sicr, wrth geisio cael gwared ar y cyfyngiad mawr hwn ar ddatblygu economaidd yn ne Cymru. Ond o ran prosiect yr M4, aeth fy mhlaid i mewn i’r etholiad diwethaf ar sail cefnogi’r llwybr glas yn hytrach na’r llwybr du. Ein barn ni yw y byddai’r llwybr du yn well na dim llwybr, ac nid ydym am...
Mr Neil Hamilton: Rwy’n derbyn rhesymeg hynny. Rwyf fi ond eisiau dweud wrth y Prif Weinidog ein bod wedi dod i’r lle hwn i fod yn adeiladol yn yr wrthblaid ac rydym am chwarae’r math o rôl y mae Plaid Cymru’n honni yn awr ei bod yn ei chwarae mewn perthynas â datblygu polisi Llywodraeth, ac felly rwyf eisiau dweud, o ran y llwybr du neu’r llwybr glas, fod fy mhlaid yn barod i gynnal trafodaethau...
Mr Neil Hamilton: Brif Weinidog, diolch i chi am eich datganiad, ac fel chithau, rwy’n rhoi croeso gofalus i’r Bil, am fod fy mhlaid yn blaid sy’n credu mewn datganoli. Ymwneud â hynny y mae ein cyfraniad i’r ddadl ar yr UE: datganoli pwerau yn ôl o Frwsel i San Steffan neu i Gaerdydd. Ond yng nghyd-destun y Bil penodol hwn, fel y byddwch yn gwybod, mae cymal 16 yn ymwneud â chyflwyno pwerau i...
Mr Neil Hamilton: Cymeradwyaf y Prif Weinidog ar ei ddatganiad. Yn benodol rwy’n ategu’n frwd ei sylwadau am Roger Maggs, cadeirydd Excalibur a ffrind ysgol i mi flynyddoedd lawer yn ôl yn Nyffryn Aman. Ac rwy’n cymeradwyo popeth a ddywedodd Adam Price—cynnyrch nodedig arall o fy hen ysgol—yn ei ymateb i’ch datganiad hefyd am y gronfa bensiwn yn Tata. Fe sonioch, funud yn ôl, y gellid ymdrin â...
Mr Neil Hamilton: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weinyddu Cynllun y Taliad Sylfaenol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Mr Neil Hamilton: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. The First Minister will know that Welsh farming is in crisis at the minute. Farm incomes across the board are down by 25 per cent and, in some sectors, like dairy, they’re down by as much as half. Of course, this is caused, to a great extent, by a collapse in commodity prices, but there are administrative reasons also behind it, in particular the chaos in the...
Mr Neil Hamilton: Felly, rwy’n mynd i ofyn i'r Prif Weinidog: pa gynnydd pellach sydd wedi ei wneud, yn enwedig o ran yr asiantaeth taliadau yn Lloegr, i ddatrys y problemau hyn?