Mark Reckless: Leanne Wood.
Mark Reckless: Pwynt o drefn.
Mark Reckless: Ar bwynt o drefn, cyn i’r trafodion gael eu gohirio, roedd gennym dau enwebiad. Nid oes unrhyw ddarpariaethau yn y Rheolau Sefydlog ar gyfer tynnu enwebiadau yn ôl. Yn wir, mae’r Rheolau Sefydlog yn datgan yn benodol, yn 8.2, ‘Os bydd nifer y pleidleisiau ar gyfer y ddau ymgeisydd yn gyfartal, rhaid cynnal pleidlais arall drwy alw’r gofrestr.’ Ni allai’r iaith fod yn fwy pendant...
Mark Reckless: Pwynt o drefn.
Mark Reckless: Gan gyfeirio’n bendant at y dyfarniad a’r wybodaeth sydd newydd ei rhoi?
Mark Reckless: Diolch. Wrth gwrs, nid yw’r holl ddarpariaethau’n cael eu gwneud yn y Rheolau Sefydlog, ac ni chaiff pob amgylchiad ei ystyried. Ond mae’r amgylchiad penodol hwn— ‘Os bydd nifer y pleidleisiau ar gyfer y ddau ymgeisydd yn gyfartal’ —yn cael ei ystyried yn benodol ac yn bendant, ac mae’n nodi, ‘rhaid cynnal pleidlais arall drwy alw’r gofrestr.’ Nid wyf wedi awgrymu y...
Mark Reckless: Nid wyf wedi gwneud unrhyw bwynt yn fy mhwynt o drefn sy’n awgrymu y dylid enwebu rhywun arall, dim ond nodi y dylid gweithredu amod benodol y Rheolau Sefydlog, yn sgil yr amgylchiad y darperir ar ei gyfer yn y Rheolau Sefydlog.
Mark Reckless: O ystyried y cwestiynau o’i feinciau cefn ei hun, a yw'r Prif Weinidog yn rhannu fy mhryder, os na fydd yn ystyried dewisiadau eraill ac eithrio’r llwybr du, efallai y byddwn yn canfod nad oes unrhyw ffordd liniaru i'r M4 yn cael ei hadeiladu o gwbl?
Mark Reckless: Diolch, Lywydd. Rydych yn newydd i’ch rôl, fel rwyf fi i’r Cynulliad hwn, ac nid yw fy sylwadau ar y Rheolau Sefydlog yn adlewyrchiad arnoch chi na’ch swydd. Yn wir, rwy’n gwerthfawrogi’r sgyrsiau adeiladol rydym wedi’u cael ar y broblem. Nid oes dianc rhag y ffaith ein bod ar hyn o bryd yn torri ein Rheolau Sefydlog, ac nid yw’n lle cyfforddus i unrhyw ddeddfwrfa fod. Fel...
Mark Reckless: Dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach nad oedd eisiau gweld allforwyr yn wynebu rhwystrau uchel diangen, ac, wrth nodi’r heriau i'r diwydiant dur, mae wedi pwysleisio ei farn bod y bunt wedi bod yn rhy uchel. A fyddai felly'n croesawu lefel mwy cystadleuol ar gyfer y bunt, gan gynnwys yn erbyn yr ewro?
Mark Reckless: Hoffwn ddiolch i Weinidog Busnes y Llywodraeth am ei datganiad. Mae gennym bum datganiad heddiw—pedwar ohonynt sydd newydd eu cyhoeddi. Roeddwn i’n meddwl tybed a yw nifer y datganiadau yn adlewyrchu'r ffaith ein bod wedi cael toriad, bod Gweinidogion wedi eu penodi yn ddiweddar ac efallai ei bod yn ymgynefino yn dilyn yr etholiad, a bod mwy o ddatganiadau nag y byddai rhywun fel arfer...
Mark Reckless: Diolch i Neville Chamberlain ein bod wedi cael tâl gwyliau. Diolch i fenywod Dagenham, ac i Barbara Castle ein bod wedi cael cyflog cyfartal yn y gwaith. Lywydd, mae ymgyrchoedd yn datgelu cymeriad. Wrth i ni siarad, mae Prif Weinidog Cymru yn sefyll ochr yn ochr â David Cameron—yn unedig yn erbyn pobl sy’n llywodraethu eu hunain, yn unedig dros symud yn rhydd a mewnfudo digyfyngiad, yn...
Mark Reckless: Bydd Cymru, yn fwy, rwy’n meddwl, nag unrhyw ran o’n Teyrnas Unedig, rwy’n falch o ddweud, yn well ei byd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd. Cawn £600 neu £700 miliwn o’r UE, mae rhai yn dadlau ar yr ochr honno, ac eto, fesul y pen, mae ein cyfraniad yn £1 biliwn y flwyddyn, o’i gymharu â thua £16 biliwn rydym yn ei dalu mewn trethiant i Drysorlys y DU, o’i gymharu â’r...
Mark Reckless: [Yn parhau.]—ond yn llywodraethu ein hunain.
Mark Reckless: Amcangyfrifwyd yn ddiweddar, ar sail annibynnol, y byddai'r diffyg yng nghyllideb Cymru, tua £14.6 biliwn, neu 25 y cant o CMC—tua 100 gwaith yn fwy nag amcangyfrifon unrhyw drosglwyddiad i’r UE neu o'r UE. Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn gweld yr Alban fel y model, ond onid yw'n rhannu fy mhryder i, os, yn yr hirdymor, y byddwn yn parhau i ddilyn y trywydd datganoli treth, yn enwedig...
Mark Reckless: Cefais fy nharo’n arbennig gan ddau gyfiawnhad wrth ddarllen papurau cefnogi Llywodraeth Cymru ar gyfer y llwybr du. Yn gyntaf, ei fod eisoes yn rhwydwaith traws-Ewropeaidd, ac roedd y papurau hynny yn dweud bod angen ffordd newydd er mwyn iddo fodloni’r safonau gofynnol. Felly, onid yw hynny, felly, yn un o gostau aelodaeth o'r UE? Yn ail, gallai ailddosbarthu'r M4 bresennol yn y modd...
Mark Reckless: Diolch, Lywydd. Yn ystod ei ymweliad â Stadiwm Dinas Caerdydd ddoe, dywedodd y Prif Weinidog y byddai Llywodraeth Cymru, yn dilyn pleidlais dros adael, yn datblygu ei pherthynas ar wahân ei hun gyda’r Undeb Ewropeaidd. A yw’r Gweinidog yn gwybod beth a olygai, neu sut y bydd hyn yn effeithio ar ei bortffolio?
Mark Reckless: Rwy’n byw yng Nghymru. Rwyf braidd yn bryderus nad yw’r Gweinidog yn ymwybodol o’r hyn y mae’r Prif Weinidog yn bwriadu ei wneud yn y maes hwn. Mae wedi siarad yn huawdl am gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd ac adfywio cymunedol, ond mae’n ymddangos ei fod ef a’i Lywodraeth yn dilyn trywydd ymwahanol drwy’r cydweithio hwn â Phlaid Cymru. Tybed oni wneid defnydd gwell ohono’n...
Mark Reckless: Ac ar y prosiectau y mae’r Gweinidog yn sôn amdanynt—adfywio cymunedau a thu hwnt—lle y dywedir wrthym pa mor wych yw’r arian Ewropeaidd, mae’n aml yn dod gydag amodau a chyfyngiadau ynghlwm wrtho. Rwy’n meddwl tybed a oes yna unrhyw un o’r prosiectau hynny y mae’r Gweinidog yn credu y gellid ei wneud yn well pe bai Llywodraeth Cymru yn ddilyffethair o ran y modd y caiff...
Mark Reckless: A wnaiff yr Aelod ildio?