Jane Dodds: Diolch yn fawr iawn, Llywydd, ac a gaf i yn gyntaf jest ymestyn llongyfarchiadau ichi eto, Brif Weinidog, am gael eich ethol, a hefyd i bawb yn y Senedd? Fel yr unig Aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol, dwi'n edrych ymlaen at weithio efo chi i gyd, wrth gwrs. Gwnaf ofyn y cwestiwn yn Saesneg.
Jane Dodds: 4. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched, yn enwedig mewn cymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig? OQ56568
Jane Dodds: Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna.
Jane Dodds: A gaf i ddilyn hynna drwy ganolbwyntio ar yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn ystod y cyfnod COVID hwn? Rydym ni i gyd yn gwybod y bu cynnydd sylweddol i'r angen am leoedd lloches, yr angen am wasanaethau, ac ymatebion gwell a mwy penodol i'r menywod a'r plant hynny sy'n dod ymlaen ar ôl y cyfnodau cyfyngiadau symud hyn. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn clywed pa faterion a gwasanaethau...
Jane Dodds: 5. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi iechyd meddwl menywod yn dilyn pandemig COVID-19? OQ56569
Jane Dodds: Diolch yn fawr iawn. A gaf fi eich llongyfarch ar eich rôl hefyd? Llongyfarchiadau. Mae adroddiad 'Cyflwr y Sector' Cymorth i Fenywod Cymru yn canolbwyntio ar y sefyllfa i fenywod yr effeithiwyd arnynt gan drais domestig. Maent yn catalogio amrywiaeth o wasanaethau cymorth yn y sector hwn, ar gyfer menywod sy'n gwneud penderfyniadau am adael perthynas a'r rhai yr effeithiwyd arnynt ac sy'n...
Jane Dodds: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn am y cyfle i roi'r araith yma.
Jane Dodds: Mae pawb am gael dull fforddiadwy, cymesur ac amgylcheddol gynaliadwy wedi'i dargedu o weithredu ar lygredd dŵr. Mae ffermwyr yn awyddus iawn i gael hyn, ond nid yw'r ddeddfwriaeth hon yn gwneud hynny. Nid yw wedi'i thargedu, gan nad yw'r rhan fwyaf o ffermydd ledled Cymru wedi cofnodi llygredd amaethyddol. Yn ôl rhai arbenigwyr, nid yw hyn yn addas ar gyfer 90 y cant o dir ffermio Cymru....
Jane Dodds: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi'n ddiolchgar iawn.
Jane Dodds: Rwy'n mynd i fod yn fyr iawn oherwydd rwy'n ymwybodol fod yna bwysau, yn amlwg, ond roeddwn i wir eisiau dweud ychydig eiriau ar fater tai. Mae gan lawer ohonom atebion gwych, a dylem fod yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau ein bod yn cynnwys y rheini mewn strategaeth gydlynol glir iawn. Hoffwn sôn am ddau beth: y cyntaf yw fy nryswch gwirioneddol yma ynghylch safbwynt y Ceidwadwyr sy'n...
Jane Dodds: Rwyf wedi dysgu llawer yn ystod y pum mlynedd diwethaf, ac rwy'n credu mai un o'r pethau pwysicaf a ddysgais yw bod pobl am inni roi'r gorau i ddadlau â'n gilydd, i weithio gyda'n gilydd, a chanolbwyntio ar ddyfodol pobl Cymru. Rhaid i mi ddweud fy mod yn synnu at gywair rhai o'r sylwadau yn y ddadl hon, ac nid wyf yn credu bod eu hangen. Roedd Brexit yn ymrannol ac yn boenus; gadewch inni...
Jane Dodds: A gaf i anfon dymuniadau gorau i'r Prif Weinidog a'i deulu hefyd?
Jane Dodds: Mewn arolwg ddechrau'r mis hwn, roedd mwy na 50 y cant o ymatebwyr o ardaloedd gwledig yng Nghymru yn teimlo nad oedd y rhyngrwyd yn gyflym ac yn ddibynadwy, yn enwedig pobl yn sir Benfro, Ceredigion a sir Gaerfyrddin. Dim ond 36 y cant o bobl mewn ardaloedd gwledig oedd â band eang cyflym iawn, o'i gymharu â 67 y cant mewn ardaloedd trefol. Tybed a allai'r Prif Weinidog wneud sylw am...
Jane Dodds: Rwyf i'n croesawu'r papur hwn—diolch yn fawr iawn i chi, Prif Weinidog. Rwy'n croesawu'r papur hwn am ei fod yn ymwneud â busnes, yn ymwneud â bargeinion masnach sy'n effeithio ar ein ffermwyr a'n busnesau sy'n cael eu gwneud heb unrhyw fewnbwn oddi wrthym ni. Mae'r papur yn ymwneud ag iechyd a sut rydym ni'n gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod y pandemig hwn yn cael ei reoli. Mae'n...
Jane Dodds: 2. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried cyflwyno gofal plant rhan-amser am ddim i blant o naw mis i'w pen-blwydd yn dair oed i bob rhiant waeth beth fo'u statws gwaith? OQ56753
Jane Dodds: Diolch yn fawr iawn. Gweinidog, mae gwaith ymchwil gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith a Gingerbread yn awgrymu bod y pandemig wedi taro rhieni sengl yn galed iawn—colli gwaith ac incwm, addysg yn y cartref, a cholli gofal plant a chymorth gofalu. Fel arfer, gweithwyr yw'r rhain sydd mewn gwaith cyflog isel a rhan-amser yn bennaf ac yn y diwydiannau hynny sydd wedi cael eu taro galetaf gan y...
Jane Dodds: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Yn dilyn rhai o'r pwyntiau a gododd Jenny Rathbone: rwy'n cael fy nghalonogi o weld eich ymrwymiad chi i ddiwygio etholiadol, i leihau'r diffyg democrataidd. Ac rwy'n siŵr eich bod chi mor bryderus â minnau ynghylch cynnig Llywodraeth Geidwadol y DU i ddifreinio pleidleiswyr, dan gynlluniau a ddadorchuddiwyd ddim ond ddydd Llun diwethaf, a fydd yn...
Jane Dodds: Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu'r cynigion, gan gynnwys gosod fframwaith cenedlaethol clir i gefnogi proses o gynllunio gwasanaethau yn rhanbarthol a'u darparu'n lleol, a chryfhau trefniadau partneriaeth. Hoffwn i ganolbwyntio yn fyr ar wasanaethau i bobl ifanc ac oedolion ifanc o fewn y fframwaith hwn, yn enwedig y rhai hynny ag anableddau dysgu, a'r rhwystrau sydd ar waith i'r gwasanaethau...
Jane Dodds: Weinidog, hoffwn barhau â thema ariannu. Rwy'n ofni fy mod yn troi'n ôl ato, oherwydd rwy'n awyddus iawn i gael atebion gennych. Diolch yn fawr iawn i Peredur ac i Natasha hefyd am godi'r mater pwysig hwn. Cefais sioc fawr o glywed gan Dŷ Gobaith a Thŷ Hafan mai 10 y cant yn unig o'u cyllid a roddwyd iddynt gan Lywodraeth Cymru. Gadewch inni ddod at wraidd y mater: yn yr Alban, daw 50 y...
Jane Dodds: 'Mae ein tŷ ar dân.' Dyna a ddywedodd Greta Thunberg. Mae gennym argyfwng hinsawdd, a phan fydd gennym argyfwng, yn union fel y gwelsom gyda COVID, mae pethau y gallwn barhau â hwy, ac mae rhai pethau y mae'n rhaid inni roi'r gorau iddynt. Ac mae hwn yn gynnig sgitsoffrenig braidd, os nad oes ots gennych imi ddweud. Er fy mod yn cytuno â rhai pethau ynddo—ynglŷn â mwy o bwyntiau...