David Lloyd: Rwy’n codi i enwebu Elin Jones fel Llywydd y Cynulliad.
David Lloyd: Leanne Wood.
David Lloyd: Brif Weinidog, efallai eich bod yn cytuno â fi wrth i fi ddweud bod y defnydd, neu’r gorddefnydd, o wrthfiotigau yn gyfrifoldeb arnom ni i gyd, i ddweud y gwir. Fel rydym yn ymwybodol, mae’r defnydd o wrthfiotig yn digwydd yn y byd amaeth, yn ogystal, wrth gwrs, a chan feddygon teulu ac yn ein hysbytai. Wrth gwrs, mewn rhai gwledydd yn Ewrop ac ymhellach, rydych jest yn gallu prynu...
David Lloyd: Byddwch chi’n ymwybodol, yn naturiol, Brif Weinidog, o ddatblygiad cyffrous y campws newydd ym mae Abertawe—Prifysgol Abertawe, felly. A, hefyd, byddwch chi’n ymwybodol o’r buddsoddiad anferthol sydd wedi bod yn y campws newydd yna, a’r rhan helaeth o hwnnw’n dod o arian Ewrop. Felly, a fyddech chi’n cytuno efo fi y byddai’r fath fuddsoddiad yn amhosib petai Cymru y tu allan...
David Lloyd: Rwy’n diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd am ei ddatganiad a hefyd am ei eiriau caredig. Yn naturiol, mae hwn yn esiampl o ddefnydd clodwiw o ddeddfwriaeth yn y lle hwn, ac mae’n werth nodi, heb y Cynulliad, fyddai yna ddim mo’r Ddeddf hon. Rwy’n gwybod bod hynny’n rhywbeth digon plaen i’w ddweud, ond mae yna lot o bobl yn holi beth y mae’r Cynulliad erioed wedi’i...
David Lloyd: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gofal sylfaenol yng Nghymru?
David Lloyd: Cabinet Secretary, you’ll be aware that I haven’t been an Assembly Member for five years—there was a gap of five years in my membership—but I remember raising in the third Assembly the grave need to electrify the railway between London and Swansea. In the meantime, I have seen virtually no development in that area. So, could I have an update on the plan for the electrification of the...
David Lloyd: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch yn fawr i Russell am agor y ddadl yma a hefyd am dderbyn ein gwelliant ni, sydd yn ffeithiol, a dweud y gwir. Rydym ni yn gresynu bod yna doriadau wedi bod mewn chwaraeon ar lawr gwlad achos toriadau cyllidol. Ac wrth gwrs mae’n bwysig inni hefyd ymuno wrth longyfarch tîm pêl-droed Cymru, a wnaeth gael llwyddiant eithriadol dros y penwythnos. Ac,...
David Lloyd: Diolch am y cyfle i gyfrannu i’r ddadl hon a diolch am rai cyfraniadau arbennig, yn enwedig oddi wrth Steffan a Sian, a hefyd oddi wrth Mick yn ddiweddar nawr. Roeddwn i’n mynd i ganolbwyntio hefyd yn sylfaenol ar yr elfen yma o blismona a’r system gyfiawnder, achos pan oeddem ni’n dechrau yma ym 1999, roedd un o’n tri phrif wasanaeth 999 ni wedi’i ddatganoli, sef y gwasanaeth...
David Lloyd: A allaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ac isadeiledd am ei ddatganiad ac, yn wir, croesawu ei ddatganiad yn llawn? Nawr, y prynhawn yma—nid dyma’r adeg i fod yn mynd a thraethu a dadlau ynglŷn â pha ffordd sydd orau, achos, wrth gwrs, mae’r Gweinidog wedi amlinellu ffordd ymlaen ar y mater dyrys yma sydd wedi bod yn rhygnu ymlaen ers blynyddoedd lawer. Achos y gwir...
David Lloyd: Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i gyfrannu i’r ddadl bwysig yma. Efallai fy mod wedi sôn o’r blaen fy mod i’n feddyg teulu, ond jest rhag ofn nad wyf wedi sôn digon am y ffaith honno, rwy’n ailadrodd y peth eto’r prynhawn yma. Ond, yn y bôn, wrth gwrs, mae’r ffaith bod pobl yn byw yn hirach yn destun clod i’r gwasanaeth iechyd, os rhywbeth. Rydym ni wedi hen arfer ar glywed...
David Lloyd: Lywydd, rwy’n enwebu Bethan Jenkins.
David Lloyd: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol Amgueddfa Abertawe?
David Lloyd: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
David Lloyd: A fyddech yn cytuno bod y sefyllfa bresennol, lle mae gennym wardiau mawr wedi’u cynrychioli gan nifer o aelodau yng nghanol ein dinasoedd mawr, wedi’i chyfuno â system y cyntaf i’r felin, yn wrth-ddemocrataidd mewn gwirionedd, yn union fel roedd yr enghraifft yn ei ddisgrifio?
David Lloyd: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser gen i agor y ddadl, ac mi fyddai’n cau’r ddadl hefyd, ymhen ychydig. Wrth gwrs, mae’n cynnig ni yn galw arnom ni i gyd—bod y Cynulliad Cenedlaethol yn credu y dylai egwyddorion llywodraeth agored gael eu cynnal ym mhob maes cyfrifoldeb, yn credu y dylai’r cod gweinidogol gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a chael ei...
David Lloyd: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb am eu cyfraniadau. Jest i fynd yn ôl at bwynt ein dadl, wrth gwrs, mae yna sawl gwahanol egwyddor wedi llwyddo i gropian i mewn i’r ddadl yma, ond mi wnawn ni fynd yn ôl at y pwynt sylfaenol a oedd ynglŷn â’r cod gweinidogol. Rydym ni’n galw yn naturiol ar holl egwyddorion llywodraeth agored gael eu cynnal. Mae pobl wedi dweud pethau...
David Lloyd: Rwy’n ei chyfrif hi’n fraint i allu cymryd rhan yn y ddadl bwysig yma, a diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ddod â’r pwnc gerbron yn ymdrin â ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’. Wrth gwrs, mae rhai ohonom ni’n ddigon hen i gofio Mesur iechyd meddwl Jonathan Morgan, cyn Aelod o’r Cynulliad yma, rai blynyddoedd yn ôl nawr, sydd wedi dod â lot o’r gwaith yma gerbron, gyda...
David Lloyd: Mae yna bwynt yn hynny, ond, ar ddiwedd y dydd, mae angen mwy o therapyddion arnom ni. Mae angen mwy o bobl i ymdrin â’r sefyllfa achos mae rhestrau aros yn y math hwn o beth yn hollol, hollol annerbyniol, a hefyd yn y maes ymdrin â chyffuriau ac alcohol neu’r camddefnydd o’r sylweddau yna. Mae hefyd eisiau rhagor o weithwyr yn y maes yn fanna, achos mae yna restrau aros hefyd yn y...
David Lloyd: Ie, mi fuaswn i’n cytuno, achos mae’r holl system o dan straen. Fe allem ni i gyd wneud efo lot mwy o amser i ymdrin â phobl, ac, unwaith rwyf i wedi penderfynu fy mod yn mynd i arallgyfeirio claf i rywle arall, rwyf eisiau iddo fo gael ei weld, achos beth sy’n digwydd os oes yn rhaid chi aros chwe mis, yw eich bod chi’n mynd yn ôl i weld y meddyg yna, sydd o dan digon o straen yn...