David Rees: Lywydd, a gaf fi enwebu John Griffiths ar gyfer swydd y Dirprwy Lywydd?
David Rees: Carwyn Jones.
David Rees: Brif Weinidog, mae hyfforddi meddygon yn bwysig i ddyfodol ein gwasanaethau iechyd, ond mae hynny'n wir hefyd am hyfforddi mwy o nyrsys, ffisiotherapyddion, radiograffyddion a’r holl broffesiynau iechyd eraill. Efallai nad yw’r model cynllunio’r gweithlu a ddefnyddiwyd yn addas i’w ddiben erbyn hyn. Fel y cyfryw, a wnewch chi ofyn i'ch Ysgrifennydd iechyd newydd edrych ar y model...
David Rees: 11. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yn amlinellu unrhyw drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael gyda’r saith sefydliad sydd wedi mynegi diddordeb posibl mewn prynu Tata Steel UK? OAQ(5)0004(FM)
David Rees: Brif Weinidog, a gaf i ddiolch i chi yn gyntaf oll am yr arweinyddiaeth yr ydych chi wedi ei dangos yn ystod yr ymgyrch etholiadol yma yng Nghymru ar yr argyfwng dur? Roedd fy etholwyr yn sicr yn gwerthfawrogi’r arweinyddiaeth honno yng Nghymru. Ers i'r Cynulliad gyfarfod ddiwethaf, a dweud y gwir, ar 4 Ebrill, pan drafodwyd yr argyfwng dur, mae proses sydd wedi symud yn gyflym yn yr...
David Rees: 6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithgareddau’r tasglu dur ers diddymiad y Pedwerydd Cynulliad? OAQ(5)0032(FM)
David Rees: Diolch i’r Prif Weinidog am ei ateb, ac arhosaf i glywed rhai o’r pwyntiau, ond un o’r materion rwyf am dynnu sylw ato yw’r ffaith, ers y cyhoeddiad ym mis Ionawr am golli 1,000 o swyddi, gyda 750 ohonynt yn fy etholaeth i, yng ngwaith Port Talbot, ein bod wedi gweld y rhan fwyaf o’r swyddi hynny’n mynd go iawn, ac ar ddiwedd y mis hwn bydd gweddill y swyddi hynny’n mynd. Nawr,...
David Rees: Brif Weinidog, hoffwn ddiolch i chi am eich datganiad heddiw. Mae’n amlwg yn bwysig sicrhau nad yr Aelodau yn y Cynulliad hwn yn unig sy’n cael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y drafodaeth gyda Tata, ond bod fy etholwyr a’r gweithwyr dur yn fy etholaeth mewn gwirionedd yn gwbl ymwybodol o’r hyn rydym yn ceisio ei wneud. Roedd yr Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn llygad...
David Rees: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfleoedd a gaiff eu cynnig drwy’r Ardal Fenter ym Mhort Talbot? OAQ(5)0016(EI)
David Rees: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw. Ym Mhort Talbot, mae effaith penderfyniad Tata i werthu’r gwaith dur a hefyd i leihau’r gwaith sy’n cael ei roi ar gontractau allanol i fusnesau lleol yn creu heriau enfawr i gwmnïau lleol, sydd bellach yn wynebu cyfnod anodd i allu parhau i gynnal eu busnesau—fel Fairwood Fabrications, a welsom ar y rhaglen deledu gyda Michael Sheen,...
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, fel rydych wedi’i ddatgan yn aml, a’i ailadrodd y prynhawn yma, mae’r angen am gronfa triniaethau yn ymestyn y tu hwnt i fater cyffuriau canser a dylai ymgorffori ystod eang o driniaethau, gan gynnwys ffurfiau newydd ar radiotherapi, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi hyrwyddo hynny yn y Cynulliad diwethaf—radiotherapi stereotactig CyberKnife ar...
David Rees: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog meddygon teulu i ddod i Gymru?
David Rees: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y cyffyrdd ar hyd yr M4 ym Mhort Talbot?
David Rees: Y Gweinidog Busnes, yn gyntaf oll a allaf gytuno â Simon Thomas a chefnogi ei alwad ynglŷn â rhoi sylw i gamddefnyddio cyfryngau cymdeithasol? Mae'n ymddangos i mi fod rhai pobl yn credu yn anghywir fod yr anhysbysrwydd y mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ei gynnig iddynt, neu’r ffaith eu bod yn eistedd yn y tŷ ar eu pennau eu hunain, yn rhoi caniatâd iddynt aflonyddu, bygwth a...
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r strategaeth hinsawdd hefyd yn gosod targedau ar gyfer gwella defnydd effeithlon o ynni yn ein cartrefi. Mae rhan o’r dull o gyflawni hyn yn cynnwys rhoi cladin allanol ar rai o’r adeiladau sy’n cael eu defnyddio’n eang, ond hefyd ar stoc a adeiladwyd cyn 1919, sy’n adeiladau bloc solet neu waliau solet yn bennaf. Mae’r cladin allanol yn ei gwneud...
David Rees: Yn dilyn y cwestiwn hwnnw, mae’n amlwg fod yr ansawdd aer ym Mhort Talbot, Ysgrifennydd y Cabinet, wedi cael sylw fel un o’r gwaethaf yng Nghymru. Yn wir, dywedodd adroddiad Sefydliad Iechyd y Byd a gyhoeddwyd yn ddiweddar mai dyna’r ansawdd aer gwaethaf yn y DU mewn perthynas â rhai gronynnau, ac yn sicr mae’n un o’r rhai gwaethaf yn y DU. Rwy’n deall y problemau sydd gennym....
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, mae llawer o brosiectau adfywio cymunedol yn fy etholaeth wedi cael eu cefnogi gan gyllid yr UE, o Lansawel a Sandfields i ddyffryn Afan. Maent yn amrywio o gynorthwyo pobl yn ôl i waith i adeiladu canolfannau ar gyfer gweithgareddau cymunedol. Mae’r rhain wedi bod yn hanfodol i gryfhau’r cymunedau hynny. Fodd bynnag, mae llawer yn awr yn wynebu heriau pellach o...
David Rees: Mae addasu gwasanaethau ar gyfer poblogaeth sy’n heneiddio sy’n cynyddu yn ei maint, yn enwedig mewn cymunedau difreintiedig, yn un o’r heriau allweddol sy’n wynebu ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae ein poblogaeth yn tyfu’n raddol, ond mae hefyd yn heneiddio’n raddol. Mae ystadegau diweddar gan Gydffederasiwn y GIG yn dangos y bydd nifer y boblogaeth ar draws y DU sydd dros 65 oed...
David Rees: A wnewch chi dderbyn ymyriad ar ddur?
David Rees: Ar ddur.