Joyce Watson: Rwyf am enwebu Ann Jones.
Joyce Watson: Carwyn Jones.
Joyce Watson: 8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu plant sy’n ffoaduriaid ar eu pen eu hunain sydd newydd gyrraedd Ewrop? OAQ(5)0018(FM)
Joyce Watson: Diolch. Rydym i gyd wedi gwylio’r argyfwng yn datblygu, gyda chynnydd aruthrol i nifer y plant sy’n symud ar draws Ewrop. Yn ôl Achub y Plant, maen nhw bellach yn cyfrif am un o bob tri o'r niferoedd hynny eleni, o'i gymharu ag un o bob 10 y llynedd. Mae'n weddol amlwg, i’r plant hynny, bod y risgiau o aros gartref yn fwy nag yw wynebu’r peryglon o symud. Mae’r perygl o drais...
Joyce Watson: Weinidog, a allwn gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar gwmni bysiau Silcox? Fe fyddwch yn gwybod bod y cwmni 134 mlwydd oed yn Noc Penfro wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr ddydd Llun a bod hynny wedi arwain at golli tua 40 o swyddi. Wrth gwrs, mae’n drist iawn fod cwmni gyda’r fath hanes a gwreiddiau yn y gymuned wedi rhoi’r gorau i fasnachu....
Joyce Watson: Y Prif Weinidog?
Joyce Watson: Hoffwn longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar ei benodiad ond rwyf hefyd yn awyddus i dalu teyrnged i’r Gweinidog blaenorol, a oedd â swydd anodd iawn ac fe gyflawnodd rywfaint o newid. Nid llongyfarchiadau ffug mohono, gallaf eich sicrhau. Fodd bynnag, os caf symud ymlaen yn gyflym, ddydd Gwener diwethaf ymwelais ag ysbyty Llwynhelyg a siaradais â staff a chleifion am y gwasanaethau...
Joyce Watson: Hoffwn ddechrau drwy gydnabod cyflawniad enfawr tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru yn cymryd rhan yn Ewro 2016 yn Ffrainc. Ac fel y mae pawb wedi dweud, dyma’r tro cyntaf ers 58 mlynedd i Gymru gyflawni hynny. Ac oedd, roedd y fuddugoliaeth 2-1 yn erbyn Slofacia yn eu gêm gyntaf yn drawiadol, ac ni allwn sôn am y gêm heb hefyd sôn am un chwaraewr, Joe Allen o Hwlffordd. Ond mae...
Joyce Watson: Weinidog, byddwch chi’n ymwybodol fod adroddiad diweddar gan y BBC wedi canfod bod 3,000 o blant ar eu pen eu hunain wedi cyrraedd y DU y llynedd yn ceisio lloches, ac roeddent yn aml yn ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth. Canfu'r adroddiad fod o leiaf 891 o’r plant hynny ar eu pen eu hunain a oedd yn ceisio lloches wedi diflannu ar ôl cyrraedd y DU yn ystod y tair blynedd diwethaf—421...
Joyce Watson: Unwaith eto, rwy’n falch o’ch croesawu yn ôl i swyddogaeth, Weinidog—neu Ysgrifennydd—y gwn eich bod yn teimlo’n angerddol ynglŷn â hi. Mae angerdd yn chwarae rhan, wrth gwrs, ar y ddwy ochr i’r ddadl hon. Hoffwn dynnu eich sylw at angerdd i wneud rhywbeth cadarnhaol am hyn, a hoffwn, yma, ganmol gwaith ysgol Coedcae yn Llanelli, o ble y daeth y disgyblion yma i gyflwyno eu...
Joyce Watson: Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer llywyddiaeth y DU o'r UE y flwyddyn nesaf?
Joyce Watson: 11. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y digwyddiad pan lifodd biswail i lednant afon Taf yn sir Gaerfyrddin ym mis Mai, gan ladd 230 o bysgod? OAQ(5)0016(ERA)
Joyce Watson: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet, ac fel y dywedwch, amcangyfrifiwyd bod nifer fawr o bysgod wedi’u lladd. Ond un digwyddiad yn unig yw hwn, neu’r digwyddiad diweddaraf, ar y rhan honno o’r dŵr, ac nid dyma’r tro cyntaf y cafwyd digwyddiad o’r fath. Cafwyd digwyddiad arall pan ollyngodd tua 10,000 galwyn o fiswail i nant yn nyffryn Tywi ym mis Mawrth 2015. Wrth...
Joyce Watson: Diolch i Julie Morgan, yn gyntaf, am gyflwyno’r ddadl hon ac yn ail, am roi munud i mi, a cheisiaf gadw ati. Rwyf fi, fel yr holl gyd-Aelodau sy’n bresennol yn awr, eisiau talu teyrnged i Jo Cox. Cawsom i gyd ein syfrdanu gan yr hyn a ddigwyddodd, ond rydym hefyd, rwy’n gobeithio, wedi cael ein hysbrydoli gan yr hyn a adawodd ar ôl, ac rydym yn awyddus i gymryd yr hyn y credai ynddo...
Joyce Watson: Arweinydd y tŷ, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ar ddyfodol gwaith glo brig Nant Helen ger Ystradgynlais? Yn dilyn y cyhoeddiad fod gorsaf bŵer Aberddawan am israddio ei gweithrediadau o fis Ebrill nesaf, cyhoeddodd Celtic Energy yr wythnos diwethaf y gallai Nant Helen gael ei rhoi o'r neilltu, gan arwain at 90 o ddiswyddiadau. Ym mis Hydref,...
Joyce Watson: Rwyf i'n eilio.
Joyce Watson: Rwyf yn enwebu Jayne Bryant.
Joyce Watson: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ei flaenoriaethau ar gyfer hybu cydraddoldeb yng Nghymru? OAQ(5)0014(FLG)
Joyce Watson: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet, ond roedd ymgyrch y refferendwm, yn enwedig tuag at y diwedd, yn llawn o anoddefgarwch, ac mae’r gwenwyn hwnnw wedi ymdreiddio i fywyd cyhoeddus. Rydym i gyd wedi gweld adroddiadau am gam-drin hiliol ar ein strydoedd. Rydym hefyd, diolch byth, wedi gweld yr ymateb iddo yn Llanelli ac mewn mannau eraill lle mae pobl leol yn cefnogi ac yn...
Joyce Watson: Diolch i chi, Suzy, am dderbyn ymyriad. A fyddech yn cytuno nad yw plant yn gallu camu ymlaen? Rwyf wedi clywed llawer iawn o ystadegau heddiw, ond unigolion ag anghenion unigol yw’r rhain. A fyddech yn cytuno, oni bai ein bod yn mynd i’r afael â’u lles emosiynol yn gyntaf, yna ni allwch ddisgwyl unrhyw lefelau cyrhaeddiad tra’u bod yn dal i gario’r pwysau emosiynol hwnnw?