Nick Ramsay: Leanne Wood.
Nick Ramsay: Brif Weinidog, rwy’n sylweddoli y bu’n rhaid i’r partïon dan sylw lofnodi cytundebau peidio â datgelu, sy'n cyfyngu ar y wybodaeth y gallwch chi ei rhoi, ond yn dilyn ymlaen o gwestiwn John Griffiths, a gaf i ofyn i chi os ydych chi wedi cael unrhyw drafodaethau penodol ar hyfywedd rhan Llanwern o weithrediad dur Cymru, sydd yn peri pryder uniongyrchol i’m hetholwyr? Rydym ni’n...
Nick Ramsay: 1. A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygio llywodraeth leol? OAQ(5)0020(FM)
Nick Ramsay: Dyna ateb calonogol iawn, Brif Weinidog. Rydych yn ddyn craff ac rydych yn siŵr o fod wedi sylwi fy mod wedi bod yn gwrthwynebu’r cynlluniau i ddiddymu Sir Fynwy fel rhan o’r ad-drefnu llywodraeth leol a argymhellwyd gan Lywodraeth ddiwethaf Cymru. Nawr bod y Gweinidog sy’n gyfrifol am y cynlluniau hyn wedi symud ymlaen at bethau gwell, onid yw’n adeg dda i fynd yn ôl i’r cychwyn...
Nick Ramsay: Diolch. Arweinydd y tŷ, tybed a gaf i ofyn i chi am ddiweddariad gan Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros seilwaith a thrafnidiaeth ar ddatblygiad cynllun metro de Cymru. Bydd aelodau’r Cynulliad blaenorol yn cofio fy mhryder mawr pan gafodd Trefynwy ei hepgor o rai o fapiau metro de Cymru, ac wedyn ailymddangosodd ar eraill cyn cael ei hepgor o fapiau dilynol. Felly, byddwn i’n...
Nick Ramsay: Diolch i chi am ildio, Brif Weinidog. Rwy’n clywed yr hyn a ddywedwch ar fater datganoli treth incwm, ond a fyddech hefyd yn cytuno ei bod yn bwysig i ni gael eglurder ar y mecanwaith a ddefnyddir i ostwng y grant bloc yn sgil datganoli treth incwm, fel na fydd Cymru ar ei cholled mewn gwirionedd yn y tymor hir?
Nick Ramsay: A wnewch chi dderbyn ymyriad, Weinidog?
Nick Ramsay: Diolch i chi am ildio. Clywais yr hyn a ddywedoch o ran cymunedau lleol yn cael manteision o gynlluniau ynni adnewyddadwy lleol. Wrth gwrs, dyna beth y dylent ei gael, a dyna beth rydym am iddynt ei gael, ond cafwyd rhai achlysuron yn fy etholaeth pan na chafodd y manteision cymunedol hynny eu gwireddu, ac mae cwmnïau wedi ceisio peidio â rhoi’r lefel lawn o fanteision y dylent eu cael....
Nick Ramsay: 5. A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch datganoli trethi? OAQ(5)0063(FM)
Nick Ramsay: Mae’n dod yn hawdd darogan fy sylwadau— rydych chi wedi rhagweld fy nghwestiwn atodol, Brif Weinidog. Soniasoch wrth ateb y cwestiwn diwethaf am yr heriau sy'n ein hwynebu o ran cael cyllid digonol gan y Trysorlys. Yn sicr, ar ôl datganoli trethi, mae'n mynd i fod yn hanfodol bod y fframwaith ariannol ar waith fel nad yw unrhyw ddidyniadau dilynol o’r grant bloc yn mynd i gynnig...
Nick Ramsay: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd am ei datganiad y prynhawn yma ac am gynnig y cynllun gweithredu? Os caf i, fe’ch holaf chi am ddau bwynt yn unig. Yn gyntaf oll, mae hyn fwy na thebyg yn gyfle da i ymuno â Simon Thomas wrth dynnu sylw at y digwyddiad CAMRA yn y Cynulliad nos yfory—digwyddiad poblogaidd bob amser; ni allaf ddychmygu pam. Rwy’n gwybod eich...
Nick Ramsay: Weinidog, rwyf wedi gofyn i chi o’r blaen am fanteision cymunedol cynlluniau ynni adnewyddadwy. Rwyf am ofyn i chi eto am ei fod yn fater pwysig iawn i fy etholwyr. Pan oedd fferm solar yn cael ei chynllunio yn Llanfable rhwng Trefynwy a’r Fenni yn fy ardal, fe’i gwrthwynebwyd gan bobl leol. Ar ôl i’r cynllun gael ei basio, daethant i wybod yn ddiweddarach eu bod wedi colli’r cyfle...
Nick Ramsay: Weinidog, rwy’n falch fod Julie Morgan wedi gofyn y cwestiwn hwn; mae’n faes pwysig a sensitif. Mae mabwysiadu yn beth gwerthfawr, ond hefyd yn beth heriol i unrhyw un ei wneud. Mae cefnogaeth gan gymheiriaid yn amlwg yn elfen hanfodol o’r gwasanaethau cymorth a’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Sut rydych yn cryfhau’r rhwydweithiau i sicrhau bod gan fabwysiadwyr fynediad at y...
Nick Ramsay: Diolch i chi am ildio, Ysgrifennydd. Rwy’n falch o glywed eich bod yn chwilio am gonsensws ar hyn. Nid dyna oedd ymagwedd eich rhagflaenydd bob amser. A fyddech yn cytuno bod cynghorau fel Sir Fynwy wedi cyflwyno syniadau diddorol o ran darparu awdurdod cyfunol lle na fyddai gennych y gost o ad-drefnu, ond byddech yn gwneud yn siŵr fod yr awdurdodau hynny’n gweithio gyda’i gilydd?
Nick Ramsay: Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Rwy’n cytuno â rhai o'r sylwadau a wnaed gan David Rowlands yn gynharach. A ydych yn rhannu fy mhryder ein bod yn cael digon o drafferth cael yr arian sy’n ddyledus i ni allan o'r Trysorlys beth bynnag, ac yr ydym wedi gwneud ers 1999 oherwydd y ffordd y mae fformiwla Barnett wedi gweithio dros y cyfnod hwnnw, felly, pan ddaw at gael arian ychwanegol o'r...
Nick Ramsay: Arweinydd y tŷ, tybed a gawn ni’r wybodaeth ddiweddaraf neu ddatganiad am y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran cytundeb y ddinas? Gwyddom y bu cryn bryder yn dilyn canlyniad y refferendwm diweddar ynghylch y cyllid, yn enwedig y cyllid Ewropeaidd, a fydd yn mynd tuag at gytundeb y ddinas. Mae hyn yn cynnwys nifer fawr o awdurdodau lleol, yn fy ardal i ac yn ne-ddwyrain Cymru. Mae pobl yn...
Nick Ramsay: Brif Weinidog, hoffwn ganolbwyntio ar ran gyntaf un eich datganiad ynglŷn â threthi datganoledig. Fel y dywedwch, mae Llywodraeth Cymru yn y broses ar hyn o bryd o sefydlu Awdurdod Refeniw Cymru. Fe wnes i geisio iddo gael ei newid i 'Cyllid Cymru' yn y Cynulliad diwethaf, ond roedd hynny’n aflwyddiannus. Felly, mae gennym Awdurdod Refeniw Cymru, ac, fel y soniasoch, treth gwarediadau...
Nick Ramsay: Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, croeso i chi yn eich rôl newydd a diolch i chi am eich trafodaethau cychwynnol gyda mi ynglŷn â rhai o’r heriau sy’n ein hwynebu dros y tymor Cynulliad hwn. Ysgrifennydd, dros yr wythnos ddiwethaf yn sicr, cafwyd newid seismig yn y tirlun gwleidyddol, newid a groesawyd gan rai yn fwy nag eraill yn y Siambr hon. Rydym yn awr yn wynebu nifer o gwestiynau...
Nick Ramsay: Diolch i chi, Ysgrifennydd, ac fel y gwyddoch, rydym yn cefnogi eich gwaith ar ddatblygu fframwaith cyllidol effeithiol. Fel y gwyddoch, rwyf wedi bod yn pryderu ers amser am y mecanwaith ar gyfer gwneud gostyngiadau i’r grant bloc yn dilyn datganoli treth, yn enwedig treth incwm. Pe baem yn cael y mecanwaith anghywir, gallai Cymru fod ar ei cholled yn sylweddol dros gyfnod o amser mewn...
Nick Ramsay: Ysgrifennydd, nid oes rhaid i mi ddweud wrthych fod hwn yn faes hynod o gymhleth, ond mae’n un sy’n bwysig iawn i’n lles ariannol ni yma yng Nghymru yn y dyfodol. Ar fformiwla Barnett ei hun, yn amlwg, bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd a cholli arian yr UE o ganlyniad i hynny yn gwneud diwygio Barnett yn fwy hanfodol nag o’r blaen hyd yn oed. Pa sicrwydd rydych yn ei geisio, neu rydych...