Julie James: Carwyn Jones.
Julie James: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf innau hefyd ychwanegu fy llongyfarchiadau i chi ar eich swydd newydd, mewn ymdrech i geisio rhywfaint o ffafr? [Chwerthin.] Hoffwn achub ar y cyfle hwn i roi gwybod i aelodau am gynlluniau'r Llywodraeth ynghylch recriwtio prentisiaid dros y misoedd nesaf. Fel y bydd fy natganiad heddiw yn gwneud yn glir, rydym yn cymryd camau yn gyflym i gyflawni ein...
Julie James: Diolch i chi am y cwestiynau yna. Dechreuaf â'r un olaf: ydy, mae tua 25 y cant o'r rhaglen bresennol yn cael ei ariannu gan gronfeydd Ewropeaidd, ac rwy’n credu ei bod yn deg i ddweud na fyddai'r rhaglen brentisiaeth y llwyddiant yw hi heddiw heb y cronfeydd hynny. Rydym hefyd wedi elwa ar aelodaeth o wahanol sefydliadau CVET ledled Ewrop ac yn wir rwyf wedi mynychu cynhadledd er mwyn...
Julie James: Ydw, rwy’n hapus iawn i gytuno â'r Aelod dros Ferthyr Tudful fod y cynllun hwnnw yn dda iawn. Rwy'n gyfarwydd ag ef. Ymwelais â'r coleg fy hun yn y Cynulliad blaenorol i gael golwg ar rai o'r cynlluniau da yno. Yr hyn sy'n amlwg, yn ogystal yw bod gennym nifer o gyflogwyr sy'n argyhoeddedig o'r angen am hyfforddiant proffesiynol o ansawdd da, ar gyfer prentisiaethau ac ar gyfer dysgu...
Julie James: Diolch i chi am y cwestiynau yna. Ar yr un olaf, nid wyf yn mynd i gytuno i adolygu'r fformiwla cynaliadwyedd oherwydd ein bod yn credu ei fod yn gweithio yn eithriadol o dda ac yn un o'r rhesymau pam mae'r rhaglen wedi bod mor llwyddiannus. Fodd bynnag, mae’r Aelod wedi nodi yn gywir—ac rwy’n cofio’r llythyr yn dda iawn—y ceir penderfyniadau yn achlysurol nad ydynt yn unol â'r...
Julie James: Nid oes gennym hynny, hyd yma. Bydd y rhai hynny ohonom a oedd yn bresennol yn y Cynulliad blaenorol yn gwybod ein bod wedi pasio cynnig cydsyniad deddfwriaethol i ganiatáu i Gyllid a Thollau EM gasglu data yng Nghymru ac i rannu data â ni. Ar hyn o bryd, Cyllid a Thollau EM yw'r unig bobl sydd â'r data hwnnw ac rydym mewn trafodaethau gyda hwy ynglŷn â chostau rhyddhau’r data hwnnw...
Julie James: Rwy’n cytuno’n llwyr y byddai colli arian strwythurol a chymdeithasol Ewrop i'r rhaglen brentisiaeth yn ergyd ddifrifol i Gymru, ond hoffwn i fynd â hyn ychydig ymhellach na dim ond yr arian. Fel y dywedais yn fy ateb blaenorol i Llyr, mewn gwirionedd, rydym wedi elwa'n aruthrol ar rannu arfer da ar draws Ewrop ac o allu bod yn rhan o'r teulu Ewropeaidd o ran datblygu rhaglenni...
Julie James: Felly, bydd yr Aelod wedi clywed yn fy natganiad mai’r hyn yr wyf i’n siarad amdano yw annog darpariaeth prentisiaeth mewn meysydd prinder sgiliau yng Nghymru, fel y nodwyd trwy'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol, ar gyfer y tri rhanbarth o Gymru lle mae gennym y partneriaethau ac ar gyfer Cymru yn ei chyfanrwydd. Efallai fod yr Aelod wedi clywed fy atebion i Aelodau eraill am ein...
Julie James: Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd Dros Dro; mae’n braf eich gweld chi yn y gadair. Rydym wedi gweld gwelliannau sylweddol yn y gyfradd cyflogaeth yng Nghymru dros dymor diwethaf y Cynulliad. Rhwng mis Chwefror a mis Ebrill 2016, roedd y gyfradd gyflogaeth yn agos i ffigur uwch nag erioed o’r blaen o 71.9 y cant, ac yn llawer uwch na’r gyfradd o 65 i 67 y cant a welwyd yng nghanol a diwedd...
Julie James: Diolch i chi am y gyfres yna o gwestiynau. Gan ddilyn fy nhrefn arferol, byddaf yn ateb yr un olaf yn gyntaf ac yn gweithio tuag at yn ôl, dim ond oherwydd mai dyna sut mae fy ymennydd yn gweithio. O ran y rhaglen ariannu cyffredinol, ydym, rydym ni’n mynd i gymryd yn ganiataol, oherwydd dywedwyd wrthym ar sawl achlysur, y bydd Lywodraeth y DU yn darparu’r diffyg ariannol i Gymru yn...
Julie James: Wel, mae gennym system gymhleth o drefniadau contract wedi'i sefydlu i ddarparu dysgu yn y gwaith drwy system o brif gontractau ac wedyn is-gontractau; ac mewn gwirionedd, mae'n ddarlun eithaf cymhleth. Weithiau, mae’r colegau addysg bellach yn is-gontractwyr i'r prif gontractwr ac i'r gwrthwyneb. Yr hyn y gallaf ei gadarnhau i'r Aelod yw ein bod yn rhoi cryn flaenoriaeth i anghenion...
Julie James: Diolch yn fawr i chi am y gyfres yna o gwestiynau. Rwy'n credu bod y mater yn ymwneud â hyder cyflogwyr yn un diddorol. Cawsom ymgynghoriad eang dros yr haf—yr haf diwethaf—gyda chyflogwyr ar ein rhaglenni prentisiaethau, a gafodd ei droi ar ei ben yn llwyr gan y cyhoeddiadau ar lefel y DU am yr ardoll prentisiaeth, a dorrodd yn syth ar draws hynny. Bydd aelodau a oedd yma yn y...
Julie James: Diolch yn fawr i chi am y cwestiynau yna. Hoffwn ddweud fy mod i'n gweithio yn agos iawn gyda fy nghydweithwyr, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, o ran sicrhau bod y cyfnodau pontio rhwng pob maes addysg mor llyfn â phosibl a’n bod yn nodi anghenion dysgwyr unigol ar yr adegau hynny er mwyn inni eu nodi yn gywir. Mae hyn am ddau reswm: un, er...
Julie James: Superfast Cymru has provided access to superfast fibre broadband to 143,316 premises across north east Wales.
Julie James: Diolch, Lywydd. Heddiw, rwyf eisiau rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar gynnydd Cyflymu Cymru, ynghyd â'n gwaith sy'n dod i'r amlwg i fynd i'r afael â'r ganran fechan olaf o safleoedd nad ydynt yn rhan o'r prosiect na chyflwyno masnachol ac ymagwedd newydd tuag at gyfathrebu a marchnata. Rwy'n siŵr nad oes angen i mi bwysleisio i’r Aelodau bwysigrwydd cynyddol cysylltedd i gartrefi a...
Julie James: Diolch yn fawr iawn i chi am y pwyntiau yna. O ran y cyflwyno a’r mater natur wledig, y pwynt am y rhaglen hon yw ei bod yn seiliedig bron yn gyfan gwbl mewn ardaloedd gwledig, neu ardaloedd anfetropolitan, oherwydd mai ymyrraeth y farchnad ydyw. Felly, y pwynt amdano yw, ni chawn ond mynd i le nad yw'r farchnad yn mynd i fynd iddo. Felly, mae'n wireb, rwy'n ofni, nad yw’r farchnad ond...
Julie James: Diolch ichi am y gyfres o gwestiynau a sylwadau, Russell George. Nid yw diwrnod yn gyflawn yn fy swyddfa weinidogol i heb lythyr oddi wrthych chi ar Cyflymu Cymru; felly, rwy’n gwerthfawrogi yn fawr iawn eich diddordeb ar ran eich etholwyr yn y mater hwn. Byddaf yn ceisio rhoi sylw i bob un ohonynt. Y pwynt rhwymedigaethau cytundebol: nid ydym yn dibynnu ar adfachu o ganlyniad i fethiant BT...
Julie James: Iawn, wel, diolch ichi am hynna, a diolch yn fawr iawn i chi am eich sylwadau caredig. Rydym yn falch iawn o'r ffaith ein bod wedi sicrhau bod Cymru yn un o'r arweinwyr mewn cysylltedd digidol ar draws Ewrop, ac mae'n fater o gryn bryder i ni ein bod yn cael pobl i fanteisio ar y buddion gan ein bod erbyn hyn wedi gwario'r arian i’w gyflwyno. Yn nhermau busnes yn manteisio, un o'r rhesymau...
Julie James: Felly, ar eich pwynt cyntaf, wrth gwrs nid gwledig yn unig yw hyn, dim ond bod y rhan fwyaf o ardaloedd lle nad oes cyflwyno masnachol yn wledig. Ond rydych yn gywir i nodi lle yn eich etholaeth eich hun lle na fu cyflwyniad masnachol, er, yn rhyfedd, mae triongl yng nghanol Abertawe nad oedd ganddo hynny ychwaith. Ond mae’n rhyw fath o gyffredinolrwydd ei fod, ar y cyfan, lle nad oes...
Julie James: Diolch i'r Aelod am y cwestiynau pwysig yna. Cawsom gyfarfod hir yn ddiweddar iawn i drafod rhai o'r materion hyn. Credaf ei bod yn bwysig peidio â chyfuno dau fater gwahanol. Un yw'r 'addewid', os mynnwch chi, oedd yn arfer bod gan BT ar eu gwefan y gallech fod o fewn cwmpas yn y tri mis nesaf. Roedd pobl yn iawn i fod yn anfodlon ar ôl i’r tri mis fynd heibio a hwythau heb eu cysylltu a...