Canlyniadau 1–20 o 700 ar gyfer speaker:Rhianon Passmore

3. 3. Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8 (11 Mai 2016)

Rhianon Passmore: Carwyn Jones.

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Y Diwydiant Dur
(24 Mai 2016)

Rhianon Passmore: Brif Weinidog, a allwch chi amlinellu’r pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei neilltuo hefyd i’r 11,000 o swyddi cynhyrchu dur eu hunain i gymunedau Cymru, ac nid lle mae’r safleoedd dur wedi’u lleoli yn unig, ond, er enghraifft, mewn cymunedau fel fy un i yn Islwyn, a sefydlwyd ar sail dur, a hefyd o ran galluoedd cynhyrchu sylfaenol o’r hyn sydd ar ôl yng Nghymru? Diolch.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Diwygio Llywodraeth Leol
( 8 Meh 2016)

Rhianon Passmore: Brif Weinidog, nododd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ei adroddiad, ‘Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2015’, y llynedd, fod Cymru, ers i Lywodraeth y DU osod ei rhaglen galedi yn adolygiad o wariant 2010, wedi gorfod rheoli toriad o £1.2 miliwn—mae’n ddrwg gennyf, dywedaf hynny eto, toriad o £1.2 biliwn yn y cyllid. Er gwaethaf toriadau Torïaidd llym o’r fath, mae awdurdodau lleol...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd
( 8 Meh 2016)

Rhianon Passmore: 4. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut mae parhad aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd yn effeithio yn ei hanfod ar economi Islwyn? OAQ(5)0036(FM)

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd
( 8 Meh 2016)

Rhianon Passmore: Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Yn ogystal â’r 190,000 o swyddi yng Nghymru yn unig sy’n dibynnu’n uniongyrchol ar gyllid gan yr UE, mae fy etholwyr hefyd yn elwa ar yr hawliau pwysig a gafwyd yn sgil aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd, boed hynny’n absenoldeb â thâl—[Torri ar draws.] Esgusodwch fi—amser o’r gwaith mewn argyfwng, toriadau egwyl yn ystod y dydd, deddfwriaeth...

6. 5. Datganiad: Prentisiaethau yng Nghymru (14 Meh 2016)

Rhianon Passmore: Hoffwn longyfarch ein Gweinidog a Llywodraeth Cymru ar yr ymrwymiad strategol parhaus i'r agenda brentisiaeth wrth sicrhau Cymru fwy ffyniannus a chydnerth a chyfartal. Rwyf hefyd yn falch iawn o fod wedi cael fy ethol ar ein haddewid maniffesto o tua 100,000 o brentisiaethau newydd, ac mae hynny y tu draw i lwyddiant Twf Swyddi Cymru. Rwyf hefyd yn croesawu'n fawr iawn y consensws...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (14 Meh 2016)

Rhianon Passmore: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn Islwyn?

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Smygu
(15 Meh 2016)

Rhianon Passmore: 7. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o ran cyflawni ei hamcanion o leihau nifer y bobl sy’n smygu yng Nghymru? OAQ(5)0017(HWS)

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Smygu
(15 Meh 2016)

Rhianon Passmore: Diolch. Mae’n newyddion da iawn, felly, fod Llywodraeth Cymru wedi rhagori ar ei tharged ar gyfer 2016 o ostwng lefelau smygu i 20 y cant. Sut rydych chi’n bwriadu cyrraedd ein targed uchelgeisiol ar gyfer gostwng y lefelau hynny i 16 y cant erbyn 2020?

7. 7. Dadl Plaid Cymru: Bil Cymru (15 Meh 2016)

Rhianon Passmore: Diolch i chi, Lywydd. O ran y terfynau amser i allu craffu ar Fil Cymru drwy’r toriad a thu hwnt, a ydym yn argyhoeddedig fod yna ddigon o amser i ni allu gwneud hynny a chynhyrchu deddfwriaeth dda? Diolch.

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Teithwyr Rheilffyrdd yn Islwyn
(21 Meh 2016)

Rhianon Passmore: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran sicrhau gwell cysylltiad i deithwyr rheilffyrdd yn Islwyn? OAQ(5)0066(FM)

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Teithwyr Rheilffyrdd yn Islwyn
(21 Meh 2016)

Rhianon Passmore: Iawn. Diolch i chi am yr ateb yna. Mae'r cynllun i ailgyflwyno gwasanaethau teithwyr yn ôl i reilffordd Glynebwy rhwng Glynebwy a Chaerdydd, gan gynnwys gorsafoedd yn Rhisga a Phontymister, Crosskeys a Threcelyn, wedi bod yn llwyddiant ysgubol gyda'r cyhoedd. Ariannwyd rhan fawr gan gyllid strwythurol yr UE; h.y. ni fyddai wedi digwydd pe byddai wedi cael ei adael i doriadau’r Torïaid...

7. 6. Datganiad: Darlledu yng Nghymru (21 Meh 2016)

Rhianon Passmore: Diolch ichi, Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn innau hefyd roi fy nghefnogaeth i'r datganiad ac i’r Gweinidog am ei waith cryf yn hyn o beth. Edrychaf ymlaen at y cyfle i gael mwy o oruchwyliaeth a mandad i’r Senedd o ran ein gwaith craffu ehangach ar gyfryngau Cymru, ac rwyf yn croesawu’r cyfle hwnnw’n fawr iawn. Rwyf hefyd yn croesawu'r ddadl a addawyd yn y Cyfarfod Llawn ar y siarter...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Yr Amgylchedd Ffisegol
(22 Meh 2016)

Rhianon Passmore: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar sicrhau bod amgylchedd ffisegol Cymru yn agored i bawb? OAQ(5)0008(ERA)

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Yr Amgylchedd Ffisegol
(22 Meh 2016)

Rhianon Passmore: Diolch yn fawr, Weinidog. Mewn perthynas â’r gwaith torri coed ar ffordd goedwig hardd Cwmcarn, sy’n saith milltir o hyd, a gaewyd dros dro ym mis Tachwedd 2014, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datgan fod hwn yn waith hirdymor a allai gymryd rhwng tair a phedair blynedd i’w gwblhau. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ailadrodd penderfyniad diamod a digamsyniol Llywodraeth Cymru y bydd un...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Ansawdd Aer
(22 Meh 2016)

Rhianon Passmore: 8. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cynnal lefelau ansawdd aer? OAQ(5)0010(ERA)

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Ansawdd Aer
(22 Meh 2016)

Rhianon Passmore: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Yr A472 yng Nghrymlyn: yn ôl data’r Llywodraeth, y lefelau o nitrogen deuocsid a gofnodwyd yma yw’r rhai uchaf a gofnodwyd yn y DU y tu allan i Lundain. Yr unig le y gwelir lefelau uwch yn Lloegr yw ar fonitor tebyg ar Marylebone Road yng nghanol Llundain, ac yn ôl Asthma UK Cymru, mae 314,000 o bobl yn dioddef o asthma yng Nghymru,...

6. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Llywodraeth Leol (22 Meh 2016)

Rhianon Passmore: Yn gyntaf oll, hoffwn groesawu Ysgrifennydd y Cabinet i’w swydd a chroesawu’n fawr ei ddull a’i ymrwymiad tuag at y broses gydgynhyrchu wrth edrych tua’r dyfodol. O ran atgyfnerthu’r pwyntiau sydd newydd eu gwneud, ydw, rwy’n credu nad oes amheuaeth nad yw Cymru wedi cario baich y toriadau y mae awdurdodau lleol wedi’u cario yn Lloegr. Rydym wedi crybwyll eisoes y toriad o 10 y...

9. 9. Dadl Fer: Aros neu adael? Pa ffactorau sydd wedi dylanwadu ar y farn gyhoeddus o ran ymgyrch refferendwm yr UE? (22 Meh 2016)

Rhianon Passmore: Diolch, Lywydd. Gyda thristwch mawr rwyf finnau hefyd yn siarad yma heddiw am ddylanwadau ar y farn gyhoeddus. Y drasiedi yma yw bod hyn wedi bod yn rhagweladwy o ran y newid ar draws y cyfryngau yn arbennig o ran y papurau newydd tabloid sydd wedi tanio’r hiliaeth ddichellgar hon yn wir—gadewch i ni ei alw yr hyn ydyw. Rwy’n teimlo’n drist iawn, o ganlyniad i’r math hwn o...

9. 9. Dadl Fer: Aros neu adael? Pa ffactorau sydd wedi dylanwadu ar y farn gyhoeddus o ran ymgyrch refferendwm yr UE? (22 Meh 2016)

Rhianon Passmore: Iawn, diolch. Felly, yn lle porthi’r materion hyn sy’n ymwneud â mewnfudo ac anwybyddu’r ffeithiau, y cyfan y byddwn yn ei ddweud, i orffen fy sylwadau yw hyn: er mwyn anrhydeddu’r cof am Jo Leadbeater—Jo Cox—a oedd yn sefyll dros driniaeth gyfartal ac achosion dyngarol, cymorth i ffoaduriaid a chyfryngau teg, mae’n rhaid i ni ddewis cydweithio a gweithio o fewn yr UE, nid y tu...

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.