Dawn Bowden: Carwyn Jones.
Dawn Bowden: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fanteision aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd ym Merthyr Tudful a Rhymni?
Dawn Bowden: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad? Weinidog, cwrddais yn ddiweddar â phennaeth coleg Merthyr ac roedd ein deialog yn cynnwys trafodaethau ar raglenni prentisiaeth a gyflwynir ar y cyd â chyflogwyr megis General Dynamics ym Merthyr, sydd, gan weithio mewn partneriaeth â choleg Merthyr, yn creu dwy raglen prentisiaeth pob oed newydd yn cychwyn ym mis Medi 2016, pan fydd yr...
Dawn Bowden: Diolch i chi, Lywydd. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y rôl y mae Llywodraeth Cymru yn ei gweld ar gyfer chwaraeon—
Dawn Bowden: O, mae’n ddrwg gennyf. [Chwerthin.] Y Gweinidog. [Torri ar draws.] Ie, wel, un diwrnod, Becs, un diwrnod. [Chwerthin.] Mae’n ddrwg gennyf, rwyf am ddechrau eto.
Dawn Bowden: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rôl y mae Llywodraeth Cymru yn ei gweld ar gyfer chwaraeon o ran helpu i wella iechyd a llesiant pobl Cymru? OAQ(5)0015(HWS)
Dawn Bowden: Diolch yn fawr, Weinidog. Mae cyngor Merthyr wedi sicrhau cyllid o bron i £12.9 miliwn o dan raglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru i gefnogi prosiectau adfywio ym Merthyr Tudful. A wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i ganmol menter Clwb Pêl-droed Merthyr Tudful a chyngor Merthyr Tudful am ddefnyddio grant o’r trefniant cyllid hwn i gefnogi datblygiad cyfleuster modern ym...
Dawn Bowden: Mae’n debyg fod gennym oll brofiadau sy’n ein helpu i lunio barn benodol ar gwestiwn ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd. Yn fy achos i, rwy’n pwyso ar 30 mlynedd o brofiad fel swyddog undeb llafur cyn cael fy ethol i’r Cynulliad hwn. Gwn o brofiad uniongyrchol fod gweithwyr yng Nghymru a’u teuluoedd yn well eu byd oherwydd bod yr UE yn darparu ar gyfer ystod sylfaenol o hawliau...
Dawn Bowden: A gaf fi ddweud ar y cychwyn fy mod yn sicr yn cefnogi byrdwn y cynnig hwn a hefyd yn gresynu nad yw Bil drafft Cymru yn darparu ar gyfer datganoli plismona a chyfiawnder? Arweiniodd toriadau Llywodraeth Dorïaidd y DU i gyllid plismona yn Lloegr at ostyngiadau sylweddol yn niferoedd Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yno. Felly, dylem longyfarch Llywodraeth Lafur ddiwethaf Cymru ar...
Dawn Bowden: Ysgrifennydd y Cabinet, efallai y byddwch yn ymwybodol o adroddiad diweddar gan Ganolfan ar gyfer Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Rhanbarthol Prifysgol Sheffield Hallam. Roeddent yn tynnu sylw at effaith anghymesur toriadau i fudd-daliadau lles ar bobl Cymru o’i gymharu â’r DU yn ei chyfanrwydd—credaf mai dyna’r pwynt sydd eisoes wedi cael ei wneud—ac mae hyn hyd yn oed yn fwy...
Dawn Bowden: Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog yn gwerthfawrogi y bydd yr Aelodau’n awyddus i sicrhau'r canlyniadau gorau i’w hetholaethau. Dyna’r ydym ni wedi ein hethol i’w wneud, ac nid wyf innau’n ddim gwahanol i hynny, felly rwy’n mynd i fod yn achub ar y cyfle hwn i ymuno â'r alwad am sicrwydd ar gyfer fy etholaeth fy hun, sef, wrth gwrs, Merthyr Tudful a chwm Rhymni—etholaeth sydd wedi...
Dawn Bowden: Diolch, Lywydd. Cefais siom anferth yng nghanlyniad refferendwm yr UE. Drwy gydol yr ymgyrch, ceisiais osod allan yn onest rai o beryglon gadael yr UE, fel yr oeddwn i yn eu gweld. Ymgyrchais o fy nghalon a fy mhen dros yr hyn yr oeddwn yn wirioneddol gredu oedd orau ar gyfer rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig; nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y DU. Yr hyn sy'n amlwg yw bod llawer o...
Dawn Bowden: Na, ni wnaf. Ar y penwythnos, cyfarfûm ag Alex, merch 14 mlwydd oed o’r Gurnos, a ddywedodd wrthyf, 'Pam fod hen bobl wedi taflu ein dyfodol ni i ffwrdd?' Yn anffodus, doedd gen i ddim ateb iddi. Felly, ar gyfer Alex a'i ffrindiau ac ar gyfer y cymunedau difreintiedig ym Merthyr Tudful a Rhymni ac mewn mannau eraill, rwy’n annog y Prif Weinidog i fod yn ddi-ildio wrth ddwyn i gyfrif y...
Dawn Bowden: Diolch i'r Gweinidog busnes am ei datganiad. Rwyf yn ailadrodd rhai o'r pethau yr ydym eisoes wedi sôn amdanynt yn y ddadl, ond credaf fod hyn yn arbennig o bwysig oherwydd, er y gallai llawer ohonom, yn fy marn i, yn ôl pob tebyg fod wedi gallu rhagweld nifer o oblygiadau pleidlais 'gadael' yn refferendwm yr UE, gan gynnwys y cynnydd brawychus a ffiaidd mewn ymosodiadau hiliol yr ydym...
Dawn Bowden: Huw Irranca-Davies.
Dawn Bowden: Eilio.
Dawn Bowden: Ysgrifennydd y Cabinet, mae llawer o’r diogelwch cyflogaeth a gynigir i weithwyr yng Nghymru yn seiliedig ar ddiogelwch sy’n deillio o’r Undeb Ewropeaidd. Rydym eisoes wedi gweld arwyddion, fel y soniais ddoe, gan rai o’r rhai mwyaf blaenllaw yn yr ymgyrch i adael yr UE, eu bod yn gweld rhan o’r trafodaethau ar y DU yn gadael Ewrop fel cyfle i ddadwneud llawer o’r ddeddfwriaeth...
Dawn Bowden: Diolch, Lywydd. Mewn gwirionedd, rwy’n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet newydd ateb fy nghwestiwn yn ôl pob tebyg, ond rwyf am ei ofyn beth bynnag. Rwy’n credu, Ysgrifennydd y Cabinet, y gallwn i gyd fod yn falch yma yng Nghymru nad ydym wedi gweld gwasanaethau awdurdodau lleol yn cael eu preifateiddio ar raddfa eang fel y gwelsom yn Lloegr. Mae hynny’n seiliedig ar y rhagdybiaeth fod...
Dawn Bowden: Brif Weinidog, yn ystod cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet fis diwethaf, llwyddais i dynnu sylw at adroddiad gan Brifysgol Sheffield Hallam, a nododd effaith niweidiol anghyfartal toriadau i fudd-daliadau lles y Llywodraeth Dorïaidd ar gymunedau tlotach, gan gyfeirio'n benodol at gyfyngu’r budd-dal tai lleol i’r gyfradd tai lleol. Cynnig arall o dan y trefniadau newydd yw codi'r...
Dawn Bowden: Cyn i mi ofyn fy nghwestiwn i'r Gweinidog, hoffwn nodi, a nodi bod y Siambr hon yn nodi bod yr ACau UKIP sydd wedi bod yn canmol eu cynrychiolaeth o’r Cymoedd drwy gydol etholiadau'r Cynulliad ac sydd wedi bod yn dweud wrth Lafur eu bod wedi colli cysylltiad â’r Cymoedd—