Lynne Neagle: Carwyn Jones.
Lynne Neagle: Weinidog, hoffwn ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar yr anghydfod diwydiannol parhaus rhwng Amgueddfa Cymru ac Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol. Fel y gwyddoch, mae’r staff wedi bod ar streic am gyfnod amhenodol ers 21 Ebrill. Rwy’n credu bod y staff yn dioddef caledi o ganlyniad i hynny, yn enwedig yn Big Pit lle mae’r streic wedi...
Lynne Neagle: Rwy'n siŵr y bydd Aelodau ym mhob rhan o’r Siambr yn falch o groesawu gyda mi y ffaith i’r cais glo brig yn y Farteg, yn fy etholaeth i, gael ei dynnu'n ôl. Ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd y DU, a wahoddais i ymweld â'r safle y llynedd, ac i Cadw, am eu gwrthwynebiadau, a arweiniodd at i'r cais gael ei dynnu'n ôl. Ond, wrth gwrs, nid yw'r rhan...
Lynne Neagle: 4. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygu busnes yng Nghymru? OAQ(5)0051(FM)
Lynne Neagle: Diolch yn fawr, Brif Weinidog, ac, fel yr ydych wedi tynnu sylw ato, nid oes dianc rhag y ffaith y bydd canlyniad y refferendwm yr wythnos nesaf yn cael effaith enfawr ar fusnesau Cymru—os ydych chi ond yn ystyried Twf Swyddi Cymru yn unig, rhaglen Llywodraeth Llafur Cymru, sydd, gyda chymorth ariannol yr UE, wedi galluogi cyflogwyr bach i gyflogi un neu ddau o bobl ac wedi helpu i gefnogi...
Lynne Neagle: A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar yr ymgynghoriad 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', a ddaeth i ben ychydig cyn y diddymu? Mae'r ddogfen yn ymdrin ag ystod eang o faterion iechyd meddwl pwysig, ond y cynigion ynglŷn â gwlad sy’n ystyrlon o ddementia yr wyf yn dymuno canolbwyntio arnynt. Ar ôl arwain y ddadl fer ym mis Ionawr yn galw am strategaeth...
Lynne Neagle: Fel yn nodoch, Ysgrifennydd Iechyd, nid yw’r gronfa cyffuriau canser yn Lloegr wedi gweithio ac mae’n cael ei diddymu yr wythnos hon. Fodd bynnag, rwyf wrth fy modd fod y Llywodraeth hon wedi ymrwymo i gronfa triniaethau newydd, ac rwy’n falch iawn ein bod wedi ymrwymo i adolygiad pellach o’r system ceisiadau cyllido cleifion unigol hefyd. Fel y gwyddoch, ers amser maith rwyf wedi...
Lynne Neagle: 3. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella safonau gofal ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru? OAQ(5)0072(FM)
Lynne Neagle: Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Yn dilyn cyhoeddiad diweddar yr arolwg hanfodion gofal a gynhaliwyd ym mhob ysbyty ledled Cymru, datgelwyd bod boddhad cyffredinol cleifion â'r GIG yn dal i fod yn hynod o uchel, wrth i 98 y cant o gleifion gofnodi y gwnaed iddynt deimlo'n ddiogel a 99 y cant yn dweud eu bod wedi cael eu trin gydag urddas a pharch. Mae'r canfyddiadau cadarnhaol hyn yn newyddion...
Lynne Neagle: Weinidog, byddwch wedi gweld bod y Cenhedloedd Unedig wedi cyhoeddi adroddiad damniol yn ddiweddar ar effaith mesurau caledi Llywodraeth y DU ar dlodi plant yn y DU. Yn wir, fe’i disgrifiwyd gan y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant fel darllen Cyhuddiad o fethiant y llywodraeth i roi blaenoriaeth i blant yn ei phenderfyniadau ar nawdd cymdeithasol. A ydych yn rhannu fy mhryderon ynglŷn â...
Lynne Neagle: Y bleidlais yfory yw’r penderfyniad pwysicaf i Brydain ei wneud ers cenhedlaeth. Bydd yn gosod cyfeiriad pendant ar gyfer ein gwlad, nid yn unig i’r genhedlaeth hon, ond i genhedlaeth ein plant hefyd. Mae’n hanfodol bwysig fod pawb sy’n bwrw eu pleidlais yn edrych ar y darlun hirdymor. Nid yw’r penderfyniad yn ymwneud â’r fan hon yn awr, ond bydd yn siapio’r 30 i 40 mlynedd...
Lynne Neagle: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch am eich datganiad, Brif Weinidog, ac rwy’n croesawu’r camau yr ydych wedi’u cyhoeddi heddiw. Rwy’n croesawu’n arbennig y ffaith eich bod yn symud yn ddi-oed i ddiddymu agweddau ar y ddeddfwriaeth undebau llafur, sef, yn hytrach nag unrhyw ymgais i fodloni'r undebau llafur, ein hymgais ni, ar draws y Cynulliad hwn, i wireddu ein cred y dylem fod yn...
Lynne Neagle: Rwy'n falch o gael y cyfle i siarad heddiw. Rydym yn gwybod y bydd problem iechyd meddwl yn effeithio ar un o bob pedwar ohonom yn ystod ein bywydau. Felly mae'n hanfodol ein bod yn rhoi y sylw a’r craffu y mae'n ei haeddu i’r cynllun cyflawni hwn. Roeddwn eisiau gwneud rhai sylwadau byr heddiw ar ddwy ran o'r cynllun. Mae'r cyntaf yn ymwneud â fy ngalwadau blaenorol ar gyfer...
Lynne Neagle: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru i gefnogi gweithgynhyrchu? OAQ(5)0029(EI)
Lynne Neagle: Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Fel y nodwyd gennych, mae gweithgynhyrchu yn parhau i fod yn sector hanfodol yn economi Cymru, yn enwedig yn y Cymoedd. Fodd bynnag, er gwaethaf ymdrechion gorau Llywodraeth Cymru, mae’r sector yn parhau i grebachu o ran ei bwysigrwydd o’i gymharu â sectorau eraill yn yr economi. O ystyried yr heriau newydd difrifol iawn a fydd yn wynebu gweithgynhyrchu o...
Lynne Neagle: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ganlyniad yr anghydfod diwydiannol rhwng PCS ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru? OAQ(5)0030(EI)
Lynne Neagle: Diolch yn fawr, ac rwy’n siŵr fod Aelodau eraill yn y Siambr hon, fel finnau, yn falch iawn o groesawu datrysiad yr anghydfod hirhoedlog, ac rwy’n ddiolchgar iawn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich ymdrechion i ddod â’r anghydfod hwn i ben. Hoffwn hefyd roi teyrnged i holl weithwyr yr amgueddfa a fu’n dal eu tir ar fater tegwch i’r rhai ar y cyflogau isaf, yn enwedig y staff...
Lynne Neagle: 10. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU ar Gymru? OAQ(5)0030(CC)
Lynne Neagle: Rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol, Weinidog, o ba mor bryderus yw Cymorth i Fenywod Cymru ynglŷn â’r newidiadau i’r penderfyniad i gapio lwfans tai lleol. A wnewch chi roi sylwadau ar y camau hynny, ac a wnewch chi fanteisio ar y cyfle hwn i ailddatgan eich cefnogaeth i’r gwaith ardderchog y mae llochesi Cymorth i Fenywod yn ei wneud ledled Cymru? O gofio bod y newidiadau yn mynd i...
Lynne Neagle: Weinidog, er gwaethaf ymdrechion gorau Llywodraeth Cymru i ddiogelu llywodraeth leol yng Nghymru rhag effaith y toriadau yng nghyllideb Llywodraeth y DU, mae Torfaen, fel pob awdurdod lleol yng Nghymru, yn gorfod gweithio’n galed iawn mewn amgylchiadau ariannol heriol iawn i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn lleol. A wnewch chi, felly, ymuno â mi i longyfarch cyngor Torfaen ar eu...