Tom Giffard: Dyma'r tro cyntaf dwi wedi siarad, felly dwi'n eich llongyfarch chi ar eich apwyntiad i rôl y Llywydd, a dwi'n llongyfarch y Prif Weinidog hefyd ar ei etholiad.
Tom Giffard: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynllun peilot awyr agored ar gyfer cynulliadau torfol yng Nghymru? OQ56554
Tom Giffard: Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Hoffwn i groesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ailddechrau digwyddiadau chwaraeon yn yr awyr agored. Fel y bydd yn gwybod, mae'n ffynhonnell incwm hanfodol i lawer o glybiau chwaraeon yn fy rhanbarth i a ledled Cymru, sydd wedi ei chael hi'n anodd iawn drwy gydol y pandemig. A wnaiff ef roi sylwadau ar ba gamau pellach y bydd yn eu cymryd i sicrhau y bydd...
Tom Giffard: Roeddwn i'n awyddus i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad a gofyn cwestiwn iddi ynglŷn ag apwyntiadau meddygon teulu. Ar hyn o bryd, mae apwyntiadau meddygon teulu yn digwydd dros y ffôn neu drwy gyfarpar fideo oni bai bod angen clinigol am ymgynghoriad wyneb yn wyneb, ac mae ffigurau diweddar gan BMA Cymru wedi dangos bod meddygon teulu yn wynebu cyfraddau apwyntiadau sydd 18 y cant yn...
Tom Giffard: A gaf fi groesawu'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog i'w rolau newydd? Edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda hwy. Yn ddiweddar, cyfarfûm ag etholwyr ym Mae Caswell i weld Surfs Up, cyfleuster lleoedd newid sydd newydd gael ei adeiladu. Mae’r lleoedd newid yn fwy, toiledau hygyrch gydag offer fel teclynnau codi, llenni a—[Torri ar draws.] O, mae'n ddrwg gennyf am wneud hynny. [Chwerthin.]...
Tom Giffard: Fe welais fy nghamgymeriad.
Tom Giffard: Fy nghamgymeriad i.
Tom Giffard: Diolch.
Tom Giffard: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dwristiaeth hygyrch yng Nghymru? OQ56552
Tom Giffard: Credaf fod ganddo syniad bach o'r hyn y gallai fod. Yn ddiweddar, cyfarfûm ag etholwyr ym Mae Caswell i weld Surfs Up, cyfleuster lleoedd newid sydd newydd gael ei adeiladu. Mae’r lleoedd newid yn fwy, toiledau hygyrch gydag offer fel teclynnau codi, llenni a meinciau newid digon mawr i oedolion a lle i ofalwyr. Mae'r rhain yn helpu i wneud twristiaeth yng Nghymru yn gynhwysol i bawb, gan...
Tom Giffard: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lefelau'r dreth gyngor yng Nghymru? OQ56610
Tom Giffard: Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Mae talwyr y dreth gyngor mewn dau gyngor yn fy rhanbarth i, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr, yn gorfod talu rhai o'r cyfraddau uchaf o dreth gyngor o unman yn y DU. Yn y ddwy ardal, maen nhw'n talu mwy na £1,900 y flwyddyn ar gyfartaledd am eiddo band D. Rydym ni'n gwybod bod cynghorau Cymru yn codi mwy ar eu biliau treth gyngor yn...
Tom Giffard: Diolch, Dirprwy Lywydd. Roeddwn i ond eisiau egluro er mwyn y cofnod fy muddiant yn y cwestiwn yr oeddwn i wedi'i ofyn i'r Prif Weinidog yn gynharach. Cyfeiriais i at Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn fy nghwestiwn heb egluro fy mod yn gynghorydd sy'n eistedd ar gyngor Pen-y-bont ar Ogwr, ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle i wneud hynny'n glir nawr.
Tom Giffard: 1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith cynlluniau awdurdodau lleol ar gyfer datblygiadau tai yng Nghymru? OQ56606
Tom Giffard: Diolch. A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hateb a'i llongyfarch ar ei phenodiad? Gan fod tai a chynllunio wedi symud i mewn i'r portffolio newid hinsawdd, rwy’n cymryd felly y bydd hyn yn arwain at ddiogelu mannau gwyrdd a'n hamgylchedd naturiol yn well mewn polisi cynllunio. Ond wrth i gynghorau weithio drwy eu cynlluniau datblygu lleol ledled Cymru, nodaf fod llawer o gynigion—. Ceir...
Tom Giffard: Diolch yn fawr iawn, Lywydd, ac mae'n bleser mawr gennyf agor y ddadl hon heddiw a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Ac am adeg i fod yn trafod y pwnc hwn, gyda'n llwyddiannau chwaraeon diweddar a Chymru'n chwarae yn yr Ewros y prynhawn yma—ac rwyf fi, fel chithau, Lywydd, yn gobeithio y byddwn yn gorffen mewn pryd heddiw i weld y gic gyntaf yn y gêm yn erbyn Twrci. Mae'r blynyddoedd...
Tom Giffard: Un o amcanion y rhaglen datblygu gwledig yw hyrwyddo twf economaidd cryf a chynaliadwy yng Nghymru. I lawer o ffermydd a busnesau gwledig, mae hyn yn rhywbeth y gellir ei gyflawni drwy arallgyfeirio eu busnesau. Mae rhai yn fy rhanbarth i, yn enwedig yng Ngŵyr, wedi ystyried arallgyfeirio i dwristiaeth, ond mae llawer wedi dweud wrthyf ei bod yn broses eithaf hir a biwrocrataidd. A gaf fi...
Tom Giffard: Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i'r ddarpariaeth o wasanaethau digartrefedd gan lywodraeth leol wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio newid hinsawdd?
Tom Giffard: Prif Weinidog, yn y fersiwn ysgrifenedig o'ch datganiad llafar chi heddiw, fe wnaethoch gyfeirio at chwifio baner yr undeb gan rai o'm cyd-Aelodau yn y Senedd hon yn 'symbolaeth wag'. Y dyfyniad uniongyrchol oedd: 'Ni fydd y Deyrnas Unedig yn cael ei hachub gan y math o symbolaeth wag sydd, yn anffodus, wedi bod yn amlwg hyd yn oed yn ein trafodion ni ein hunain—Torïaid llieiniau sychu...
Tom Giffard: 1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau ar gyfer incwm sylfaenol cyffredinol i Gymru? OQ56695