Sam Rowlands: Diolch, Lywydd, a diolch am y cyfle i siarad heddiw fel Aelod newydd arall yma yn y Senedd. A llongyfarchiadau, Brif Weinidog, ac i chi, Lywydd, ar gael eich ailbenodi y tro hwn. Diolch am eich datganiad, Brif Weinidog. Fel siaradwyr blaenorol, rwyf innau hefyd wedi nodi bod twristiaeth wedi’i hepgor o deitl unrhyw Weinidog yn eich Cabinet, ond diolch am egluro'r pwynt fod hynny'n...
Sam Rowlands: Diolch, Prif Weinidog, am eich ymatebion hyd yn hyn i'r pwyntiau pwysig a godwyd gan Rhun. Yn sicr, mae pwysau ychwanegol ar y farchnad dai oherwydd perchnogaeth ail gartrefi, ond, efallai fod perygl o gael ein gweld yn chwarae'r crwth a Rhufain yn llosgi os mai dyna fydd y prif bwyslais mewn ffordd i gefnogi'r maes gwaith pwysig hwn, mae'n debyg mai'r peth pwysicaf i gefnogi hyn fyddai gweld...
Sam Rowlands: Diolch, Dirprwy Lywydd, a llongyfarchiadau i chi, Gweinidog, ar eich penodiad, a diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma. Hoffwn i yn gyntaf ymuno â chi i ddiolch i'n gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio'n galed a hefyd i'n dysgwyr am eu holl ymdrechion yn ystod y 14, 15 mis diwethaf, o dan amgylchiadau anodd iawn. Mae eich datganiad chi'n ymwneud yn benodol â lles a chefnogaeth...
Sam Rowlands: Yn gyntaf oll, hoffwn eich llongyfarch ar eich penodiad, Weinidog. Ni chredaf fy mod wedi cael cyfle i wneud hynny eto, felly llongyfarchiadau i chi. Wrth gwrs, codwyd y mater hwn ddoe yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'n fater pwysig. Cawsom gyfraniadau cadarnhaol gan Mr Hedges a Mr Davies, fy nghyd-Aelodau yma, ac yn amlwg, fe ymatebodd y Prif Weinidog ddoe, ond roedd hyn cyn i...
Sam Rowlands: Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl heddiw, yr un gyntaf imi gael cyfle i siarad ynddi, ac mae wedi bod yn ddadl ddiddorol ac angerddol hyd yma heno. Roeddwn yn meddwl y byddai'n ddefnyddiol rhannu rhai o fy syniadau fy hun ar yr hyn a glywais hyd yma a'r eitem sydd ger ein bron, wrth gwrs. Mae rhan agoriadol cynnig Plaid Cymru yn honiad eithaf beiddgar, fod 'gan y chweched Senedd hon...
Sam Rowlands: 6. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o rôl llywodraeth leol yn ystod pandemig COVID-19? OQ56617
Sam Rowlands: Diolch, Llywydd. Roeddwn i'n cael trafferth gyda'r botwm dad-dawelu yn y fan yna. Diolch, Prif Weinidog, am eich ymateb i'r pwynt yna. Hoffwn innau hefyd ganmol gwaith cynghorau yn benodol trwy'r cyfnod anodd iawn hwn oherwydd y pandemig. Gwn o'm profiad fy hun yr aberth, y gwaith caled a'r ymroddiad y mae staff y cyngor wedi eu dangos drwy'r argyfwng hwn, ac maen nhw'n haeddu llawer o glod...
Sam Rowlands: Diolch i'r Llywodraeth am gyflwyno'r ddadl heddiw, gyda chyfraniadau hyd yn hyn yn sicr yn angerddol ynghylch mater pwysig iawn, o ran y gronfa codi'r gwastad a chronfa ffyniant gyffredin y DU. Yr ensyniad, wrth gwrs, yn y ddadl hon heddiw gan Lywodraeth Cymru yw nad yw dull Llywodraeth y DU o ymdrin â'r gronfa hon yn gwarantu na fydd Cymru'n waeth ei byd a bod hyn yn cynrychioli ymosodiad...
Sam Rowlands: 3. A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd yng ngogledd Cymru? OQ56605
Sam Rowlands: Diolch, Ddirprwy Weinidog, am eich ymateb. Llongyfarchiadau, wrth gwrs, ar eich penodiad, ac i'r Gweinidog, Julie James, ar eich penodiad chithau. A diolch am yr ymgysylltu hyd yn hyn yn fy rôl fel Gweinidog llywodraeth leol yr wrthblaid. Hoffwn godi mater y cynnydd yn lefel y môr ac effeithiau hyn ar draws gogledd Cymru. Yn ôl astudiaeth o’r newid yn yr hinsawdd gan Climate Central,...
Sam Rowlands: Gadewch imi ymuno, yn gyntaf oll, â Mr Giffard a'r holl gyd-Aelodau ar draws y Siambr i ddymuno pob lwc i dîm pêl-droed dynion Cymru heno. Rwyf innau hefyd yn edrych ymlaen at wylio'r gêm honno cyn bo hir. Fel y dywedodd Mr Giffard, mae gan chwaraeon bŵer i'n huno. Dyna un o'r pethau mwyaf diddorol am chwaraeon. Gallaf innau hyd yn oed, fel un o gefnogwyr rhwystredig Nottingham Forest,...
Sam Rowlands: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Gogledd Cymru? OQ56666
Sam Rowlands: Diolch am eich ymateb, Prif Weinidog. Fe fyddwch yn gwybod mai un o'r cyflogwyr mwyaf yn y gogledd yw'r sector twristiaeth, sy'n cefnogi tua 46,000 o swyddi ac mewn amseroedd arferol yn cynhyrchu dros £3.5 biliwn bob blwyddyn i'r economi leol. Fodd bynnag, fel y gwnaethoch ei grybwyll yn gynharach, rydym ni'n ymwybodol o'ch cynlluniau i archwilio treth dwristiaeth ar ymwelwyr sy'n dod i...
Sam Rowlands: Gadewch i minnau hefyd dalu teyrnged i waith caled awdurdodau lleol yn ystod y cyfnod hwn, a rhoi clod am yr holl ymdrechion a wnaed gan y rheini ar y rheng flaen, ond hefyd i'r rheini y tu ôl i'r llenni yn y gwasanaethau cymorth sydd wedi bod yn gwneud pethau fel mantoli'r cyfrifon i sicrhau bod y gwasanaethau wedi gallu parhau i gefnogi ein cymunedau. Un mater y mae'r pandemig hwn wedi...
Sam Rowlands: Ar ymweliad diweddar â fferm gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr a nifer o ffermwyr, roedd yn ddiddorol nad cytundebau masnach oedd yn peri pryder sylweddol iddynt ond yn hytrach y meysydd rydych chi'n eu rheoli, Weinidog, megis parthau perygl nitradau a bygythiad cynyddol TB i'w da byw ac felly i'w bywoliaeth. Ond ar wahân i hynny, yng ngoleuni'r cyfleoedd y mae'r cytundeb hwn a...
Sam Rowlands: Diolch am y cyfle i gyfrannu yn y ddadl bwysig hon heddiw a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod Mr Millar. Heddiw, wrth gwrs, fel y gwyddoch yn amlwg, mae'n bum mlynedd ers i bobl Cymru bleidleisio gyda phobl y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd. Ac i mi, un o agweddau mwyaf diddorol y refferendwm oedd mai dyma'r ymarfer democrataidd mwyaf a welodd ein gwlad erioed. Rwyf am gymryd ychydig funudau y...
Sam Rowlands: Diolch am fy ngalw, Mr Dirprwy Lywydd. Diolch i Ms Finch-Saunders am godi'r pwnc pwysig hwn y prynhawn yma. Fel rhywun sy'n treulio'r rhan fwyaf o fy mywyd gwaith y tu ôl i sgrin gyfrifiadurol mewn swyddfa, nid wyf yn mynd i sefyll yma ac esgus fy mod yn gwybod yn fanwl am y clafr. Ond yn sicr fe'm trawyd gan gyfeiriadau a wnaeth Ms Finch-Saunders at y cyllid a ddyrannwyd, nad yw'n ymddangos...
Sam Rowlands: Diolch, Prif Weinidog, am eich ymateb i Mr Skates. A gaf i ymuno â chi a'r Aelod dros Dde Clwyd i annog pawb i gael gafael ar y brechlyn hwn cyn gynted ag y bo modd oherwydd, fel y dywedwch, mae'n gwneud cymaint o wahaniaeth i bawb? Cefais y fraint yn ddiweddar o ymweld â fferyllfa gymunedol yn fy rhanbarth i, lle yr oedd clinig COVID ac yr oedden nhw'n rhoi'r brechlyn COVID i'r rhai a oedd...
Sam Rowlands: Hoffwn i ddechrau drwy ddatgan fy muddiant fel cynghorydd sir ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Gweinidog, fel y gwyddoch chi, mae gan y gogledd enw eithriadol o dda am ddarparu digwyddiadau o'r radd flaenaf a bod yn gyrchfan o'r radd flaenaf. Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi datblygu strategaeth ddiwylliant arloesol newydd sy'n rhoi...
Sam Rowlands: Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effeithiolrwydd fferyllfeydd yn rhoi'r brechlyn COVID-19 yng Nghymru?