Rhys ab Owen: Dwi wedi datgan budd ynglŷn â'r cwestiwn hwn.
Rhys ab Owen: 5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlen ar gyfer gweithredu argymhellion adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru? OQ56523
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr ichi am eich ateb, Prif Weinidog. Dwi'n gobeithio y bydd modd inni weld amserlen fwy pendant am sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu implementeiddio'r argymhellion yn ymwneud â Llywodraeth Cymru. Pan ddes i fan hyn fel bachgen ysgol yn 1999 i agoriad y Cynulliad, byddwn i byth wedi dychmygu y byddwn i'n sefyll yn Senedd Cymru yn holi cwestiwn. Rydyn ni'n ddiolchgar iawn, onid ydyn...
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr iawn i chi, Ddirprwy Lywydd. Fe wnaeth etholiadau'r Senedd fis yn ôl roi mandad cryf a chlir ar gyfer datganoli pwerau sylweddol i fan hyn, i Gaerdydd.
Rhys ab Owen: Mae'n deg dweud bod Cymru ar groesffordd yn ein datblygiad fel cenedl wleidyddol. Ychydig a feddyliais yn fachgen ysgol wrth wylio trafodion cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999 y byddwn yn sefyll yma fel Aelod o'r Senedd, pwerdy o Senedd gyda phwerau deddfu sylfaenol a chodi trethi. Mae wedi bod yn daith ryfeddol—neu'n broses, fel y mae rhai wedi'i galw. Er i Boris Johnson alw...
Rhys ab Owen: Fe gafodd Llywodraeth Cymru ei hethol gyda'r addewid yn ei maniffesto am newid radical i'r cyfansoddiad. Wel, a gaf i gynnig bod dim byd radical yn eich gwelliannau chi heddiw, Llywodraeth? Gallai rhywun feddwl ein bod ni wedi mynd yn ôl i ddechrau'r pumed Senedd, wrth inni edrych ar eich gwelliannau chi.
Rhys ab Owen: Yn ystod ymgyrch yr etholiad, dywedodd y Prif Weinidog: 'Rydym angen ymreolaeth i Gymru, mwy o bwerau, sefyllfa lle na ellir tynnu datganoli yn ôl ar fympwy un o brif weinidogion y DU.' Wel, Brif Weinidog, wel, Gwnsler Cyffredinol, heddiw mae gennych gyfle i ategu'r geiriau hynny â chynllun priodol wedi'i osod mewn statud. Dyma'r amser i weithredu, i gyflawni mandad pobl Cymru, i sbarduno'r...
Rhys ab Owen: Wrth inni'n araf ymlwybro i gyfnod ôl-COVID, mae'n bwysig ein bod ni'n defnyddio'r cyfle yma i greu Cymru well. Fedrwn ni ddim mynd nôl i sut oedd pethau. Allan o ddinistr yr ail ryfel byd, fe wnaeth Llywodraeth Lafur ddangos y ffordd—gwnaethon nhw weddnewid Prydain er gwell. Rhaid i ni heddiw yng Nghymru meddwl yn radical unwaith eto, ond y tro yma, yng Nghymru gwnaiff hynny ddigwydd,...
Rhys ab Owen: Mae pandemig y coronafeirws wedi dangos, pan fydd Cymru'n arwain mewn materion iechyd cyhoeddus, ei bod fel arfer yn llawer mwy effeithiol na dilyn arweiniad San Steffan. Lywodraeth Cymru, rydych yn falch iawn o'ch rhaglen frechu, a hynny'n briodol, ond yn awr mae angen inni greu system gyfiawnder y gallwn fod yr un mor falch ohoni. Mae angen inni greu system les sy'n diogelu'r bobl fwyaf...
Rhys ab Owen: Mae'n rhaid i ni greu Deddfau sydd wedi cael eu hasio'n agos at iechyd ac addysg, at y gwasanaeth lles.
Rhys ab Owen: A ddylem adael yr holl faterion pwysig hyn i blaid sy'n dymuno torri'r gyllideb cymorth rhyngwladol? O ddifrif? Ai dyna y gofynnwn i bobl Cymru ei dderbyn?
Rhys ab Owen: Wedi dros 20 mlynedd o ddatganoli, dyw e ddim yn gwneud dim synnwyr, yw e, fod cyfiawnder heb gael ei ddatganoli yma i'r Senedd? Os yw'n ddigon da i'r Alban, os yw'n ddigon da i Ogledd Iwerddon, pam nad yw'n ddigon da i ni yn fan hyn yng Nghymru? Pam nad ydyn ni yn y Senedd yn gallu cael gofal am gyfiawnder? Ond hyd yn oed os ŷn ni'n rhoi o'r neilltu yr anomali rhyfedd hwnnw, fod gennym ni...
Rhys ab Owen: Adsefydlu priodol, siarter dioddefwyr effeithiol a thosturiol a gwaith ataliol i gael gwared ar achosion sylfaenol troseddu. Dyna sydd ei angen ar ein cymunedau. Yn anffodus, bydd yr holl ddyheadau egwyddorol hyn yn parhau i fod y tu hwnt i'n rheolaeth hyd nes bod gennym fodd o greu cyfiawnder Cymreig yma yng Nghymru. Mae Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd, sy'n mynd ar ei daith...
Rhys ab Owen: Mae cymaint o newidiadau positif wedi digwydd yn ein gwlad ni oherwydd protestio, o ferched Beca i'r Siartwyr, i Gymdeithas yr Iaith ac i heddiw, gyda Black Lives Matter ac Extinction Rebellion. Mae yna uwchfwyafrif yn fan hyn yn ein Senedd ni dros ragor o bwerau. Dyma'r cyfle perffaith i ni gefnogi hynny, i ni gefnogi'r cynnig, i'r Senedd a'r genedl fod yn un, a dangos yn glir i Lywodraeth...
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr i chi, Dirprwy Lywydd. Gaf i ddiolch i ddechrau am eiriau caredig Darren Millar?
Rhys ab Owen: Mae'n drueni na ddaeth i ben ar ôl y geiriau caredig. Soniodd Darren Millar fod y larymau tân wedi canu yn ystod ei araith gyntaf yn 2007—wel, Darren, rwy'n siŵr bod y larwm yn canu yn uned yr undeb yn Stryd Downing, oherwydd mae Cymru ar gerdded a bydd newid cyfansoddiadol yn digwydd, pa un a ydych yn hoffi hynny neu beidio.
Rhys ab Owen: A brysied y dydd y cawn ni ar feinciau'r Ceidwadwyr unwaith eto pobl sy'n fodlon meddwl am faterion cyfansoddiadol mawr fel David Melding—wedi cael ei sôn—fel Nick Bourne ac fel Lisa Francis. Huw Irranca-Davies—dwi'n falch iawn o'ch clywed chi'n sôn am radical reform.
Rhys ab Owen: Roeddwn yn falch o'ch clywed yn dweud am y berthynas rhwng elfennau cydradd. Os felly, pam na allwn ddatgan yn awr pa bwerau rydym eu heisiau? Rydym wedi cael consensws. Pam na allwn ni ddechrau'r broses yn awr? Rydych chi'n dweud, gyda llaw, fod annibyniaeth wedi'i gwrthod yn y blwch pleidleisio. Dylech gael gair gyda chriw Llafur Cymru dros annibyniaeth am hynny, a Chanolfan Llywodraethiant...
Rhys ab Owen: Sioned Williams yn dweud wrthym ni dydyn ni ddim yn moyn pwerau jest er mwyn pŵer. Nid rhyw ego boost yw hwn i'r Senedd. Rŷn ni'n moyn pwerau er mwyn gwella bywydau pobl Cymru. Pam na ddylem ni ddatganoli lles i'r un lefel â'r Alban? Pam nad oes modd i ni gael consensws am hyn nawr? Pam nad oes modd i ni ofyn am hyn nawr? Ddylai plant Cymru, fel dywedodd Sioned Williams, ddim gorfod aros...
Rhys ab Owen: Ni ddylai fod disgwyl iddynt aros i gamu allan o dlodi. James Evans—dryswch ynglŷn â datganoli. Wel, nid yw'n helpu nad yw plismona a chyfiawnder wedi'u datganoli yng Nghymru, ond mae wedi'i ddatganoli ym mhobman arall yn y Deyrnas Unedig—mae plismona wedi'i ddatganoli ym Manceinion, mae plismona wedi'i ddatganoli yn Llundain. Rydych chi'n creu—chi sy'n creu—y dryswch. Ac roedd...