Cefin Campbell: Diolch yn fawr iawn, Madam Llywydd, a llongyfarchiadau i chi ar gael eich ethol a llongyfarchiadau i'r Prif Weinidog yn yr un modd. Fy nghwestiwn i yw hwn: a fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno â fi fod heriau economaidd arbennig yn wynebu cymunedau gwledig Cymru sydd angen mynd i'r afael â nhw fel mater o frys? Fe fydd e, wrth gwrs, yn ymwybodol bod lefelau incwm y pen a lefelau sgiliau yn yr...
Cefin Campbell: Gan ystyried bod y rheoliadau ar yr NVZs wedi cael eu rhuthro drwy'r Senedd ychydig cyn yr etholiad diwethaf, yn groes i'r addewid gwnaeth y Gweinidog, fel rydym ni wedi clywed yn barod, na fyddai hi yn cyflwyno rheoliadau yn ystod y pandemig, rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i ailgydio yn y drafodaeth bwysig hon yn gynnar yn y Senedd newydd. Nawr, pan oeddwn i'n ymgyrchu mewn ardaloedd...
Cefin Campbell: Weinidog, ni ddylem edrych yn ôl ar syniadau a oedd yn cael eu trafod tua 30 mlynedd yn ôl am ateb i lygredd dŵr. Rhaid inni edrych tua'r dyfodol drwy groesawu technoleg i wneud dewisiadau llawer mwy cywir mewn perthynas â rheoli tir. Fel y gwyddoch, mae enghreifftiau o brosiectau arloesol yn cael eu cynnal wrth inni siarad, lle mae ffermwyr ac ymchwilwyr yn cydweithio i ddyfeisio ffordd...
Cefin Campbell: Weinidog, mae eich Llywodraeth ar y cyfan wedi cael ei chanmol gan bobl Cymru am y ffordd rŷch chi wedi taclo'r pandemig gan eich bod chi wedi defnyddio'r wyddoniaeth fel sail eich penderfyniadau. Felly, rwy'n ymbil arnoch chi i ddefnyddio'r wyddoniaeth a'r dechnoleg sydd ar gael ar hyn o bryd i sicrhau'r cydbwysedd allweddol hwnnw rhwng ffermio cynaliadwy a gwarchod yr amgylchedd. Wrth inni...
Cefin Campbell: —rwy'n dod i ben, Dirprwy Lywydd—ac yn gwybod gymaint o effaith mae llygredd yn ei gael ar ansawdd y dŵr. Na, galwad yw hon am weithredu cymesur gan y Llywodraeth wedi'i dargedu gyda chefnogaeth ariannol ddigonnol. Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, rwy'n gofyn i'r Llywodraeth i fynd yn ôl i edrych ar argymhelliad Cyfoeth Naturiol Cymru i gynyddu ardal y cynllun NVZ o 2 y cant i 8 y cant....
Cefin Campbell: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad. Dwi'n hapus i gytuno â phrif egwyddorion y datganiad hwnnw a'r amcanion sydd ynddo fe o ran mynd i'r afael â heriau enfawr newid hinsawdd. Ond mae'n rhaid i fi fynegi fy siom heddiw ar ran pobl Llandeilo gyda'ch datganiad chi, sydd yn atal y gwaith ar adeiladu ffordd osgoi i'r dref. Fel rhywun sydd yn byw rhyw ddwy neu dair milltir o...
Cefin Campbell: Dirprwy Weinidog, byddwch yn ymwybodol nad yw'r angen am ffordd osgoi yn Llandeilo yn rhywbeth diweddar; mae pobl Llandeilo wedi bod yn gweiddi am hyn ers dros 50 mlynedd. Mae'r achos yn fy marn i yn glir; mae wedi'i ennill. Yn wir, cytunodd Llywodraeth Cymru yn 2016 i ariannu'r ffordd osgoi hon fel rhan o gytundeb pecyn y cytunwyd arno gyda Phlaid Cymru ar y pryd. Ers hynny, rydym wedi cael...
Cefin Campbell: Felly, y cwestiwn: beth yw eich neges i bobl Llandeilo heddiw, sydd wedi cael eu gadael lawr eto gan y Llywodraeth, a sut ŷch chi'n bwriadu cynllunio i gwrdd â'u gobeithion nhw o safbwynt aer glân yn y dref, a diogelwch i draffig a phobl sydd yn cerdded ar y pafin yn y dref hefyd? Diolch yn fawr.
Cefin Campbell: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ac a gaf innau eich llongyfarch chi hefyd ar eich ail apwyntiad fel y Gweinidog? A dwi'n edrych ymlaen at ddatblygu perthynas adeiladol gyda chi dros y blynyddoedd nesaf. Dwi innau hefyd yn mynd i barhau gyda thema'r RDP, os caf i? Mae llawer o sylw wedi cael ei roi dros y misoedd diwethaf i ariannu'n llawn y cynllun datblygu gwledig, ac mae'r cynllun, fel rydym...
Cefin Campbell: Iawn. Diolch yn fawr iawn. Rwy'n gobeithio byddwch chi ddim fel John Redwood yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod ni'n anfon arian Cymru yn ôl i'r Trysorlys. Yr ail gwestiwn: plannu coed ar dir fferm. Mater pwysig arall i'n cymunedau gwledig yw cynlluniau plannu coed ar dir fferm. Yn ddiweddar, fe gwrddais i â chynrychiolwyr o Gyngor Cymuned Myddfai yn sir Gâr a rhai o'r ffermwyr lleol o'r...
Cefin Campbell: Diolch yn fawr iawn. Rwy'n cytuno'n llwyr fod plannu coed yn bwysig, ond mae'n ymwneud â phlannu'r goeden gywir yn y lle cywir ac am y rheswm cywir. Felly, fy nghwestiwn olaf—
Cefin Campbell: —yn Gymraeg: yn amlwg, prif ffocws gwaith y Llywodraeth a'r Senedd yn ystod y blynyddoedd nesaf mewn perthynas â materion gwledig fydd cyflwyno Bil amaeth newydd i Gymru. Mae'r heriau lu sy'n wynebu ardaloedd gwledig Cymru a'r sector amaeth yn golygu ei bod yn bryd llunio cyd-destun newydd i amaethyddiaeth yng Nghymru a sicrhau dyfodol llawer mwy ffyniannus i ffermio. Rhaid i hynny...
Cefin Campbell: Hoffwn i godi mater y bydd y Trefnydd yn gyfarwydd ag ef yn ei rôl weinidogol. Dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, mae Gweinidogion tebyg iddi hi yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi gweithio gyda phartneriaid yn y sector i greu rhaglen dal a rhyddhau—catch and release—ar gyfer y tiwna glas, yr Atlantic bluefin tuna, sydd wedi dod yn fwyfwy amlwg yn y moroedd o gwmpas sir...
Cefin Campbell: 5. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r sector cyfreithiol ynghylch effaith deddfwriaeth a chanllawiau ar lefelau ffosffad mewn ardaloedd cadwraeth arbennig afonol? OQ56692
Cefin Campbell: Diolch i chi am yr ateb. Rwy'n deall bod y rheoliadau sy'n effeithio ar afonydd mewn ardal cadwraeth arbennig yn deillio o reoliadau cadwraeth cynefinoedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig 2017. Er hynny, mae nifer o ardaloedd gwledig yn rhwystredig iawn ynglŷn â'r ffordd y mae'r canllawiau hyn wedi cael eu cyflwyno, gyda fawr ddim ymgynghori na thrafod ymlaen llaw wedi digwydd gydag awdurdodau...
Cefin Campbell: Yn etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, mae'r ffordd A40 rhwng Caerfyrddin a Sanclêr yn un o'r hewlydd mwyaf peryglus yng Nghymru. Rhwng Ionawr 2010 ac Awst 2019, bu 359 o ddamweiniau ar y ffordd yma, gyda rhyw chwarter ohonyn nhw yn arwain at anafiadau, gan gynnwys marwolaeth merch pedair oed. Mae'r un darn o'r heol wedi gweld dau ddigwyddiad arall dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda...
Cefin Campbell: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y gefnogaeth ariannol a ddarparwyd i'r diwydiant lletygarwch dros y misoedd diwethaf? OQ56745
Cefin Campbell: Diolch yn fawr, Weinidog. Byddwch chi'n cofio imi ysgrifennu atoch chi ar fater y diffyg cyllid oedd ar gael i'r sector lletygarwch ar gyfer mis Ebrill yn benodol. Yn eich llythyr ataf i ar 25 Mehefin, rŷch chi'n nodi, a dwi'n dyfynnu, fod 'y pecyn cymorth ariannol i fusnesau Cymru wedi parhau trwy gydol mis Ebrill ac i mewn i fis Mai.' Fodd bynnag, mae busnesau yn y rhanbarth yn dweud...
Cefin Campbell: Gaf i fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch Mudiad Ysgolion Meithrin, sydd yn cael ei alw erbyn hyn yn Mudiad Meithrin, ar ddathlu ei hanner can mlwyddiant? Mae hyn yn dipyn o garreg filltir i'r mudiad pwysicaf sydd gyda ni yng Nghymru o ran darparu addysg blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg. Sefydlwyd Mudiad Meithrin 50 mlynedd yn ôl i wneud dau beth: i gynrychioli a rhoi llais i'r...
Cefin Campbell: Mewn byd ôl-COVID-19, dylai darparu bwyd ysgol am ddim fod yn fwy o flaenoriaeth nag erioed o'r blaen, am ei fod yn helpu ein cymdeithas ni i adeiladu yn ôl yn well. Mae rhaglenni bwyd ysgol effeithiol yn gallu helpu ein plant ni nid yn unig yn ystod y 1,000 diwrnod cyntaf o'u bywyd, ond hefyd y 7,000 diwrnod nesaf ar eu taith i fod yn oedolion. Ac rŷm ni wedi clywed y ffaith yma o'r blaen...