Adam Price: That's the point, isn't it? It's about fairness, isn't it? The current agreement doesn't reflect a fair price, particularly when Welsh Water customers face the second highest bills in the whole of England and Wales. Now, it's six years since the UK Government promised to transfer the power to Wales over all of our water resources and infrastructure, not just those controlled by the two Welsh...
Adam Price: I suppose, if you forgive me, First Minister, this is one leak, I think, that we would welcome, isn't it? But, of course, that's one of the three regulators that have been quoted. There is the Drinking Water Inspectorate, and it's Ofwat that will be publishing the formal response on Thursday. We await to see what those two other bodies—. But the point stands, of course, that we have three...
Adam Price: Diolch, Llywydd. On Thursday, Ofwat is due to announce its draft decision on whether the plan to extract up to 180 million litres of water a day from Llyn Efyrnwy in Powys and transfer it to the south-east of England is to proceed to the next stage of its rapid investment programme. Do you think it's right, First Minister, that a water regulator answerable to the UK Secretary of State should...
Adam Price: —hwy a gafodd eu diswyddo. Iawn, fe wnaf dderbyn ymyriad.
Adam Price: Mae eich ymyriad yn haeddu ymateb da, oherwydd nid yw hynny'n wir. Mae gan y Gweinidog bŵer i gael gwared ar aelodau cyflogedig y bwrdd. Ie, nid i derfynu eu cyflogaeth, ond yr hyn sydd dan sylw yma yw eu rôl arweinyddiaeth weithredol, ac mae Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, adran 27, yn nodi'n gwbl glir fod gan y Gweinidog hawl i ddiswyddo pob aelod o'r bwrdd, gan gynnwys...
Adam Price: Clywais un o'r Aelodau Llafur yn cyfeirio at y cynnig hwn i gael gwared ar Weinidog oherwydd methiannau i gyflawni fel un dialgar. Wel, os yw cael gwared ar Weinidog am resymau'n ymwneud â methiant i gyflawni'n ddialgar, sut fyddech chi'n disgrifio cael gwared ar fwrdd annibynnol cyfan? Ni fyddwn yn defnyddio'r gair 'dialgar' mewn gwirionedd, ond byddwn yn dweud ei fod yn peri gofid, ac...
Adam Price: Prif Weinidog, byddwch wedi darllen yr adroddiadau crwner diweddar ar farwolaethau Gareth Roberts a Domingo David, yr oedd y ddau ohonyn nhw'n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Canfu'r crwner eu bod nhw wedi marw o COVID a gafwyd yn y gwaith ac y dylid dosbarthu'r marwolaethau hyn fel marwolaethau o glefyd diwydiannol. Dadleuodd y bwrdd iechyd yn erbyn y dynodiad hwnnw....
Adam Price: Wel, a allwch chi amlinellu, Prif Weinidog, fel rydych chi wedi addo ei wneud, beth yw eich cynigion fel Llywodraeth o ran sut y gallai pwyllgor diben arbennig weithredu? Fe wnaethoch chi addo cyflwyno cynnig i'r Senedd, a dydyn ni ddim wedi derbyn hwnnw eto. Felly, pe gallech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am hynny, byddem yn ddiolchgar iawn. Nawr, un o'r rhesymau pam y mae angen i ni...
Adam Price: Diolch, Llywydd. Roedd hi'n fraint gallu siarad yn gynharach ag aelodau o Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru, sydd yma yn y Senedd heddiw. Fe wnaethon nhw ddweud wrthyf fod eu profiad o ymchwiliad COVID y DU wedi dwysau eu penderfyniad bod angen ymchwiliad ei hun ar Gymru, fel yr Alban. Yr unig elfen benodol i Gymru bwrpasol a addawyd hyd yma yw modiwl 2B, sydd wedi'i drefnu i bara...
Adam Price: Safiad y Beasleys, yn anad dim, oedd sbardun y mudiad iaith modern a'r hawliau rŷn ni'n gallu arddel heddiw o'i herwydd. Gwaetha'r modd, mae'r tŷ yn Llangennech a oedd yn ganolbwynt i hyn yn wag heddiw, fel oedd hi ar y bore hwnnw pan oedd y bailiffs yn cludo celfi'r Beasleys i ffwrdd, wrth gwrs, fel ymateb i'w gwrthodiad nhw o ran y dreth. Oes yna gyfle yn fan hyn i ni fod yn greadigol a...
Adam Price: Felly, os ydw i'n deall y Prif Weinidog yn iawn, dydych chi ddim yn gallu dweud y byddai gweinyddiaeth Lafur yn y dyfodol yn ymrwymo i'r un lefel o gyllid ag y byddem ni wedi'i gael o dan gronfeydd Ewropeaidd, a dydych chi ddim yn gallu dweud y byddwn ni'n cael cyllid canlyniadol Barnett. Mewn cysylltiad â datganoli pwerau, dywedodd arweinydd y Blaid Lafur y bydd yn aros am gyhoeddi'r...
Adam Price: Dim ond ar y pwynt penodol, Prif Weinidog—oherwydd bod hyn yn eithaf pwysig, on'd yw e—ai hynny fydd eich safbwynt wedyn pe bai gweinyddiaeth Lafur yn San Steffan? A fyddwch chi'n gwneud y pwynt hwnnw'n rymus iawn i weinyddiaeth Lafur yn y dyfodol, nid yn unig i roi ei siâr i Gymru o unrhyw wariant yn y dyfodol, ond hefyd i roi'r £1 biliwn rydyn ni wedi'i golli'n barod drwy'r gwariant...
Adam Price: Diolch yn fawr, Llywydd. Gaf innau, ar ran Plaid Cymru, hefyd ategu bod ein meddyliau ni i gyd, wrth gwrs, gyda'r teulu yn Nhreforys sydd wedi colli anwylyd yn y damwain erchyll ddoe, a hefyd gyda phawb arall sydd wedi'u heffeithio.
Adam Price: Prif Weinidog, unwaith eto, mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod ailddosbarthu HS2 fel prosiect i Loegr yn unig, gan ddwyn £5 biliwn mewn cyllid canlyniadol Barnett oddi wrth Gymru a allai fod yn drawsnewidiol i'n seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus. Mae hynny er bod dadansoddiad Llywodraeth y DU eu hunain yn dangos ei fod yn fwy tebygol o niweidio Cymru na darparu unrhyw fudd. A fyddwch chi'n...
Adam Price: 7. Pa ystyriaeth mae'r Gweinidog wedi ei roi i gydnabod cyfraniad Eileen a Trefor Beasley i'r frwydr dros hawliau i wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg? OQ59262
Adam Price: A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am gefnogaeth i oroeswyr strôc yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr?
Adam Price: Ceir adroddiadau o gynlluniau i gynyddu lefel y dŵr sy'n cael ei allforio o Gymru ar hyn o bryd. Cwmnïau dŵr Cymru yw'r allforwyr mwyaf yn y DU o bell ffordd eisoes, ac mae'r dŵr hwnnw yn cael ei fasnachu ar hyn o bryd am bris sy'n sylweddol is na'r pris a delir gan gwsmeriaid Dŵr Cymru, sydd ymhlith yr uchaf yn y DU. A yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhan o drafodaethau yn ymwneud â'r...
Adam Price: Y cwbl a wnaethoch chi oedd dilyn y penderfyniad 5.9 y cant a wnaed yn San Steffan. Beth yw pwynt y lle hwn os y cwbl ydym ni yw Senedd torri a gludo sy'n gweithredu cyni cyllidol Torïaidd yn oddefol? Gallech chi fod wedi gwneud yr hyn a wnaeth Llywodraeth yr Alban, sef gostwng prisiau adegau prysur a thalu amdano trwy ddefnydd blaengar o'ch pwerau treth incwm. Ar yr un pryd ag yr ydych...
Adam Price: Diolch, Llywydd. Mae Llywodraeth y DU newydd godi prisiau tocynnau trên 5.9 y cant—y cynnydd uchaf ers degawd. Yn dod, fel y mae, yng nghanol argyfwng costau byw, mae'n anodd anghytuno ag Ysgrifennydd Gwladol yr wrthblaid Lafur dros Drafnidiaeth, Louise Haigh, a ddywedodd: 'Bydd y cynnydd milain hwn i brisiau tocynnau yn jôc ddi-chwaeth i filiynau sy'n ddibynnol ar wasanaethau sydd ar...
Adam Price: Ydy'r Gweinidog yn derbyn bod y ffaith bod dros 80 y cant o aelodau’r RCN wnaeth gymryd rhan yn y bleidlais ar y cynnig yma wedi pleidleisio i’w wrthod yn dangos yr argyfwng morâl, mewn gwirionedd, sydd yn y proffesiwn nyrsio ar hyn o bryd? Ac wrth gwrs, nid dyna'r unig fesurydd, a dweud y gwir. Mae gyda ni'r cynnig sydd wedi cael ei weld yn niferoedd y swyddi gwag, mae gyda ni'r cynnydd...