Canlyniadau 1–20 o 6000 ar gyfer speaker:Alun Davies OR speaker:Alun Davies OR speaker:Alun Davies OR speaker:Alun Davies

7. Dadl Plaid Cymru: Cynllun brys ar gyfer y sector bysiau (22 Maw 2023)

Alun Davies: Nid wyf yn gwybod ble i ddechrau weithiau. Janet, rydych chi'n hollol iawn ein bod ni wedi cael 25 mlynedd o ddatganoli, ond rydym wedi cael bron i 30 neu 40 mlynedd o wasanaethau bws wedi'u dadreoleiddio sydd wedi methu. Maent wedi gwneud cam â'r wlad. Mae'r Llywodraeth hon yn mynd i newid y gyfraith yn ystod y ddwy flynedd nesaf, ac rwy'n disgwyl i chi bleidleisio drosto, a bod yn gwbl...

7. Dadl Plaid Cymru: Cynllun brys ar gyfer y sector bysiau (22 Maw 2023)

Alun Davies: Dyna'n union sydd ei angen arnom, a dyna fy nhrydydd pwynt, a'r olaf mewn gwirionedd. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ymateb i fy mhwynt ar Fflecsi wrth ymateb i'r ddadl. Ond mae'n beth eithaf rhyfeddol fod Janet Finch-Saunders wedi gallu siarad am bron i chwe munud am ddyfodol gwasanaethau bws heb sôn am drychineb dadreoleiddio. Mae wedi bod yn gatastroffig.

7. Dadl Plaid Cymru: Cynllun brys ar gyfer y sector bysiau (22 Maw 2023)

Alun Davies: Rwy'n credu ei bod yn bwysig inni gael cyfle i drafod y pwyntiau hyn yn y fforwm hwn, fel rydym yn ei wneud y prynhawn yma. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn trafod y pwyntiau hyn, ein bod yn gwrando ar beth sydd gennym i'w ddweud, ac yna ein bod yn derbyn ymyriadau gan ein gilydd fel ein bod yn cael dadl, yn hytrach na dim ond darllen cyfraniad wedi'i baratoi ymlaen llaw. Oherwydd...

7. Dadl Plaid Cymru: Cynllun brys ar gyfer y sector bysiau (22 Maw 2023)

Alun Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?

3. Cwestiynau Amserol: Northern Powerhouse Rail (22 Maw 2023)

Alun Davies: Rwy’n ddiolchgar, Ddirprwy Lywydd. Eironi aruthrol safbwynt y Ceidwadwyr ar hyn, wrth gwrs, yw mai’r rheswm pam fod rheilffordd y Rhondda yn cael ei chau yw am ei bod yn ddarn o seilwaith o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg y mae angen ei newid yn yr unfed ganrif ar hugain. Ers canrif, nid yw’r rheilffordd honno wedi cael y buddsoddiad sydd ei angen arni. Os rhywbeth, mae’n gondemniad o...

9. Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru 2021-22 (21 Maw 2023)

Alun Davies: Fel eraill yn y ddadl y prynhawn yma, hoffwn dalu fy nheyrnged fy hun i Syr Wyn Williams ar adeg ei ymddeoliad. Roedd yn braf gallu cael y sgwrs ag ef yr wythnos diwethaf yn y pwyllgor. Rwy'n credu weithiau ei fod yn dangos y grym o fod yn bresennol gyda rhywun yn yr un ystafell, oherwydd rydym ni wedi cael sgyrsiau ar wahanol achlysuron gyda Syr Wyn sydd wedi bod ar y sgrin erioed, sgyrsiau...

9. Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru 2021-22 (21 Maw 2023)

Alun Davies: A wnaiff y Gweinidog ildio?

9. Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru 2021-22 (21 Maw 2023)

Alun Davies: Rwy'n gwrando ar eich dadleuon ar y mater hwn o ddiwygio, ac ni fydd yn syndod i chi fy mod i'n cytuno'n fawr iawn â chi. Mae o ddiddordeb i mi felly bod y Llywodraeth yn gofyn i ni bleidleisio yn erbyn gwelliant y Ceidwadwyr ar y mater hwn yn y bleidlais y prynhawn yma, ac mae'n ymddangos i mi bod yr hyn y mae gwelliant y Ceidwadwyr yn ei wneud yn debyg iawn i'r hyn yr ydych chi newydd ei...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Trafnidiaeth Rheilffordd (21 Maw 2023)

Alun Davies: A ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, ei fod yn gryn agoriad llygad y byddai'n well gan y Ceidwadwyr Cymreig gefnogi Llywodraeth y DU na sefyll dros Gymru? Mae'n rhaid fy mod i wedi cael fy ngwersi daearyddiaeth yn ofnadwy o anghywir yn yr ysgol, oherwydd rwyf i newydd ddarganfod dros y penwythnos bod rheilffordd Huddersfield i Leeds yn gwasanaethu Cymru, a bod Crewe i Fanceinion yn...

4. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg Ôl-16 Cyfrwng Cymraeg (14 Maw 2023)

Alun Davies: Dwi'n gwerthfawrogi yr ymateb, Gweinidog. Dŷn ni wedi, ers tro, sôn amboutu continwwm addysg Gymraeg yn yr ysgol, ond becso ydw i amboutu trosglwyddiad rhwng addysg yn yr ysgol ac wedyn y cyfnod ar ôl 16 yn y coleg addysg bellach, prifysgolion ac ati. Rôn i'n croesawu eich datganiad rai blynyddoedd yn ôl i gynnig rôl ychwanegol i'r coleg Cymraeg, i sicrhau mwy o fuddsoddiadau, os ydych...

4. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg Ôl-16 Cyfrwng Cymraeg (14 Maw 2023)

Alun Davies: 9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyfleoedd sydd ar gael i gael mynediad i addysg ôl-16 oed cyfrwng Cymraeg?  OQ59265

Grŵp 1: Y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (CPG): ymgyrraedd at y nodau llesiant (Gwelliant 45) ( 7 Maw 2023)

Alun Davies: Rwy'n credu y byddai cefnogaeth eang i'ch safbwynt ar draws y Siambr, beth bynnag fo'r cyngor pleidleisio yn digwydd i'w ddweud. Rwy'n credu bod y rhan fwyaf o bobl eisiau gweld Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang a Chymru sy'n ymestyn allan a ddim yn edrych tuag i mewn. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth rydyn ni i gyd eisiau ei weld, ac, yn sicr, o fy amser i'n gweithio yn Oxfam, rwy'n...

4. Dadl: Cyllideb Derfynol 2023-24 ( 7 Maw 2023)

Alun Davies: Dirprwy Lywydd, mae'r Aelod gyferbyn yn ymyrryd ac yn ateb ei hymyriad ei hun. Braidd nad oes unrhyw bwynt i mi ganiatáu i hynny'n ddigwydd. Ond, fe ddywedaf i wrthi hi nad wyf i'n credu bod angen darlithoedd gan y Ceidwadwyr ar reolaeth economaidd ar y Senedd hon. Rydw i wir o'r farn nad oes angen hynny arnom ni heddiw. [Torri ar draws.] Wel, os ydych chi'n dymuno sefyll—rwy'n clywed yr...

4. Dadl: Cyllideb Derfynol 2023-24 ( 7 Maw 2023)

Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd. Fel eraill y prynhawn yma, hoffwn ddechrau drwy longyfarch y Gweinidog ar ddod â'r gyllideb hon o'n blaenau. Rwy'n credu iddi agor ei sylwadau y prynhawn yma trwy ddweud ei bod yn gyllideb anodd ar gyfer cyfnodau anodd; roedd yn swnio fel Gordon Brown [Chwerthin.] Ond, mae'n bwysig gallu gosod cyllideb, ac, wrth gwrs, o ystyried yr ymyriadau rydyn ni...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Strategaeth Economaidd Blaenau'r Cymoedd ( 7 Maw 2023)

Alun Davies: Diolch. Prif Weinidog, mae eich ymrwymiad personol chi i'r cymunedau ym Mlaenau'r Cymoedd wedi disgleirio erioed, fel Prif Weinidog a chyn hynny hefyd. Byddwch yn cofio eich ymweliad â Blaenau Gwent yn ystod ymgyrch yr etholiad diwethaf, pan safodd y ddau ohonom ni ar y bont dros brosiect deuoli'r A465, a phan wnaethoch chi siarad am eich gobeithion ar gyfer dyfodol y prosiect hwnnw a pha...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Strategaeth Economaidd Blaenau'r Cymoedd ( 7 Maw 2023)

Alun Davies: 4. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Llywodraeth Cymru mewn perthynas â strategaeth economaidd Blaenau'r Cymoedd? OQ59233

9. Dadl Fer: Strwythur gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru: Ydyn ni wedi'i gael yn iawn? (15 Chw 2023)

Alun Davies: Rwyf fi bob amser yn ddiolchgar i Mike am ei gyfraniadau ar hyn. Y camgymeriad gwaethaf—fe wneuthum lawer o gamgymeriadau, ond y camgymeriad gwaethaf—a wneuthum fel Gweinidog oedd herio Mike ar ariannu llywodraeth leol a chymhlethdodau'r dreth gyngor. Mae'r boen a ddioddefais bryd hynny, bron i ddegawd yn ôl, yn aros gyda mi bob dydd o fy oes, ac os na allaf gysgu am 3 o'r gloch y bore,...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Yr ymosodiad ar Wcráin a chefnogi ffoaduriaid o Wcráin (15 Chw 2023)

Alun Davies: Diolch i’r blaid Geidwadol am gyflwyno’r ddadl hon; mae'n amserol iawn, wrth gwrs, oherwydd yr wythnos nesaf, byddwn yn nodi blwyddyn ers cychwyn yr ymosodiad hwn. Ar adeg pan fo pobl yn ceisio creu rhaniadau mewn gwleidyddiaeth, credaf ei bod yn dda cael cyfle i ddod at ein gilydd hefyd. Roeddwn yn gwrando ar Mark Isherwood yn agor y ddadl, a sylwais fod dau air a ddefnyddiodd yn britho...

3. Cwestiynau Amserol: Y Cynllun Brys ar gyfer Bysiau (15 Chw 2023)

Alun Davies: Rwy’n ddiolchgar i’r Gweinidog am ei ymateb, ac rwy’n rhannu ei ddadansoddiad o’r broblem. Ond mae Llywodraethau yn bodoli i ddatrys problemau, wrth gwrs, nid i'w hailadrodd. Ac i fy etholwyr i, ym Mlaenau Gwent, pan fyddant yn clywed Gweinidog yn sôn am wasanaeth sgerbwd, maent yn meddwl, 'Wel, mae hwnnw'n wasanaeth sy'n mynd i wasanaethu Caerdydd, Casnewydd, Abertawe ac ychydig o...


1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.